Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am orchmynion gwarcheidiaeth arbennig

Rhagor o wybodaeth am orchmynion gwarcheidiaeth arbennig a sut i gyflwyno cais am un.

Beth yw gorchymyn gwarcheidwaeth arbennig?

Mae'r Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig (GGA) yn ffordd o ddarparu sefydlogrwydd i blentyn na all ddychwelyd i fyw gyda'i rieni geni ac nid yw mabwysiadu'n briodol iddo. Mae'n ffordd gyfreithlon o roi cyfrifoldebau clir, tymor hir am fagu plentyn i'r person sy'n gofalu amdano, ac mae'n sail i ddatblygu perthynas barhaol rhwng y plentyn a'r gofalwr. Ar yr un pryd, mae'n cadw'r cyswllt cyfreithiol rhwng y plentyn a'r rhiant geni.

Mewn sawl achos, bydd y plentyn yn parhau i gael cyswllt â'i rieni.  Lle bo'n briodol, gall y llys greu Gorchymyn Cyswllt ar yr un pryd â'r Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig.

Unwaith y mae GGA wedi'i wneud, y Gwarcheidwad Arbennig fel arfer fydd y gofalwr parhaol i'r plentyn hwnnw nes iddo gyrraedd 18 oed.

O dan ba amgylchiadau gall gorchymyn gwarcheidwaeth arbennig fod yn addas?

Gall Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig fod yn arbennig o addas i:

  • blant mewn gofal maeth tymor hir;
  • plant y mae aelodau o'u teulu ehangach yn gofalu amdanynt yn barhaol;
  • plant hŷn sydd am gadw cysylltiad cyfreithiol â'u teulu geni, ond a fyddai'n elwa yn sgîl trefniadau gofal mwy parhaol;
  • plant o deuluoedd a chanddynt anawsterau diwylliannol neu grefyddol mewn perthynas â'r cyfreithlondeb ynghylch mabwysiadu.

Pwy sy'n gallu cyflwyno cais am Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig?

Caiff Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig ei wneud drwy gais ffurfiol i lys. Gallwch gyflwyno cais i ddod yn Warcheidwad Arbennig os ydych dros 18 oed ac yn:

  • unrhyw warcheidwad o'r plentyn
  • gofalwr maeth yr Awdurdod Lleol y mae'r plentyn wedi byw gydag ef am flwyddyn yn syth cyn cyflwyno cais
  • perthynas i'r plentyn y mae'r plentyn wedi byw gydag ef/hi am flwyddyn cyn cyflwyno'r cais
  • unrhyw un sy'n meddu ar Orchymyn Preswylio mewn perthynas â'r plentyn
  • unrhyw un â chaniatâd gan:
    • yr awdurdod lleol (os yw'r plentyn wedi cael ei 'derbyn gofal' o dan a31 am lai na 12 mis); neu
    • bob un â chyfrifoldeb rhieni am y plentyn; neu
    • llys.

Bydd angen i unrhyw un nad yw ar y rhestr uchod gael caniatâd llys cyn iddynt allu gwneud cais.

Beth yw'r weithdrefn ar gyfer cyflwyno cais am Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig (GGA)?

Os ydych yn bwriadu cyflwyno cais am GGA mae'n rhaid i chi hysbysu'r Awdurdod Lleol yn ysgrifenedig o leiaf tri mis ymlaen llaw.

Yn ystod y cyfnod tri mis hwn, bydd yr Awdurdod Lleol yn cwblhau adroddiad ar gyfer y llys.  Mae'r adroddiad hwn yn asesu ai GGA yw'r ffordd orau i ddiwallu anghenion y plentyn. Mae'n ystyried anghenion a dymuniadau'r plentyn, gwybodaeth am y Gwarcheidwad Arbennig, barn y bobl sy'n gysylltiedig â bywyd y plentyn a pha wasanaethau cefnogi y gallai fod eu hangen.

Rhaid cwblhau'r adroddiad hwn p'un ai yw'r plentyn wedi derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol neu beidio. 

Ar ôl i'r asesiad gael ei gwblhau, mae'n rhaid i'r person sydd am fod yn Warcheidwad Arbennig benderfynu a fydd yn cyflwyno cais ffurfiol i'r llys. Gallwch ddewis derbyn cyngor cyfreithiol am hyn.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Fel rhan o'r broses GGA, rhaid i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ystyried pa gefnogaeth efallai y bydd ei hangen. Gan ddibynnu ar amgylchiadau, gellir darparu'r gefnogaeth hon i'r canlynol:

  • plentyn;
  • gwarcheidwad arbennig;
  • rieni'r plentyn.

Gallai cefnogaeth fod ar ffurf gwasanaethau teuluol, cefnogaeth ariannol neu gyfuniad o'r ddau.  Yn gyffredinol, dylai helpu i sicrhau amgylchedd cartref sefydlog a pherthnasoedd cefnogol i'r plentyn.

Os yw'r plentyn eisoes wedi derbyn gofal, mae gan y rhai sy'n ymwneud â'r cais am Warcheidwaeth Arbennig, gan gynnwys y plentyn, rhiant y plentyn a'r darpar Warcheidwad Arbennig, hawl i ofyn am asesiad cefnogaeth. Nid oes hawl o'r fath pan nad yw plentyn wedi derbyn gofal, ond bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn dal i ystyried a ddylid darparu cefnogaeth er lles y plentyn.

Os darperir cefnogaeth, caiff y manylion eu cofnodi mewn Cynllun Gwasanaethau Cefnogi Gwarcheidwaeth Arbennig.

Gan bwy y mae cyfrifoldeb rheini am y plentyn?

Yn wahanol i Orchymyn Mabwysiadu, nid yw GGA yn golygu bod cyfrifoldeb rhieni'r rhiant geni neu unrhyw un arall â chyfrifoldeb rhieni, yn dod i ben.

Mae Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig yn rhoi'r cyfrifoldeb am y plentyn i'r Gwarcheidwad Arbennig. Mae hyn yn golygu bod gan y Gwarcheidwad Arbennig gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ofalu am y plentyn ac am wneud penderfyniadau am sut caiff ei fagu ac mae'n gallu gwrthod dymuniadau'r rhiant geni os bo angen.

Beth gall gwarcheidwad arbennig ei ddisgwyl gan yr awdurdod lleol?

Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadw mewn cysylltiad â'r Gwarcheidwad Arbennig, fel arfer pob chwe mis, i sicrhau bod popeth yn mynd yn iawn. 

Os darperir gwasanaethau cefnogi neu gymorth ariannol, caiff y rhain eu hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau eu bod yn parhau i ddiwallu anghenion y plenty.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar unrhyw adeg. 

Beth y mae'r awdurdod lleol yn ei ddisgwyl gan warcheidwad arbennig?

Mae gan warcheidwaid arbennig gyfrifoldebau ffurfiol drwy'r awdurdod lleol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi hysbysu'r awdurdod lleol ar unrhyw adeg os ydych yn gwneud unrhyw un o'r canolynol:

  • yn newid eich cyfeiriad;
  • nid yw'r plentyn yn gallu byw gyda chi mwyach;
  • mae'r plentyn yn marw;
  • mae unrhyw newid yn eich amgylchiadau ariannol neu anghenion ariannol ac adnoddau'r plentyn.

Rhaid i warcheidwaid arbennig sy'n derbyn cymorth ariannol hefyd ddarparu datganiad amgylchiadau ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.

Fodd bynnag, os oes angen i chi drafod materion ar ôl i'r gorchymyn gael ei roi, gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg.

Pa mor hir y mae gorchymyn gwarcheidwaeth arbennig yn para?

Fel arfer bydd Gorchymyn Gwarcheidwad Arbennig yn para nes bod y plentyn yn cyrraedd 18 oed.

Gall y llys gytuno i orffen ('rhyddhau') neu newid ('amrywio') Gorchymyn Gwarcheidwad Arbennig os bydd rhai pobl, megis y Gwarcheidwad Arbennig, rhywun â chyfrifoldeb magu plant neu'r person ifanc, yn cyflwyno cais i'r llys.

Ni all rhieni geni gyflwyno cais i'r llys i ryddhau'r gorchymyn oni bai bod newidiadau sylweddol ers rhoi'r gorchymyn.

Am fwy o wybodaeth

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, neu os ydych am siarad am gyflwyno cais am Orchymyn Gwarcheidwad Arbennig, dylech siarad â'ch gweithiwr cymdeithasol os oes un gennych eisoes. Neu gall cysylltwch â'r Un pwynt cyswllt (UPC).

Close Dewis iaith