Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorchymyn gwarcheidwaeth arbennig

Mae Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig yn ffordd gyfreithiol o roi sefydlogrwydd hir dymor i blentyn na all ddychwelyd i fyw gyda'i rieni biolegol ac nid yw mabwysiadu'n briodol.

Mae'n ffordd gyfreithlon o roi cyfrifoldebau clir, tymor hir am fagu plentyn i'r person sy'n gofalu amdano.  Ar yr un pryd, mae'n cadw'r cyswllt cyfreithiol rhwng y plentyn a'r rhiant geni.

Caiff Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig ei wneud drwy gais ffurfiol i lys.  Gallwch gyflwyno cais i ddod yn Warcheidwad Arbennig os ydych dros 18 oed ac yn:

  • unrhyw warcheidwad o'r plentyn;
  • gofalwr maeth yr Awdurdod Lleol y mae'r plentyn wedi byw gydag ef am flwyddyn yn syth cyn cyflwyno cais;
  • perthynas i'r plentyn y mae'r plentyn wedi byw gydag ef/hi am flwyddyn cyn cyflwyno'r cais;
  • unrhyw un sy'n meddu ar Orchymyn Preswylio mewn perthynas â'r plentyn;
  • unrhyw un â chaniatâd gan:
    • yr awdurdod lleol; neu
    • bob un â chyfrifoldeb rhieni am y plentyn; neu
    • llys.

Wrth benderfynu a ddylid rhoi Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig, lles y plentyn fydd prif ystyriaeth y llys.  Ni roddir Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig os nad yw'r llys yn teimlo ei fod er lles gorau'r plentyn.

Unwaith y mae Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig wedi'i wneud, y Gwarcheidwad Arbennig fel arfer fydd y gofalwr parhaol i'r plentyn hwnnw nes iddo gyrraedd 18 oed.

 

Cwestiynau cyffredin am orchmynion gwarcheidiaeth arbennig

Rhagor o wybodaeth am orchmynion gwarcheidiaeth arbennig a sut i gyflwyno cais am un.

Un pwynt cyswllt (UPC)

Gall teuluoedd sy'n byw yn Abertawe gysylltu â'r UPC eu hunain i ofyn am help neu gyngor.
Close Dewis iaith