Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin ynghylch yr asesiad ariannol gofal cartref

Rhestr o'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am asesiad ariannol ar gyfer gofal cartref.

Oes help ar gael i lenwi'r ffurflen asesiad ariannol?

Beth os bydd fy amgylchiadau ariannol yn newid?

A yw asesiadau'r un peth ar gyfer parau â phobl sengl?

Beth os nad wyf am ddarparu gwybodaeth i chi am fy arian?

A allaf herio'r taliadau?

Sut mae talu am ofal cartref?

Beth sy'n digwydd os nad wyf yn talu'r costau?

Pwy dylwn i gysylltu â nhw i gael gwybodaeth bellach am fy asesiad?

 

 

Oes help ar gael i lenwi'r ffurflen asesiad ariannol?

Os hoffech, gallech benodi rhywun arall megis aelod teulu neu ffrind i'ch cynorthwyo i lenwi'r ffurflen asesiad ariannol. Mae'n bosib y gall y sefydliadau a restrir isod hefyd eich cefnogi neu'ch cynorthwyo i gwblhau ffurflen asesiad ariannol ar gyfer y Gwasanaethau Gofal Cartref.

Beth os bydd fy amgylchiadau ariannol yn newid?

Gallwch ofyn am asesiad ariannol newydd drwy gyslltu â'r Tîm Incwm ac Arian Gofal Cymdeithasol.

A yw asesiadau'r un peth ar gyfer parau â phobl sengl?

Hyd yn oed os ydych yn bâr, bydd yr asesiad ariannol yn cyfrif eich arian chi'n unig, nid arian eich partner. Felly os oes gennych gynilion mewn cyfrif banc ar y cyd, byddwn ond yn cyfrif hanner yr arian.

Fodd bynnag, os ydych chi a'ch partner yn gymwys i dderbyn gwasanaethau ac yn cael asesiad ariannol, gallwch ddewis cael asesiad ar y cyd, neu gallwch barhau i gael eich asesu ar wahân.

Beth os nad wyf am ddarparu gwybodaeth i chi am fy arian?

Gallwch ddewis peidio â chael asesiad ariannol. Fodd bynnag, os dewiswch beidio â chael asesiad neu os nad ydych yn ymateb i'r gwahoddiad i gael asesiad ariannol, bydd hyn yn golygu bod rhaid i chi dalu cost lawn y gofal cartref rydych yn ei dderbyn: Taliadau am ofal a chefnogaeth yn y cartref.

A allaf herio'r taliadau?

Gallwch. Gallwch ofyn am adolygiad o'ch sefyllfa ariannol drwy gysylltu â'r Swyddog Incwm ac Arian a fydd yn esbonio'r broses ar gyfer adolygu penderfyniadau. Os nad ydych yn hapus â chanlyniad eich her, gallwch wneud cwyn ffurfiol fel a nodir yn ddiweddarach ar y ffeithlen hon.

Sut mae talu am ofal cartref?

Gallwch wneud taliadau ar gyfer gofal cartref naill ai drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy ddefnyddio cerdyn electronig. Anfonir gwybodaeth am ddebydau uniongyrchol a gorchymyn i dalu trwy'r dull hwn atoch ynghyd â chopi o'ch asesiad ariannol.

Beth sy'n digwydd os nad wyf yn talu'r costau?

Rydym yn disgwyl i chi dalu'r ffïoedd hyn yn llawn yn dilyn asesiad ariannol . Os yw rhywun yn cael trafferth talu, dylent gysylltu â'r Swyddog Incwm ac Arian, neu siarad â'u rheolwr gofal neu gweithiwr cymdeithasol.

Bydd peidio â thalu am gost a aseswyd yn cael ei adolygu, a bydd llythyron atgoffa'n cael eu hanfon. Bydd parhau i fethu â thalu costau'n arwain at yr awdurdod lleol yn cymryd camau i adennill y ddyled.

Pwy dylwn i gysylltu â nhw i gael gwybodaeth bellach am fy asesiad?

Eich rheolwr gofal neu'ch gweithiwr cymdeithasol, neu Swyddog Incwm ac Arian yw'r person cyntaf i siarad ag ef/hi ynghylch asesiadau ariannol am ofal cartref.

Os oes gennych fwy o gwestiynau manwl am yr asesiad, neu os hoffech herio'r costau, cysylltwch â'r Tîm Incwm ac Arian Gofal Cymdeithasol.

Close Dewis iaith