Taliadau am ofal a chefnogaeth yn y cartref
Yr hyn y disgwylir i chi ei dalu o bosib tuag at gostau eich gofal cartref a sut rydym yn cyfrifo'r ffioedd.
Mae'r ffeithlen hon i oedolion yr aseswyd eu bod yn gymwys i gael gofal a chefnogaeth wedi'u rheoli i'w helpu i gynnal neu adennil eu hannibyniaeth. Gallai'ch cynllun gofal a chefnogaeth gynnwys amrywiaeth o wasanaethau wedi'u darparu neu eu trefnu ar eich rhan gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe. Gallech chi ddisgwyl cael rhywfaint o help a chefnogaeth ymarferol wrth wneud tasgau personol neu gartref y byddai'n anodd i chi barhau i fyw gartref heb hynny.
Mae'r taliadau rydym yn eu codi'n cyfrannu at gost eich gofal a'ch cefnogaeth. Mae'r taliadau hyn, a'r ffordd rydyn ni'n eu cyfrifo, yr un peth p'un a ddarperir y Gwasanaeth Gofal Cartref Integredig neu gan asiantaeth gofal annibynnol sy'n gweithio ar ran y cyngor.
Os nad ydych wedi cael asesiad o'ch anghenion yn barod, yn gyntaf bydd angen i chi gael asesiad gofal i ddarganfod a ydych yn gymwys i dderbyn gofal cartref gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Y sail ar gyfer codi tâl
I sicrhau bod y taliadau rydym yn eu codi'n deg, rydym yn defnyddio Polisi Codi Tâl sy'n seiliedig ar ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Yn agor ffenestr newydd) gan gynnwys:
- Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (Yn agor ffenestr newydd)
- Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (Yn agor ffenestr newydd)
Defnyddir y Polisi Codi Tâl i benderfynu a fydd rhywun yn talu:
- Dim tuag at gost gofal cartref.
- Y gost lawn am eu gofal. Caiff hyn ei gyfrifo yn ôl nifer yr oriau a geir, ar gyfradd o £23.16 yr awr, hyd at uchafswm o £100 yr wythnos.
- Rhan o'r costau gofal, ond nid y taliad llawn. Bydd yr union swm yn dibynnu ar faint o arian sydd ganddynt bob wythnos, ar ôl talu costau penodol.
Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, byddwn yn penderfynu faint y byddant yn ei dalu drwy gynnal asesiad ariannol. Serch hynny, mae rhai pobl a fydd yn cael eu gofal am ddim yn awtomatig (cyhyd â'u bod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth) heb orfod cael asesiad ariannol. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Oedolion â phroblemau iechyd meddwl sy'n derbyn gwasanaethau ôl-ofal ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty o dan Adran 117 Deddf Iechyd Meddwl 1983, lle mae'r angen am wasanaethau dibreswyl wedi'i nodi'n benodol yn y cynllun gofal.
- Oedolion sy'n cael diagnosis eu bod yn dioddef o glefyd Creuzfeldt Jacob (CJD).
- Oedolion sy'n derbyn gofal fel rhan o becyn ailalluogi, am hyd at 6 wythnos. (D.S. Byddai unrhyw amser a dreulir mewn uned asesu breswyl yn rhan o'r 6 wythnos.)