Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am CCTV

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am CCTV.

Ar hyn o bryd rydym yn y broses o uwchraddio'n systemau teledu cylch cyfyng o amgylch Abertawe. 

Pwy sy'n gyfrifol am y camerâu CCTV ar draws y ddinas?

Mae'r Cyngor yn gweithredu camerâu teledu cylch cyfyng mewn lleoliadau allanol ar draws y ddinas. Mae'r brif system yn cynnwys 132 o gamerâu ar hyn o bryd ar draws ardal yr awdurdod lleol, gan gynnwys Treforys, y Mwmbwls, Gorseinon a Phontarddulais. Mae gennym hefyd gamerâu ychwanegol mewn stadau tai'r cyngor. Mae'r holl gamerâu hyn yn weithredol mewn ardal ddiffiniedig ac fe'u defnyddir yn bennaf i atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall y camerâu helpu'r heddlu i nodi troseddwyr a chasglu tystiolaeth ar gyfer erlyniad yn y llys. 

Mae yna ganolfan reoli bwrpasol, sy'n ganolfan gyfyngedig a diogel a weithredir yn unol â chanllawiau'r Swyddfa Gartref. Mae gan weithredwyr teledu cylch cyfyng y Cyngor gysylltiad uniongyrchol â'r heddlu, a gallant anfon darnau o ffilm at ystafell reoli'r heddlu pan fo'n berthnasol, gan adrodd am ddigwyddiadau ar unwaith. Mae'r cyfathrebu hwn yn gweithio'r ddwy ffordd, a gall yr heddlu gysylltu â'r Ganolfan Reoli Teledu Cylch Cyfyng i ofyn am ddarnau o ffilm i fonitro digwyddiad. 

Mae holl weithredwyr teledu cylch cyfyng y Cyngor wedi cael hyfforddiant ffurfiol i weithredu teledu cylch cyfyng. Maent yn gweithredu'n unol â pholisi teledu cylch cyfyng y Cyngor a chôd ymarfer Swyddfa'r Comisiynydd Arwylio. 

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am y system, cysylltwch â: 

Gareth Pritchard - Ffôn: 07917 200079 neu e-bostiwch gareth.pritchard@abertawe.gov.uk

Mae'r cyngor hefyd yn gweithredu camerâu yn ei adeiladau, ei swyddfeydd a'i weithleoedd gwaith eraill. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch systemau CCTV mewnol, ffonwich switsfwrdd Cyngor Abertawe ar 01792 636000.

Ble mae'r camerâu?

Mae yna 132 o gamerâu (69 o gamerâu PTZ (Panio, Gogwyddo a Chwyddo) a 62 o gamerâu sefydlog) ar draws Dinas a Sir Abertawe. 

  • Wind Street
  • Quay Parade
  • Little Wind Street
  • York Street
  • Orchard Street
  • Ffordd y Brenin
  • St Helens Road
  • Whitewalls
  • Plymouth Street
  • Nelson Street
  • Stryd Rhydychen
  • Union Street
  • Westways
  • Y Stryd Fawr
  • Walter Road
  • Christina Street
  • Caer Street
  • Singleton Street
  • Northampton Lane
  • Pell Street
  • Portland Street/Park Street
  • The Strand
  • Arena Abertawe
  • Woodfield Street, Treforys
  • Gorsaf Fysus Gorseinon
  • High Street, Gorseinon
  • St Teilo Street, Pontarddulais
  • Water Street, Pontardulais
  • Bae Bracelet, y Mwmbwls
  • Powys Avenue
  • Pen-y-Graig Road
  • Cadwaladr Circle
  • Townhill Road/Teilo Crescent
  • Ceri Road
  • Gwili Terrace
  • Gors Avenue / Dewi Terrace
  • Gors Avenue / Gwent Road
  • Rhodfa'r Brain
  • Heol Calfin
  • Broughton Avenue
  • Portmead Avenue
  • Woodford Road
  • Bardsey Avenue
  • Swansea Road, Waunarlwydd
  • St. Clears Place
  • Longview Road, y Clâs
  • Solva Road, y Clâs
  • Mansel Road, Bôn-y-maen
  • Caernavon Way, Bôn-y-maen
  • Rhyd Y Felin, Trallwn
  • Tegfan, Trallwn
  • Hillrise Park, Clydach
  • Parkway Road, Sgeti

Mae gan yr adeiladau dinesig hefyd 2 system y mae'r tîm Cyfleusterau Corfforaethol yn gyfrifol amdanynt. Mae'r rhain yn weithredol yn swyddfeydd y Cyngor yn y Ganolfan Ddinesig a Neuadd y Ddinas. Mae 84 o gamerâu yn y Ganolfan Ddinesig, sy'n cynnwys 25 o gamerâu allanol a 59 o gamerâu mewnol. Mae 9 camera yn Neuadd y Ddinas, sy'n cynnwys 7 camera mewnol a 2 gamera allanol. Mae camerâu teledu cylch cyfyng hefyd yn y rhan fwyaf o'r adeiladau a gynhelir gan y cyngor, megis llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, Swyddfeydd Tai Ardal a chyfleusterau'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Caiff y rhain eu cynnal a'u cadw a'u gweithredu gan y staff ar y safle. 

Faint o arian sy'n cael ei wario ar gamerâu bob blwyddyn?

Gwariant ar gamerâu ar gyfer 2020/21:

  • Gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus y cyngor - £340,000
  • Uned Cefnogi Cymdogaethau'r Gwasanaeth Tai - £258,871

Gwariant ar gamerâu ar gyfer 2019/20:

  • Gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus y cyngor - £340,000
  • Uned Cefnogi Cymdogaethau'r Gwasanaeth Tai - £258,871

Gwariant ar gamerâu ar gyfer 2018/19:

  • Gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus y cyngor - £340,000
  • Uned Cefnogi Cymdogaethau'r Gwasanaeth Tai - £258,871

Gwariant ar gamerâu ar gyfer 2017/2018:

  • Gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus y cyngor - £340,000
  • Uned Cefnogi Cymdogaethau'r Gwasanaeth Tai - £258,871

Gwariant ar gamerâu ar gyfer 2016/2017:

  • Gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus y cyngor - £340,000
  • Uned Cefnogi Cymdogaethau'r Gwasanaeth Tai - £258,871
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2025