
Cwestiynau cyffredin am drwyddedu tacsis
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am drwyddedu tacsis.
Faint o drwyddedau tacsis mae'r cyngor wedi'u rhoi eleni? (cywir ar Gorffennaf 2019)
Rydym ni'n dosbarthu trwydded/bathodynnau deuol yn ddyddiol, ac felly, cyfanswm amcangyfrifiedig y gyrwyr sydd wedi'u trwyddedu ar hyn o bryd yw 1139. Amcangyfrif yw'r ffigurau hyn:
- Cerbydau Hacni - 433
- Cerbydau Hurio Preifat - 444
- Cerbydau Hurio Preifat Cyfyngedig (gellir eu defnyddio ar gyfer cludiant ysgol, teithio i faes awyr neu hurio dethol yn unig) - 126
- Gweithredwr Hurio Preifat - 43
A yw'r cyngor yn rhannu/dilysu unrhyw wybodaeth a roddir fel rhan o'r broses hon â phartïon allanol heblaw am yr ymgeisydd?
Gall wybodaeth a roddir fel rhan o'r broses cyflwyno cais gael ei dilysu gyda'r Swyddfa Gartref lle bo angen. Gellir rhannu'r wybodaeth ag asiantaethau eraill ac fel rhan o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth lle bo'n berthnasol.
Sut mae'r wybodaeth a roddir wrth wneud cais yn cael ei chadw (ac am ba hyd) ar ôl i gais gael ei brosesu?
Mae'r holl wybodaeth a roddir wrth wneud cais am drwydded yn cael ei chadw'n electronig ac ar bapur. Caiff ei chadw am 7 mlynedd ar ôl i gais gael ei gwblhau.
Faint o arian mae'r cyngor wedi'i dderbyn gan yrwyr tacsi?
Gellir dod o hyd i gyfrifon cyhoeddus ar gyfer trwyddedu tacsis, am sawl blwyddyn ariannol, ar y dudalen Datganiad o Gyfrifon.