Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am siopau anifeiliaid anwes

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am siopau anifeiliaid anwes.

Mae siopau anifeiliaid a gwerthiannau anifeiliaid yn cael eu rheoleiddio'n unol â rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021. Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth o 10 Medi 2021 a newidiodd y gofynion trwyddedu ar gyfer gwerthu anifeiliaid ac anifeiliaid anwes yng Nghymru, sy'n cynnwys y gwaharddiad ar werthiannau masnachol trydydd parti o gŵn bach a chathod bach.

Mae 8 trwydded ar waith ar hyn o bryd yn 2024 (ym mis Mai 2024)

2023: rhoddwyd 7 trwydded
2022: rhoddwyd 5 trwydded
2021: rhoddwyd 8 trwydded

Pa mor aml y mae angen iddyn nhw adnewyddu eu trwydded?

Mae angen adnewyddu'r trwyddedau'n flynyddol.

Pa anifeiliaid mae siopau anifeiliaid anwes wedi'u trwyddedu i'w gwerthu?

Mae gan siopau anifeiliaid anwes yn Abertawe drwydded i werthi ymlusgiaid, adar, pysgod a mamaliaid bach. Nid oes gan unrhyw siop anifeiliaid anwes drwydded i werthu cŵn, cathod neu brimatiaid.

Ar beth rydych chi'n seilio'ch amodau trwydded siop anifeiliaid anwes? 

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021.

A yw pob siop anifeiliaid anwes yn cael ei harchwilio gan y cyngor cyn a) rhoi'r drwydded gychwynnol, b) adnewyddu'r drwydded?

Ydyn, gan Swyddog Trwyddedu.

Am ba resymau eraill y byddwch chi'n ymweld â siop anifeiliaid anwes?

Hapwiriad dirybudd a chwynion.

A ydych chi'n mynnu bod siopau anifeiliaid anwes yn datgan eu bod nhw'n gwerthu a/neu fasnachu cathod bach, cŵn bach neu gŵn naill ai wrth wneud y cais cychwynnol, hanner ffordd trwy drwydded flynyddol neu wrth adnewyddu'r drwydded?

Ydyn, ac mae'r holl siopau anifeiliaid anwes yn cael eu harchwilio'n flynyddol wrth i'r drwydded gael ei hadnewyddu. Pe bai unrhyw siop yn gwerthu cŵn bach/cŵn/cathod bach, byddai hyn yn cael ei nodi ar y cam hwn. Nid oes unrhyw siop anifeiliaid anwes yn gwerthu cŵn/cŵn bach/cathod bach yn Abertawe ar hyn o bryd.

Pa bolisi sydd gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â pha mor aml y mae siopau anifeiliaid anwes yn a) derbyn ymweliad anffurfiol gan swyddogion y cyngor, a b) chael eu harchwilio?

Mae siopau anifeiliaid anwes yn cael eu harchwilio'n ffurfiol gan swyddogion y cyngor bob blwyddyn i'w trwyddedu, ac ar unrhyw adeg arall yn dilyn cwyn.

Ydych chi'n gofyn i'r rhai sy'n gwneud cais am drwydded siop anifeiliaid anwes a oes ganddynt unrhyw gyfyngiadau/anghymwysterau rhag cadw anifeiliaid/siopau anifeiliaid anwes/neu unrhyw gyfyngiadau neu anghymwysterau perthnasol eraill?

Ydyn - wrth i'r ymgeisydd wneud cais.

Beth sy'n digwydd os oes gan aelod o'r cyhoedd bryder ynghylch siop anifeiliaid drwyddedig neu werthiant anifeiliaid?

Os oes gennych bryder ynghylch arferion siop anifeiliaid drwyddedig/gwerthiant anifeiliaid neu'r amodau cedwir yr anifeiliaid ynddynt, cysylltwch â'r isadran Trwyddedu Anifeiliaid yn Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk, gan nodi cynifer o fanylion ag sy'n bosib ynghylch eich pryder. Bydd swyddog yn cysylltu â chi, ac os oes angen gallwch egluro unrhyw bwyntiau ychwanegol wrtho.

Ni roddir trwydded os bydd gan rywun unrhyw euogfarnau sy'n berthnasol i unrhyw droseddau lles anifeiliaid.

Rhagor o wybodaeth: Siopau anifeiliaid anwes

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mehefin 2024