Siopau anifeiliaid anwes
I gynnal busnes sy'n gwerthu anifeiliaid anwes, mae angen i chi gael trwydded gennym ni. Mae hyn yn cynnwys gwerthu anifeiliaid mewn siop anifeiliaid anwes a thros y rhyngrwyd.
Mae diffiniadau anifeiliaid anwes a siopau anifeiliaid anwes yn amrywiol iawn. Os nad ydych yn siŵr a oes angen trwydded siop anifeiliaid anwes arnoch, e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk.
Ni fyddwch yn derbyn trwydded os ydych wedi cael eich gwahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes, neu os ydych wedi cael eich euogfarnu o unrhyw dramgwyddau lles anifeiliaid eraill.
Sut mae gwneud cais
Cyflwyno cais am drwydded i gadw siop anifeiliaid Cyflwyno cais am drwydded i gadw siop anifeiliaid
Mae'n rhaid i chi lenwi pob rhan o'r ffurflen gais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen. Bydd ffi i dalu am ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.
Ffïoedd
Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid
Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais. Bydd gofyn i chi dalu ffi ychwanegol ar gyfer ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.
Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'u hanfon gyda'ch ffurflen wedi'i llenwi.
Caniatâd Dealledig
Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r tîm Trwyddedu.
Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo neu sydd am apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i drwydded apelio gerbron Llys yr Ynadon leol.