Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwynion am ECO-flex

Dan ECO4 Flex nid yw awdurdodau lleol yn gyfrifol am unrhyw hawliadau a wneir gan gwsmeriaid nad ydynt yn fodlon ar ansawdd y gwaith. Y gosodwr sy'n atebol am y gwaith a wneir.

Felly, nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ganlyniadau negyddol, difrod neu golledion sy'n gysylltiedig â phrosiectau ECO4 Flex a gweithredoedd y gosodwr/darparwr/asiant. Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw beth sy'n gysylltiedig â'r broses gwneud cais neu arolygon a gynhelir cyn y gosod.

Ein rôl ni o ran ECO4 Flex yw penderfynu ar gymhwysedd yr aelwyd am gyllid. Rhaid dweud wrth y gosodwr/darparwr/cyflenwr ynni rhwymedig am unrhyw gwynion neu broblemau ynghylch gwaith neu'r broses gwneud cais. Os ydych yn dymuno sicrhau ansawdd y gosodiad, argymhellir eich bod yn ymgynghori ag arbenigwr annibynnol.

Os yw'r gwaith yn cael ei wneud dan y cynllun, mae'r contract rhwng y deiliad tŷ a'r gosodwr/darparwr/asiant (nid y cyngor).

Y gosodwr sy'n gyfrifol am ddiffygion gosod o fewn cyfnod amser penodedig, a'r gwneuthurwr sy'n atebol am gynnyrch diffygiol yn ystod cyfnod y gwarantiad. Y deiliad tŷ/perchennog sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r mesurau a osodwyd, nid y gosodwr/darparwr/asiant ECO. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y gosod neu'r crefftwaith, cysylltwch â'r darparwr/gosodwr ECO4 Flex penodol.

Pwyntiau allweddol ECO4 Flex 

  1. Cyfrifoldeb perchennog y cartref yw cynnal a chadw'r mesurau effeithlonrwydd ynni a osodwyd.
  2. Dylid cyfeirio unrhyw bryderon neu gwynion cychwynnol i'r gosodwr/darparwr.

Problemau gydag ansawdd gwaith

Ar gyfer pryderon ynghylch ansawdd ceisiwch asesiadau annibynnol:

Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu (MCS)

Mae MCS yn ardystio gosodwyr technoleg ynni adnewyddadwy ac yn diogelu defnyddwyr.

Sut i gwyno am osodiadau a ardystir gan MCS:

Trustmark

Dylai'r gwaith gosod gael ei wneud gan  fusnesau sydd wedi'u cofrestru â Trustmark.

Mae Trustmark yn darparu siarter cwsmeriaid a gwasanaeth datrys anghydfod:

  • ffoniwch: 0333 555 1234
  • cyfeiriad post:Trustmark (2005) Limited, Basingstoke, RG21 4EB

Materion Eraill

Ar gyfer materion ychwanegol, ewch i wefan proses gwynion ECO4 Ofgem: Proses gwynion ECO (Ofgem) (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Mawrth 2025