Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno sylwadau, cwynion neu ganmoliaeth am y Gwasanaethau Cymdeithasol

I gwyno, neu os oes angen help arnoch i wneud hynny, gallwch ffonio 01792 637345.

Beth yw eich barn

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn anelu i ddarparu gwasanaethau o safon i'r cyhoedd yn Ninas a Sir Abertawe. Fodd bynnag, gall pethau fynd o chwith ar adegau a gallai defnyddiwr y gwasanaeth, neu rywun sy'n bryderus am ei les, fod eisiau cwyno.

Mae'r gyfraith yn dweud fod gennych chi'r hawl i fynegi eich barn am y Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Trwy ddweud wrthym am y pethau yr ydych yn anhapus yn eu cylch neu beth aeth yn dda, rydych yn ein helpu ni i wella'r ffordd rydym yn darparu'n gwasanaethau. 

Pwy all ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau a chwynion?

  • Pobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae'r awdurdod lleol yn eu darparu.
  • Pobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae'r awdurdod lleol yn eu prynu neu'n eu contractio.
  • Cynrychiolydd, perthynas neu ffrind, wedi'i enwebu'n iawn gan ddefnyddiwr gwasanaethau neu wedi'i gydnabod ei fod yn briodol i weithredu er budd gorau'r defnyddiwr.

Os nad ydych yn siŵr a oes gennych hawl i gwyno, gallwch ofyn i'r Swyddogion Cwynion a fydd yn cynghori ar bob achos unigol.

Sut i ganmol neu gwyno am y gwasanaenthau cymdeithasol?

Yn gyntaf, dylech roi gwybod i'r aelod o staff sy'n rhoi cefnogaeth am yr hyn sy'n eich poeni er mwyn iddynt geisio cywiro'r sefyllfa.

Os yw'n well gennych, gallwch gysylltu â Thîm Cwynion y Cyngor y gall eu swyddogion fynd i'r afael â'r cwynion yn erbyn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich cwyn o fewn 12 mis oni bai fod gennych resymau eithriadol dros beidio â gwneud hynny.

Sut mae'r weithdrefn gwyno yn gweithio?

Cam 1 - datrys yn lleol

Pan fyddwn yn derbyn eich cwyn, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o fewn dau ddiwrnod gwaith.  Byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cwyn o fewn deng niwrnod gwaith.  Gall hyn fod dros y ffôn neu os oes yn well gennych chi gallwn drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb.  Unwaith y byddwn wedi trafod eich cwyn ac mae'r mater wedi'i ddatrys, byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn pum niwrnod gwaith o'r diwrnod penderfynu er mwyn cadarnhau'r canlyniad.

Mae'r rhan fwyaf o gwynion yn cael eu datrys yn y cam hwn, ac fel arfer dyma yw'r ffordd gyflymaf a symlaf i fynd i'r afael â materion.

Cam 2 - ystyriaeth ffurfiol

Os na all y gŵyn gael ei datrys yn y cam anffurfiol, bydd eich cwyn yn symud i gam 2. Cysylltwch â'r Swyddog Cwynion i drafod yr opsiynau sydd ar gael. Cynhelir y cam hwn gan rywun nad yw'n rhan uniongyrchol o'r gwasanaeth yr ydych yn cwyno amdano. Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd y Swyddog Cwynion yn eich cynghori a'ch hysbysu o'r datblygiadau.

Nid oes rhaid i chi gymryd y cynnig o drafodaeth ar gam Datrys yn Lleol; mae gennych yr hawl i ofyn am ymchwiliad ffurfiol o'r cychwyn cyntaf os ydych yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, gan fod hyn yn broses hirach na'r broses datrys yn lleol, rydym yn argymell ceisio datrys materion trwy eu datrys yn lleol yn gyntaf.

Pan fydd eich cwyn yn cael ei hymchwilio yng Ngham 2 byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn pum niwrnod gwaith i dderbyn eich cais ar gyfer Ymchwiliad Ffurfiol, er mwyn sicrhau ein bod yn deall holl fanylion eich cwyn a'r canlyniad yr hoffech ei gael.  Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau fod hyn yn gywir a bydd hefyd yn rhoi manylion i chi am yr Ymchwilydd Annibynnol.

Gelwir y dyddiad y byddwch yn cadarnhau manylion eich cwyn yn 'ddyddiad dechrau', ac mae gennym 25 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwn i gwblhau'r ymchwiliad ac anfon ymateb ysgrifenedig atoch.

Os na allwn gyflawni'r dyddiad cau hwn, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn esbonio pam fod oedi a phryd byddwch yn derbyn yr ymateb. Bydd hyn cyn gynted â phosib ar ôl y dyddiad cau 25 niwrnod a ddim hwyrach na 6 mis o'r dyddiad y derbyniwyd eich cwyn.

Pwy arall all helpu?

Os ydych chi dal yn anfodlon ar ddiwedd y broses fewnol, gallwch gysylltu ag: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Ffynonellau gwybodaeth eraill

National Youth Advocacy Service
0808 808 1001
ww.nyas.net 

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd)

Gofal Cymdeithasol Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Eich Cynghorydd Lleol neu'ch Aelod Cynulliad (Yn agor ffenestr newydd)

Swyddog Cwynion (Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyflwyno sylwadau, cwynion neu ganmoliaeth am y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Hydref 2021