Nodyn cyfarwyddyd: SDCau a Bioamrywiaeth
Ystyr SDCau yw Systemau Draenio Cynaliadwy. Mae'r term Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy hefyd yn cael ei ddefnyddio'n aml.
Mae Atodlen 3(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn diffinio draenio cynaliadwy fel: "rheoli dŵr glaw gyda'r nod o: leihau difrod gan lifogydd; gwella ansawdd dŵr; gwarchod a gwella'r amgylchedd; amddiffyn iechyd a diogelwch; a sicrhau sefydlogrwydd a gwydnwch systemau draenio".
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob datblygiad newydd o un neu fwy o anheddau, neu lle mae'r arwynebedd adeiladu caled yn 100m2 neu fwy, sicrhau fod dŵr wyneb ar y safle yn cael ei reoli gan SDCau. Mae'r Awdurdod Lleol, yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) yn rheoli'r broses o gymeradwyo a mabwysiadu SDCau.
Mae Safonau Draenio Cynaliadwy Cymru yn cydnabod y cyfleoedd a gyflwynir gan SDCau i gynnal a gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau. Mae Safon S5 - Bioamrywiaeth: "yn mynd i'r afael â dyluniad SDCau i sicrhau, lle bo'n bosibl, eu bod yn creu coridorau gwyrdd a glas sy'n gyfoethog yn ecolegol mewn datblygiadau ac yn cyfoethogi gwerth bioamrywiaeth trwy gysylltu rhwydweithiau o gynefinoedd ac ecosystemau â'i gilydd. Dylid ystyried bioamrywiaeth yn ystod cam dylunio cynnar datblygiad er mwyn sicrhau bod y buddion posibl yn cael eu huchafu
Sut y gall SDCau ychwanegu Gwerth Bioamrywiaeth?
Os cânt eu gweithredu'n dda, gall SDCau:
- Wella cynefinoedd a rhywogaethau presennol yn yr ardal leol;
- Darparu seilwaith gwyrdd aml-swyddogaeth;
- Helpu i gyflenwi amcanion bioamrywiaeth lleol;
- Cysylltu cynefinoedd, a thrwy hynny gefnogi cydnerthedd ecosystemau ehangach a'r gallu i addasu i newid yn yr hinsawdd; a
- Chreu ecosystemau lleol newydd, amrywiol, hunangynhaliol.
Dylai SDCau ystyried y rhywogaethau a allai fod yn bresennol eisoes ar safle neu'n agos ato. Er enghraifft, dylid ystyried anghenion dyfrgwn, llygod y dŵr, ymlusgiaid ac amffibiaid. Dylid cadw neu greu coetir glannau/gwrychoedd/glaswelltir i ddarparu lloches i fywyd gwyllt. Dylid ymgorffori rhywogaethau brodorol sy'n blodeuo i annog peillwyr, a bydd hyn yn ei dro yn darparu ffynhonnell fwyd i adar, ystlumod a mamaliaid bach eraill.
Mae'r dogfennau canlynol yn cynnwys arfer gorau a chanllawiau ynghylch SDCau a bioamrywiaeth:
- Llawlyfr SDCau Cymdeithas Ymchwil a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu (CIRIA) 2015: o Pennod 6 Dylunio ar gyfer Bioamrywiaeth: https://ciria.sharefile.com/share/view/5aac0809db2c431d o Pennod 29: Tirwedd: https://ciria.sharefile.com/share/view/69401ce0743c4059
- Systemau Draenio Cynaliadwy Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSBP) ac Ymddiriedolaeth Gwlyptiroedd y Byd (WWT)- Gwneud y mwyaf o'r potensial i bobl a bywyd gwyllt, Canllaw i awdurdodau lleol a datblygwyr: http://ww2.rspb.org.uk/Images/SDCau_report_final_tcm9-338064.pdf
- Pecyn Cymorth Creu Pyllau yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw: https://freshwaterhabitats.org.uk/projects/million-ponds/pond-creation-toolkit/
- Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Alban (SEPA): Canllawiau ar arfer da wrth reoli a chreu cyrff dŵr bach yn yr Alban: https://www.sepa.org.uk/media/151336/ponds_pools_lochans.pdf
Rhywogaethau Brodorol a allai fod yn addas ar gyfer cynlluniau SDCau
Llwyni:
- Cwyrwialen (Cornus sanguinea)
- Corswigen (Viburnum opulus)
- Helygen (Salix spp.)
- Banhadlen (Cytisus scoparius)
- Breuwydden (Frangula alnus)
Planhigion dringo:
- Eiddew (Hedera helix)
- Gwyddfid (Lonicera periclymenum)
- Rhosyn y cŵn (Rosa canina)
Planhigion lluosflwydd:
- Bydon chwerw (Eupatorium cannabinum)
- Hesgen bendrom (Carex pendula)
- Brwynen flodeuog (Butomus umbellatus)
- Lloer-redynen (Osmunda regalis)
- Milddail (Achillea millefolium)
- Corn glas (Ajuga reptans)
- Clafrllys (Centaurea nigra)
- Briallen Fair sawrus (Primula veris)
- Meddyges las (Prunella vulgaris)
- Teim (Thymus polytrichus)
- Llygad llo mawr (Leucanthemum vulgare)
- Meillionen hopysaidd gyffredin (Lotus corniculatus)
- Clafrllys gwreidd-dan (Succisa pratensis)
- Carpiog y gors (Silene flos-cuculi)
- Blodyn y gog (Cardamine pratensis)
Planhigion dyfrol/ymylol:
- Gellesgen felen (Iris pseudacorus)
- Gwyarllys (Lythrum salicaria)
- Briwlys y gors (Stachys palustris)
- Llysiau'r sipsiwn (Lycopus europaeus)
- Crelys y dŵr (Veronica beccabunga)
- Gold y gors (Caltha palustris)
- Chwys Arthur (Filipendula ulmaria)
- Mintys y dŵr (Mentha aquatica)
- Blodyn glas y dŵr (Myosotis scorpioides)
- Ffrogbit (Hydrocharis morsus ranae)
- Chwys Mair (Ranunculus aquatilis)
Rhywogaethau Goresgynnol
Ni ddylid byth blannu rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) mewn SDCau (neu gynlluniau tirlunio eraill), gan eu bod yn niweidiol iawn i fioamrywiaeth ac mae'n anghyfreithlon i dyfu neu achosi iddynt ymledu yn y gwyllt mewn unrhyw ffordd. Mae'r canlynol yn rhai enghreifftiau o INNS dyfrol a daearol:
- Ceirchen Goch (Crocosmia x crocosmiiflora)
- Garlleg tair congl (Allium triquetrum)
- Cenhinen blodau-prin (Allium paradoxum)
- Rhosyn Japan (Rosa rugosa)
- Ffromlys chwarennog (Impatiens glandulifera)
- Clymog Japan (Reynoutria japonica)
- Rhododendron (Rhododendron ponticum and Rhododendron ponticum x Rhododendron maximum)
- Rhododendron melyn (Rhododendron luteum)
- Dail-ceiniog arnofiol (Hydrocotyle ranunculoides)
- Pluen parrot (Myriophyllum aquaticum)
- Corchwyn Seland Newydd a elwir hefyd yn Friweg y Gors Awstralia (Crassula helmsii)
- Briallen y dŵr (Ludwigia grandiflora a Ludwigia uruguayensis)
- Briallen y dŵr arnofiol (Ludwigia peploides)
- Rhedynen y dŵr (Azolla filiculoides)
- Alaw cwrlog (Lagarosiphon major)
- Alaw (Elodea spp.)
- Riwbob mawr (Gunnera tinctoria)
- Hiasinth y dŵr (Eichhornia crassipes)
- Ceiniog y Gors Nofiol (Cabomba caroliniana)
- Letysen y dŵr (Pistia stratiotes)
- Pen saeth llydanddail (Sagittaria latifolia)
- Salfinia mawr (Salvinia molesta)