Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodyn Cyfarwyddyd: Proses Arolygu ac Asesu Ecolegol

Dylid cyflwyno gwybodaeth ecolegol gyda cheisiadau cynllunio lle mae tebygolrwydd rhesymol y bydd y datblygiad arfaethedig yn effeithio ar safle cadwraeth natur dynodedig neu gynefin neu rywogaethau a warchodir neu rai blaenoriaeth.

Mae'n bwysig nodi bod data arolygon ecolegol yn gyffredinol ddilys am gyfnod o hyd at ddwy flynedd ac felly efallai y bydd angen ailadrodd arolygon yn ystod ac ar ôl y broses gynllunio. Gweler Nodyn Cyngor CIEEM 'On The Lifespan of Ecological Reports & Surveys': https://cieem.net/wp-content/uploads/2019/04/Advice-Note.pdf

Mae Atodiad 1 o'r Canllawiau Cynllunio Atodol Bioamrywiaeth a Datblygu (CCA) yn darparu:

  • Rhestr wirio ar gyfer Arolygon Rhywogaethau a Warchodir/Rhywogaethau â Blaenoriaeth sy'n debygol o fod yn ofynnol ar gyfer gwahanol safleoedd datblygu yn Abertawe (Ffigur A1.1);
  • Rhywogaethau a chynefinoedd sy'n debygol o gael eu canfod yn Lleoliadau Morol/Arfordirol/Aberol Abertawe (Ffigur A1.3);
  • Gwarchod Rhywogaethau yn Abertawe (Ffigur A1.4);
  • Safleoedd Gwarchodedig yn Abertawe (Ffigur A1.5); a
  • Gwarchod Cynefinoedd yn Abertawe (Ffigur A1.6).

Dylid cynnal Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA) cychwynnol. Bydd hyn yn nodi'r angen am unrhyw arolygon rhywogaethau pellach, a dylid cyflwyno'r canlyniadau mewn adroddiad Asesiad Effaith Ecolegol (EcIA). Bydd angen i'r ymgeisydd a'i ecolegydd hefyd ystyried a oes angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) neu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA). Manylir ar yr asesiadau hyn yn yr adrannau isod.

Pwy ddylai baratoi gwybodaeth ecolegol?

Bydd angen i ymgeiswyr sy'n cyflwyno gwybodaeth ecolegol gyda'u cais cynllunio gyflogi ecolegydd â chymwysterau addas, a lle bo angen, â thrwydded. Y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM) yw'r prif gorff yn y DU sy'n hyrwyddo arfer da a phroffesiynoldeb mewn ecoleg ac mae aelodaeth o'r sefydliad hwn yn arwydd da o gymhwysedd. Mae gan CIEEM gyfeiriadur o aelodau ac mae'n darparu Canllawiau ar gyfer Ysgrifennu Adroddiadau Ecolegol.

Dylai ecolegydd yr ymgeisydd bob amser weithio i'r canllawiau arolygu a lliniaru cydnabyddedig perthnasol, a dylai roi cyfiawnhad ar sail tystiolaeth dros unrhyw wyro oddi wrth y canllawiau hyn. Dylai'r adroddiadau ecolegol gynnwys gwybodaeth sy'n dangos cymhwysedd awdur yr adroddiad ac unrhyw gyfyngiadau ar yr arolygon/asesiadau.

1.  Arfarniad Ecoleg Rhagarweiniol (PEA)

1.1.  Dylai adroddiad PEA gynnwys:

  • Astudiaeth pen desg i nodi cofnodion rhywogaethau a safleoedd cadwraeth natur dynodedig a allai gael eu heffeithio gan y datblygiad;
  • Arolwg Cynefin Cam 1 Estynedig i fapio'r cynefinoedd sy'n bresennol ac unrhyw nodweddion bioamrywiaeth arwyddocaol, gan gynnwys rhywogaethau anfrodorol goresgynnol (INNS);
  • Asesiad o bwysigrwydd tebygol y cynefinoedd presennol;
  • Asesiad o bresenoldeb tebygol rhywogaethau a warchodir a rhywogaethau â blaenoriaeth;
  • Nodi unrhyw gyfyngiadau ecolegol a mesurau i osgoi effeithiau negyddol sylweddol;
  • Rhestr o arolygon ecolegol pellach sy'n debygol o fod yn ofynnol i lywio EcIA, ynghyd â methodoleg ac amseru priodol; a
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant ecolegol.

1.2. Rhaid i geisiadau sy'n debygol o effeithio ar unrhyw safleoedd dynodedig neu gynefinoedd â blaenoriaeth gynnwys asesiad o'r cynefinoedd neu rywogaethau perthnasol y mae'r safleoedd wedi'u dynodi ar eu cyfer. Efallai y bydd angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd hefyd.

1.3. Ceir rhagor o wybodaeth am PEAs yng Nghanllawiau CIEEM ar gyfer Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol.

 

2.  Rhywogaethau/ Arolygon Pellach

2.1. Gall adroddiad PEA argymell arolygon ychwanegol ar gyfer rhywogaethau neu gynefinoedd gwarchodedig neu â blaenoriaeth. Gelwir y rhain weithiau yn "arolygon pellach", "arolygon rhywogaeth" neu "arolygon cam 2"

2.2. Nid yw Cyngor Abertawe yn amodi'r arolygon hyn. Felly, dylid eu cynnal cyn cyflwyno cais cynllunio. Os nodir yr angen am arolygon pellach ar ôl eu cyflwyno, bydd eu hangen cyn penderfynu ar y cais.

2.3. Mae'r rhestr wirio ar gyfer Arolygon Rhywogaethau a Warchodir/Rhywogaethau â Blaenoriaeth yn Atodiad 1 o'r CCA Bioamrywiaeth a Datblygu yn manylu ar y mathau o geisiadau a allai fod angen gwaith arolygu rhywogaethau pellach.

2.4.  Rhaid i ecolegydd cymwys gynnal arolygon pellach. Mae rhai arolygon yn gofyn am ecolegydd trwyddedig, er enghraifft archwiliadau ystlumod, arolygon madfall ddŵr gribog ac arolygon pathewod. Canllawiau CNC ar Drwyddedau Rhywogaethau: https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/species-licensing/

2.5. Mae CIEEM yn darparu canllawiau cymhwysedd ar gyfer cynnal arolygon rhywogaethau, sydd hefyd yn rhestru'r canllawiau arolygu a lliniaru perthnasol.

2.6. Mae'n bosibl y bydd arolygon o rywogaethau yn nodi'r angen am drwyddedau datblygu er mwyn i'r datblygiad fynd yn ei flaen yn gyfreithlon. Mae'r trwyddedau hyn ar wahân i'r broses gynllunio, ond rhaid i ACLlau ystyried y ddeddfwriaeth drwy gydol y broses rheoli datblygu. Felly, dylai'r mesurau lliniaru rhywogaethau arfaethedig sydd i'w cynnwys gyda chais am drwydded gael eu cynnwys ymlaen llaw gyda'r cais cynllunio.

 

3.  Asesiad Effaith Ecolegol (AEA)

3.1. Unwaith y bydd PEA ac arolygon pellach wedi'u cynnal, efallai y byddai'n ddoeth cynnal EcIA, yn enwedig ar ddatblygiadau ar raddfa fwy.

3.2. Mae EcIA yn "broses o nodi, mesur a gwerthuso effeithiau posibl camau gweithredu cysylltiedig â datblygu neu gamau gweithredu arfaethedig eraill ar gynefinoedd, rhywogaethau ac ecosystemau." Dau ddefnydd o EcIA yw:

  • I ddarparu elfen ecolegol Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA); ac
  • I ddangos sut mae mae prosiect yn cadw at bolisi a deddfwriaeth cynllunio perthnasol pan nad oes angen AEA.

3.3. Mae'r egwyddorion canlynol yn sail i EcIA:

  • Osgoi niwed i nodweddion ecolegol;
  • Lliniaru effeithiau negyddol;
  • Gwneud iawn er mwyn gwrthbwyso effeithiau negyddol gweddilliol; a
  • Gwelliant i ddarparu buddion i fioamrywiaeth.

3.4. Defnyddir y PEA ac arolygon pellach i sefydlu'r llinell sylfaen ecolegol a phennu nodweddion ecolegol pwysig sy'n gysylltiedig â'r datblygiad.

3.5. Rhan allweddol yr EcIA yw'r Asesiad Effaith. Dylai ystyried pob cam o'r datblygiad (h.y. adeiladu, gweithredu a, lle bo'n briodol, datgomisiynu), pob rhan o'r datblygiad (e.e. safle adeiladu, safleoedd adeiladau, a llwybrau mynediad) ac effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol. Dylid nodi y gall fod llwybrau ar gyfer effaith sy'n ymestyn y tu hwnt i ffin safle.

3.6. Dylai'r asesiad effaith nodweddu effeithiau o ran ehangder, maint, hyd, gwrthdroadwyedd ac amlder. Dylai hefyd ystyried effeithiau cronnol a dylid nodi y gall effeithiau fod yn gadarnhaol neu'n negyddol.

3.7. Ceir rhagor o wybodaeth am EcIAs yng Nghanllawiau CIEEM ar Asesiad Effaith Ecolegol.

3.8. Mae CIEEM yn darparu rhestr wirio EcIA i sicrhau bod digon o wybodaeth yn cael ei chasglu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau.

 

4.  Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)

4.1. O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, cyn rhoi caniatâd cynllunio, rhaid i'r ACLl fod yn fodlon na fydd y datblygiad arfaethedig yn effeithio'n sylweddol ar unrhyw safleoedd Ewropeaidd/Rhyngwladol [1]. Efallai y bydd angen i'r ACLl gynnal ARhC.

4.2. Sbardunau ar gyfer ARhC: Mae effeithiau a allai olygu bod angen ystyried effeithiau ar safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd/Rhyngwladol yn cynnwys:

  • Mwy o bwysau hamdden yn deillio o ddatblygiad tai newydd, er enghraiff;
  • Gollyngiadau i gyrsiau dŵr;
  • Sŵn, llygredd aer neu lygredd golau; ac
  • Aflonyddu ar rywogaethau neu gynefinoedd.

4.3. Mae'n bwysig ystyried nad oes angen i ddatblygiadau ddigwydd o fewn neu gerllaw safle dynodedig er mwyn cael effaith arno. Gall effeithiau godi hefyd o ganlyniad i ddatblygiad mewn lleoliadau sydd wedi'u cysylltu â safle gwarchodedig, er enghraifft trwy rwydweithiau hydrolegol, neu o ganlyniad i lygredd aer. Efallai y bydd angen ystyried safleoedd dynodedig sydd 10km neu ymhellach o safle cais.

4.4. Yn achos cynigion a allai effeithio ar safle Ewropeaidd/Rhyngwladol, bydd yr ACLl yn cynnal Ymarfer Sgrinio ('Cam 1') i benderfynu a fyddai unrhyw Effeithiau Arwyddocaol Tebygol (LSE). Lle mae cynnig datblygu (ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynigion eraill a heb ystyried lliniaru[1]) yn debygol o gael effaith sylweddol, rhaid i'r ACLl, fel yr awdurdod cymwys, gynnal Asesiad Priodol ('Cam 2'). Bydd asesiad o'r fath yn archwilio'r goblygiadau i'r safle o ran amcanion cadwraeth y safle.

4.5. Rhaid i'r ymgeisydd ddarparu'r holl wybodaeth angenrheidiol i ganiatáu i'r ACLl ymgymryd â'r ARhC. Gall hyn fod ar ffurf adroddiad ecolegol 'i lywio'r ARhC' a gyflwynir gyda'r cais cynllunio. Cynghorir ymgeiswyr i ofyn am gyngor ynghylch cwmpas y gwaith arolygu ac asesu. Ni ellir rhoi caniatâd cynllunio oni bai bod canlyniadau'r asesiad priodol yn dangos na fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle.

4.6. 4.6. Trosolwg o ystyriaethau ARhC posibl yn Abertawe

Safle Morol Ewropeaidd (EMS) Bae Caerfyrddin ac Aberoedd (sy'n cynnwys ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin, AGA Bae Caerfyrddin ac AGA a Ramsar Cilfach Tywyn)

Bae Caerfyrddin a Chilfach Tywyn - mae'r rhain yn AGA ddynodedig oherwydd eu casgliad rhyngwladol bwysig o adar gaeafu.

Bae Caerfyrddin ac Aberoedd - mae'r rhain yn ACA ddynodedigoherwydd y nodweddion cynefin aberol, Salicornia, dyfrgwn a rhywogaethau pysgod mudol e.e. llysywen bendoll y môr a herlod.

Hefyd, mae Cilfach Tywyn wedi ei ddynodi'n 'Wlypdir o Bwys Rhyngwladol' Ramsar'.

Mae ystyriaethau allweddol ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys:

  • Ansawdd a maint y dŵr: Sicrhau nad yw cynigion yn effeithio'n andwyol ar ansawdd a maint y dŵr. Mae'n bosibl y bydd gofyn i ymgeiswyr wneud rhai/pob un o'r asesiadau canlynol: asesiad llifogydd; carthffosiaeth fudr; halogi tir; rheoli gwastraff safle.
  • Cyfyngiadau amser: gellir eu gosod ar waith stancio a gweithgareddau eraill sy'n achosi sŵn neu aflonyddwch i bysgod mudol a mamaliaid morol.
  • Arolygon adar gaeafu ac adar mudol: efallai y bydd angen y rhain, ynghyd â chyfyngiadau (e.e. mewn perthynas ag amseriad, graddfa, lleoliad gwaith) yn dibynnu ar yr effeithiau posibl.
  • Dyfrgwn: Gall unrhyw waith a allai darfu ar ddyfrgwn fod yn destun i oriau gwaith cyfyngedig, a mesurau lliniaru megis gosod gwalau dyfrgwn artiffisial/cynllunio priodol, ac ati. Gall gofynion arolygu ac asesu gynnwys arolygon dyfrgwn, cynigion lliniaru ac asesiadau goleuo.

ACA Twyni Bae Caerfyrddin

Mae Bae Caerfyrddin yn ACA ddynodedig oherwydd ei nodweddion cynefin twyni a'i rywogaethau gan gynnwys malwen droellog geg gul, llysiau'r afu petalog a thegeirian y fign.

Mae ystyriaethau allweddol ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys:

  • Ansawdd a maint y dŵr: Sicrhau nad yw cynigion datblygu yn cael effaith andwyol ar ansawdd a maint y dŵr.

Mae'n bosibl y bydd gofyn i ymgeiswyr gyflawni rhai/pob un o'r asesiadau canlynol:  canlyniadau llifogydd; carthffosiaeth fudr; halogi tir; cynllun rheoli gwastraff safle.

ACA Cors Crymlyn a Safle Ramsar

MaeCors Crymlyn yn ACA ddynodedigoherwydd ei nodweddion cynefin cors, llaca a chorstir, a nodweddion coedwig llifwaddodol, rhywogaethau cyrs a choed.

Mae hefyd yn 'Wlypdir o Bwys Rhyngwladol' Ramsar'.

Mae ystyriaethau allweddol ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys:

  • Ansawdd a maint y dŵr:  Sicrhau nad yw cynigion datblygu yn cael effaith andwyol ar ansawdd a maint y dŵr. Mae'n bosibl y bydd gofyn i ymgeiswyr gyflawni rhai/pob un o'r asesiadau canlynol: canlyniadau llifogydd; carthffosiaeth fudr; halogi tir; cynllun rheoli gwastraff safle.
  • Pwysau hamdden ychwanegol yn deillio o ddatblygiadau newydd.

ACA Coedydd Ynn Gŵyr

Mae Coedydd Ynn Gŵyr yn ACA ddynodedigoherwydd nodweddion cynefin coetir Ynn a chymysg ar briddoedd tra-fasig sy'n gysylltiedig â llethrau creigiog. Mae ystyriaethau allweddol ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys:

  • Ansawdd a maint y dŵr: Sicrhau nad yw cynigion datblygu yn cael effaith andwyol ar ansawdd a maint y dŵr. Mae'n bosibl y bydd gofyn i ymgeiswyr gyflawni rhai/pob un o'r asesiadau canlynol: canlyniadau llifogydd; carthffosiaeth fudr; halogi tir; cynllun rheoli gwastraff safle.
  • Ansawdd aer yn gwaethygu oherwydd datblygiadau newydd.

ACA Tiroedd Comin Gŵyr

Mae Tiroedd Comin Gŵyr yn ACA ddynodedig oherwydd nodweddion cynefin gweundir a dolydd, mursen y de a britheg y gors. 

Mae ystyriaethau allweddol ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys:

  • Ansawdd a maint y dŵr: Sicrhau nad yw cynigion datblygu yn effeithio'n andwyol ar ansawdd a maint y dŵr. Mae'n bosibl y bydd gofyn i ymgeiswyr gyflawni rhai/pob un o'r asesiadau canlynol: asesu canlyniadau llifogydd; asesu carthffosiaeth fudr; asesiadau halogiad tir; cynllun rheoli gwastraff safle.
  • Gellir gosod cyfyngiadau amser ar weithgareddau sy'n achosi sŵn neu aflonyddwch i rywogaethau'r fursen britheg y gors.
  • Diogelu cynefin y clafrllys gwreidd-dan.
  • Newidiadau i'r lefel trwythiad.

ACA Arfordir Calchfaen De-orllewin Cymru

Mae Arfordir Calchfaen De-orllewin Cymru yn ACA ddynodedig oherwydd clogwyni môr dan lystyfiant, twyni sefydlog, rhostir, glaswelltir, nodweddion cynefin ogof a chas môr, yr ystlum pedol mwyaf, llysiau'r afu petalog a chrwynllys.

Hefyd, mae'n AGA ddynodedig, oherwydd presenoldeb brain coesgoch, yn bennaf.

Mae ystyriaethau allweddol ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys:

  • Ansawdd a maint y dŵr: Sicrhau nad yw cynigion datblygu yn effeithio'n andwyol ar ansawdd a maint y dŵr. Mae'n bosibl y bydd gofyn i ymgeiswyr gyflawni rhai/pob un o'r asesiadau canlynol: asesiadau canlyniadau llifogydd; asesiad halogiad tir; cynllun rheoli gwastraff safle.
  • Gellir gosod cyfyngiadau amser ar weithgareddau sy'n achosi sŵn neu aflonyddwch i frain coesgoch a'r ystlum pedol mwyaf.

ACA Dynesfeydd Môr Hafren

Dynodwyd ACA Dynesfeydd Môr Hafren ar gyfer diogelu llamhidyddion yr harbwr.

Mae ystyriaethau allweddol ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys:

  • Ansawdd a maint y dŵr: Sicrhau nad yw cynigion datblygu yn effeithio'n andwyol ar ansawdd a maint y dŵr. Mae'n bosibl y bydd gofyn i ymgeiswyr gyflawni rhai/pob un o'r asesiadau canlynol: asesiadau canlyniadau llifogydd; asesiad halogiad tir; cynllun rheoli gwastraff safle.
  • Gellir gosod cyfyngiadau amser ar weithgareddau sy'n achosi sŵn neu aflonyddwch i lamhidyddion.

Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA)

4.7. Mae AEA yn disgrifio gweithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn ar gyfer rhai mathau o brosiectau cyn y gellir rhoi 'caniatâd datblygu' iddynt. Mae'r weithdrefn yn fodd o dynnu ynghyd, mewn ffordd systematig, asesiad o effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol prosiect. Rhestrir prosiectau ar ddwy atodlen o fewn y ddeddfwriaeth (Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2017).

4.8. Mae Atodlen 1 yn cynnwys datblygiadau mawr megis meysydd awyr a gwaith diwydiannol, a fydd angen AEA.

4.9. Mae Atodlen 2 yn rhestru mathau eraill o ddatblygiad, sydd ond angen AEA os yw'r cynnig yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol sylweddol.

4.10. Gelwir cyflwyno'r wybodaeth AEA yn 'Ddatganiad Amgylcheddol (DA)'.

4.11. Mae paratoi DA ochr yn ochr â chynllun y prosiect yn darparu fframwaith defnyddiol y gall ystyriaethau amgylcheddol a dylunio datblygu ryngweithio oddi mewn iddo. Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am gynnal yr AEA a llunio'r Datganiad Amgylcheddol.

4.12. Barn Sgrinio: Gall ymgeiswyr wneud cais i'r ACLl am farn ynghylch a fydd angen iddynt gynnal AEA - gelwir hyn yn 'farn sgrinio'. Rhaid i gais barn sgrinio gynnwys cynllun y mae safle'r datblygiad arfaethedig wedi'i nodi arno, disgrifiad byr o'i natur a'i ddiben a'i effeithiau posibl ar yr amgylchedd. Gellir gwneud hyn ymhell cyn unrhyw gais cynllunio ffurfiol.

4.13. Barn Gwmpasu: Mae'r Rheoliadau'n galluogi ymgeisydd, cyn gwneud cais cynllunio, i ofyn i'r ACLl am ei farn ffurfiol ar y wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn Datganiad Amgylcheddol - gelwir hyn yn 'farn gwmpasu'. Os yw'r ymgeisydd yn dymuno, gellir gwneud cais am farn gwmpasu ar yr un pryd â'r farn sgrinio.

4.14. Datganiad Amgylcheddol: Dylai ymgeiswyr ac awdurdodau drafod cwmpas Datganiad Amgylcheddol cyn dechrau ei baratoi. Ymgynghorir ag ymgyngoreion statudol, megis CNC ar y cam hwn. Nodir y gofynion ffurfiol o ran cynnwys DA yn Atodlen 4 o'r ddeddfwriaeth. Nid oes unrhyw ffurf ragnodedig o DA, ar yr amod bod gofynion y Rheoliadau yn cael eu bodloni.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau gwefan Llywodraeth y DU ar AEA.

 


 

[1] Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), safleoedd Ramsar, darpar ACA (cSAC), AGA arfaethedig (pSPA), a safleoedd morol alltraeth Ewropeaidd arfaethedig a phresennol.

[2] Achos Llys Cyfiawnder yr UE C-323/17 People Over Wind a Peter Sweetman v Coillte Teoranta: "...er mwyn penderfynu a oes angen cynnal, wedi hynny, asesiad priodol o'r goblygiadau, i'r safle dan sylw, o gynllun neu brosiect, nid yw'n briodol, yn y cam sgrinio, i ystyried y mesurau y bwriedir iddynt osgoi neu leihau effeithiau niweidiol y cynllun neu brosiect ar y safle hwnnw."

 

Close Dewis iaith