Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodyn cyfarwyddyd: gwelliannau bioamrywiaeth

Rhaid i'r Cyngor geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cydnerthedd ecosystemau.

Pam fod angen gwelliannau?

  • O dan ddyletswydd Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rhaid i'r Cyngor geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cydnerthedd ecosystemau.
  • Mae Nod Cymru Gydnerth yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn datgan: "Cenedl sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy'n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â'r gallu i addasu i newid (er enghraifft o newid hinsawdd).
  • Mae Cynllun Cenedlaethol Cymru'r Dyfodol yn cynnwys Polisi 9: "...Ym mhob achos, dylai camau gweithredu tuag at gynnal a gwella bioamrywiaeth (er mwyn sicrhau mantais net), gwneud ecosystemau yn gadarn ac asedau seilwaith gwyrdd gael eu dangos fel rhan o gynigion datblygu drwy ddulliau arloesol, yn seiliedig ar natur, wrth  gynllunio safleoedd a dylunio'r amgylchedd adeiledig."
  • Ceir rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth a pholisi amgylcheddol mewn Nodyn Cyfarwyddyd ar wahân[1].

Bydd darparu nodweddion gwella yn gymesur â graddfa, lleoliad a natur y datblygiad a bydd yn ymateb i unrhyw wybodaeth a ddarperir mewn Adroddiadau ac Arolygon Ecolegol ynghylch effeithiau negyddol posibl y datblygiad a chyfleoedd ar gyfer gwella bioamrywiaeth a ddaw yn sgil y datblygiad arfaethedig.

Ni fwriedir i'r enghreifftiau a ddarperir fod yn rhestr hollgynhwysfawr o fesurau ac ni fydd yr holl fesurau y manylir arnynt yn berthnasol i bob safle. Fodd bynnag, dylai pob datblygiad ymgorffori cymaint o welliannau ag sy'n ymarferol ac yn briodol.

Pa wybodaeth sydd angen ei chyflwyno gyda cheisiadau cynllunio?

Lluniad pensaernïol yw'r ffordd orau o ddangos lleoliad gwelliannau arfaethedig, er enghraifft dangos blwch adar ar ddrychiadau adeilad. Bydd angen nodyn ar y lluniad hefyd yn manylu ar fanyleb y gwelliant, er enghraifft y brand neu'r math o flwch adar, h.y. Blwch Nythu Gwennol WoodStone. Bydd angen i'r gwelliannau gael "amserlen gweithredu," ar gyfer pryd y mae'n rhaid eu darparu. Gallai hyn fod "o fewn 6 mis i gwblhau'r datblygiad a'i gadw am byth." Felly, mae dyletswydd i gynnal y gwelliant fel ei fod yn parhau i fod o fudd i fioamrywiaeth yn y dyfodol.

Mae bob amser yn well darparu cynigion gwella ecolegol ymlaen llaw gyda cheisiadau cynllunio, waeth beth fo'r math o gais (e.e. cyn-gais, cais amlinellol, neu gais llawn). Mae hyn yn dangos bod bioamrywiaeth yn cael ei ystyried o'r cychwyn ac y bydd y Dull 'Cam Doeth' (Stepwise) yn cael ei ddilyn (gweler Adran 3 o Ganllawiau Cynllunio Atodol Bioamrywiaeth a Datblygu).

Tabl 1 : Crynodeb o Gyfleoedd Gwella

Plannu a Chreu Cynefin

 

Rhywogaeth-Benodol

Cynefinoedd Dŵr

 

§      Creu coridorau bywyd gwyllt/nodweddion llinellol ar gyfer symudiad bywyd gwyllt.

§      Plannu gwrych o rywogaethau brodorol newydd neu wella gwrych sy'n bodoli eisoes.

§      Sefydlu ardal dolydd blodau gwyllt.

§      Plannu coetir neu goedlan gynhenid newydd neu wella ardal o goetir brodorol.

§      Defnyddio planhigion brodorol yn y cynllun tirlunio.

§      Ychwanegu ymyriadau seilwaith gwyrdd trefol (toeau gwyrdd a/neu waliau gwyrdd) i ddarparu cynefin i blanhigion ac anifeiliaid

§      Adar: darparu blychau adar neu frics ar gyfer rhywogaethau a warchodir neu rywogaethau â blaenoriaeth.

§      Ystlumod: darpariaethau fel blychau bondo agored neu fynediad i ofod yr atig neu osod blychau ystlumod neu frics.

§      Ymlusgiaid a mamaliaid bach: darparu lloches / man gaeafgwsg ar gyfer ymlusgiaid ac amffibiaid a mamaliaid bach.

§      Dyfrgwn: creu gwalau artiffisial i ddyfrgwn.

§      Draenogod: ffensys sy'n gyfeillgar i ddraenogod, gosod cartrefi draenogod.

§      Infertebratau: Darparu gwestai pryfed, plannu cyfeillgar i beillwyr a chadw pren marw.

§      INNS: Cael gwared ar rywogaethau anfrodorol ymledol fel ffromlys chwarennog a chlymog Japan.

§    Creu pwll bywyd gwyllt neu nodweddion gwlyptir.

§    Gwella dyfrffordd a'i glannau; creu clustogfeydd ar hyd cyrsiau dŵr wedi'u plannu â rhywogaethau brodorol o darddiad lleol.

§    Naturioli/adfer cyrsiau dŵr ac agor ceuffosydd.

§    Darparu systemau draenio trefol cynaliadwy bioamrywiol sy'n gweithredu fel cynefinoedd bywyd gwyllt, er enghraifft, pantiau a phyllau cydbwyso.

§    Gwelliannau morol fel arwynebau mwy garw i gefnogi twf cymunedau morol

Tabl 2 : Tirlunio a Chyfleoedd ar gyfer Gwella a Chreu Cynefin

Prif Egwyddorion

Dylai cynlluniau dylunio tirwedd (lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol):

§      Cydnabod nad yw creu cynefinoedd a phlannu yn cymryd lle gwarchod safleoedd presennol o werth bywyd gwyllt uchel.

§      Ystyried y potensial ar gyfer aildyfiant naturiol - mewn rhai achosion bydd angen plannu i liniaru'r hyn a all gael ei ystyried yn flêr.

§      Dylunio eich prosiect yn dda fel y gall gyfrannu at amcanion a nodir yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol/Cynllun Adfer Natur Abertawe.

§      Cynllunio ymlaen llaw i ganiatáu digon o amser i gontractwyr gael planhigion a pharatoi'r safle.

 

§      Ymgorffori cynefinoedd a nodweddion presennol mewn 'mannau gwyrdd'.

§      Cadw coed a gwrychoedd aeddfed a hynafol oherwydd eu gwerth bioamrywiaeth uchel - bydd angen monitro'r rhain yn flynyddol er diogelwch.

§      Defnyddio 'man cyhoeddus' i ddangos buddion bioamrywiaeth trwy ddefnyddio rhywogaethau brodorol o darddiad lleol ar gyfer dolydd blodau gwyllt, coetiroedd, borderi llwyni a chreu pyllau, pentyrrau coed ac ati. Dylid cyfyngu mynediad i un ochr y cynefin er mwyn peidio ag aflonyddu ar fywyd gwyllt.

§      Ategu cymeriad a hynodrwydd cefn gwlad naturiol yr ardal leol,  yn hytrach na thynnu sylw oddi wrtho.

§      Hyrwyddo 'Garddio ar gyfer Bywyd Gwyllt' - dewis planhigion sy'n blodeuo i annog gwenyn a gloÿnnod byw; aeron i annog adar, a gwahanol fathau o risgl i annog amrywiaeth eang o bryfed.

§      Defnyddio cymysgeddau hadau sy'n llawn rhywogaethau ar gyfer ardaloedd o laswellt.

§      Cynnwys nodweddion bioamrywiaeth ychwanegol, megis blychau nythu, seilwaith gwyrdd a thriniaeth i'r ffiniau sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt.

 

Tabl 3: Canllawiau ar Fanyleb y Mesurau Gwella

Mesur

Disgrifiad

Gwrychoedd a Choetiroedd

Mae gwrychoedd, llinellau coed a choetiroedd yn adnodd gwerthfawr i fywyd gwyllt ac yn gynefin blaenoriaeth Adran 7 ar gyfer cadwraeth yng Nghymru. Felly, rhaid cynnal y cynefinoedd hyn ar sail tebyg-am-debyg o leiaf.

Pan fydd angen ailblannu, dylid defnyddio rhywogaethau brodorol bob amser, yn ddelfrydol o darddiad lleol. Lle mae trawsleoli neu greu yn cael ei ddefnyddio, dylid ystyried defnyddio'r banc pridd o waelod y coed/gwrychoedd presennol a fydd yn cael eu colli.

Gellir gwella gwrychoedd a choetiroedd presennol trwy "gau bylchau" gyda phlannu ychwanegol neu drwy ddefnyddio trefn reoli ecolegol sensitif.

Gall plannu coed newydd ar safle, yn enwedig pan fydd wedi'i gysylltu â gwrychoedd/coetiroedd presennol, gynyddu'r gwerth bioamrywiaeth yn fawr. Dylid plannu o leiaf 5 rhywogaeth frodorol goediog er mwyn iddo fod yn gyfoethog o ran rhywogaethau. Gallai rhywogaethau gynnwys: derw, cyll, draenen wen, draenen ddu, celyn, gwyddfid, corswigen a  gwifwrnwydden.

Mae gwrychoedd a llinellau coed yn darparu cynefin gorffwys/bridio/chwilota i adar, pathewod, amffibiaid ac ymlusgiaid a hefyd gynefin cymudo i ystlumod, moch daear adyfrgwn.

Dylid cadw'r coridorau hyn yn dywyll er mwyn osgoi tarfu ar yr anifeiliaid nosol sy'n eu defnyddio.

Blodau gwyllt

Mae creu dolydd blodau gwyllt yn darparu adnodd pwysig ar gyfer peillwyr di-asgwrn-cefn, sydd wedyn yn ffynhonnell fwyd i adar, ymlusgiaid, amffibiaida mamaliaid bach.

Lle bynnag y cynigir hadu glaswellt ar safle datblygu, dylid ystyried cymysgedd amrywiol, gan gynnwys rhywogaethau blodau gwyllt, ynghyd â threfn dorri briodol er mwyn cynnal yr amrywiaeth.

Bydd angen cadw lefelau maetholion yn y pridd yn isel i annog blodau gwyllt, trwy ddefnyddio technegau fel torri a chasglu a chyn lleied â phosibl o uwchbridd.

Seilwaith Gwyrdd

Gall atebion ecolegol i broblemau peirianneg ddarparu cyfleoedd i wella bioamrywiaeth. Er enghraifft, atebion Seilwaith Gwyrdd fel plannu rhywogaethau coed brodorol i sefydlogi glannau afonydd, neu ddefnyddio pyllau fel gwanhad llifogydd a gwelyau cyrs ar gyfer hidlo dŵr.

Gall toeau gwyrdd a waliau gwyrdd hefyd fod o fudd i fioamrywiaeth, tra'n darparu swyddogaethau eraill fel oeri adeiladau.

Gweler Strategaeth Seilwaith Gwyrdd Cyngor Abertawe am ragor o wybodaeth: https://www.swansea.gov.uk/greeninfrastructurestrategy

Adar

Mae blychau adar yn fodd effeithiol o wella bioamrywiaeth gan fod blychau adar yn rhad, yn hawdd eu gosod ac yn hawdd i amrywiaeth o rywogaethau fyw ynddynt. Ymhlith y rhywogaethau targed yn Abertawe mae: gwenoliaid duon, drudwy, gwenoliaid, adar y to, gwenoliaid y bondoa thylluan wen.

Bydd disgwyl i bob datblygiad adeiladu newydd gynnwys blychau adar/brics annatod fel mesur gwella ac mae cymhareb o leiaf 1:1 o frics/bocsys nythu fesul annedd yn arfer da. Mae cynnwys blychau nythu/brics gwenoliaid duon yn cael eu hannog gan fod y rhain yn cael eu hadnabod fel y blwch nythu/brics "cyffredinol" oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio'n hawdd gan rywogaethau eraill, gan gynnwys adar y to, drudwy, gwenoliaid y bondo, titw tomos las, titw mawr a delor y cnau.

Trosiadau/estyniadau/adnewyddu:

Mae llawer o rywogaethau adar yn dibynnu ar holltau ac agennau ar dai i nythu ynddynt. Po fwyaf o waith adnewyddu a wneir, y lleiaf o gyfleoedd sydd gan yr adar hyn i nythu. Felly, dylid cynnwys blychau adar hefyd fel gwelliannau ar gyfer ceisiadau gan ddeiliaid tai ar adeiladau presennol ac yn enwedig ysguboriau ac adeiladau amaethyddol eraill.

Gellir gosod blychau adar hefyd ar goed addas, os nad oes unrhyw adeiladau yn addas.

Mae blychau adar carreg sy'n edrych fel pren, neu gymysgedd o bren a choncrid, yn well na blychau adar pren yn unig, oherwydd eu bod yn llawer mwy gwydn.

Bydd lleoliad blwch adar yn dibynnu ar y rhywogaeth y mae'n ei dargedu, ond yn gyffredinol bydd angen ei wynebu rhwng y gogledd a'r dwyrain i osgoi golau haul cryf a'r gwyntoedd gwlypaf, bod â llwybr hedfan clir a bod i ffwrdd o aflonyddwch megis goleuadau, drysau a ffenestri.

Rhaid dangos lleoliad a math y blychau adar ar luniad pensaernïol a'u cyflwyno i'r ACLl i'w cymeradwyo. 

Ystlumod

Fel adar, mae llawer o rywogaethau o ystlumod yn dibynnu ar adeiladau i glwydo ynddynt ac felly mae cyfleoedd yn lleihau wrth i adeiladau gael eu hadnewyddu neu eu dymchwel. Felly, dylid cynnwys blychau ystlumod neu ddarpariaethau eraill (megis mynediad i ofod llofftydd/bondoeau) ar bob datblygiad adeiladu, lle bo modd.

Gellir gosod blychau ystlumod y tu allan i adeiladau presennol neu ar goed a gedwir. Bydd disgwyl i bob datblygiad adeiladu newydd gynnwys blychau/brics integrol ar gyfer ystlumod fel mesur gwella.

Mae blychau ystlumod carreg sy'n edrych fel pren, neu gymysgedd o bren a choncrid, yn well na blychau ystlumod pren yn unig, oherwydd eu bod yn llawer mwy gwydn.

Dylid gosod blychau ystlumod o leiaf 4m uwchben y ddaear, rhwng y de-ddwyrain a'r de-orllewin, dylai fod ganddynt lwybr hedfan clir a bod i ffwrdd oddi wrth aflonyddwch megis goleuadau, drysau a ffenestri.

Rhaid dangos lleoliad a math y blychau ystlumod ar luniad pensaernïol a'i gyflwyno i'r ACLl i'w gymeradwyo.

Os oes ystlumod yn bresennol, bydd angen strategaeth oleuo sensitif hefyd. Dylai hyn ddilyn argymhellion yn y Nodyn Cyfarwyddyd 'Ystlumod a Goleuadau Artiffisial yn y DU', a gynhyrchwyd gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod a'r Sefydliad Gweithwyr Goleuo Proffesiynol.: https://www.bats.org.uk/our-work/buildings-planning-and-development/lighting

Ymlusgiaid, Amffibiaid, Mamaliaid Bychain ac Infertebratau

Gall cynnwys 'pentyrrau cynefinoedd' wella gwerth bioamrywiaeth safle. Gallai hwn fod yn lloches bwrpasol gan ddefnyddio rwbel a thyweirch, pentwr o falurion o glirio coed neu bentwr o doriadau gwair. Mae cadw pren marw ar y safle yn bwysig gan ei fod yn darparu cynefin i lawer o rywogaethau o infertebratau a ffyngau.

Dyfrgwn a Moch Daear

Gall creu tanffyrdd o dan ffyrdd newydd neu bontydd gwyrdd dros ffyrdd newydd helpu i atal anafiadau i fywyd gwyllt a hefyd atal darnio cynefinoedd.

Mae tanffyrdd/ceuffosydd yn aml yn cael eu targedu ar gyfer dyfrgwn a moch daear, ond gellir eu targedu at rywogaethau llai fel amffibiaidadraenogod.

Os oes cwrs dŵr ar y safle datblygu neu'n agos ato, yna gellir cynnwys gwâl dyfrgwn artiffisial fel gwelliant. Gall hyn fod mor syml ag adeiladu lloches allan o foncyffion.

Bydd plannu gwrychoedd a choetir yn gwella safle ar gyfer dyfrgwn a moch daear.

Draenogod

Mae niferoedd y draenogod wedi gostwng yn aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf a chredir bod niferoedd y boblogaeth yn dal i ostwng. Mae'r rhywogaeth wedi'i chynnwys ar restr Adran 7 fel Rhywogaeth â Blaenoriaeth ar gyfer Cadwraeth yng Nghymru. Ym mis Gorffennaf 2020, ychwanegwyd draenogod at Restr Goch yr IUCN ar gyfer Mamaliaid Prydeinig, ac maent bellach wedi'u dosbarthu fel rhai sy'n Agored i Ddifodiant.

Mae gerddi domestig yn adnodd gwerthfawr i ddraenogod, ond mae ffensys gerddi yn rhwystr parhaol i ddraenogod. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn o gysylltedd cynefinoedd, rhaid i bob datblygiad newydd gynnwys bylchau o faint draenogod ar waelod pob ffens gardd newydd.

Gall hyn fod naill ai yn:

·         fwlch di-dor o 100 mm; neu

·         sgwariau o 130 mm x 130 mm bob hyn a hyn sy'n caniatáu mynediad a symudiad parhaus rhwng gerddi cyfagos ar gyfer chwilota. Ceir rhagor o fanylion yn y lluniadau manyleb ar ddiwedd y nodyn hwn.

Mae'r Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol manylu ar briffyrdd draenogod a thriniaethau ffiniau  ar luniad plot pensaernïol.

Rhywogaethau Anfrodorol Goresgynnol (INNS)

Mae INNS yn gallu lledaenu'n gyflym ac maent yn broblem oherwydd eu gallu i darfu ar gynefinoedd ac ecosystemau brodorol. Gall rhywogaethau estron goresgynnol drechu rhywogaethau brodorol, lledaenu clefydau a thorri ar draws cyfanrwydd genetig rhywogaethau brodorol.

Os bydd planhigion Rhywogaethau Estron Goresgynnol, er enghraifft clymog Japan neu Jac y Neidiwr, yn cael eu nodi ar/ger safle'r cais, yna gosodir amod ar y caniatâd cynllunio i gyflwyno cynllun rheoli INNS, yn manylu ar sut i osgoi/trin/dileu rhywogaethau o'r fath.

Bydd cael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol o safle o fudd i fioamrywiaeth frodorol ac felly gall fod yn welliant ecolegol.

Creu Pyllau Bywyd Gwyllt

Mae creu pwll bywyd gwyllt o fudd i fioamrywiaeth yn ogystal â manteision eraill fel gwanhau llifogydd ac fel nodwedd amwynder. Gellir plannu neu hadu ymylon pyllau gyda rhywogaethau brodorol fel gellesgen felen, gwyarllys yr helyglys, mintys y dŵr a chreulys y dŵr. Mae dail planhigion dyfrol tanddwr yn cael eu defnyddio gan fadfallod i ddodwy eu hwyau ynddynt.

Gellir creu pyllau bywyd gwyllt hefyd ar raddfa fach mewn gardd breswyl, a byddant yn darparu cynefin i infertebratau ac amffibiaid a dŵr i adar a mamaliaid bach.

Gwella Dyfrffyrdd

Gellir gwella dyfrffyrdd presennol ar gyfer bioamrywiaeth mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys cael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol, cael gwared ar sbwriel, plannu rhywogaethau blodeuol brodorol a gwella ansawdd dŵr drwy roi mesurau atal llygredd neu SDCau ar waith ar y tir sy'n draenio i'r cwrs dŵr.

SDCau sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt

Gall draeniau fod yn gyfeillgar i fywyd gwyllt trwy gynnwys mesurau syml fel ysgolion amffibiaid i ganiatáu i anifeiliaid ddringo allan o botiau cwteri.

Gellir defnyddio SDCau i wella safle ar gyfer bioamrywiaeth trwy blannu rhywogaethau brodorol, er enghraifft. Ceir rhagor o wybodaeth am fioamrywiaeth a SDCau mewn Nodyn Cyfarwyddyd ar wahân[2].

Gwefannau pwysig:

Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) canllawiau ar flychau adar: https://www.rspb.org.uk/birds-and-wildlife/advice/how-you-can-help-birds/nestboxes/nestboxes-for-small-birds/making-and-placing-a-bird-box/

Swift Conservation canllawiau ar flychau gwenoliaid duon: https://www.swift-conservation.org/Nestboxes%26Attraction.htm and https://swift-conservation.org/universal_swift_nest_brick02.pdf

Bat Conservation Trust (BCT) canllawiau ar flychau ystlumod: https://cdn.bats.org.uk/pdf/Bat-Box-Information-Pack-Sept-2020-JF.pdf?mtime=20200914160420&focal=none

Peoples Trust for Endangered Species (PTES) canllawiau ar liniaru ar gyfer draenogiaid: https://www.britishhedgehogs.org.uk/wp-content/uploads/2019/03/Hedgehog-Street-HEMP-guide.pdf

Froglife canllawiau ar byllau bywyd gwyllt: https://www.froglife.org/wp-content/uploads/2013/06/JAW-2014-compressed.pdf

Amphibian and Reptile Conservation (ARC) canllawiau: https://www.arc-trust.org/Pages/Category/gardens-and-ponds and https://www.arc-trust.org/Pages/Category/habitat-management

Buglife canllawiau: https://www.buglife.org.uk/get-involved/gardening-for-bugs/ and https://www.buglife.org.uk/resources/publications-hub/habitat-management/

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt canllawiau ar ddyfrgwn: https://assets.sussexwildlifetrust.org.uk/managing-land-for-otters.pdf

PTES canllawiau ar lygod dŵr: https://ptes.org/campaigns/water-voles/helping-water-voles-on-your-land/

PTEScanllawiau rheoli coetir ar gyfer pathewod: https://ptes.org/wp-content/uploads/2014/06/managing-woodlands-for-dormice-final.pdf

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)canllawiau ar welliannau morol: https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/689255/nrw-evidence-report-no-357-supporting-the-implementation-of-the-welsh-national-marine-plan-enhancing-marine-ecosystems.pdf


 

[1] Nodyn Cyfarwyddyd Cyngor Abertawe ar Ddeddfwriaeth a Pholisi Amgylchedd Naturiol.

[2] Nodyn Cyfarwyddyd Cyngor Abertawe ar SDCau a Bioamrywiaeth.