Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodyn Cyfarwyddyd: Rhywogaethau a Warchodir a Thrwyddedau Datblygu

Mae'n bosibl y bydd angen i weithgareddau sy'n debygol o achosi niwed neu aflonyddwch i rywogaeth a warchodir neu ei chynefinoedd gael eu cynnal o dan drwydded.

Dylid bob amser gyflogi ecolegydd proffesiynol sydd â phrofiad addas a thrwyddedau arolygu priodol i wneud gwaith arolygu. Ar gyfer datblygiad, yn aml bydd angen 'trwydded datblygu' (a elwir weithiau yn 'drwydded rhanddirymiad'), gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) os bydd rhai rhywogaethau a warchodir yn cael eu heffeithio'n negyddol. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn annog trafodaeth cyn ymgeisio rhwng yr ymgeisydd, yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) a CNC ynglŷn â datblygiadau lle bo'n bosibl y bydd rhywogaethau a warchodir yn cael eu heffeithio. Mae manylion llawn y broses drwyddedu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop ar gael ar wefan CNC.

Mewn rhai achosion, bydd osgoi a lliniaru priodol yn dileu'r angen am drwydded, gan y gellir rheoli gwaith fel nad yw'n achosi aflonyddwch neu niwed. Mewn achosion eraill, ni fydd lliniaru yn dileu'r angen am drwydded, ond bydd yn rhan o amodau'r drwydded, yn ogystal â chael ei gwmpasu gan amod(au) cynllunio. Gall gwaith lliniaru ar gyfer trwyddedau datblygu gynnwys amser paratoi sylweddol; er enghraifft, gall cynefin lliniaru ar gyfer pathewod gymryd sawl blwyddyn cyn ei fod yn addas.

Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop: Mae CNC yn cyhoeddi trwyddedau datblygu ar gyfer gwaith a allai effeithio ar Rywogaeth a Warchodir gan Ewrop (EPS), er enghraifft ystlumod (pob rhywogaeth), madfallod dŵr cribog, pathewod, dyfrgwn a madfallod y tywod. Rhaid i'r datblygwr wneud cais am drwydded ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi. Rhaid i'r ACLl lenwi Ffurflen Ymgynghori Awdurdod Cynllunio Lleol a'i chynnwys gyda'r cais am drwydded. Mae'n bwysig nodi nad yw caniatâd cynllunio (neu hawl datblygu a ganiateir) yn negyddu'r angen am drwydded ddatblygu cyn i waith ddechrau ar y safle. Bydd angen i'r ACLl gael copi o'r drwydded a'r datganiad dull cyn dechrau unrhyw waith.

Gallai gweithio heb drwydded ddatblygu arwain at gyflawni trosedd bywyd gwyllt ac erlyniad yn dilyn hynny.

Cyn rhoi caniatâd cynllunio, mae angen i'r ACLl roi sylw i dri phrawf yn ystod ei benderfyniad ar y cais:

  1. nid oes 'unrhyw ddewis amgen boddhaol'.
  2. nid yw'n 'niweidiol i gynnal poblogaethau'r rhywogaethau dan sylw ar statws cadwraeth ffafriol yn eu hystod naturiol'.
  3. mae 'er budd iechyd y cyhoedd a diogelwch y cyhoedd, neu am resymau hanfodol eraill o fudd cyhoeddus tra phwysig, gan gynnwys rhai o natur gymdeithasol neu economaidd a chanlyniadau buddiol o bwysigrwydd sylfaenol i'r amgylchedd'.

Er mwyn galluogi'r ACLl i wneud hyn, rhaid mynd i'r afael â'r materion hyn yn yr Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA)/Asesiad Effaith Ecolegol (EcIA) ac unrhyw arolygon rhywogaethau gwarchodedig pellach a gyflwynir gyda'r cais cynllunio. Y ffordd fwyaf effeithiol o alluogi'r ACLl i asesu'r tri phrawf yw drwy ddarparu datganiad dull, a fyddai wedyn yn mynd ymlaen i ffurfio rhan o'r cais am drwydded.

Unwaith y daw'r cais cynllunio i law, gall yr ACLl ymgynghori â CNC i wneud yn siŵr bod y dull a nodir yn yr adroddiadau ecoleg yn ddigonol. Os rhoddir caniatâd cynllunio wedi hynny, bydd amodau'n cael eu hatodi i sicrhau y dilynir y dull y cytunwyd arno.

Rhywogaeth a Warchodir gan y DU

Mae CNC hefyd yn gyfrifol am roi trwyddedau datblygu:

  • i rywogaethau a warchodir o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (er enghraifft, llygod y dŵr). 
  • o dan y Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992, lle mae angen ymyrryd â Moch Daear a/neu eu brochfeydd yn ystod datblygiad. Mae rhai amgylchiadau pan fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi trwyddedau o dan y Ddeddf hon.

Mae ystyried a rhoi trwyddedau o'r fath ar wahân i'r broses o wneud cais am ganiatâd cynllunio, ond rhaid i ACLlau ystyried y ddeddfwriaeth drwy gydol y broses rheoli datblygu.

I gael rhagor o wybodaeth am rywogaethau a warchodir a'r system gynllunio, gweler Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 5 (Adran 6 ac Atodiad 7).