Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfeiriannu

Mae Abertawe a Gŵyr yn fannau bendigedig i ymarfer cyfeiriannu.

Mae cyfeiriadu'n weithgaredd gwych sy'n addas i bobl o bob oedran. Mae'n ffordd dda i gadw'n heini am ei fod yn cynnwys llywio trwy dir amrywiol i fannau rheoli mor gyflym ag y bo modd. Mae hefyd yn ffordd wych o weld rhannau o gefn gwlad nad yw llawer o bobl yn cael cyfle i'w gweld.

Mae cyrsiau parhaol wedi'u gosod mewn parciau a choedwigoedd, gan gynnwys Parc Treforys a'r Caeau Plwm, Parc Llywelyn, Coedwig Cymunedol Cilfái, Coed yr Esgob, Bryn y Mwmbwls a Gwaith Brics Dyfnant. Mae'r rhain yn cynnig cyfle gwych i ddechreuwyr ddysgu sut i ddarllen mapiau, defnyddio cwmpawdau a mwynhau cyfeiriadu.

Mae Clwb Cyfeiriannu Bae Abertawe (Yn agor ffenestr newydd) yn defnyddio'r cyrsiau parhaol i gynnal nosweithiau cyflwyno yn ogystal â chymryd rhan mewn cystadlaethau. Cysylltwch â'r clwb i gael y llythrennau sy'n cyfateb i rifau'r rheolyddion ym mhob safle.

Map cyfeiriannu Coed yr Esgob (PDF, 1 MB)
Map cyfeiriannu Parc Brynmill a Pharc Cwmdoncyn (PDF, 1 MB)
Map cyfeiriannu Castle Wood (PDF, 825 KB)
Map cyfeiriannu Dyffryn Clun (PDF, 973 KB)
Map cyfeiriannu Parc Coedbach (PDF, 598 KB)
Map cyfeiriannu Gwaith Brics Dynfant (PDF, 1 MB)
Map cyfeiriannu Parc Heol Las a Pharc Coed Gwilym (PDF, 1 MB)
Map cyfeiriannu Coetir Cymunedol Cilfái (PDF, 2 MB)
Map cyfeiriannu Parc Treforys (PDF, 1 MB)
Map cyfeiriannu Bryn y Mwmbwls (PDF, 670 KB)
Map cyfeiriannu Parc Llewellyn (PDF, 1 MB)
Map cyfeiriannu Parc Singleton (PDF, 611 KB)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Awst 2021