Gwybodaeth am deithio llesol i gyflogwyr
Gall hyrwyddo teithio llesol helpu'ch sefydliad i gyrraedd targedau cynaliadwyedd a bydd yn gwella lles eich gweithwyr.
Gall annog staff i ymgymryd â theithio llesol arwain at nifer o fuddion cadarnhaol i'ch sefydliad a'ch gweithwyr.
Buddion i'r cyflogwr:
- gweithlu mwy heini, iachach a mwy cynhyrchiol
- costau gofal iechyd is
- llai o bwysau ar barcio ceir
- leihau eich ôl troed carbon
- cyfrannu tuag at gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol eich cwmni
- cyfrannu at safonau ansawdd aer Abertawe
Buddion i'r gweithiwr:
- llai o gostau byw - ar droed neu ar feic, naill ffordd neu'r llall mae'n llawer rhatach na rhedeg car
- arbed amser ar deithiau - dim mwy o draffig!
- lles meddyliol a chorfforol gwell
- helpu i leihau llygredd traffig a chadw strydoedd yn dawelach lle rydych chi'n byw
- mwynhau gweld mwy o'ch ardal a chwrdd â phobl newydd
Pam hyrwyddo beicio?
Mae staff sy'n beicio i'r gwaith yn debygol o fod yn iachach ac yn fwy cynhyrchiol sy'n cynyddu effeithlonrwydd ac yn lleihau absenoldeb. Os yw parcio'n gyfyngedig, gall beicio gynnig ateb ar gyfer arbed lle, gyda 10 beic yn ffitio mewn un lle parcio. I helpu i hyrwyddo beicio yn y gweithle gallech wneud y canlynol:
- darparu lle parcio diogel, dan do ar gyfer beiciau i ymwelwyr a staff
- darparu loceri, cyfleusterau newid a chawodydd at ddefnydd staff sy'n beicio
- cyflwyno cynllun 'beicio i'r gwaith' sy'n cynnig gostyngiadau i staff (gweler isod) neu gysylltu â siopau beiciau lleol ynghylch unrhyw ostyngiadau neu gynigion arbennig
- cynnig hyfforddiant beicio a chyrsiau cynnal a chadw beiciau i ddechreuwyr
- darparu cyfarpar atgyweirio beiciau fel pympiau, pecynnau trwsio tyllau ac offer arall ar y safle
Pam hyrwyddo cerdded?
Mae cerdded yn ffordd ardderchog o gadw'n heini ac mae'n addas iawn ar gyfer teithiau dan ddwy filltir. Mae staff yn teimlo'r fantais o arbed arian ac mae hefyd yn gallu hybu hyder, sy'n golygu bod ganddyn nhw fwy o egni a'u bod yn teimlo'n fwy ymlaciedig. Mae staff iachach hefyd yn fwy cynhyrchiol ac yn defnyddio llai o absenoldeb salwch. I helpu i hyrwyddo cerdded yn y gweithle gallech wneud y canlynol:
- darparu gwybodaeth am lwybrau cerdded diogel a mapiau/arweiniad cerdded
- trefnu teithiau cerdded amser cinio neu droeon iechyd
- mapio llwybrau cerdded ger y safle y gall staff eu defnyddio yn ystod eu hamserau cinio neu egwyl
- cynnal cyfarfodydd cerdded neu gyfarfodydd symudol i gael cyfarfod yn yr awyr agored
- cysylltu â gweithgareddau hyrwyddo iechyd
Siarter Teithio Iach Bae Abertawe
Mae llawer o gyflogwyr mawr yn ardal Abertawe, gan ein cynnwys ni, wedi ymrwymo i 'Siarter Teithio Iach Bae Abertawe' sy'n cynnwys cyfres o gamau gweithredu sy'n dangos eu hymrwymiad i gefnogi cerdded, beicio, cludiant cyhoeddus a'r defnydd o gerbydau allyriadau isel iawn.
Trwy gydweithio, nod y sefydliadau yw cynyddu cyfran y teithiau a wneir i weithleoedd ac yn ôl sy'n gynaliadwy.
Siarter Teithio Iach Bae Abertawe (Teithio Llesol Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Cynllun beicio i'r gwaith
Menter y llywodraeth yw Beicio i'r Gwaith er mwyn annog beicio fel ffordd o fynd i'r gwaith. Gall holl gyflogwyr y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector redeg cynllun beicio i'r gwaith a gall pob gweithiwr logi beiciau ac offer diogelwch trwy'r cynllun.
Mae'r gweithwyr yn dewis y beic a'r ategolion, ac rydych chi'n adennill cost y beic trwy gynllun aberthu cyflog gweithwyr (didyniad misol o gyflog gros drwy gydol y cyfnod llogi). Mae'r gweithiwr yn talu'r gost dros gyfnod o amser ac yn gwneud arbedion ar ei gyfraniadau treth. Fel cyflogwr, rydych yn gwneud arbediad drwy gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Mae sawl cynllun beicio i'r gwaith ar gael gan wahanol ddarparwyr i gyd-fynd â'ch sefydliad orau.