Hybiau beicio
Gadewch eich beic mewn lle diogel drwy gydol y dydd neu dros nos. Mae gennym loceri diogel ar Garden Street yng nghanol y ddinas.
Loceri Beiciau'r Cwadrant
Mae gennym loceri diogel ar Garden Street (SA1 8PJ), rhwng maes parcio aml-lawr y Cwadrant a mynedfa Canolfan Siopa'r Cwadrant (ger ardal Shopmobility).
Mae'r loceri ar gael 24/7, ar sail y cyntaf i'r felin.
Sut i ddefnyddio'r loceri beiciau
- Cofrestru:
- ewch i Swyddfa Maes Parcio'r Cwadrant (llawr gwaelod maes parcio'r Cwadrant)
- darparwch eich enw, eich manylion cyswllt, eich cyfeiriad e-bost ac ID ffotograffig er mwyn cofrestru
- mae angen ID ffotograffig i sicrhau bod y beiciau'n cael eu rhyddhau i'r perchennog cywir
- Diogelu eich beic:
- bydd aelod o staff yn eich helpu i gloi eich beic yn yr hwb beiciau.
- Taliad:
- talwch wrth beiriannau talu'r Cwadrant cyn casglu'ch beic.
- Casglu'ch beic:
- dychwelwch i Swyddfa'r Maes Parcio gyda'ch ID ffotograffig i gasglu'ch beic
- bydd staff yn datgloi eich beic ac yn ei ddychwelyd i chi
Ffïoedd a thalu
- £1 am hyd at 6 awr
- £2 drwy'r dydd
Gallwch dalu wrth beiriannau talu'r Cwadrant gan ddefnyddio:
- darnau arian
- cerdyn
- Google Pay neu Apple Pay
Beiciau nas casglwyd
Os bydd unrhyw feiciau'n cael eu gadael mewn locer am fwy na 48 awr byddwch yn derbyn e-bost atgoffa.
I ymestyn y cyfnod storio, ymatebwch i'r e-bost neu rhowch wybod i aelod o staff y maes parcio rhag i'ch beic gael ei symud.
Os nad ydych yn casglu'ch beic o fewn 24 awr i dderbyn yr e-bost atgoffa:
- bydd yn cael ei symud a'i storio'n ddiogel
- efallai bydd rhaid talu ffi o £20 i ryddhau eich beic
Bydd unrhyw feiciau nad ydynt wedi'u hawlio ar ôl 30 niwrnod yn cael eu rhoi i elusen.
Gwybodaeth gyswllt
Am gymorth neu ymholiadau:
- ewch i Swyddfa Maes Parcio'r Cwadrant
- ffoniwch01792 480526
Amodau a thelerau ar gyfer loceri beiciau'r Cwadrant
- Gwybodaeth gyffredinol
- Mae'r loceri ar gael ar Garden Street (SA1 8PJ) ger maes parcio aml-lawr y Cwadrant a mynedfa'r Ganolfan Siopa.
- Mae'r loceri ar gael 24/7, ar sail y cyntaf i'r felin.
- Gweithdrefn defnyddio
- Rhaid i ddefnyddwyr gofrestru gyda Swyddfa Maes Parcio'r Cwadrant drwy ddarparu enw, manylion cyswllt ac ID ffotograffig.
- Bydd staff yn helpu i gloi eich beic yn ddiogel yn yr hwb.
- I gasglu'ch beic:
- rhaid i chi allgofnodi yn swyddfa'r maes parcio
- talwch wrth beiriannau talu'r Cwadrant
- bydd staff yn datgloi ac yn casglu'ch beic
- Ffïoedd a thalu
- Ffïoedd:
- £1 am hyd at 6 awr
- £2 drwy'r dydd
- Dulliau talu:
- darnau arian, cerdyn, Google Pay neu Apple Pay wrth beiriannau talu'r Cwadrant
- Ffïoedd:
- Beiciau nas casglwyd
- Os bydd unrhyw feiciau'n cael eu gadael mewn locer am fwy na 48 awr byddwch yn derbyn e-bost atgoffa.
- Os nad ydych yn casglu'ch beic o fewn 24 awr i'r e-bost atgoffa, caiff y beic ei symud a'i storio.
- Cedwir unrhyw feiciau sy'n cael eu symud am hyd at 30 niwrnod ac efallai bydd rhaid i chi dalu ffi o £20 i'w rhyddhau.
- Bydd unrhyw feiciau nad ydynt wedi'u hawlio ar ôl 30 niwrnod yn cael eu rhoi i elusen.
- Cyfrifoldebau'r defnyddwyr
- Rhaid i'r defnyddwyr sicrhau bod y beiciau wedi'u cloi'n ddiogel. Mae staff ar gael i helpu.
- Rhaid cwblhau'r holl weithdrefnau cofrestru, talu ac allgofnodi yn ôl yr angen.
- Atebolrwydd
- Nid yw'r Cwadrant yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir i feiciau sy'n cael eu storio yn y loceri.
- Mae defnyddwyr sy'n storio beiciau yn gwneud hynny ar eu menter eu hun.
- Diwygiadau
- Mae'r Cwadrant yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn ar unrhyw adeg.
Drwy ddefnyddio Loceri Beiciau'r Cwadrant rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r amodau a thelerau hyn.