Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno cais am le meithrin

Mae pob ysgol gynradd yn Abertawe'n darparu addysg feithrin ran-amser.

Pryd y gall plant ddechrau yn yr ysgol feithrin?

Gall plant gael lle rhan-amser mewn dosbarth meithrin o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed neu'r diwrnod ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed , ac yn dibynnu ar ddarpariaeth ac argaeledd lleoedd mewn ysgol.  Mae darparu addysg feithrin yn anstatudol sy'n golygu y gall rhieni benderfynu a ydynt am gael lle meithrin i'w plentyn ai peidio.

I gael gwybodaeth am y cynnig gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth, ewch i: Gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r holl ysgolion Cymraeg yn Abertawe yn cynnig darpariaeth feithrin - gallwch ddod o hyd i'r ysgol Gymraeg leol yma.Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am addysg Gymraeg yma.

Gwybodaeth bwysig i'w hystyried cyn gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin

Gallwch wneud cais am le yn eich ysgol ddalgylch neu unrhyw ysgol arall sydd orau gennych. Nid yw bob amser yn bosib i blant gael eu derbyn i ddosbarth meithrin yn y dalgylch ar gyfer eu cyfeiriad cartref neu yn yr ysgol o'ch dewis.  Os nad oes lle ar gael yn y ddarpariaeth feithrin, caiff enw eich plentyn ei roi ar restr aros. Nid oes hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod cynnig lle mewn dosbarth meithrin mewn ysgol benodol.

Ni fydd hawl awtomatig gan blant sy'n mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol i dderbyn addysg amser llawn yn nosbarth Derbyn yr un ysgol. Bydd rhaid i rieni wneud cais am le mewn dosbarth derbyn gyda'r ymgeiswyr eraill.

Os oes gormod o geisiadau am ysgol, mae lleoedd yn cael eu dyrannu yn unol â threfniadau derbyn yr awdurdod lleol a'r meini prawf ar gyfer gor-alw.

Efallai byddwch yn dymuno ymweld ag ysgolion cyn penderfynu ynghylch pa ysgolion rydych yn dymuno gwneud cais amdanynt. Dylid trefnu ymweliadau ag ysgol yn uniongyrchol â phennaeth yr ysgol berthnasol. Mae gwefannau ysgolion hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am ysgolion.

Sut i wneud cais am le mewn dosbarth meithrin

Cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol i ofyn am ffurflen gais. 

Wrth lenwi'r ffurflen, dylid defnyddio prif gyfeiriad preswyl y disgybl (nid cyfeiriad neiniau a theidiau, aelodau eraill y teulu neu warchodwyr plant).  Am ragor o wybodaeth am gyfeiriad y cartref, cymerwch gip ar ein llyfryn Trefniadau derbyn - dosbarthiadau meithrin yn ysgolion yr awdurdod lleol 2024/ 2025.

Close Dewis iaith