Cyllid a grantiau
Grant Urddas Mislif yn y Gymuned 2024 / 2025
Mae cyllid ar gael gan Gyngor Abertawe drwy Grant Urddas Mislif yn y gymuned Llywodraeth Cymru, i sicrhau mynediad at gynhyrchion mislif, am ddim mewn modd hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol posib.
Cronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol 2024 / 2025 - Cyfalaf
Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn Abertawe.
Cymorth Ariannol Men's Sheds 2024 / 2025
Mae cyllid ar gael ar gyfer datblygu Men's Sheds presennol a rhai newydd yn Abertawe.
Cronfa COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)
Mae Cronfa COAST yn adeiladu ar rowndiau blaenorol COAST a'i rhagflaenwyr. Mae'n ceisio darparu gweithgareddau am ddim neu fforddiadwy i bobl sy'n preswylio neu'n cael eu cefnogi yn Abertawe.
Cyllid ar gyfer ardaloedd gwledig
Cyllid sy'n cefnogi busnesau, ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig.
Cyllido torfol Abertawe
Rydym wedi ymuno â'r llwyfan cyllido torfol cenedlaethol Spacehive i lansio Cyllido Torfol Abertawe.
Cronfa Ymddiriedolaeth Deddf y Degwm Abertawe
Mae'r gronfa hon yn agored i'r holl grwpiau gwirfoddol, elusennol neu lesiannol yn Abertawe neu y mae nifer sylweddol o'r defnyddwyr yn ardal Abertawe. Mae'r grantiau a roddir i'r ymgeiswyr llwyddiannus hyd at uchafswm o £5,000.
Cytundeb Compact y Trydydd Sector
Mae gan Gyngor Abertawe hanes hir a chynhyrchiol o weithio mewn partneriaeth â'r trydydd sector yn Abertawe.
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025.
Grantiau a benthyciadau tai ac effeithlonrwydd ynni
Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael os ydych am addasu, atgyweirio neu wella eich cartref, gan gynnwys ei wneud yn fwy effeithlon o ran ynni.
Nawdd a grantiau ar gyfer darparwyr gofal plant cymwysiedig / arfaethedig
Cyngor ar nawdd a grantiau sydd ar gael i ddarparwyr gofal plant cymwysiedig neu arfaethedig.
Gŵyr - datblygu cynaliadwy
Mae Partneriaeth yr Tirwedd Genedlaethol Gŵyr yn gweithredu cynllun grantiau bach sydd â'r nod o ddatblygu a phrofi ffyrdd o gyflawni ffordd fwy cynaliadwy o fyw ym mhenrhyn Gŵyr.
Grantiau addysgol
Mae'r grantiau hyn ar gael ar gyfer addysg bellach.
Cyngor i fusnesau
Rydym yn gweithio'n agos gydag ystod eang o bartneriaid i roi cyngor a chymorth ni waeth beth yw maint neu sector eich busnes.