Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymhorthion a chyfarpar

Mae amrywiaeth eang o gymhorthion a chyfarpar ar gael a all wneud bywyd yn haws i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd, neu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd symud o gwmpas.

Mae sawl siop cymhorthion symudedd yn Abertawe lle gallwch brynu unrhyw beth, o sgwter symudedd neu lifft grisiau i gyllyll a ffyrc gafael hawdd a sliperi sy'n cau â felcro. Mae mantais wrth brynu'n lleol oherwydd cewch gyfle i roi cynnig ar bethau, ac efallai gael cyngor gan staff profiadol.

Os yw cyrraedd y siopau'n anodd, mae gwefannau ar-lein hefyd sy'n gwerthu cymhorthion a chyfarpar.

Cymorth Tymor Byr

Os ydych yn derbyn cymorth ailalluogi gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae ein therapyddion galwedigaethol ymunedol yn ymweld â chi i edrych ar ffyrdd o'ch helpu i fod yn fwy annibynnol, a gallant ddarparu cyfarpar i helpu gyda hyn. 

Weithiau, bydd angen cyfarpar am gyfnod byr yn unig wrth i rywun wella wedi salwch neu ddamwain.

Mae'r Y Groes Goch Brydeinig yn gallu darparu peth cyfarpar symudedd i'w logi dros dymor byr (6-12 wythnos). Maent hefyd yn gwerthu amrywiaeth o gyfarpar.

Colli Golwg neu Clyw

Mae ein Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd cyn gallu rhoi cyngor ar gyfarpar arbenigol i gynorthwyo pobl â nam ar y golwg neu'r clyw.  Efallai byddant hefyd yn gallu trefnu i chi ymweld â Canolfan Adnoddau Bro Tawe lle gall pobl â nam synhwyraidd cyfle i dreialu rhai mathau cyfarpar i asesu ei addasrwydd cyn ei brynu gan ddarparwyr. 

Larymau cymunedol (lifelines)

Mae larymau cymunedol (lifelines) yn darparu cyswllt ffôn mewn argyfwng i bobl hyn ac anabl.

Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd

Mae'r tîm hwn yn trin ymholiadau a chyfeiriadau sy'n ymwneud ag oedolion sydd â nam ar y golwg neu ar y clyw.

Canolfan Adnoddau Bro Tawe

Darparu gwybodaeth a chyngor i bobl â nam corfforol / nam ar y golwg.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2021