Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwybodaeth am sgorau hylendid bwyd

Canfod rhagor am y cynllun yn ogystal â gwybodaeth ar gyfer busnesau bwyd am apeliadau ac ailarchwiliadau.

Gwybodaeth i breswylwyr

Mae'r wefan Sgorio Hylendid Bwyd yn rhestru'r holl fusnesau bwyd sydd wedi cael eu harchwilio dan y cynllun. 

Mae'r cynllun yn rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am safonau hylendid y mangreoedd bwyd ar yr adeg y cânt eu harchwilio. Mae'r sgôr hylendid a roddir yn adlewyrchu'r hyn a ddaw'r swyddog diogelwch bwyd o hyd iddo ar y pryd.

Nid yw'n hawdd beirniadu safonau hylendid yn ôl golwg yn unig felly mae'r sgôr yn rhoi syniad i chi o'r hyn sy'n digwydd yn y gegin, neu y tu ôl i ddrysau caeedig. 

Mae pob busnes bwyd yn cael sticer gyda'i sgôr ac mae ganddo ddyletswydd gyfreithiol i'w arddangos mewn man amlwg (megis y drws ffrynt neu ffenestr) ac ym mhob mynedfa i gwsmeriaid a darparu gwybodaeth am ei sgôr os gofynnir iddo. 

Mae'r sgorau'n amrywio o 5 (da iawn) i 0 (angen gwella ar frys).

Gwybodaeth ar gyfer busnesau bwyd

Y cynllun sgôr hylendid bwyd yw'r cyfle i hyrwyddo safonau hylendid bwyd eich busnes bwyd i'ch cwsmeriaid.

Ar adeg yr archwiliad, rhoddir sgorau ar gyfer tri maes:

  • pa mor hylan y mae'r bwyd yn cael ei drin - sut mae'r bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a'i storio
  • cyflwr y fangre - glendid, cynllun, goleuadau, awyriad a chyfleusterau eraill
  • sut mae'r lleoliad yn rheoli ac yn cofnodi yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau bod bwyd yn ddiogel.

Yna trosir y sgorau hyn yn radd hylendid bwyd. Cyhoeddir sgorau ar wefan genedlaethol a bydd gofyn i chi arddangos sticer mewn man amlwg (megis y drws blaen neu ffenestr) yn eich busnes bwyd er mwyn dangos eich sgôr.

Sgôr hylendid bwyd
Cyfanswm sgôrUchafswm y ffactor sgorioSgôrSafonau hylendid
0 - 15Dim sgôr uwch na 55 (uchaf)Da iawn
20Dim sgôr uwch na 104Da
25 - 30Dim sgôr uwch na 103Boddhaol ar y cyfan
35 - 40Dim sgôr uwch nag 152Angen gwella
45 - 50Dim sgôr uwch na 201Angen buddsoddiad sylweddol
> 50-0 (bottom)Angen gwella ar frys

Os ydych yn anfodlon gyda'r sgôr a dderbynioch, mae gennych yr hawl i ymatebapelio yn erbyn y sgôr, neu wneud cais am ailarchwiliad.

Gweithredir y cynllun yng Nghymru yn unol â'r Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), ond mae'r Cynllun Sgôr Hylendid Bwyd ar waith yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd, a chânt eu sgorio yn ôl yr un wybodaeth.

Apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd

Os nad ydych yn credu bod eich sgôr yn adlewyrchu amodau eich busnes bwyd pan gafodd ei archwilio, gallwch apelio yn ei erbyn.

Gwneud cais i ailarchwilo'ch busnes bwyd

Os ydych wedi cyflawni'r camau gweithredu blaenoriaeth a'r gwelliannau er mwyn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol ers eich archwiliad, gallwch wneud cais am ailarchwiliad o'ch eiddo.

Yr 'Hawl i Ymateb' i'ch sgôr hylendid bwyd

Mae gennych yr hawl i ddweud eich dweud os oedd unrhyw amgylchiadau arbennig dros yr amodau a ganfuwyd yn ystod yr archwiliad a/neu eglurhad o unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd i unioni'r sefyllfa ers yr archwiliad. Caiff hwn ei arddangos ochr yn ochr â'ch sgôr ar y wefan.

Cyhoeddi'r sgôr yn gynnar

Ar ôl arolygiad, bydd y sgôr yn cael ei lanlwytho gan yr awdurdod lleol er mwyn ei chyhoeddi ar wefan www.food.gov.uk/sgoriau. Ar gyfer busnesau gall perchennog neu reolwr y busnes ofyn i gael cyhoeddi'r sgôr cyn diwedd y cyfnod apelio.
Close Dewis iaith