Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnal a chadw ffyrdd a llwybrau troed

Rydym yn cynnal archwiliadau rheolaidd o'r ffyrdd, llwybrau cerdded a llwybrau beicio a fabwysiadwyd gennym.

Mae hefyd gennym raglen flynyddol o waith wedi'i gynllunio, sy'n cynnwys ailwynebu ffyrdd a chynlluniau adfer palmentydd. Mae ein tîm PATCH yn helpu i dargedu ac atgyweirio ffyrdd yn Abertawe.

Gallwch adrodd am broblem am arwyneb ffyrdd, llwybrau cerdded neu lwybrau beicio. Mae'r problemau hyn fel arfer yn ymwneud â cherrig llorio sy'n anwastad neu sydd wedi torri, a thyllau yn y ffordd sy'n gallu achosi difrod i gerbydau. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd eira ac iâ'n torri wyneb y ffyrdd, gan greu tyllau.

Amserlen wardiau PATCH

Gallwch weld isod pan fydd y tîm PATCH yn gweithio ar y ffyrdd yn eich ardal chi.

Torri glaswellt a chynnal coed

Gwybodaeth am waith torri glaswellt a chynnal coed rydym yn ei wneud.

Cwestiynau cyffredin am cynnal a chadw ffyrdd

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am cynnal a chadw ffyrdd.

Cwestiynau cyffredin am chwyn

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am chwyn.

Adrodd am ddiffyngion yn arwyneb y ffordd ar-lein

Rhowch wybod i ni am ddiffygion yn arwyneb y ffordd neu lwybr troed, gan gynnwys tyllau.

Adrodd am gerrig palmant sydd wedi'u difrodi neu sydd wedi torri ar-lein

Rhowch wybod i ni am unrhyw gerrig palmant sydd wedi difrodi neu dorri fel y gallwn drefnu i'w trwsio neu eu hailosod.

Tyllau yn y ffordd

Rhowch wybod i ni am dwll yn y ffordd a byddwn yn ceisio ei atgyweirio o fewn 48 awr (os yw'r tywydd yn caniatau).

Adrodd am broblemau eraill gyda ffyrdd a phalmentydd

Rhowch wybod am unrhyw broblemau eraill gyda ffyrdd a phalmentydd gan gynnwys meinciau a rheiliau wedi'u difrodi, graffiti, goleuadau traffig, canghennau sy'n hongian drosodd a chwyn.

Treial torri a chasglu - yn hybu bioamrywiaeth

Rydym yn brwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur gyda chyfarpar newydd.

Cynnal coed - arweiniad i berchnogion cartrefi a pherchnogion tir

Cyngor sylfaenol ac ymarferol ar yr ymholiadau mwyaf cyffredin a geir gan arddwyr, perchnogion cartrefi a pherchnogion tir yn ymwneud â choed a phlanhigion prennaidd tebyg.
Close Dewis iaith