Digwyddiadau amgylcheddol - Chwefror

Diwrnod tasgau cadwraeth
12 Chwefror, 10.00am - 2.00pm
Cwrdd y tu allan i Ganolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Caswell SA3 3BN
Ymunwch â Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob i'n helpu gyda phrysgoedio a chael gwared ar rai o'r rhywogaethau estron a goresgynnol.
- Darperir te a bisgedi
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r tir a rhai nad oes ots gennych eu bod eu mynd yn frwnt
- Darperir yr holl gyfarpar
- Nid yw'r gweithgarwch hwn yn addas i blant
- Parcio (ffïoedd yr gaeaf): Maes parcio Bryn Caswell / Maes parcio Bae Caswell
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-ojdeolm
Archwilio'r Bydysawd yn ystod Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2025
I ddathlu Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2025, rydym yn eich gwahodd i ddod i ddiwrnod a noson o weithgareddau gwyddoniaeth ofod anhygoel AM DDIM yn Reynoldston, un o fannau tywyllaf Gŵyr.
Yn ystod y dydd: Planetariwm
Dydd Sul 23 Chwefror, 1.00pm - 6.15pm (amryfal slotiau amser ar gael)
Neuadd Bentref Reynoldston, 1AA, Church Meadow, Reynoldston, Abertawe SA3 1AF
Dewch i'n planetariwm yn Neuadd Bentref Reynoldston i ddarganfod cytserau, clystyrau o sêr, nifylau a galaethau - byddwn yn eu harchwilio i gyd.
Dyma weithdy lle gall pobl ddarganfod rhyfeddodau awyr y nos mewn awyrgylch llawn ysbrydoliaeth. Dan arweiniad seryddwyr, byddwn yn archwilio sut mae'r awyr wedi newid dros yr oesau, gan drafod popeth o fytholeg Geltaidd i astroffiseg ac effaith llygredd golau.
- Yn addas i bob oed
- Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
- Ni ddarperir lluniaeth yn ystod y digwyddiad hwn
Parcio: Am ddim y tu allan i neuadd y pentref a gyferbyn â'r eglwys. Gwnewch yn siŵr bod y fynedfa i'r orsaf dân yn cael ei chadw'n glir ar bob adeg.
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/e-zvvqoq
Yn y nos: Syllu ar y Sêr
Dydd Sul 23 Chwefror, 7.30pm ymlaen
Neuadd Bentref Reynoldston, 1AA, Church Meadow, Reynoldston, Abertawe SA3 1AF
Os bydd y tywydd yn caniatáu, bydd hwn yn gyfle gwych i weld awyr y nos drwy delesgopau cryf iawn, gyda seryddwyr yn eich tywys drwy'r gofod a'r planedau. Dylech fod yn gallu tynnu lluniau anhygoel gyda'ch ffôn drwy'r telesgop.
Dewis arall os bydd y tywydd yn wael: os bydd y tywydd yn anaddas, byddwn yn cynnal darlith seryddol hynod ddiddorol yn y neuadd, a fydd yn cwmpasu'r gofod, amser a'r planedau.
- Yn addas i bob oed
- Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
- Ni ddarperir lluniaeth yn ystod y digwyddiad hwn
Parcio: Am ddim y tu allan i neuadd y pentref a gyferbyn â'r eglwys. Gwnewch yn siŵr bod y fynedfa i'r orsaf dân yn cael ei chadw'n glir ar bob adeg.
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-xmlnkkr
Saffari gyda'r hwyr ar Lan y Môr
23 Chwefror, 7.30pm
Byddwn yn cwrdd ar draeth Bae Caswell ar ben y grisiau. Caswell Bay Road, Caswell SA3 3BS
Ymunwch â ni ar saffari pyllau trai dan arweiniad lle byddwn yn cerdded yng ngolau tortsh i gwrdd â rhai o'r creaduriaid sy'n byw ym Mae Caswell ac i arsylwi ar yr hyn maent yn ei wneud gyda'r hwyr!
- Mae'n hanfodol bod pob cyfranogwr yn dod â'i dortsh/dortsh pen ei hun ac yn gwisgo dillad llachar os yn bosib.
- Mae'n rhaid i blant fod yn 8 oed ac yn hŷn i gymryd rhan a rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn
- Gwisgwch esgidiau glaw neu esgidiau cadarn addas eraill rydych chi'n fodlon iddyn nhw fynd yn wlyb
- Gwisgwch ddillad priodol ar gyfer y tywydd a'r tir.
- Gadewch eich rhwydi pyllau trai gartref gan y byddwn yn dilyn y Côd Glan Môr ac yn defnyddio'n dwylo a bwcedi yn lle (darperir tybiau)
- Yn ddibynnol ar y tywydd
- Parcio (ffïoedd yr gaeaf): Maes parcio Bae Caswell / Maes parcio Bryn Caswell
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-jzyozzm
Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.