Digwyddiadau amgylcheddol - Ebrill

Hyfforddiant Cofnodi ar iNaturalist
Dydd Mawrth 8 Ebrill, 1.00pm
Cwrdd: Maes Parcio Ynys Newydd, Derwen Fawr rd, Sgeti, Abertawe SA2 8DU
Arweinir gan drefnydd Her Byd Natur y Ddinas 2025: Abertawe, Ms Evelyn Gruchala - Cydlynydd Gwirfoddol Adfer Natur (Cyngor Abertawe/Tirwedd Cenedlaethol Gŵyr).
Sesiwn hyfforddiant inaturalist awyr agored i baratoi ar gyfer Her Byd Natur y Ddinas 2025: Abertawe!
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Lawrlwythwch yr ap iNaturalist cyn yr hyfforddiant os yw'n bosib:
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-lnpampj
Diwrnod tasgau cadwraeth
Dydd Mercher 9 Ebrill, 10.00am - 2.00pm
Cwrdd y tu allan i Ganolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Caswell SA3 3BN
Helpwch i warchod Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob! Byddwn yn mynd i'r afael â rheoli cynefinoedd, yn cael gwared ar rywogaethau goresgynnol, neu, yn dibynnu ar y tywydd a'r tymheredd, byddwn yn parhau â'r gwaith prysgoedio i gefnogi adfywiad coetiroedd.
Dewch i fwynhau'r awyr iach, dysgu am fywyd gwyllt lleol a gwneud gwahaniaeth go iawn.
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond brwdfrydedd.
- Darperir te a bisgedi
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r tir a rhai nad oes ots gennych eu bod eu mynd yn frwnt
- Darperir yr holl gyfarpar
- Nid yw'r gweithgarwch hwn yn addas i blant
- Parcio (ffïoedd yr haf): Maes parcio Bryn Caswell / Maes parcio Bae Caswell
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-moxjpeg
Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.