Digwyddiadau amgylcheddol - Hydref
Diwrnod tasgau cadwraeth
2 Hydref 10.00am - 2.00pm
Cwrdd y tu allan i Ganolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Abertawe SA3 3BN
Ymunwch â Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob i'n helpu gyda phrysgoedio a chael gwared ar rai o'r rhywogaethau estron a goresgynnol.
- Darperir te a bisgedi
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r tir a rhai nad oes ots gennych eu bod eu mynd yn frwnt
- Darperir yr holl gyfarpar
- Nid yw'r gweithgarwch hwn yn addas i blant
* Os yw'r tywydd yn anaddas ar 2 Hydref, caiff y digwyddiad hwn ei ohirio tan 16 Hydref (hysbysir yr holl bobl sydd wedi cofrestru i fynychu'r digwyddiad hwn drwy e-bost)
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-gamryqm
Hela Ffyngau
5 Hydref 10.00am - 12.00pm
Cwrdd y tu allan i Ganolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Abertawe SA3 3BN
Cyfle i ddysgu popeth roeddech am ei wybod am fadarch gwyllt! Arweinir y digwyddiad hwn gan Mr Teifion Davies (mycolegydd amatur a Phrif Arddwr yng Ngerddi Clun).
- Dewch â basged gasglu neu gynhwysydd Tupperware
- Gwisgwch ddillad priodol ar gyfer y tywydd a'r tir
- Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
- Yn ddibynnol ar y tywydd
Does dim angen cadw lle!
Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.