Digwyddiadau amgylcheddol - Rhagfyr

Dydd Sul 3 Rhagfyr - Sesiwn Gwirfoddolwyr Chwarel Rosehill
11.00am - 1.00pm, Chwarel Rosehill, oddi ar Heol Teras, Mount Pleasant, Abertawe SA1 6HU
Sesiwn gwirfoddolwyr reolaidd: codi sbwriel, cynnal a chadw a thasgau cyffredinol eraill. Dewch i archwilio trysor cudd ger canol dinas Abertawe. Darperir te a choffi os yw'r tywydd yn addas.
Ewch i'r dudalen Facebook i weld gweithgareddau ychwanegol neu newidiadau i drefniadau: https://www.facebook.com/groups/213944969114313/
Cyswllt: Rhian ar 07840 197175 neu Viv ar 07917 569263
Dydd Mawrth 5 Rhagfyr - Diwrnod Gwaith Chwarel Rosehill
10.00am - 12 ganol dydd, Chwarel Rosehill, oddi ar Heol Teras, Mount Pleasant, Abertawe SA1 6HU
Sesiwn waith reolaidd i helpu i gynnal yr ardal bywyd gwyllt a'r man hamdden hyn ger canol Abertawe. Darperir te a choffi os yw'r tywydd yn addas.
Cyswllt: Rhian ar 07840 197175 neu Viv ar 07917 569263
Dydd Mercher 6 Rhagfyr - Glanhau Traeth Twyni Crymlyn
1.00pm, y llwybr estyllod y tu ôl i'r Neuadd Fawr, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian SA1 8EN
Ymunwch â'r sesiwn glanhau traeth misol hwn i gael ychydig o awyr iach, ymarfer corff ysgafn a helpu i gadw Twyni Crymlyn yn arbennig. Darperir yr holl offer ac os na allwch gyrraedd erbyn yr amser cychwyn, bydd bagiau, menig a chasglwyr yn cael eu gadael ar y llwybr estyllod fel y gallwch ymuno unrhyw bryd tan 3pm - rhowch gymaint neu gyn lleied o amser ag y gallwch chi. Yn agored i fyfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach.
Gallwch gadw lle trwy Eventbrite: www.eventbrite.co.uk/e/bay-beach-clean-tickets-459921957957.
Cyswllt: Ben Sampson, wildlife@swansea.ac.uk
Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr - Kites & Dippers: Parti Bywyd Gwyllt y Nadolig
10.00am - 12 ganol dydd, ffoniwch y cyswllt am leoliad
Gyda'r Nadolig ar y gorwel, ymunwch â Kites & Dippers am ychydig o hwyl yr ŵyl ac i archwilio sut mae ein bywyd gwyllt yn goroesi'r tymor oer. Ar gyfer pobl 8-18 oed sy'n hoffi bywyd gwyllt.
Cyswllt: Ben Bonham, Kites and Dippers Cwm Clydach, BSBonham@outlook.com / 07498 577495
Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr - Taith y Gwlyptir gyda Warden
11.30am - 1.00pm, Canolfan y Gwlyptir Llanelli, Penclacwydd, Llanelli, SA14 9SH
Nid oes angen cadw lle. Wedi'i gynnwys yn y tâl mynediad (am ddim i aelodau). Dewch i gwrdd â'r tywyswyr arbenigol cyfeillgar wrth y ddesg wybodaeth a byddant yn eich helpu i weld uchafbwyntiau'r tymor. Dysgwch sut i chwilio am arwyddion cynnil ac adnabod rhai rhywogaethau. Yn addas i bawb, ar lwybrau gwastad, hygyrch. Os dymunwch, gallwch ein gadael ar hyd y ffordd. Mae croeso i chi ddod â chamerâu neu ysbienddrych. Gwisgwch ddillad addas i'r tywydd ar y diwrnod.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli/whats-on/.
Cyswllt: Canolfan y Gwlyptir Llanelli, 01554 741087
Dydd Sul 17 Rhagfyr - Taith Gerdded yr RSPB ar hyd Llwybr Arfordir Llanelli
9.30am, maes parcio, Bynea, Llanelli SA14 9TD
Taith gerdded gwylio adar yn y bore. Mae'n bosib bydd angen dillad diddos a bŵts. Gadewch eich cŵn gartref os gwelwch yn dda. Eich cyfrifoldeb chi yw eich diogelwch ar hyd y daith.
Ewch i'r wefan am fwy o fanylion: group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict
Cyswllt: rspbswandistgrp@gmail.com
Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.