Prosiect pathewod Gŵyr
Rydyn ni'n chwilio am bathewod ar benrhyn Gŵyr yr haf hwn a gallwch chi ein helpu!
Byddwn yn defnyddio blychau nythu, tiwbiau a thwneli olion traed i roi'r cyfle gorau i ni ddod o hyd i'r mamaliaid nosol annaliadwy hyn.
Lleoliad: Ger Comin Fairwood
Cyfnod yr arolwg: Mis Mai - mis Tachwedd (diwrnodau'r wythnos, yn ddibynnol ar y tywydd)
Gwiriadau Twneli Olion Traed:
- bob pythefnos am dri mis o leiaf
Mae'r tasgau'n cynnwys:
- gwirio ac adnabod olion traed
- newid cardiau sydd wedi'u defnyddio/difrodi
- rhoi inc newydd ar y pad inc
Arolygon Blychau Nythu a Thwneli:
cânt eu gwirio unwaith y mis, ynghyd â gwiriadau twneli olion traed
Ydych chi am helpu?
E-bostiwch Evelyn Gruchala (Cydlynydd Gwirfoddolwyr Adfer Natur): evelyn.gruchala@abertawe.gov.uk
Ariennir prosiect pathewod Gŵyr gan Dirwedd Genedlaethol Gŵyr.