Toglo gwelededd dewislen symudol

Polisi Diogelu Corfforaethol

Mae polisi diogelu corfforaethol Cyngor Abertawe yn ddatganiad o disgwyliadau corfforaethol a rennir, a chofnod o'n hymrwymiad polisi. Mae'n rhoi manylion am y trefniadau mewn perthynas â chamau diogelu yn y dyfodol sydd i'w cymryd.

Polisi Diogelu Corfforaethol ar gyfer Plant ac Oedolion (PDF) [531KB]

  1. Cyflwyniad
  2. Llywodraethu Diogel
  3. Cyflogaeth Ddiogel
  4. Gweithlu Diogel
  5. Arfer Diogel
  6. Partneriaethau Diogel
  7. Llais Diogel
  8. Atodiad 1
  9. Atodiad 2
  10. Atodiad 3
  11. Atodiad 4
  12. Atodiad 5

"Mae diogelu yn fater i bawb"

  1. Llywodraethu Diogel
  2. Cyflogaeth Ddiogel
  3. Gweithlu Diogel
  4. Arfer Diogel
  5. Partneriaethau Diogel
  6. Llais Diogel
  7. Perfformiad Diogel

"Nid yw gwneud dim yn opsiwn - Sylwi, Hysbysu!

Cyflwyniad

Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac addysgu'r rheini o'u cwmpas i adnabod yr arwyddion a'r peryglon.

Croeso i bolisi diogelu corfforaethol Cyngor Abertawe, sy'n datgan y cyd-ddisgwyliadau corfforaethol, yn cofnodi ein hymrwymiad polisi ac yn darparu manylion y trefniadau ar gyfer camau diogelu sydd i'w cymryd yn y dyfodol.

Mae egwyddor "Mae Diogelu yn Fater i Bawb" ar waith yng Nghyngor Abertawe, ac mae'n ganolog i'r polisi hwn sy'n berthnasol i'r bobl ganlynol, a fydd yn gorfod ei ddilyn:  

  • ein gweithwyr
  • aelodau etholedig
  • gwirfoddolwyr a
  • chontractwyr (er y gall amodau neu bolisïau penodol fod yn berthnasol i gontractau)

Ysgrifennir Polisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Abertawe i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, felly mae'n hanfodol bwysig bod aelodau o'r cyhoedd a sefydliadau'n ymwybodol o sut mae'r cyngor yn cyfrannu at ddiogelu pobl yn Abertawe. 

Mae gan bob plentyn ac oedolyn sy'n wynebu risg yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a mathau eraill o niwed, beth bynnag fo'u hoed, eu hanabledd, eu rhyw, eu treftadaeth hiliol, eu cred grefyddol, eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth.

Mae diogelu pobl yn un o chwe blaenoriaeth allweddol Cyngor Abertawe yn y Cynllun Corfforaethol Diwygiedig ar gyfer 2021-2022, ac fe'i disgrifir yn ein Datganiad Llesiant: Cynllun gwella corfforaethol 

Amcan 1. Diogelu pobl rhag niwed - fel bod ein dinasyddion yn ddiogel rhag niwed a cham-fanteisio.

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles:

  • Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod dinasyddion yn byw eu bywydau'n rhydd o niwed ac ecsbloetiaeth.
  • Mae angen ystyried bod diogelu pobl ddiamddiffyn yn fater i bawb ym mhob gwasanaeth yn y cyngor, gan yr holl aelodau etholedig a chan y rheini sy'n gweithio ar ran y cyngor. 
  • Rydym hefyd am i blant fod yn ddiogel rhag niwed ac aros gyda'u teuluoedd neu dderbyn cefnogaeth mewn lleoliadau teuluol, lle mae'n ddiogel iddynt wneud hynny. 
  • Rydym am sicrhau bod yr holl oedolion sy' agored i niwed yn cael eu diogelu rhag niwed ac yn gallu byw eu bywyd i'r eithaf. 
  • Rydym am fynd i'r afael â cham-drin domestig a sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu cefnogi'n llawn
  • Rydym am i bobl heneiddio'n dda a gallu byw mor annibynnol a diogel â phosib yn eu cartrefi eu hunain.

Bydd polisi diogelu corfforaethol y cyngor hwn yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwy hirdymor a ddisgrifiwyd yn fanwl yn amcan y datganiad lles, ac i gymhwyso'r pum dull o weithio sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae'r polisi hwn yn rhoi ystyriaeth i'r canlynol:
a) Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, yn enwedig Erthyglau 2, 3, 5, 6 ac 8;
b) Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn; a
Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

O dan adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus weithredu mewn modd sy'n gydnaws â hawliau dynol o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, DGCaLl o hyn ymlaen, a'r codau ymarfer a'r canllawiau statudol ar gyfer diogelu yn Rhan 7 o'r Ddeddf, yn disgwyl bod nifer o hawliau penodol yn cael eu hamddiffyn a'u cynnal:

Erthygl 2 - yr hawl i fywyd a amddiffynnir;
Erthygl 3 - yr hawl i ryddid rhag triniaeth annynol neu ddiraddiol;
Erthygl 5 - yr hawl i ryddid a diogelwch;
Erthygl 6 - yr hawl i wrandawiad teg;
Erthygl 8 - yr hawl i barch at fywyd preifat a bywyd teuluol, cartref a gohebiaeth

Gweler y Rhestr o Dermau Allweddol a ddefnyddir ym maes Diogelu yn Atodiad 1

1. Llywodraethu Diogel

1a) Cyd-destun polisi:

Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Abertawe i ddiogelu a hyrwyddo lles plant sy'n wynebu perygl ac oedolion sy'n wynebu perygl.

Nod y cyngor yw sicrhau bod pawb sy'n gweithio gyda phlant a/neu oedolion, neu ar eu rhan, yn gymwys, yn hyderus ac yn ddiogel i wneud hynny, drwy weithio o fewn y fframweithiau cyfreithiol a statudol a nodir yn y canlynol:

  • Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (DGCaLl)
  • Deddf Plant 1989 a 2004
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Confensiwn y CU ar Hawliau'r Plentyn
  • Egwyddorion Hawliau Dynol y CU
  • Confensiwn y CU ar Hawliau Pobl Anabl
  • Deddf Diogelu Data 2018
  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2015
  • Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015

Mae'r Polisi Diogelu Gweithredol Corfforaethol diwygiedig hwn (fersiwn 5, Mehefin 2022) yn disgrifio sut y bydd Cyngor Abertawe yn cyflawni ein rhwymedigaethau statudol i ddiogelu plant ac oedolion sy'n wynebu perygl, fel a nodwyd yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru (2019), codau ymarfer a chanllawiau statudol.

Y bwriad yw rhoi sicrwydd i aelodau'r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, cynghorwyr, gweithwyr a phobl sy'n gweithio ar ran y cyngor bod trefniadau clir ar waith i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion:

Codau ymarfer a chanllawiau statudol | Llywodraeth Cymru

Hefyd, mewn perthynas â:

Chadw Dysgwyr yn Ddiogel - Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002-

Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (llyw.cymru)

Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg (BDGM)

Sefydlwyd Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg i hyrwyddo, hysbysu a chefnogi diogelu amlasiantaethol ar gyfer plant ac oedolion ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Y Bwrdd yw'r mecanwaith statudol allweddol ar gyfer cytuno ar sut y bydd sefydliadau'n cydweithredu i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion sy'n byw yn y rhanbarth.

Mae BDGM yn gyfrifol am gytuno ar sut y dylai'r gwahanol wasanaethau a grwpiau proffesiynol gydweithredu i ddiogelu plant ac oedolion, am sicrhau bod trefniadau'n gweithio'n effeithiol i sicrhau gwell canlyniadau i blant ac oedolion yng Ngorllewin Morgannwg.

Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg (www.wgsb.wales/?lang=cy-gb)

Darperir set lawn o ddolenni i wybodaeth ddefnyddiol yn Atodiad 5.

1b) Dyletswyddau cyfreithiol Cyngor Abertawe:

  • Sicrhau bod ein dull gweithredu yn gyson ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
  • Defnyddio Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019) ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso. Dyma Weithdrefnau Diogelu Cenedlaethol Cymru. Maent yn manylu ar rolau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso. https://diogelu.cymru/
  • Mae dyletswydd i gydweithredu, gan gydweithio fel partneriaid â'r sefydliad arweiniol wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau diogelu.
  • Mae dyletswydd ar holl bartneriaid perthnasol awdurdod lleol i roi gwybod am blentyn sydd mewn perygl. O dan adran 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
  • Mae dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud ymholiadau (gan ddilyn adran 47 o'r Ddeddf Plant) os cânt wybod y gall fod plentyn mewn perygl; a chymryd camau i sicrhau bod y plentyn yn ddiogel. O dan adran 130 o DGCaLl 2014
  • Mae dyletswydd ar holl bartneriaid perthnasol awdurdod lleol i roi gwybod am bryder am oedolyn sydd mewn perygl, ac i awdurdod lleol wneud ymholiadau os oes ganddo achos rhesymol dros amau bod person yn ei ardal (p'un a yw'n preswylio yno fel arfer ai peidio) yn oedolyn sydd mewn perygl. O dan adran 126 o DGCaLl.
  • I roi'r Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol ar waith - Fframwaith newydd i hyrwyddo mesurau ac arferion a fydd yn arwain at leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i bobl o bob oed: Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol (2021)

1c) Mae "diogelu" yn fusnes i bawb ym mhob gwasanaeth o fewn y cyngor.Mae "diogelu" yn gysyniad llawer ehangach nag amddiffyn plant ac oedolion. Mae'n cynnwys hybu hawliau, cefnogi unigolion i fyw yn ddiogel a lleihau risg, lle bo modd, ac amddiffyn hawliau dinasyddion yn y meysydd lles canlynol:

  • Amddiffyniad rhag niwed ac esgeulustod;
  • Diogelwch
  • Iechyd corfforol, lles emosiynol, ac iechyd meddwl;
  • Cynnal ac amddiffyn hawliau dynol unigolion
  • Cyfraniad i gymdeithas
  • Lles cymdeithasol ac economaidd.

1ch)  Blaenoriaeth Gorfforaethol Bwysicaf Abertawe:

Diogelu pobl rhag niwed - fel bod ein dinasyddion yn ddiogel rhag niwed ac ecsbloetio.

I gefnogi Diogelu fel y flaenoriaeth gorfforaethol a'r amcan lles pwysicaf, mae'r canlynol yn allweddol:

  • Mae gan bob plentyn ac oedolyn (ni waeth beth yw ei gefndir, ei ddiwylliant, ei oed, ei anabledd, ei ryw, ei ethnigrwydd neu ei gred grefyddol) hawl i gymryd rhan mewn cymdeithas ddiogel heb unrhyw drais, ofn, cam-drin, bwlio neu wahaniaethu;
  • Mae gan bob plentyn ac oedolyn hawl i gael ei ddiogelu rhag niwed, ecsbloetio a chamdriniaeth;
  • Bydd lles plant ac oedolion yn ganolog i'n holl bolisïau a gweithdrefnau;
  • Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth agos â phlant, eu rhieni, eu gofalwyr ac oedolion ac asiantaethau eraill i ddiogelu a hybu lles plant ac oedolion;
  • Byddwn yn ymdrechu i barchu hawliau, dymuniadau, teimladau a phreifatrwydd plant ac oedolion drwy wrando arnynt a lleihau unrhyw beryglon a all effeithio arnynt;
  • Byddwn yn buddsoddi mewn gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar i osgoi sefyllfaoedd lle gall cam-drin neu honiadau o gam-drin neu niwed ddigwydd.

1d) Ymagwedd Gynaliadwy at Ddiogelu

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi 'egwyddor datblygu cynaliadwy' ar waith sy'n dweud wrth sefydliadau sut y dylent fynd ati i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf. Mae pum ffordd o weithio a ddylai fod yn sail i bob polisi ac ymarfer:

  • Hirdymor - Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr â sicrhau bod anghenion tymor hir yn cael eu diwallu. 
  • Ataliaeth - Gall ymyrryd yn gynnar i leihau'r risg y bydd problemau'n digwydd neu'n gwaethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
  • Integreiddio -Ystyried sut gall amcanion lles y corff cyhoeddus effeithio ar bob nod lles, ar amcanion corfforaethol eraill neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
  • Cydweithio- Cydweithio ag unrhyw berson arall (neu rannau gwahanol o'r corff cyhoeddus ei hun) mewn modd a allai helpu'r corff cyhoeddus i gyflawni ei amcanion lles.
  • Cyfranogaeth - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau lles cenedlaethol, amcanion lles y cyngor a'u nodau lles eu hunain, gan sicrhau hefyd fod y bobl sy'n cyfrannu ac yn cael eu cefnogi yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae'r corff yn ei gwasanaethu.

1dd) Camau Gweithredu ar gyfer Gwella

I gyflawni'r flaenoriaeth gorfforaethol hon, ac i sicrhau bod diogelu corfforaethol yn fater i bawb, mae'r Polisi diwygiedig hwn dan lywodraethu'r Grŵp Diogelu Corfforaethol, gyda rhaglen waith ar gyfer rhoi camau gweithredu ar gyfer gwella ar waith yn y dyfodol ac adrodd ar gynnydd (gweler Atodiad 2b).

1e) Strwythurau Llywodraethu Diogel

Mae strwythur llywodraethu cadarn ar waith i sicrhau bod y dyletswyddau cyfreithiol hyn yn cael eu cyflawni, a bod ymagwedd Abertawe at ddiogelu yn cael ei chyflawni. Gweler atodiad 2 - Strwythur Llywodraethu

Mae Cyngor Abertawe'n disgrifio ein hymagwedd at ddarparu'r Cymorth Cywir ar yr Adeg Gywir i blant, teuluoedd a'u gofalwyr yn y ddogfen 

Dangosyddion Cymorth Continwwm Angen Abertawe (DCCAA).

Os oes gwahaniaethau proffesiynol, byddwn yn dilyn Polisi Diogelu Gorllewin Morgannwg ar gyfer Codi Lefel Rhybudd Gwahaniaethu Proffesiynol:

wgsb-resoultion-of-professional-differences-17th-april-2020-docx.pdf

2. Cyflogaeth Ddiogel

Mae'r adran hon yn amlinellu'r trefniadau cyflogaeth ddiogel sydd ar waith i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed.

Beth rydym ni'n ei wneud yn Abertawe ar hyn o bryd:

2a) Recriwtio a dethol- polisïau a gweithdrefnau i atal pobl anaddas, lle bynnag y bo modd, rhag gweithio/gwirfoddoli mewn rolau penodol, yn arbennig rolau sy'n ymwneud â phlant ac oedolion a all fod mewn perygl.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Polisi Datgelu a Gwahardd sy'n cydymffurfio â chyfraith y DU ac sy'n gofyn bod asesiad risg yn cael ei lunio ar gyfer pob swydd neu rôl wirfoddol er mwyn penderfynu a oes angen gwiriad datgelu a gwahardd.  
  • Ni chaiff rheolwyr gymryd rhan yn y broses recriwtio a dethol oni bai eu bod wedi derbyn hyfforddiant penodol. 
  • Pan fydd rôl unigolyn yn gofyn am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, rhaid ei ailwirio bob tair blynedd.
  • Sicrhau bod gwiriadau hunaniaeth a geirdaon unigolion yn cael eu cadarnhau cyn iddynt gychwyn yn eu rôl. 
  • Glynu wrth Bolisi'r Awdurdod ynghylch Cyflogi Cyn-droseddwyr.

2b) Ar ddechrau'r gyflogaeth: disgwylir i bob gweithiwr, gwirfoddolwr a chontractwr ymrwymo i ddiogelu pan fyddant yn ymuno â'r awdurdod neu'n gweithio ar ei ran

Mae enghreifftiau o'r trefniadau sydd ar waith yn cynnwys y canlynol: 

  • mae pob disgrifiad swydd yn cynnwys datganiad ynghylch yr ymrwymiad i ddiogelu,
  • os oes gofynion a chyfrifoldebau penodol ynghylch diogelu, cânt eu cynnwys yn y disgrifiad swydd, y fanyleb person a'u hystyried fel rhan o'r broses ddethol.

2c)  Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r rôl ddiogelu: Mae'r holl weithwyr, gwirfoddolwyr a chontractwyr yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau o ran diogelu ac yn ymwybodol bod y rhain yn cynnwys rhoi gwybod am bryder ynghylch y plant a'r oedolion y byddant yn dod i gysylltiad â nhw

Mae enghreifftiau o'r trefniadau sydd ar waith yn cynnwys y canlynol:

2ch) Nodi a chodi pryderon - mae'r holl staff yn ymwybodol bod angen rhoi gwybod am bryderon ynghylch unrhyw ymddygiad gan weithiwr arall, gwirfoddolwr, contractwr neu ddinesydd, tuag at blentyn neu oedolyn sy'n wynebu perygl, mewn modd sensitif ac effeithiol, yn unol â'r polisi hwn. 

I gefnogi'r uchod, mae gan y cyngor y canlynol:

  • Rhaglen hyfforddi orfodol ar gyfer yr holl staff
  • Llawlyfr gweithwyr - mae gan yr holl staff fynediad at weithdrefnau a chanllawiau allweddol
  • Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth arbenigol ar gael drwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaethau Corfforaethol, Adnoddau Dynol a Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg
  • Mae Polisi Datgelu Camarfer ar waith gan y cyngor: 

Staffnet Abertawe - AD - Polisi Datgelu Camarfer

  • Polisi Cefnogi Gweithwyr y mae Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi effeithio arnynt:

https://staffnet.swansea.gov.uk/domesticabusepolicy

Hefyd Strategaeth VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) Abertawe Mwy Diogel 2018-2022 (abertawe.gov.uk)

Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol  

Mae Adran 4 o'r Polisi Diogelu hwn yn disgrifio'r prosesau ar gyfer adrodd am honiadau a phryderon.

Gweler hefyd y siartiau llif ar gyfer adrodd (Atodiad 3a a 3b)

3. Gweithlu Diogel

Mae'r adran hon yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan holl staff a phartneriaid y cyngor

3a) Mae diogelu'n gyfrifoldeb i bawb

Mae Cyngor Abertawe'n disgwyl i bob gweithiwr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau diogelwch unrhyw blentyn neu oedolyn sy'n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd neu ryngweithio y mae'r gweithiwr yn gyfrifol amdanynt. 

Mae gweithlu diogel y cyngor yn cwmpasu'r rolau canlynol:

  • Gweithwyr
  • Rheolwyr
  • Contractwyr
  • Unigolion Diogelu Dynodedig
  • Rheolwyr Diogelu Strategol
  • Swyddog Arweiniol y Gwasanaethau Cymdeithasol: Diogelu Plant
  • Swyddog Arweiniol y Gwasanaethau Cymdeithasol: Diogelu Oedolion
  • Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Prif Weithredwr
  • Aelodau Etholedig
  • Aelod y Cabinet dros Ddiogelu

Dylai gweithlu diogel yng Nghyngor Abertawe wneud y canlynol:

  • bod yn effro bob amser i achosion posib o gam-drin ac esgeuluso;  
  • cymryd rhan mewn hyfforddiant diogelu perthnasol a gwaith partneriaeth amlasiantaeth i ddiogelu plant ac oedolion sy'n wynebu perygl;
  • bod yn gyfarwydd â'r gweithdrefnau a'r protocolau lleol ar gyfer diogelu plant ac oedolion agored i niwed a dilyn côd ymddygiad y cyflogwr ac unrhyw godau ymddygiad proffesiynol perthnasol:  Staffnet Abertawe - AD - Polisi côd ymddygiad
  • adrodd am unrhyw bryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn neu oedolyn

3b) Hyfforddi'r gweithlu

Mae staff a chynghorwyr yn derbyn hyfforddiant Diogelu perthnasol sy'n briodol i'w rôl ac maen nhw'n ymwybodol o'r polisi hwn. Rhaid i'r hyfforddiant hwn fod yn drefniant parhaus a pharhaol yn y cyngor. Dylid cwblhau'r hyfforddiant hwn bob tair blynedd. Dylid parhau i adolygu'r polisi yn unol â newidiadau perthnasol i bolisïau a deddfwriaeth

Bydd y trefniant hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Adolygu rolau diogelu arweiniol ym mhob adran yn rheolaidd, gan fod strwythurau timau/swyddi/personél yn gallu newid
  • Bod yr Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn derbyn hyfforddiant diogelu sy'n ymwneud yn benodol â'u rôl
  • Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelu ar gyfer gwirfoddolwyr/staff achlysurol  
  • Defnyddio'r system gwybodaeth am y gweithlu corfforaethol fel yr unig gofnod o'r hyfforddiant diogelu a gyflawnwyd gan staff
  • Cynhelir dadansoddiad blynyddol o anghenion hyfforddi er mwyn archwilio cydymffurfiaeth â'r hyfforddiant gorfodol ym mhob maes gwasanaeth, a nodi bylchau.

3c) Rolau Allweddol y cyngor o ran Diogelu Corfforaethol (gweler Atodiad 4):

Y Rôl yn y cyngor

Prif Gyfrifoldebau

Person Diogelu Dynodedig yr Awdurdod Lleol

Rôl allweddol fel pwynt cyswllt i weithwyr a gwirfoddolwyr yn eu maes gwasanaeth/cyfarwyddiaeth sydd â phryderon neu os bydd honiad yn cael ei wneud.

Rheolwr Diogelu Strategol

 

  • Bod yn arweinydd strategol ym maes diogelu yn ei gyfarwyddiaeth a hyrwyddo diogelu  
  • Cynrychioli ei gyfarwyddiaeth yn y Grŵp Diogelu Gweithredol Corfforaethol
  • Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant a nodwyd yn benodol ar gyfer y rôl hon
  • Cyfrannu at ddatblygu polisïau a gweithdrefnau diogelu perthnasol a dogfennau neu adnoddau eraill
  • Ymgymryd ag hyfforddiant a chyfleoedd datblygu proffesiynol sy'n gysylltiedig â'r rôl hon, gan gynnwys mynd i gynadleddau, gwneud gwaith ymchwil a darllen (lle bo hynny'n rhesymol ymarferol) 

Swyddog Arweiniol y Gwasanaethau Cymdeithasol: Diogelu Plant

  • Paratoi adroddiadau ar gyfraniad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i waith diogelu a'u cyflwyno i Fwrdd Diogelu Plant Gorllewin Morgannwg, ei is-grwpiau a chynulleidfaoedd eraill yn ôl y gofyn;
  • Arwain ar ddatblygu ac adolygu cylch gorchwyl, diffiniadau, protocolau, polisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â diogelu plant yn fewnol ac ar gais Bwrdd Diogelu Plant Gorllewin Morgannwg.
  • Arwain o ran datblygu, gweithredu ac adolygu rhaglen waith y Gwasanaethau Plant mewn perthynas â diogelu yng nghyd-destun y cynllun Gwasanaethau Plant trosfwaol. 
  • Goruchwylio sicrhau ansawdd yn y Gwasanaethau Plant.
  • Gweithredu fel Swyddog Diogelu Dynodedig yr Awdurdod Lleol.
  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu system sicrhau ansawdd a fydd yn galluogi monitro a gwerthuso effeithiolrwydd diogelu corfforaethol yn ogystal ag asiantaethau eraill o ran cyflawni eu dyletswyddau statudol i ddiogelu plant.

Swyddog Arweiniol y Gwasanaethau Cymdeithasol: Diogelu Oedolion

  • Prif Swyddog Arweiniol Proffesiynol y Gwasanaethau Cymdeithasol (Oedolion) sy'n cyflawni'r rôl.
  • Mae'n gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol ar draws holl dimau'r Gwasanaethau i Oedolion i ddatblygu a rhoi Fframwaith Arfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar waith.
  • Mae'n goruchwylio sicrhau ansawdd o fewn y Gwasanaethau Oedolion.
  • Mae'n arwain y Tîm Diogelu newydd (Oedolion)

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol/

Uwch-swyddogion

  • Swyddog cyfrifol y cyngor o ran darparu trefniadau diogelu corfforaethol effeithiol.
  • Mae holl Gyfarwyddwyr, Prif Swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth y cyngor, drwy eu Timau Rheoli, yn gyfrifol ar y cyd am sicrhau y rhoddir sylw dyledus i'r holl ofynion statudol o ran diogelu a hybu lles plant ac oedolion  Mae hyn yn cynnwys ansawdd, cynnwys ac amlder yr hyfforddiant a ddarperir a chynnal cofnodion hyfforddiant staff digonol.

Rheolwyr

Fel gweithwyr y cyngor, mae rheolwyr yn gyfrifol hefyd am y canlynol:

  • Hyrwyddo Diogelu yn eu tîm a'u maes gwasanaeth  
  • Monitro'r trefniadau o ran, er enghraifft, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, Hyfforddiant
  • Creu amgylchedd yn eu tîm neu eu maes gwasanaeth sy'n hyrwyddo diogelu a'r polisi hwn.
  • Cynorthwyo staff i hysbysu am bryderon

Gweithwyr

Mae pawb a gyflogir gan Gyngor Abertawe neu sydd wedi'i gontractio ganddo neu sy'n gwirfoddoli iddo yn gyfrifol am y canlynol:

  • Deall a dilyn y polisi a'r weithdrefn hon  
  • Deall arwyddion camdriniaeth, esgeuluso neu fathau eraill o niwed  
  • Rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt fod plentyn neu oedolyn yn cael ei gam-drin, ei esgeuluso, neu'n dioddef mathau eraill o niwed neu mewn perygl o'r rhain. Mae hyn yn cynnwys pryderon am gydweithwyr neu bobl eraill sy'n gweithio i'r cyngor.
  • Hysbysu am unrhyw honiadau a wnaed gan blentyn neu oedolyn .
  • Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant diogelu a nodwyd ar gyfer rôl eu swydd - i gael rhagor o wybodaeth ewch i'r adran hyfforddi.
  • Ymddwyn mewn ffordd sy'n ddiogel ac yn briodol i'w rôl a dilyn polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau'r awdurdod lleol neu'r sefydliadau neu gyrff eraill sy'n berthnasol iddynt
  • Helpu i hyrwyddo diogelu yn eu tîm ac ymhlith y cyhoedd
  • Cyflawni unrhyw rolau a chyfrifoldebau o ran diogelu ac amddiffyn sy'n ymwneud yn benodol â'u swydd.

Y Gweithgor Diogelu Corfforaethol

Gweithgor Diogelu Corfforaethol Cyngor Abertawe yw'r grŵp rheoli ac arwain sy'n goruchwylio gweithrediad y polisi Diogelu Corfforaethol. Mae'r grŵp yn darparu'r 'llywodraethu diogel' a ddisgrifir yn y polisi a'i nod, drwy raglen waith gytunedig, yw sicrhau bod holl feysydd gwasanaeth y cyngor yn gweithredu'n effeithiol o fewn y polisi hwn a bod trefniadau diogelu cadarn ar waith.

Y Cabinet

 

Mae'r Cynghorydd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros wasanaethau gofal, hefyd yn arweinydd diogelu

Craffu

Bydd paneli craffu perfformiad yn parhau i fonitro darpariaeth Polisïau Diogelu Corfforaethol y cyngor a gaiff eu hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor fel sy'n briodol.

 

Aelodau Etholedig

Mae gan yr aelodau etholedig gyfrifoldeb i fod yn ymwybodol o gyfrifoldebau diogelu'r cyngor, a'u cefnogi, ac i graffu ar sut cyflawnir y cyfrifoldebau hyn wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.

3ch) Adnoddau Hyfforddi

Cronfa Ddysgu e-ddysgu Cyngor Abertawe, gan gynnwys modiwlau hyfforddiant ar Ddiogelu Oedolion f2 a Diogelu Plant f2, sy'n orfodol ar gyfer yr holl staff.

4. Arfer Diogel

Mae arfer diogelu yn canolbwyntio ar y person ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau.

Mae gan Abertawe ymgyrch Sylwi! Hysbysu!

Gweithio ar y cyd i nodi ac atal cam-drin ac esgeulustod, lle bo'n bosib. Sicrhau bod pob asiantaeth, gwasanaeth ac unigolyn yn gallu ymateb yn brydlon ac yn gymesur pan sylwir ar achosion posib o gam-drin neu esgeuluso plant ac oedolion.  

Fel sefydliad, gall y cyngor fod yn sicr bod trefniadau diogelu effeithiol ar waith, a bod yr holl arfer diogelu yn y gweithlu ehangach (gan gynnwys partneriaid, darparwyr a gwirfoddolwyr) yn gwella'n barhaus ac yn gweithio i wella bywydau a lles dinasyddion Abertawe.

Mae'r adran hon yn disgrifio'r arfer a'r trefniadau ymarferol sydd ar waith i gyflawni'r fframwaith newydd hwn.

4a) Nodi arwyddion cam-drin posib:

Fel y nodwyd, mae sawl math o gam-drin, ac mae llawer o arwyddion posib o gam-drin na fyddant yn bendant ar eu pennau eu hunain.

Gall rhai enghreifftiau gynnwys:

  • Anaf heb esboniad / colli pwysau / cleisiau a thoriadau / bryntni
  • Newidiadau ymddygiad sydyn neu heb esboniad
  • Iselder / diffyg hunan-barch / gor-bryder
  • Diffyg hunanofal / dadhydradu / patrwm bwyta annormal
  • Hunan-niweidio
  • Ymddygiad obsesiynol
  • Newidiadau mewn amgylchiadau ariannol - biliau heb eu talu neu dlodi sydyn
  • Dirywiad mewn safonau byw, neu esgeuluso eiddo
  • Gofalwr, gwarcheidwad neu bennaeth (yn achos masnachu pobl) gorfeirniadol neu ddi-barch a all fod yn rheoli, yn bwlio neu'n tanseilio
  • Unigolyn sydd wedi'i ynysu o'r rhwydwaith arferol o ffrindiau, teulu neu gymuned
  • Dim mynediad at wasanaethau meddyg teulu/gwasanaethau lleol a dogfennau cyfreithiol, e.e. pasbort (yn achos masnachu pobl)

Gweler Atodiad Un: rhestr termau ac Atodiad 5: Gwybodaeth Ddefnyddiol

4b) Hysbysu am unrhyw bryderon posib

Lle gwelir bod pryder posib ynghylch diogelu plentyn neu oedolyn, yn gyntaf oll mae'n rhaid i ni ddilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019.

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru'n manylu ar rolau a chyfrifoldebau hanfodol i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gam-drin ac esgeulustod.

Gweler atodiadau 3a a 3b: siartiau llif diogelu corfforaethol ar gyfer adrodd am blant ac oedolion sydd mewn perygl.

Pryd bynnag y bydd pryder posib am ddiogelu yn dod i'r amlwg, y chi, fel gweithiwr y cyngor, sy'n gyfrifol am roi gwybod i'ch Rheolwr Llinell neu'r Person Diogelu Dynodedig am y mater: Staffnet Abertawe - Unigolion Diogelu Dynodedig

Ar adegau, gall fod yn briodol neu'n angenrheidiol i gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn uniongyrchol drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Dylai staff ddilyn gweithdrefnau diogelu perthnasol eu gwasanaeth unigol a'u cyfarwyddiaeth, a dylai fod gan wasanaethau eu gweithdrefnau diogelu eu hunain sydd ar gael i staff yn ystod eu gwaith pob dydd.  

Ar y cyd â'r arweinydd diogelu, gall staff benderfynu wedyn a ddylid cysylltu â'r arweinydd diogelu yn eu maes gwasanaeth, neu droi at gymorth arbenigol:

Os bydd gan Gynghorydd (neu unrhyw aelod o'r cyhoedd) bryderon ynghylch diogelwch oedolyn, dylid cysylltu â Phwynt Mynediad Cyffredin y Gwasanaethau Cymdeithasol ar unwaith drwy lenwi ffurflen atgyfeirio neu dros y ffôn.

  • Pwynt Mynediad Cyffredin y Gwasanaethau i Oedolion - Gofal Iechyd a Chymdeithasol:

Ffôn: 01792 636519

PMC@abertawe.gov.uk

Ffôn: 01792 636519

Oriau swyddfa: Dydd Llun - dydd Iau 08.30am - 5pm a dydd Gwener 08.30am - 4.30pm

Os oes gan Gynghorydd (neu unrhyw aelod o'r cyhoedd) bryderon am ddiogelwch plentyn neu berson ifanc, yna dylid cysylltu â Phwynt Cyswllt Unigol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar unwaith:

  • Pwynt Cyswllt Unigol y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

E-bost: singlepointofcontact@swansea.gov.uk  

Ffôn: 01792 635700

Neges destun: 07796275457

Dydd Llun - dydd Iau 08.30am - 5pm a dydd Gwener 08.30am - 4.30pm

Dylid cysylltu â Thîm y Tu Allan i Oriau y Gwasanaethau Cymdeithasol os bydd problem yn codi ar ôl 5.00pm ddydd Llun i ddydd Iau ac ar ôl 4.30pm ddydd Gwener, ar y penwythnos neu ar wyliau banc. Ffôn: 01792 775501

Mae'n rhaid cysylltu â'r gwasanaethau brys (yr Heddlu, Ambiwlans, Tân ac Achub) ar unwaith os yw plentyn neu oedolyn mewn perygl dybryd.

5. Partneriaethau Diogel

Mae'r adran hon yn cynnwys

  • Cysylltiadau â threfniadau diogelu rhanbarthol

5a) Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg

Mae Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg yn gyfrifol am gytuno ar sut y dylai'r gwasanaethau a'r grwpiau proffesiynol gwahanol gyd-weithio i ddiogelu plant ac oedolion, a sicrhau bod trefniadau'n gweithio'n effeithiol drwy gyflwyno canlyniadau gwell i blant ac oedolion yng Ngorllewin Morgannwg.

5b) Bwrdd Diogelu Plant Gorllewin Morgannwg

Mae gan Fwrdd Diogelu Plant Gorllewin Morgannwg bwerau penodol i arwain a rhoi cyfarwyddyd i sefydliadau eraill o ran eu trefniadau diogelu a nodi'n glir ble mae angen gwella.  

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cydlynu gwaith yr holl asiantaethau sydd â chynrychiolwyr ar y bwrdd er mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant yn eu hardal
  • Cynnal gwiriadau drwy Adran 28 i asesu a yw partneriaid yn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol a ddisgrifiwyd yn y canllawiau statudol  
  • Sicrhau effeithiolrwydd y gwaith a gyflawnir gan y bobl neu'r cyrff hyn i'r dibenion hynny  
  • Datblygu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer diogelu a hyrwyddo dulliau gweithredu ataliol sy'n hybu lles plant yn eu hardal  
  • Cyfleu'r angen am ddiogelu a hybu lles plant  
  • Cyfrannu at y gwaith o gynllunio gwasanaethau ar gyfer plant yn yr ardal, ac asesu effeithiolrwydd y cymorth a ddarperir i blant a theuluoedd
  • Cynnal adolygiadau ymarfer er mwyn dysgu

5c) Bwrdd Diogelu Oedolion Gorllewin Morgannwg

Mae Bwrdd Diogelu Oedolion Gorllewin Morgannwg yn cefnogi sefydliadau yn eu trefniadau i ddiogelu oedolion y mae angen cymorth a gofal wedi'i reoli arnyn nhw. Mae'n gwneud hyn drwy: gael sicrwydd bod trefniadau diogelu lleol ar waith, a gwirio bod y rheini'n gweithio'n effeithiol.

Mae gweithgareddau'n cynnwys:

  • Cyhoeddi cynllun busnes sy'n disgrifio sut byddant yn cyflawni eu hamcanion a sut bydd eu haelodau a'u hasiantaethau partner yn cyfrannu  
  • Cyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi pa mor effeithiol y mae eu gwaith wedi bod
  • Cyflawni rhaglen waith i wirio effeithiolrwydd y trefniadau presennol
  • Cynnal digwyddiadau i hyrwyddo arferion diogelu ac ataliol

Ar y cyfan, mae gan Fwrdd Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg gyfrifoldebau statudol, a ddiffiniwyd mewn rheoliadau, canllawiau statudol a chodau ymarfer gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i arwain a chydlynu trefniadau diogelu oedolion ar draws ei ardal a goruchwylio a chydlynu effeithiolrwydd gwaith diogelu ei aelodau a'i asiantaethau partner.

Am ragor o wybodaeth gweler Atodiad 5 - Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg

6. Llais Diogel

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi llais cryfach i bobl a rheolaeth wirioneddol dros y cymorth y mae ei angen arnynt i ddileu rhwystrau o ran eu lles.

Mae'n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynharach i atal anghenion rhag dod yn  gritigol, ac mae'n hyrwyddo buddsoddi adnoddau yn y tymor byr, gan ddatblygu dull gweithredu mwy cynaliadwy.

Rhaid i bob dinesydd deimlo ei fod yn bartner cyfartal yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol mewn trafodaethau ynghylch ei ddiogelwch a'i les.

Eiriolaeth

Rhaid helpu unigolion i deimlo'n ddiogel, a theimlo eu bod yn bartneriaid cyfartal yn eu perthynas â gweithwyr proffesiynol. Mae croeso i unigolion wahodd rhywun o'u dewis i'w cefnogi i gyfrannu'n llawn a mynegi eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau. Gall ffrindiau, perthnasau neu rwydwaith cymorth ehangach yr unigolyn ddarparu'r cymorth hwn.

O dan Ran 10 o'r Ddeddf sy'n delio ag Eiriolaeth, mae gofynion pellach i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â'r unigolyn i benderfynu ar sut gallai eiriolaeth gefnogi'r broses o bennu a chyflawni canlyniadau personol yr unigolyn, gan gynnwys deilliannau diogelu; ynghyd ag amgylchiadau lle bydd yn rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol.  

Côd Ymarfer Gwasanaethau Eiriolaeth | GOV.WALES

Mae Gwneud Diogelu'n Bersonol (MSP)yn gynllun ledled y DU sydd â'r nod o ddatblygu gwaith diogelu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac ystod o ymatebion i helpu pobl i wella neu ddatrys eu hamgylchiadau.

Mae datblygiad Gwneud Diogelu'n Bersonol yn fwy na rhoi ffocws ar arfer diogel personol yn y rheng flaen. Mae'n galw am ddull gweithredu system gyfan o fewn sefydliadau ac ar eu traws er mwyn hyrwyddo llais a rheolaeth y person sy'n ganolog iddo.

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o ymagwedd "Llais Diogel" at ddiogelu:

  • trin pobl â 'phrofiadau bywyd' fel partneriaid cyfartal mewn perthnasoedd diogelu oedolion, a'u trin â pharch ac urddas,  
  • sicrhau bod pob unigolyn sy'n ymwneud â gweithgareddau diogelu yn cael ei werthfawrogi am ei brofiad, ei gryfderau a'i wybodaeth, gan gynnwys staff a gofalwyr,  
  • sicrhau bod lleisiau teuluoedd, grwpiau a chymunedau yn cael eu clywed mewn gweithgareddau diogelu, gan gynnwys grwpiau nad ydynt yn cael eu clywed yn aml,
  • sicrhau bod prosesau diogelu a chynnwys defnyddwyr mor glir, mor syml ac mor hygyrch â phosib, a bod gwybodaeth hawdd ei deall ar gael am yr hyn y mae pob gweithgaredd yn ei gynnwys,
  • gofyn i staff a dinasyddion fynegi barn am eu profiad o brosesau diogelu,  
  • canolbwyntio ar ganlyniadau unigol unigolyn.

7. Perfformiad Diogel - Yr hyn y mae'n rhaid i'r cyngor ei gyflawni

Mae'r adran hon yn rhoi sylw i sut bydd y cyngor yn gwybod ei fod yn cyflawni'r fframwaith hwn.

I gefnogi Diogelu fel y flaenoriaeth gorfforaethol ac amcan lles pwysicaf, mae angen i'r cyngor gyflawni'r canlynol:

  • Parhau i wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o ddiogelu a sut i nodi pryderon ac adrodd amdanynt ymhlith staff y cyngor, aelodau etholedig, partneriaid, y cyhoedd a'r rheini sy'n gweithio ar ran y cyngor.
  • Parhau i sicrhau bod trefniadau diogelu cadarn ar waith i ddiogelu'r rheini sydd mewn perygl o niwed ac ecsbloetiaeth sylweddol.
  • Parhau i gryfhau'r cydweithio a'r partneriaethau diogelu drwy Fwrdd Diogelu Oedolion a Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg.  
  • Parhau i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael cyfle i leisio'u barn am y gwasanaethau maent yn eu derbyn drwy ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a thrwy arfer sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n canolbwyntio ar eu cryfderau a'u rhinweddau a'r hyn y gallan nhw a'u teuluoedd ei wneud i'w helpu eu hunain.

Mesurau Perfformiad Allweddol

Bydd Cyngor Abertawe, drwy fwrdd y grŵp llywio diogelu corfforaethol, yn casglu, yn dadansoddi, yn monitro ac yn adolygu data sy'n gysylltiedig â'r amcanion diogelu hyn sy'n deillio o'r camau gwella a restrwyd uchod, ac yn rhoi adroddiad ar ystod o fesurau perfformiad allweddol, bob chwarter a phob blwyddyn.

Yn ogystal, caiff y cyngor archwiliad blynyddol annibynnol gan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, a gall fod yn destun arolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Gall y dangosyddion perfformiad allweddol gynnwys y canlynol:

  • Gwell ymwybyddiaeth ymhlith staff o'r polisi diogelu, a'r arweinwyr diogelu
  • Bod gweithdrefnau diogelu ar waith a'u bod yn cael eu deall ar draws y sefydliad
  • Nifer y pryderon a'r atgyfeiriadau a godwyd gan dimau anarbenigol yn y cyngor
  • Cynnwys diogelu fel cyfrifoldeb allweddol yn nisgrifiadau swydd yr holl staff
  • Y staff a'r aelodau etholedig wedi cwblhau'r hyfforddiant diogelu gorfodol

Atodiad 1: Rhestr o'r termau allweddol  a ddefnyddir ym maes Diogelu:

Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac addysgu'r bobl o'u cwmpas i adnabod yr arwyddion a'r peryglon, ac mae'r polisi hwn yn nodi'n glir bod dyletswydd i roi gwybod am hyn:

Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019) -https://diogelu.cymru/

Mae ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael i'w lawrlwytho drwy'r Apple App Store a Google Play Store.

Deddfwriaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol:https://llyw.cymru/canllawiau-diogelu

Canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch adrodd am gam-drin, niwed neu esgeulustod (diogelu): https://llyw.cymru/canllawiau-diogelu

Cadw Dysgwyr yn Ddiogel - Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002 - llyw.cymru/cadw-dysgwyr-yn-ddiogel

Codau Ymarfer Llywodraeth Cymru: Codau Ymarfer y Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae Côd Ymarfer 7 - Gweithio gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ailddiffinio plant ac oedolion 'sy'n wynebu risg': 

Mae Adran 130(4) yn diffinio 'plentyn sy'n wynebu risg' fel plentyn:

(a) sy'n dioddef cam-drin, esgeuluso neu fathau eraill o niwed, neu sy'n wynebu risg o hynny; a

(b) y mae ganddo anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu'r anghenion hynny neu beidio).

MaeAdran 126(1)yn diffinio oedolyn sy'n wynebu risg.

Ystyr "oedolyn sy'n wynebu risg", at ddibenion y rhan hon, yw oedolyn:

(a) sy'n profi camdriniaeth neu esgeulustod neu sydd mewn perygl o hynny;

(b) y mae ganddo anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu'r anghenion hynny neu beidio

 a

(c) oherwydd yr anghenion hynny, nid yw'n gallu amddiffyn ei hun rhag y camdriniaeth neu'r esgeulustod, neu'r perygl o hyn."

Mae'r diffiniad hwn o "oedolyn sy'n wynebu risg" yn berthnasol mewn perthynas â'r pwerau a'r dyletswyddau statudol sydd wedi'u cynnwys yn Rhan 7 o'r Ddeddf ac, i'r dibenion hynny, mae'n disodli'r diffiniad o "oedolyn sy'n agored i niwed" a gynhwysir yn y ddogfen Mewn Dwylo Diogel(Llywodraeth Cynulliad Cymru 2000).

Mewn perthynas ag 'oedolion a phlant sy'n wynebu risg', mae adran 197(1)o'r Ddeddf yn darparu diffiniadau o "gam-drin" ac "esgeuluso":

Cam-drin - Ystyr cam-drin yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae'n cynnwys cam-drin sy'n digwydd mewn unrhyw leoliad, p'un ai mewn annedd breifat, sefydliad neu unrhyw fan arall).

Esgeuluso- ystyr "esgeuluso" o dan y Ddeddf yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy'n debygol o arwain at amharu ar les y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person neu, yn achos plentyn, amharu ar ddatblygiad y plentyn).

Categorïau Cam-drin ac Esgeuluso: Mae Côd Ymarfer 7 - Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl (t8) yn darparu rhestr nad yw'n gynhwysfawr o enghreifftiau o bob un o'r categorïau cam-drin ac esgeuluso:

  • cam-drin corfforol - taro, slapio, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, ataliaeth ormodol, neu sancsiynau amhriodol; 
  • cam-drin rhywiol - treisio ac ymosod yn rhywiol neu weithredoedd rhywiol nad yw'r oedolyn agored i niwed wedi cydsynio â hwy a/neu y cafodd ei roi dan bwysau i gydsynio â hwy; 
  • cam-drin seicolegol -bygythiadau o niwed neu adael, rheolaeth gymhellol, bychanu, achosi cywilydd, cam-drin geiriol neu hiliol, ynysu neu dynnu allan o wasanaethau neu
  • rwydweithiau cefnogol (mae rheolaeth drwy orfodaeth yn weithred neu batrwm o weithredoedd sy'n ymosodol, yn fygythiol, yn bychanu neu'n codi ofn, neu'n gamdriniaeth arall a ddefnyddir i niweidio, i gosbi neu i ddychryn y dioddefwr);
  • esgeuluso- methiant i gael gafael ar ofal meddygol neu wasanaethau, esgeulustod yn wyneb cymryd risgiau, methiant i roi meddyginiaeth a ragnodwyd, methiant i gynorthwyo gyda hylendid personol neu ddarparu bwyd, lloches, dillad;  esgeuluso emosiynol.
  • cam-drin ariannol mewn perthynas â phobl y gall fod ganddynt anghenion gofal a chymorth. Mae arwyddion posib cam-drin ariannol yn cynnwys:
    • newid annisgwyl i ewyllys y person;
    • gwerthu neu drosglwyddo'r cartref yn sydyn;
    • trafodion anarferol mewn cyfrif banc;
    • cynnwys enwau ychwanegol ar gyfrif banc yn sydyn;
    • llofnod nad yw'n debyg i lofnod arferol y person;
    • amharodrwydd neu bryder y person wrth drafod ei faterion ariannol;
    • rhoi rhodd sylweddol i ofalwr neu drydydd parti arall;
    • diddordeb sydyn gan berthynas neu drydydd parti arall yn lles y person;
    • biliau nad ydynt yn cael eu talu;
    • cwynion bod eiddo personol ar goll;
    • dirywiad mewn gwedd bersonol a all awgrymu bod deiet a gofynion personol yn cael eu hanwybyddu;
    • ynysu'r person yn fwriadol oddi wrth ffrindiau a pherthnasau gan roi rheolaeth lwyr dros eu penderfyniadau i berson arall.

Diogelu yn y cyngor: Diogelu a cham-drin - Abertawe

Diogelu Plant - Abertawe: Diogelu Pant - Abertawe

Diogelu Oedolion - Abertawe: Diogelu Oedolion - Abertawe

Unigolion Diogelu Dynodedig:Fel rhan o drefniadau diogelu Cyngor Abertawe, mae swyddogion arweiniol ym mhob gwasanaeth sy'n derbyn hyfforddiant diogelu sy'n benodol i'w rôl, sy'n medru cynghori cydweithwyr yn eu gwasanaeth am faterion diogelu. Cyfeirir at y swyddogion hyn fel Unigolion Diogelu Dynodedig.https://staffnet.swansea.gov.uk/namedsafeguardingpersons

TERMAU / DOLENNI ERAILL:

Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant a Phobl Ifanc (CSE):ystyr cam-fanteisio'n rhywiol ar blant yw gorfodi neu gymell plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol. Mae'n fath o gam-drin rhywiol difrifol a all gynnwys cyfnewid tâl o ryw fath, megis arian, ffôn symudol neu eitemau eraill, cyffuriau, alcohol, lle i aros, 'amddiffyniad', cyfeillgarwch neu serch. Bwriad y troseddwyr, y gwelir tystiolaeth ohono yn y broses baratoi a ddefnyddir drwy gyfryngau cymdeithasol yn aml, yw manteisio ar fregusrwydd y plentyn neu'r person ifanc, sy'n methu â rhoi cydsyniad gwybodus. Mae eu gweithredoedd yn ymgais i wneud i ddioddefwyr deimlo'n ddi-rym, heb ddeall natur ymelwol y perthnasoedd, a'u hatal, drwy orfodaeth, rhag rhoi gwybod i neb am yr hyn sy'n digwydd iddynt. Camfanteisio'n rhywiol ar blant - Abertawe

Cam-drin Domestig - Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy'n cynnwys ymddygiad sy'n rheoli, yn gorfodi neu'n bygwth, neu drais neu gam-drin rhwng y rheini sy'n 16 oed ac yn hŷn sy'n bartneriaid personol, neu sydd wedi bod yn bartneriaid personol, neu rhwng aelodau o'r teulu ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, y mathau canlynol o gam-drin: cam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol (Diffiniad Swyddfa Gartref y Deyrnas Unedig o Gam-drin Domestig, 2013)  Strategaeth Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Abertawe 2017- 22 (abertawe.gov.uk)

Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) - mae dyletswydd orfodol ar weithwyr proffesiynol i adrodd am anffurfio organau cenhedlu benywod o dan Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (Cymru a Lloegr) 2003:  llyw.cymru/llinell-gymorth-byw-heb-ofn/anffurfio-organau-cenhedlu-benywod

Troseddau Casineb - mae'r rhain yn dramgwyddau troseddol sy'n cael eu gweld gan y dioddefwr, neu gan unrhyw berson arall, fel rhai sydd wedi'u hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn ar sail anabledd, hil, crefydd a chred, cyfeiriadedd rhywiol a thrawsryweddol gwirioneddol neu dybiedig y dioddefwr.llyw.cymru/mae-casineb-yn-brifo-cymru

Hawliau Dynol - o dan adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998, mae dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â hawliau dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae Rhan 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi nifer o'r hawliau sy'n rhan o'r Confensiwn ar waith:

Erthygl 2 - yr hawl i fywyd a amddiffynnir;

Erthygl 3 - yr hawl i ryddid rhag triniaeth annynol neu ddiraddiol;

Erthygl 5 - yr hawl i ryddid a diogelwch;

Erthygl 6 - yr hawl i wrandawiad teg;

Erthygl 8 - yr hawl i barch at eich bywyd preifat, eich bywyd teuluol, eich cartref a'ch gohebiaeth

Masnachu Pobl - caiff dioddefwyr eu gorfodi neu eu twyllo gan y sawl sy'n trefnu i'w symud. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth rhwng masnachu oedolion a masnachu plant, oherwydd pan fo'r dioddefwr yn blentyn nid oes angen i orfodaeth na thwyll fod yn bresennol er mwyn i'r plentyn gael ei ystyried ei fod wedi'i fasnachu:  /www.south-wales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/ms/Masnachu-pobl/

Caethwasiaeth Fodern: recriwtio pobl drwy dwyll neu orfodaeth a'u symud i le newydd lle gellir cam-fanteisio arnynt:  Staffnet Abertawe - 7.18 Caethwasiaeth Fodern

Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn gwneud darpariaethau o ran caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur dan orfod neu lafur gorfodol a masnachu pobl, gan gynnwys darpariaeth i amddiffyn dioddefwyr. Mae'r Ddeddf yn cydgrynhoi ac yn egluro troseddau presennol caethwasiaeth a masnachu pobl ac ar yr un pryd yn cynyddu'r gosb fwyaf ar gyfer troseddau o'r fath. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno mesurau i gefnogi ac amddiffyn dioddefwyr ac yn cyflwyno gofynion datgelu ar gyfer busnesau gyda'r nod o ddileu caethwasiaeth a masnachu pobl o gadwyni cyflenwi.  llyw.cymru/caethwasiaeth

PREVENT -mae dyletswydd ar y cyngor hefyd o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 i roi 'sylw dyledus i'r angen am atal pobl sy'n agored i niwed rhag cael eu tynnu i mewn i eithafiaeth a gweithredoedd terfysgol':  Staffnet Abertawe - Strategaeth PREVEN

Atodiad 2a: Strwythur Llywodraethu 

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe
Gweithwyr amlasiantaeth gweithredol
Y Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd
(Cynrychiolwyr Amlasiantaeth Abertawe)
Tîm Rheoli Corfforaethol

Prif Weithredwr:
Martin Nicholls
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
(Abertawe Mwy Diogel)
Grŵp Arweinyddiaeth

Penaethiaid Gwasanaeth
 ↓
Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg
(Amlasiantaeth)
Bwrdd Diogelu Iau Grŵp Llywio Gweithredol Diogelu Corfforaethol

Cadeiryddion:  David Howes
Aelod y Cabinet/Aelod Arweiniol: Y Cyng. Louise Gibbard
Paneli Craffu PerfformiadPwyllgor Datblygu Corfforedig Trechu Tlodi 
 ↓
Gweithgor Diogelu Corfforaethol 
 ↓

Cyflogaeth Ddiogel

  • Polisi recriwtio
  • Gwiriadau CRB/GDG
  • Disgrifiadau swydd
  • Ymwybyddiaeth staff
  • Contractwyr/darparwyr
  • Pryderon
  • Gwirfoddolwyr

Gweithlu Diogel

  • Sefydlu
  • Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi
  • Rhoi rhaglen y cyngor cyfan ar waith
  • Rolau arweiniol
  • Monitro a gwerthuso

Arfer Diogel

  • Ataliaeth
  • Ymyrryd yn Gynnar
  • Cysylltiadau â'r SPOC
  • Sylwi! Hysbysu!
  • Gweithgareddau sicrhau ansawdd rheolaidd
  • Fframwaith sicrhau ansawdd y gyfarwyddiaeth
  • Trefniadau ar draws y cyngor
  • Ymgyrchoedd
  • Cyfathrebiadau
​​​​​​Partneriaethau Diogel
  • Dolenni i'r Bwrdd Rhanbarthol/Is-grwpiau
  • Dolenni i'r TRhC
  • Dolenni i Bartneriaethau Strategol Allweddol
  • Dolenni i Addysg/Ysgolion

Llais Diogel

  • Gwneud diogelu'n bersonol
  • Eiriolaeth
  • Gweithio gyda theuluoedd, gofalwyr a chymunedau
  • Cyfathrebu Cydweithredol
  • Sicrhau Ansawdd

Perfformiad Diogel

  • Adolygiad blynyddol-
  • Polisi 
  • Camau gweithredu ar gyfer gwella
  • Mesurau perfformiad
  • Crynodeb archwiliad
  • Parodrwydd rheoleiddiol.
Atodiad 2b. Camau Gweithredu ar gyfer Gwella (yn gysylltiedig ag adrannau'r polisi)

Grwpiau Tasg

Camau Gweithredu ar gyfer Gwella

1.  Llywodraethu Diogel

 

Swyddog Cyfrifol:

 David Howes

 

 

  • Gweithio gydag aelod etholedig arweiniol y Cabinet i arwain a rhoi cyfarwyddiadau i'r cyngor o ran trefniadau diogelu corfforaethol, sicrhau bod diogelu'n flaenoriaeth gorfforaethol, a gweithredu o fewn cwmpas y pum dull o weithio er mwyn cyfrannu at amcanion lles Abertawe
  • Ymgorffori'r polisi diogelu corfforaethol mewn arfer gwell ar draws y cyngor cyfan
  • Cymeradwyo rhaglenni gwaith/camau gwella gweithredu ar gyfer gwella 
  • Monitro'r gwelliannau perfformiad
  • Ymagwedd 'gwersi a ddysgwyd' tuag at unrhyw ddigwyddiadau neu adroddiadau allweddol bwysig

2.  Cyflogaeth Ddiogel

 

Swyddog Cyfrifol:

Nicola Reed

 

 

  • Diweddaru'r elfennau diogelu ym mholisi recriwtio a llawlyfr staff y cyngor
  • Sicrhau y cwblheir gwiriadau GDG ar gyfer rolau y nodwyd bod angen GDG ar eu cyfer ac adolygu prosesau/polisïau GDG - pwy sy'n adolygu'r penderfyniad ynghylch asesiadau risg GDG a'r angen am hyn.
  • Sicrhau bod pob disgrifiad swydd yn adlewyrchu rolau a chyfrifoldebau diogelu
  • Pob contractwr i gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â Pholisïau Diogelu Cyngor Abertawe a bod ei staff neu isgontractwyr yn ymwybodol o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, a'u bod yn gallu darparu hyfforddiant cynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelu pan fo angen
  • Recriwtio gwirfoddolwyr yn ddiogel

3.  Gweithlu Diogel

 

Swyddog Cyfrifol:

Teresa Mylan-Rees

 

  • Sicrhau bod yr holl staff ac aelodau etholedig ar draws gyfarwyddiaethau Cyngor Abertawe, yn ogystal â'n gofalwyr maeth, ein CPau taliadau uniongyrchol a'n darparwyr a gomisiynir wedi'u hyfforddi/cymhwyso i'r lefel briodol, ac felly'n ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'u dyletswyddau i adrodd mewn perthynas â diogelu oedolion a phlant. 
  • Sicrhau bod gan Gyngor Abertawe gofrestr o arweinwyr diogelu ym mhob ardal a bod gan bob ardal Berson Diogelu Dynodedig.

4.  Arfer Diogel

 

Swyddog Cyfrifol

  • Nodi camau i gefnogi ymyrryd yn gynnar ac atal
  • Adolygu a monitro pryderon hysbysu, a sut bydd arweinwyr yn cysylltu â gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth statudol y cyngor (gweler Atodiadau 3a a 3b).
  • Gwerthuso trefniadau ehangach y cyngor - drwy edrych ar atgyfeiriadau, ymatebion a chanlyniadau.
  • Gweithgarwch sicrwydd ansawdd ansoddol a meintiol rheolaidd yn y Gwasanaethau Plant
  • Datblygu fframwaith tebyg yn y gwasanaethau i oedolion
  • Cefnogi ymgyrchoedd a chyfathrebiadau ar draws y cyngor cyfan i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiogelu

5.  Partneriaethau Diogel

 

Swyddog Cyfrifol

  • Meithrin cysylltiadau, yn unol â'r strwythur llywodraethu diogelu corfforaethol, e.e. y Tîm Rheoli Corfforaethol, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, Bwrdd Diogelu'r Cyhoedd, y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol
  • Cysylltiadau ag ysgolion a chysylltiadau mewn ysgolion
  • Cynrychiolaeth ar Fyrddau Rhanbarthol ac mewn partneriaethau strategol  
  • Rhoi adroddiadau ar ddatblygiadau/ymgyrchoedd rhanbarthol

 

6.  Llais Diogel

 

Swyddog Cyfrifol: Ffion Larsen

  • Sicrhau bod gan unigolion "lais diogel" ar faterion diogelu dwy ddarparu llais cryfach a rheolaeth ystyrlon dros y gefnogaeth maent yn ei derbyn, a chael gwared ar unrhyw rwystrau i gyflawni eu canlyniadau lles. 
  • Hefyd mae angen i sicrhau bod unigolion yn teimlo eu bod nhw'n bartneriaid cyfartal yn y broses a bod ymyriad yn ystyrlon. 
  • Bydd ffocws ar ymyrryd yn gynnar i atal anghenion rhag cynyddu.

7.  Perfformiad Diogelu

 

Swyddog Cyfrifol:

Simon Jones

  • Fframwaith Perfformiad Corfforaethol, gyda gweithgareddau gwella wedi'u cysylltu â blaenoriaeth gorfforaethol - diogelu (llinyn euraidd)
  • Adolygiad blynyddol o gynnydd - Cynllun Corfforaethol / Adrodd Blynyddol
  • Polisi Diogelu Corfforaethol - diweddaru/adnewyddu yn ôl y gofyn (cyd-gynhyrchu gydag aelodau etholedig)
  • Ansawdd Data/adrodd am fesurau perfformiad allweddol
  • Parodrwydd rheoleiddiol/arddangos cydymffurfio â thystiolaeth

Atodiad 3b Diogelu Plant a Phobl Ifanc - Adrodd

SYLWI! HYSBYSU!

Gall pryder ymwneud â phlentyn neu berson ifanc dan 18 mlwydd oed.

Mae dyletswydd statudol i roi gwybod am bryderon p'un a yw'r plentyn yn byw yn barhaol yn ardal Abertawe neu beidio.

Os credwch fod pryderon ynghylch amddiffyn plant, dylech geisio cyngor gan eich arweinydd diogelu ar unwaith, neu'r gwasanaeth GCCh arbenigol.

Pan fydd gan un o weithwyr, aelodau etholedig neu bartneriaid Cyngor Abertawe bryder am les neu ddiogelwch plentyn
Mae gan bob un o wasanaethau'r cyngor Berson Diogelu Dynodedig i helpu gweithwyr i ddelio â phryderon a materion diogelu plant.  
Mae'n rhaid i staff hefyd ddilyn polisïau a gweithdrefnau perthnasol ar gyfer eu gwasanaeth a'u cyfarwyddiaeth unigol
 
A. Ni chredir bod y plentyn mewn perygl enbyd ond mae pryder o hyd am ei ddiogelwch neu les B. Os credir bod y plentyn mewn perygl enbyd
 
Cysylltwch â'ch Rheolwr Llinell a/neu'r Arweinydd Diogelu

Ceisiwch sicrhau bod eu rhifau gennych ar eich ffôn symudol ar gyfer y gwaith Os na fydd eu rhif ffôn gennych, ffoniwch y ganolfan gyswllt neu defnyddiwch y cyfeiriadur rhifau ffôn ar staffnet. Gellir gweld cyfeiriadau e-bost hefyd yn llyfr cyfeiriadau e-bost Outlook
 Yn gyntaf, os bydd angen gwasanaeth brys - peidiwch ag oedi!  
(Yr Heddlu, Ambiwlans, Tân ac Achub)
Ffoniwch 999, neu ffoniwch
Orsaf Heddlu Ganolog Abertawe
FFÔN: 01792 450699
Yna, rhowch wybod i'ch rheolwr llinell, a/neu'r arweinydd diogelu.
 
Dylai gweithwyr siarad â'r Arweinydd Diogelu neu eu Rheolwr Llinell ar yr un diwrnod ag y daw'r digwyddiad, y pryder neu'r honiad i'r amlwg.Cysylltwch â SPOC y Gwasanaethau Cymdeithasol  
i gael cyngor arbenigol ar bryderon diogelwch plant ac amddiffyn plant.
FFÔN: 01792 636700
NEGES DESTUN: 07796275457
E-BOST:
singlepointofcontact@swansea.gov.uk  
Gellir penderfynu ar unwaith a fydd angen ceisio cyngor arbenigol ar yr  achos, a dilyn y gweithdrefnau corfforaethol ar gyfer gwneud atgyfeiriad diogelu i'r gwasanaethau cymdeithasolY tu allan i oriau swyddfa  
Y Tîm Dyletswydd Brys (TDB)
 FFÔN: 01792 775501
E-BOST: edt.edt@abertawe.gov.uk

Mae'r tîm hwn yn delio ag argyfyngau na ellir eu gadael tan y diwrnod gwaith nesaf.

Atodiad 3b Diogelu Oedolion  Agored i Niwed - Adrodd

SYLWI! HYSBYSU!

 

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016, mae dyletswyddau statudol newydd i amddiffyn oedolyn agored i niwed 'sy'n wynebu risg'.

Mae dyletswydd i roi gwybod am bryderon ynghylch oedolyn sy'n wynebu risg, ac mae dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud ymholiadau os oes achos rhesymol i amau bod person yn ei ardal (p'un a yw'n preswylio yno fel arfer neu beidio) yn 'oedolyn sy'n wynebu risg'.

Pan fydd gan un o weithwyr, aelodau etholedig neu bartneriaid Cyngor Abertawe bryder am oedolyn sy'n wynebu risg
Mae gan bob un o wasanaethau'r cyngor Berson Diogelu Dynodedig i helpu gweithwyr i ddelio â phryderon a materion am ddiogelu plant.
Mae'n rhaid i staff hefyd ddilyn polisïau a gweithdrefnau perthnasol ar gyfer eu gwasanaeth a'u cyfarwyddiaeth unigol
 
A. Os credir nad yw'r oedolyn agored i niwed mewn perygl enbyd B. Os credir bod yr oedolyn agored i niwed mewn perygl enbyd
 
Cysylltwch â'ch Rheolwr Llinell a/neu'r Arweinydd Diogelu, gan roi'r manylion sydd gennych yn barod.

Ceisiwch sicrhau bod eu rhifau gennych ar eich ffôn symudol ar gyfer y gwaith
Os na fydd eu rhif ffôn gennych, ffoniwch y ganolfan gyswllt neu defnyddiwch y cyfeiriadur rhifau ffôn ar staffnet.  Gellir gweld cyfeiriadau e-bost hefyd yn llyfr cyfeiriadau e-bost Outlook.
 Yn gyntaf, os bydd angen gwasanaeth brys - peidiwch ag oedi!  
(Yr Heddlu, Ambiwlans, Tân ac Achub)
Ffoniwch 999, neu ffoniwch
Orsaf Heddlu Ganolog Abertawe
FFÔN: 01792 450699.
Yna, rhowch wybod i'ch rheolwr llinell, a/neu'r arweinydd diogelu
 
Dylai gweithwyr siarad â'r Arweinydd Diogelu neu eu Rheolwr Llinell ar yr un diwrnod ag y daw'r digwyddiad, y pryder neu'r honiad i'r amlwg.  Cysylltwch â Phwynt Mynediad Cyffredin y Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ffonio 01792 636519
Gellir penderfynu ar unwaith a fydd angen ceisio cyngor  arbenigol ar yr achos, a dilyn y gweithdrefnau corfforaethol ar gyfer gwneud atgyfeiriad diogelu i'r gwasanaethau cymdeithasol.    Y tu allan i oriau swyddfa  
Y Tîm Dyletswydd Brys (TDB)
FFÔN: 01792 775501
E-BOST:  edt.edt@abertawe.gov.uk

Mae'r tîm hwn yn delio ag argyfyngau na ellir eu gadael tan y diwrnod gwaith nesaf.

Atodiad 4: Unigolion Diogelu Dynodedig Cyngor Abertawe (rolau)

Mae'r Unigolion Diogelu Dynodedig a'r Rheolwyr Strategol ym mhob maes gwasanaeth fel a ganlyn (gall y rhain newid, ewch i'r ddolen isod) https://staffnet.swansea.gov.uk/namedsafeguardingpersons

Cyfarwyddiaeth/Adran

Person Diogelu Dynodedig

Rolau

Rolau Rheolwr Diogelu Strategol

Gwasanaethau Cymdeithasol (Plant)

Prif Swyddog Diogelu, ac Ansawdd Perfformiad *  

A elwir hefyd yn Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol

Prif Swyddog Diogelu, ac Ansawdd Perfformiad

Gwasanaethau Cymdeithasol (Oedolion)

Prif Swyddog Gwaith Cymdeithasol Proffesiynol - Oedolion

Prif Swyddog Gwaith Cymdeithasol Proffesiynol - Oedolion

Gwasanaethau Tai a Diogelu'r Cyhoedd

Rheolwr y Gwasanaethau Landlordiaid

Rheolwr y Gwasanaethau Landlordiaid

Gwasanaethau Diwylliannol

Prif Lyfrgellydd

Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol

Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael

Cyfreithiwr y Gyfarwyddiaeth (y Tîm Pobl)

Cyfreithiwr y Gyfarwyddiaeth

(y Tîm Pobl)

Cymorth cynnar

Rheolwr yr Hybiau Cymorth Cynnar

Prif Swyddog Cymorth Cynnar neu Brif Swyddog Diogelu ac Ansawdd Perfformiad

Dysgu a Datblygu Corfforaethol

Rheolwr Dysgu a Datblygu Corfforaethol

Rheolwr Dysgu a Datblygu Corfforaethol

Cyfathrebu a Chynnwys Cwsmeriaid

Pennaeth Cyfathrebu

Pennaeth Cyfathrebu

Gwybodaeth a Newid Busnes

Cynorthwy-ydd Trawsnewid a Rhaglen TGCh

Pennaeth Gwybodaeth a Newid Busnes

Pennaeth Gwybodaeth a Newid Busnes

Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig

Arweinydd Grŵp - Cludiant

Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol

Arweinydd Grŵp, Cynnal a Chadw

Arweinydd Grŵp, Cynnal a Chadw

Dysgu Gydol Oes

Rheolwr Gweithredol

Arweinydd Tîm y Gwasanaethau Dysgwyr

Rheolwr Gweithredol

Addysg

Swyddog Diogelu Addysg

Pennaeth Dysgwyr Diamddiffyn

Rheoli Gwastraff a Pharciau

Goruchwylydd y Tîm Lleihau Gwastraff, Ailgylchu Masnachol a Domestig

Goruchwylydd y Tîm Lleihau Gwastraff, Ailgylchu Masnachol a Domestig

Gwasanaethau Ariannol a Pherfformiad

 

Rheolwr Perfformiad Busnes

Adfywio Economaidd a Chynllunio

Rheolwr Canol y Ddinas

Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio

Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio

 

Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Prif Swyddog AD

Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Pob Pennaeth Gwasanaeth

Bydd pob Pennaeth Gwasanaeth - drwy ei Dîm Rheoli - yn gyfrifol ar y cyd am sicrhau bod yr holl ofynion statudol o ran diogelu a hybu lles plant ac oedolion yn derbyn ystyriaeth briodol. Mae hyn yn cynnwys ansawdd, cynnwys ac amlder yr hyfforddiant a ddarperir a chynnal cofnodion hyfforddiant staff digonol.

Atodiad 5: Gwybodaeth ddefnyddiol arall (gwybodaeth i'r cyhoedd)

Archwilio Cymru:Diogelu Corfforaethol ar draws Cymru | Archwilio Wales

Arolygiaeth Gofal Cymru:https://www.arolygiaethgofal.cymru/

Hawliau Plant a Phobl Ifanc, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn:

Comisiynydd Plant:https://www.complantcymru.org.uk/

Mae DEWIS CYMRU yn adnodd pwysig ar gyfer chwilio'r we am wybodaeth ynghylch lles yng Nghymru, gan gynnwys gwybodaeth am "Fod yn Ddiogel":  Hafan - Dewis Cymru

Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol: bwrdddiogelu.cymru/?noredirect=cy_GB

Canllaw Arferion Da Diogelu Corfforaethol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Corfforaethol:  https://bwrdddiogelu.cymru/2022/05/12/corporate-safeguarding-good-practice-guidance/?noredirect=cy_GB

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:https://comisiynyddph.cymru/

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus www.ombwdsmon.cymru/fact-sheets/gwasanaethau-cymdeithasol-gwybodaeth-gyffredinol/

Hawliau Oedolion Hŷn: https://www.abertawe.gov.uk/eichHawliauFelPersonHyn?lang=cy

SCIE - Diogelu: https://www.scie.org.uk/safeguarding

Polisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Abertawe: Polisi Diogelu Corfforaethol - Abertawe

Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru: http://www.waspi.org/home

Llywodraeth Cymru:  https://gofalcymdeithasol.cymru/dysgu-a-datblygu/diogelu

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Hydref 2023