Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Diogelu eiddo gwag a'i gadw'n ddiogel rhag twyll

Gall eiddo gwag fod yn darged i droseddwyr, yn enwedig o ran dwyn pibellau neu geblau copr. Gallant hefyd fod yn destun 'sgamiau' eiddo lle mae sgamwyr yn ceisio cofrestru'r eiddo yn eu henw a'i werthu ymlaen.

Diogelu eiddo gwag

Cyfrifoldeb y perchnogion yw cynnal a chadw a diogelu eiddo gwag fel nad yw'n peri niwsans i bobl eraill.

Rydym yn argymell eich bod yn

  • yswirio'r adeilad â'r lefel briodol o yswiriant
  • ystyried diffodd y dŵr wrth y stopfalf a draenio'r rheiddiaduron os bydd yr eiddo'n wag am gyfnod amhenodol o amser. Gwiriwch a oes gennych gyflenwad dŵr a rennir yn gyntaf
  • gosod switsys amseru ar oleuadau fel eu bod yn dod ymlaen gyda'r nos sy'n rhoi'r argraff bod rhywun yn byw yno
  • gosod golau diogelwch i oleuo ardaloedd tywyll
  • gosod cloeon o ansawdd da ar y ffenestri a'r drysau
  • rhoi llenni rhwyllog neu gysgodlenni ar y ffenestri fel na ellir gweld y tu mewn yn hawdd iawn
  • sicrhau bod yr ardd yn daclus a sicrhau bod y biniau yn wag ac wedi'u rhoi o'r neilltu. Bydd hyn hefyd yn cadw'ch cymdogion yn hapus
  • rhoi gwybod i'ch cymdogion os ydych ar delerau da gyda nhw, fod yr eiddo'n wag. Efallai y gallwch roi eich rhif ffôn iddynt fel y gallant gysylltu â chi os ydynt yn gweld neu'n clywed unrhyw beth anarferol yn yr eiddo
  • sicrhewch fod gan yr eiddo larwm lladron sy'n gweithio a sicrhewch fod drysau a ffenestri wedi'u cloi. Neu, dylech ystyried gosod camerâu diogelwch. Gall hyn fod yn ffordd eithaf rhad o atal ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • ystyried cadw'r gwres yn isel ar amserydd yn y gaeaf er mwyn atal eich pibellau rhag byrstio
  • sicrhau bod post yn cael ei gasglu o'r eiddo yn rheolaidd.

Os bydd y gwaethaf yn digwydd a bydd rhywun yn torri i mewn i'r eiddo, mae atebion mwy parhaol ar gael fel gosod bordiau neu estyllod dur ar yr eiddo i atal mynediad i unrhyw un heb awdurdod. Os ydych chi'n rhagweld y bydd yr eiddo'n cael ei adael yn wag am gyfnod hir o amser, gall fod yn fuddsoddiad da gosod caeadau diogelwch yn y lle cyntaf oherwydd, yn y tymor hir, gall hyn arbed arian i chi rhag difrod o ganlyniad i rywun yn torri i mewn.

Mae amrywiaeth o gwmnïau diogelwch sy'n gallu helpu gydag atebion diogelwch ar gyfer eiddo gwag tymor hir, gan gynnwys larymau wedi'u cydgysylltu.

'Sgamiau' sy'n ymwneud â dwyn eiddo gwag

Gall troseddwyr geisio gwerthu neu forgeisio eiddo drwy ddynwared perchennog gan ddefnyddio dull adnabod ffug neu wedi'i ddwyn. Maent yn aml yn targedu unig berchnogion, yn enwedig ar gyfer eiddo heb ei forgeisio, perchnogion absennol, perchnogion sydd wedi marw, neu bobl sydd wedi cronni ecwiti yn eu heiddo.

Gelwir hyn yn 'dwyll gweithred', 'twyll teitl cartref', 'dwyn teitl', neu 'dwyn tŷ'. Mae'n golygu trosglwyddo a chofnodi teitl eiddo'n anghyfreithlon yn ddiarwybod i'r perchennog cyfreithiol neu heb ei ganiatâd. Mae troseddwyr yn aml yn targedu eiddo gwag, yn enwedig os yw'r perchennog cyfreithiol wedi marw. Mewn rhai achosion, gall hyn arwain at werthu'ch eiddo i berchennog newydd heb yn wybod i'r gwir berchennog.

Mae'n fath o ddwyn hunaniaeth lle mae troseddwyr yn ffugio llofnod y gwir berchennog ar y gweithredoedd wrth iddynt ei werthu iddynt hwy eu hunain. Pan fyddant yn cofrestru'r gwerthiant gyda'r Gofrestrfa Tir, byddant naill ai'n defnyddio dull adnabod twyllodrus, llofnod notari ffug, neu hyd yn oed yn gweithio gyda notari cofrestredig anfoesegol i gyflawni'r twyll. Ar ôl i'r eiddo ddod i'w meddiant, maent yn rhydd i wneud fel y mynnant, hyd yn oed ei werthu fel prynwr cyfreithlon.

Byddwch yn wyliadwrus, gan fod troseddwyr yn gweithredu yn ardal Abertawe. Cysylltodd un perchennog eiddo gwag â mi ym mis Rhagfyr 2022 i roi gwybod i mi am sefyllfa lle'r oedd troseddwr wedi torri i mewn i'w eiddo, wedi gosod blwch post ar y tu allan i'r eiddo i sicrhau ei fod yn gallu casglu unrhyw bost ac yna wedi cofrestru'r eiddo yn ei enw gyda Chofrestrfa Tir EF. Yn ffodus, yn yr achos hwn, daeth y perchennog yn ymwybodol o'r twyll a llwyddodd i wrthdroi'r gwerthiant cyn i'r troseddwr allu ei werthu.

Mae eich eiddo mewn mwy o berygl os

  • yw'r eiddo'n wag
  • rydych yn rhentu'ch eiddo
  • rydych yn byw dramor
  • nad oes morgais ar yr eiddo
  • nad yw'r eiddo wedi'i gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF
  • mae eich hunaniaeth wedi'i dwyn

Mesurau y gallwch eu cymryd i helpu i atal twyll eiddo

  • Cofrestrwch i dderbyn unrhyw rybuddion sy'n nodi bod newid i wybodaeth am eich eiddo.

Bydd hyn yn eich rhybuddio os bydd rhywun yn gwneud cais i newid cofrestr eich eiddo, er enghraifft os bydd rhywun yn ceisio defnyddio'ch eiddo ar gyfer morgais.

Property Alert (www.gov.uk) (Yn agor ffenestr newydd)

  • Rhowch wybod i Gofrestrfa Tir EF os byddwch yn newid eich cyfeiriad cyswllt

Mae hyn yn sicrhau bod pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'ch eiddo'n dod atoch yn eich cyfeiriad gohebu. Yn gryno - os nad yw Cofrestrfa Tir EF yn gwybod eich cyfeiriad gohebu cywir yna ni allant roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i'r teitl.

Cofrestru tir neu eiddo gyda Chofrestrfa Tir EF - Diweddaru neu gywiro'r gofrestr (www.gov.uk) (Yn agor ffenestr newydd)

  • Rhowch Gyfyngiad ar y Teitl

Gallwch atal Cofrestrfa Tir EF rhag cofrestru gwerthiant neu forgais ar eich eiddo oni bai fod trawsgludwr neu gyfreithiwr yn ardystio bod y cais wedi'i wneud gennych chi.

Ar gyfer perchnogion nad ydynt yn byw yn yr eiddo gallwch lenwi 'cais am gyfyngiad ar gyfer perchnogion nad ydynt yn byw yn yr eiddo'.Os ydych yn berchen ar yr eiddo'n breifat - nid oes ffi. 

Cyfyngiad gan berchennog nad yw'n byw yn yr eiddo: cofrestru (RQ) (www.gov.uk) (Yn agor ffenestr newydd)

Os ydych wedi dioddef twyll eiddo

Cysylltwch â thîm twyll eiddo Cofrestrfa Tir EF os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef twyll eiddo.

Tîm twyll eiddo Cofrestrfa Tir EF
reportafraud@landregistry.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 006 7030
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Rhagor o wybodaeth am yr holl daliadau (Yn agor ffenestr newydd)

Gallwch hefyd wneud y canlynol:

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Chwefror 2024