Perchnogion eiddo gwag
Mae tai gwag yn wastraff adnoddau oherwydd bod llawer o bobl yn chwilio am rywle i fyw. Mae nifer o opsiynau cefnogi er mwyn i berchnogion ddefnyddio eu heiddo gwag eto.
Benthyciadau di-log i helpu i adnewyddu eiddo gwag
Mae nifer o gynlluniau ariannol sy'n gallu eich helpu i dalu am atgyweiriadau i eiddo gwag. Mae'r benthyciadau'n ddi-log. Mae'r math o fenthyciad y gallwch wneud cais amdano'n dibynnu ar a ydych chi am rentu'r eiddo neu fyw ynddo'ch hun.
Cynllun grantiau cartrefi gwag cenedlaethol Cynllun grantiau cartrefi gwag cenedlaethol
Cynllun benthyciadau gwella cartrefi cenedlaethol Cynllun benthyciadau gwella cartrefi cenedlaethol
Benthyciad Homefix Benthyciad Homefix
Cyngor ar eiddo gwag
P'un a ydych chi eisoes yn berchen ar eiddo gwag neu os ydych chi'n ystyried prynu eiddo sy'n wag, gallwn gynnig cyngor i chi. Mae llawer o gyngor isod sy'n trafod prynu, rhentu neu werthu eiddo gwag. Mae hefyd wybodaeth am bwerau gorfodi'r cyngor a sut i gadw eiddo gwag yn ddiogel.
Camau gorfodi
Pan fydd eiddo'n wag, gallant achosi problemau wrth i'w cyflwr waethygu. Gallwn fynd i'r afael â chasgliad o sbwriel, eiddo wedi'u gadael yn agored i fynediad heb ganiatâd neu amodau sy'n arwain at ddifrod i eiddo cyfagos.
I gael rhagor o wybodaeth am eiddo gwag gallwch gysylltu â ni: Swyddog Eiddo Gwag