Toglo gwelededd dewislen symudol

Ydych chi'n cael trafferth i ddod o hyd i ofal plant

Rhowch wybod i ni os nad ydych wedi llwyddo i ddod o hyd i'r gofal plant y mae ei angen arnoch.

O dan Ddeddf Gofal Plant 2006, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau, cyhyd ag y bo'n rhesymol ymarferol, ofal plant yn yr ardal, i ddiwallu anghenion y gymuned yn gyffredinol, a galluogi rhieni i wneud dewis gwirioneddol am waith.

Hoffai'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD) wybod a ydych wedi cael anhawster dod o hyd i ofal plant addas yn yr ardal.