Toglo gwelededd dewislen symudol

Draenio a rheoli'r arfordir

Rheoli'r amgylchedd draenio ac arfordirol yn Abertawe.

  • rheoli perygl llifogydd lleol a chyflawni gofynion Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a'r Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009
  • paratoi, dylunio a gweinyddu contractau
  • cysylltu â phartneriaid allanol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru'n arbennig, i ymgymryd â dyletswyddau statudol a chydymffurfio â hwy
  • awdurdod amddiffyn yr arfordir

Yn ogystal, mae'r gwasanaeth yn gyfrifol am reoli arfordir yr ardal ac mae'n falch o fod yn rhan o Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Bae Caerfyrddin. Mae'r grŵp wedi llunio'r Cynllun Rheoli Traethlin presennol sy'n mynd i'r afael a phedwar mater allweddol:

  • prosesau arfordirol
  • yr amgylchedd naturiol
  • effaith dyn
  • amddiffynfeydd arfordirol yr amgylchedd adeiledig

Cynllun Rheoli Traethlin Bae’r Gorllewin (PDF, 2 MB)

Disgwylir y bydd Cynllun Rheoli Traethlin 2 ar gael yn ddiweddarach eleni.

E-bostiwch: draenio.arfordirol@abertawe.gov.uk

Rheoleiddio Cyrsiau Dŵr Cyffredin

Rydym yn rhoi caniatâd ar gyfer gwaith i gyrsiau dŵr (nentydd a ffosydd, naturiol a gwneud, a chwlferi etc.) yn Ninas a Sir Abertawe.

Gwneud cais am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin

Ffurflen gais a nodiadau arweiniol ar gyfer Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin (PDF, 285 KB)

Os ydych yn pryderu ynglŷn â gwaith i gwrs dŵr cyffredin yn eich hardal leol, gallwch anfon e-bost atom yn draenio.arfordirol@abertawe.gov.uk i bennu a oes angen caniatâd ar gyfer y gwaith, ac a gyflwynwyd cais am ganiatâd neu beidio.

Byddwn yn cymryd ymagwedd risg at orfodi lle bydd gwaith heb ganiatâd wedi'i gyflawni ar gyrsiau dŵr cyffredin. Diben rheoleiddio cyrsiau dŵr cyffredin yw rheoli rhai gweithgareddau a allai achosi llifogydd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Mehefin 2023