Toglo gwelededd dewislen symudol

Eithriadau TAW ar gyfer eiddo gwag

Os ydych yn meddwl am adnewyddu eiddo gwag er mwyn ei rentu, gallwch fod yn gymwys am ostyngiad ar TAW.

Bydd eithriadau yn berthnasol i'r achosion canlynol

Gostyngiad mewn TAW i 5% ar gost adnewyddu anheddau tai sengl sydd wedi bod yn wag am o leiaf dwy flynedd

Er mwyn gwneud cais am y gostyngiad hwn, rhaid i chi gyflogi adeiladwr sydd wedi'i gofrestru at ddibenion TAW. Yr enw am y gostyngiad hwn yw Adeiladau ac adeiladu (Hysbysiad TAW 708) (Yn agor ffenestr newydd).

Ar gyfer hyn, bydd yn rhaid i'r adeiladwr dalu'r gyfradd lawn o TAW ar ddeunyddiau, ond byddai'n codi 5% ar berchennog y tŷ. Yna cyfrifoldeb yr adeiladwr fydd ailhawlio'r 15% sy'n weddill. Ni chaiff yr adeiladwr godi tâl am 20% ac yna dweud mai cyfrifoldeb y perchennog yw hawlio'r 15% sy'n weddill yn ôl.

Dylai'r adeiladwr fod yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth a bydd yn gwybod os yw'r cymhelliad yn gymwys i brosiect cyn cychwyn ar y gwaith. Os yw'n ansicr am unrhyw reswm yna argymhellir iddo gysylltu â'i gyfrifydd a ddylai fod yn gallu egluro'r sefyllfa o ran unrhyw amgylchiadau penodol.

Cyfradd sero ar werthu adeiladau sydd wedi'u hadnewyddu nad ydynt wedi'u defnyddio at ddibenion preswyl am o leiaf deng mlynedd

Ni ellir hawlio'r eithriad hwn nes bod yr eiddo wedi'i werthu (h.y. nid yw'r gostyngiad ar gael lle mae'r eiddo'n cael ei rentu). Mae'n bwysig nodi bod yn rhaid i'r datblygwr fod yn gofrestredig at ddibenion TAW neu wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, a bydd yn rhaid i'r eiddo gael ei werthu er mwyn hawlio'r TAW.

Os bydd perchennog y tŷ am gadw'r eiddo at ddefnydd preswyl yn lle ei werthu, gall wneud cais am werth y TAW dan y Cynllun Adeiladwyr Tai DIY sydd ar gael gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF).

Am ragor o wybodaeth, gweler Cynllun Adeiladwyr Tai DIY (Yn agor ffenestr newydd).

Sut mae'r cynllun yn effeithio ar berchennog y tŷ

Y prif wahaniaeth rhwng y ddau gymhelliad yw pan fo'r eiddo wedi bod yn wag am ddwy flynedd, nid oes yn rhaid i'r perchennog wneud unrhyw beth ond talu'r TAW ar gyfradd is. Os yw'r eiddo wedi bod yn wag am 10 mlynedd, bydd yn rhaid i'r perchennog dalu'r gyfradd TAW lawn ac yna hawlio'r tâl yn ôl.

Efallai na fydd hyn yn addas i gyllid perchennog y tŷ. Felly efallai bydd y perchennog yn ffafrio talu TAW ar 5% yn lle 0%. Mae'r cyfnod o ddwy flynedd yn dal yn berthnasol, hyd yn oed os yw'r cyfnod o 10 mlynedd wedi dod i ben.

Sut mae'r cynlluniau yn effeithio ar yr adeiladwr

Dan y cynllun 5%, bydd cyfrifoldeb ychwanegol gan yr adeiladwr i ailhawlio'r TAW sy'n weddill ac efallai na fydd yn hapus gyda'r sefyllfa hon. Efallai bydd yr adeiladwr yn penderfynu nad yw'n werth gwneud y gwaith. Dyna pam y mae'n bwysig cytuno â'r adeiladwr yn eich cyfarfod cyntaf. Does dim budd i'r adeiladwr dan y cynllun 5%.

Mae'r cynllun 0% ar gyfer adeiladwyr neu ddatblygwyr mwy gan eu bod yn berchen ar yr eiddo y caiff gwaith ei wneud iddo. Felly maent yn elwa'n llawn o'r cymhelliad.

Cwestiynau allweddol

Sut gall yr awdurdod lleol helpu?

Gallwn ysgrifennu llythyr swyddogol i gadarnhau pa mor hir y mae'r eiddo wedi bod yn wag; gall hyn gael ei ddangos i'r adeiladwr a gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth i'w rhoi i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF).

Bydd yn llythyr hwn yn cadarnhau am ba mor hir mae'r tŷ wedi bod yn wag a pha gynllun sy'n gweithredu'n unig. Ni fydd yn rhoi cadarnhad bod y gwaith wedi'i ddechrau neu wedi'i gyflawni.

Cysylltwch â Sally Jones (Swyddog Eiddo Gwag - Cyngor Abertawe) a fyddai'n hapus i wirio am ba hyd y mae'r eiddo wedi bod yn wag ac yn yn anfon llythyr swyddogol atoch yn cadarnhau hyn sally.jones3@sabertawe.gov.uk

Pa wybodaeth arall bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi'n ei derbyn fel tystiolaeth bod yr adeilad yn wag?

  • cofrestr etholiadol, data treth y cyngor
  • gwybodaeth gan gwmnïau cyfleustodau

Beth yw ystyr 'gwag' yn niffiniad Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi?

  • nid oes unrhyw un wedi byw yn unrhyw ran o'r eiddo am 2 flynedd (cyfradd is) neu 10 mlynedd (cyfradd sero)
  • gellir anwybyddu defnydd ar gyfer storio
  • gellir hefyd anwybyddu anheddu anghyfreithlon (sgwatwyr)
  • gellir anwybyddu preswyliad gwarcheidwaid

Ble gallaf ddod o hyd i fwy o wybodaeth?

Ffoniwch wasanaeth cyngor cenedlaethol Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi ar 0300 2003700

Buildings and construction (VAT Notice 708) guidance from Gov.uk (Yn agor ffenestr newydd)

DIY Housebuilders' Scheme guidance from Gov.uk (Yn agor ffenestr newydd)

Cyfradd is ar gyfer gosod deunyddiau arbed ynni

Mae cyfradd is o 5% yn gymwys ar gyfer gosod deunyddiau arbed ynni penodol mewn llety preswyl. Mae hyn yn cynnwys gosod:

  • systemau rheoli gwresogi canolog a dŵr twym
  • mesurau atal drafftiau
  • inswleiddio
  • paneli solar
  • tyrbinau gwynt
  • tyrbinau dŵr
  • pympiau gwres ffynhonnell y ddaear
  • pympiau gwres ffynhonnell yr aer
  • micro-unedau gwres a phŵer cyfunol
  • boeleri tanwydd pren.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan CThEF Energy-saving materials and heating equipment (VAT Notice 708/6) (Gov.uk) (Yn agor ffenestr newydd)

Sylwer bod yr wybodaeth hon yn gywir ar adeg ei chyhoeddi (Ebrill 2022). Mae'n bwysig gwirio gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Chwefror 2024