Cais am ffotograffiaeth priodasau
Gwnewch gais i dynnu ffotograffau priodas yn rhai o barciau syfrdanol Abertawe.
Treuliwch ychydig o funudau yn cwblhau'r ffurflen hon mor fanwl â phosib fel y gall eich cais gael ei ystyried.
Sylwer:
Cadarnhad
- Yn dilyn derbyn eich cais, bydd y Tîm Digwyddiadau'n gwirio argaeledd y parc o'ch dewis.
- Os yw'r parc ar gael ar y dyddiad/yr amser a ddewisir gennych, byddwch yn derbyn cadarnhad yn ysgrifenedig.
- Dylech fynd â chopi o'ch cadarnhad gyda chi ar y diwrnod hwnnw rhag ofn y cewch eich herio gan aelodau staff y parciau neu unrhyw berson arall â buddiant.
- Caniatewch hyd at 14 o ddiwrnodau ar gyfer y broses cadarnhau.
Cerbydau
- Os caiff y cais ei gymeradwyo efallai y bydd yn bosib mynd â cherbydau i mewn i'r parc. Caiff hyn ei gadarnhau gyda chi cyn y diwrnod.
- Os caiff cerbydau eu hawdurdodi, car y priodferch a'r priodfab a char y ffotograffydd caiff eu cymeradwyo yn unig.
- Bydd angen i unrhyw gerbydau sy'n gyrru yn y parc deithio ar uchafswm o 5mya gyda goleuadau rhybudd y cerbyd yn fflachio.
- Dylid cymryd gofal i beidio â pharcio'ch cerbydau mewn ardaloedd lle gallant fynd yn sownd neu achosi difrod i'r parc.
Addaswyd diwethaf ar 15 Chwefror 2024