Toglo gwelededd dewislen symudol

Enwebwch rywun ar gyfer un o Wobrau Chwaraeon Abertawe

Mae cofrestru unigolyn neu dîm ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe yn gyflym ac yn hawdd.

Cwblhewch y ffurflen isod.

Mae'r meini prawf canlynol yn cyfeirio at bob categori. Rhaid i enwebeion naill ai:

  • Breswylio yn Ninas a Sir Abertawe
  • Cynrychioli ysgol, clwb neu dîm yn Ninas a Sir Abertawe
  • Wedi'i geni yn Ninas a Sir Abertawe

Dylai'r holl enwebiadau ystyried campau'r flwyddyn o 1 Ionawr i 6 Ionawr 2026. 

  • Yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe, mae 15 o wobrau ar draws y categorïau canlynol:

  • Chwaraewr y Flwyddyn: Yn agored i bob enwebai waeth beth fo'u hoedran. 
    Enillydd 2024 - Rachel Rowe (Pêl-droediwr Proffesiynol)

  • Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn: Yn agored i enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i'r enwebeion fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025. 
    Enillydd 2024 - Olivia Roberts (Jwdo)

  • Chwaraewr Iau'r Flwyddyn: Yn agored i enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i'r enwebeion fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025. 
    Enillydd 2024 - Lewie Jones (Gwaywffon)

  • Chwaraewr ag Anabledd y Flwyddyn: Yn agored i bob enwebai waeth beth fo'u hoedran.
    Enillydd 2024 - Benjamin Pritchard (Para-Athletwr Prydain Fawr)

  • Chwaraewr Iau ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Stowe Family Law (Yn agor ffenestr newydd) :Yn agored i enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i'r enwebeion fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025. 
    Enillydd 2024 - Zac Thomas (Jwdo)

  • Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn: Dylai enwebeion fod yn hyfforddwyr cymwys yn eu camp, gyda hanes profedig o helpu unigolion neu dimau i lwyddo - boed a yw hynny ar lefel ranbarthol, genedlaethol neu ryngwladol. 
    Enillydd 2024 - Sophie Bevan (Hyfforddwr Gymnasteg Acrobatig)

  • Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn: Dylai enwebeion fod yn hyfforddwyr cymwys sy'n rhoi o'u hamser yn hael fel gwirfoddolwyr yn eu camp. Byddant wedi cael effaith wirioneddol trwy ysbrydoli mwy o bobl i fod yn actif a'u helpu i barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn eu cymuned leol. 
    Enillydd 2024 - James Salter (Hyfforddwr Paffio)

  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn noddir gan EYST Wales (Yn agor ffenestr newydd): Mae'r wobr hon ar gael i unrhyw wirfoddolwr anhygoel sydd wedi rhoi ei amser a'i egni i gefnogi sefydliad chwaraeon. Mae'n rhaid i enwebeion gynnig help heb wobr ariannol, nad yw'n rhan o'i swydd ac nad yw'n digwydd yn ei weithle. 
    Enillydd 2024 - Weixin Liu (Gwirfoddolwr Tenis)

  • Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn: Yn agored i unrhyw berson ifanc 25 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025. Mae'r wobr hon yn dathlu gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi o'u hamser yn hael i ennyn cariad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn eraill. Mae'r enwebeion hyn yn fodelau rôl go iawn - maent yn greadigol, yn angerddol, ac yn ymroddedig i gadw eu diddordeb. Mae'n rhaid i enwebeion gynnig help heb wobr ariannol, nad yw'n rhan o'i swydd ac nad yw'n digwydd yn ei weithle. 
    Enillydd 2024 - Charley Davies (Cicfocsio).

  • Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn: Yn agored i dimau o chwaraewyr amatur sy'n cystadlu ar lefel hŷn. Rhaid bod timau'n cynrychioli Abertawe neu eu bod wedi'u lleoli yn Abertawe.
    Enillydd 2024 - Celtic Tri (Clwb Treiathlon)
     
  • Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn noddir gan Peter Lynn and Partners (Yn agor ffenestr newydd): Yn agored i dimau sy'n cystadlu ar lefel iau. Mae'n rhaid bod aelodau tîm yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025.
    Enillydd 2024 - Tîm Iau Judo Swansea (Tîm Jwdo)
     
  • Tîm Ysgol y Flwyddyn noddir gan Coleg Gwyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd): Yn agored i dimau ysgolion cynradd ac uwchradd. Rhaid bod aelodau'r tîm wedi cynrychioli tîm yr ysgol a enwebwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025. Defnyddiwch ffurflen wahanol ar gyfer pob tîm yr hoffech ei enwebu.
    Enillydd 2024 - Tîm Pêl-droed Bechgyn Dan 13 Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt
  • Gwobr Annog Abertawe Actif : 

    Mae'r wobr hon yn dathlu pobl neu grwpiau sydd wedi helpu eraill i wneud gweithgarwch corfforol rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025 - boed a yw hynny trwy glwb, ysgol, sefydliad, digwyddiad, rhaglen neu brosiect, neu trwy ysbrydoli eu hunain neu eu cymuned i fod yn fwy actif. 
    Enillydd 2024 - Frenz Pickleball (Tîm Pêl-bicl)

    Rydym yn chwilio am enwebeion sy'n dangos y canlynol:

    • Annog pobl newydd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
    • Ymdrechion i geisio cyrraedd cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu gymunedau amrywiol
    • Ysbrydoli eraill i ledaenu'r gair a hyrwyddo bod yn actif
    • Syniadau creadigol neu newydd sy'n helpu i chwalu rhwystrau i gyfranogiad
    • Gweithgareddau nad ydynt o reidrwydd yn chwaraeon traddodiadol
    • Profiadau difyr a chynhwysol sy'n gwneud i bawb deimlo bod croeso iddynt - waeth beth fo'u cefndir neu eu gallu
    • Unigolion sydd wedi goresgyn heriau personol i ddod yn fwy actif
  • Cyfraniad Oes i Chwaraeon: Mae'r categori hwn yn cydnabod unigolion sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefydliad a/neu weinyddiaeth chwaraeon yn Abertawe dros flynyddoedd lawer. 
    Enillwyr 2024 - Keith Thomas (Rygbi) a Karen Trussler (Pêl-droed)

  • Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig: Mae'r categori hwn yn cydnabod cyflawniadau sylweddol pobl ym myd chwaraeon, yn eu camp neu gampau, dros flynyddoedd lawer. 
    Enillwyr 2024 - Carima Heaven a Michael Thomas

Mewn cydweithrediad a Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Tachwedd 2025