Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure
Dathlu Pencampwyr Chwaraeon 2024
Dewch i ddathlu athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a thimau chwaraeon Abertawe, Ebrill 2, 2025 yn Neuadd Brangwyn, yn 25ain blwyddyn Gwobrau Chwaraeon Abertawe.
Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydyn ni'n ei hadnabod ac yn dwlu arni.
Boed yn wirfoddolwyr neu'n hyfforddwyr sy'n rhoi awr ar ôl awr o'i amser yn y cefndir, yn dîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus drwy gydol y flwyddyn neu'n chwaraewr sydd wedi cyflawni'r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe'n ddinas sy'n llawn pencampwyr chwaraeon.
Mae enwebiadau bellach ar agor! Enwebwch rywun ar gyfer un o Wobrau Chwaraeon Abertawe Bydd y cyfle i enwebu'n cau ar 31 Rhagfyr.
Gweler y rhestr lawn o enillwyr y llynedd 2023 yma Enillwyr Gobrau Chwaraeon Abertawe 2023.
Mae ein hathletwyr wedi gweithio'n galed iawn eleni ac rydym yn edrych ymlaen at gydnabod a nodi eu cyflawniadau a'u cyfraniadau gwych i chwaraeon yn ystod Gwobrau Chwaraeon Abertawe.
Yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe, mae 15 o wobrau ar draws y categorïau canlynol:
- Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn noddir gan ArvatoConnect (Yn agor ffenestr newydd)
Yn agored i unrhyw berson ifanc, 25 oed neu iau ar 1 Ionawr 2024. Bydd enwebai wedi rhoi ei gorau i ysbrydoli mwy o fobl i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgaredd corfforol, neu ymgysylltu â nhw. Maent yn fodelau rôl cadarnhaol, ac maent yn defnyddio dulliau arloesol i annog eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon. Rhaid i'r enwebeion gynnig help lle nad oes ganddynt wobr ariannol, nid yw'n rhan o'u gwaith, ac nid yw'n digwydd yn eu man gwaith.
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn noddir gan John Pye Auctions (Yn agor ffenestr newydd)
Ar gyfer unrhyw wirfoddolwr gwrywaidd neu fenywaidd sydd wedi rhoi o'i amser a'i egni i wirfoddoli mewn sefydliad chwaraeon. Rhaid i'r enwebai gynnig help heb unrhyw wobr ariannol, nid yw'n rhan o'i swydd ac nid yw'n rhan o'i weithle. Oedran agored.
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn noddir gan Chwaraeon Cymru (Yn agor ffenestr newydd)
Rhaid i enwebeion fod yn hyfforddwyr cymwys sy'n gweithio'n wirfoddol ac wedi cyflawni llwyddiant wrth annog mwy o bobl i fod yn actif mewn chwaraeon a chynnal eu cyfranogiad mewn lleoliad cymunedol.
- Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn
Rhaid i'r enwebai fod yn hyfforddwr cymwys yn ei gamp ac wedi cael llwyddiant wrth hyfforddi unigolion a thimau ar lefel ranbarthol, genedlaethol a/neu ryngwladol.
- Chwaraewr Iau'r Flwyddyn
Ar gyfer enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2024.
- Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn
Ar gyfer enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2024. - Tîm Ysgol y Flwyddyn noddir gan Coleg Gwyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)
Ar gyfer timau Ysgolion Gynradd a Gyfun. Rhaid i aelodau'r tîm fod wedi cynrychioli tîm yr ysgol sy'n cael ei enwebu rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2024. Defnyddiwch ffurflen enwebu ar wahân ar gyfer pob tîm rydych am ei enwebu.
Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn noddir gan Peter Lynn and Partners (Yn agor ffenestr newydd)
Ar gyfer timau sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i aelodau'r tîm fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2024.- Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn
Ar gyfer timau amatur sy'n cystadlu ar lefel hŷn. Rhaid i dimau gynrychioli neu fod yn Abertawe.
- Gwobr Annog Abertawe Actif
Mae'r wobr hon ar gyfer unrhyw unigolyn, grŵp o bobl, clwb, ysgol, sefydliad, digwyddiad, rhaglen neu brosiect, sydd wedi ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol neu sydd wedi ysgogi ei hun/eu hunain i ddod yn fwy actif rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2024. Dyma enghreifftiau o'r hyn rydym yn chwilio amdano:
- Tystiolaeth o gael cyfranogwyr newydd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
- Ymgysylltu â chymunedau amrywiol / grwpiau a dangynrychiolir.
- Annog eraill i hybu gweithgarwch corfforol.
- Syniadau newydd neu arloesol i oresgyn y rhwystrau sy'n atal cyfranogiad.
- Nid 'camp' draddodiadol o reidrwydd.
- Wedi creu profiad chwaraeon pleserus a chroesawus - heb ystyried gallu na chefndir.
- Unigolyn sydd wedi goresgyn rhwystrau a heriau i ddod yn fwy actif. Chwaraewr Iau ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Stowe Family Law (Yn agor ffenestr newydd)
Ar gyfer enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2024.- Chwaraewr ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Spartan Scaffolding Solutions (Yn agor ffenestr newydd)
Yn agored i bob enwebai beth bynnag eu hoedran.
- Chwaraewr y Flwyddyn noddir gan McDonald's (Yn agor ffenestr newydd)
Yn agored i bob enwebai beth bynnag eu hoedran.
Cyfraniad Oes i Chwaraeon
Mae'r categori hwn yn cydnabod unigolion sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefydliad a/neu weinyddiaeth chwaraeon yn Abertawe dros flynyddoedd lawer.
Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig
Mae'r categori hwn yn cydnabod unigolion sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefydliad a/neu weinyddiaeth chwaraeon yn Abertawe dros flynyddoedd lawer.
mewn cydweithrediad a Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd)