Fy Nhai
Porth tai newydd ar-lein ar gyfer tenantiaid Cyngor Abertawe.
Crëwch gyfrif tai personol y gallwch ei ddefnyddio ar adeg sy'n gyfleus i chi. Gallwch ei gyrchu o'ch ffôn clyfar, eich tabled neu'ch cyfrifiadur personol, dim ots ble rydych chi.
Cofrestru / mewngofnodi: https://tai.abertawe.gov.uk (Yn agor ffenestr newydd)
Fy Nhai - sut i greu eich cyfrif (PDF, 1 MB)
Mae cofrestru'n hawdd. Bydd angen i chi roi eich:
- enw
- cyfeiriad
- dyddiad geni
- rhif tenantiaeth
- cyfeiriad e-bost
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwn yn anfon côd dilysu atoch sy'n caniatáu i chi fewngofnodi. Gallai hyn gymryd hyd at 2 ddiwrnod gwaith.
Byddwch yn gallu:
- talu'ch rhent
- gweld balans eich rhent a'ch trafodion
- lawrlwytho ac argraffu datganiadau rhent
- adrodd am atgyweiriadau a monitro unrhyw atgyweiriadau rydych wedi adrodd amdanynt
- diweddaru'ch manylion personol
- anfon negeseuon atom neu adrodd am faterion rheoli tai
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, e-bostiwch