Gofal Gwasanaethau Cymdeithasol yn y cartref
Gwybodaeth am wasanaethau gofal cartref drwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymrwymedig i helpu pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â phosib. Mae gwasanaethau gofal cartref yn eich helpu chi gyda rhai o'r pethau sy'n peri trafferth yn cartref er mwyn i chi gynnal eich annibyniaeth. Gallai hyn fod yn ofal personol neu'n help ymarferol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r gwasanaeth yma yn cael ei gynnig i bobl y bydd yn rhaid iddynt, fel arall, adael eu cartrefi eu hunain a byw mewn gofal preswyl.
Gallwch ofyn i'r Gwasanaethau Cymdeithasol i gwblhau asesiad o'ch anghenion drwy ffonio neu'n ysgrifenedig.
Efallai y bydd eich perthynas neu'ch gofalwr, eich meddyg teulu, nyrs ardal neu ymwelwr iechyd hefyd yn gofyn i chi gael eich ystyried ar gyfer gofal cartref. Os ydych yn gadael yr ysbyty, efallai y bydd tîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty'n gofyn am ofal cartref ar eich cyfer.
Bydd rhai pobl, yn enwedig y rhai hynny sy'n gwella ar ôl salwch yn derbyn gwasanaeth ailalluogi byr dymor gan y Gwasanaeth Gofal Cartref Integredig a fydd yn para o leiaf 6 wythnos. Bydd tîm integredig o weithwyr gofal, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr iechyd, a gyflogir gan Gyngor Abertawe neu'r GIG, yn ymweld â chi'n rheolaidd ac yn eich cefnogi i allu gwneud pethau drosoch chi'ch hunan fel yr oeddech yn arfer ei wneud. Gallai hyn gynnwys darparu cyfarpar arbenigol i'ch helpu chi. Erbyn diwedd y cyfnod ailalluogi, mae llawer o bobl unwaith eto'n gallu ymdopi gartref ar eu pennau eu hunain neu gyda chefnogaeth teulu a ffrindiau.
Os oes angen gofal cartref tymor hir, fel arfer byddwn yn gwneud trefniadau gydag asiantaeth gofal cartref y sector annibynnol i ddarparu'r gofal sydd ei angen arnoch. Mae'r taliadau a'r safonau ar gyfer gwasanaethau gofal cartref yr un peth i bob darparwr.
Gall rhai pobl ddewis taliad uniongyrchol i drefnu eu gofal cartref eu hunain. Os ydych wedi bod yn talu am ofal preifat gan asiantaeth gofal cyn cael eich asesu'n gymwys i gael cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, gall hyn helpu i sicrhau parhad gofal.