Maethu teulu a ffrindiau (kinship care)
Pan fo plentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn byw gyda pherthynas neu ffrind yn lle cael ei leoli gyda gofalwyr maeth neu mewn llety preswyl.
Beth yw maethu teulu a ffrindiau?
Pan fo plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, naill ai o'i wirfodd, gyda chytundeb y rhiant/rhieni neu o ganlyniad i orchymyn llys, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i roi'r plentyn yng ngofal rhywun sy'n aelod o'r teulu neu sy'n ffrind y mae ganddo/i berthynas eisoes â'r plentyn.
Un o'r ffyrdd y gall aelod o'r teulu neu ffrind wneud hyn yw trwy fod yn Ofalwr Maethu Teulu a Ffrindiau. Teidiau, neiniau, modrybedd ac ewythredd yw'r rhan fwyaf o Ofalwyr Teulu a Ffrindiau, ond gallent hefyd fod yn frodyr ac yn chwiorydd hŷn ac yn ffrindiau'r teulu.
Mae'n rhaid i Ofalwyr Teulu a Ffrindiau fod yn ofalwyr maethu cymeradwy, ond i ddechrau cânt eu cymeradwyo i ofalu am blentyn neu blant penodol.
Mewn argyfwng, gall aelodau'r teulu ofalu am blentyn am amser cyfyngedig o dan Reoliad 38 y Rheoliadau Maethu, ar yr amod bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod y trefniad hwn yn ddiogel i'r plentyn. Defnyddir asesiad gwahanol ar gyfer hyn sy'n ystyried a yw'r trefniadau'n addas ac yn ddiogel yn yr amgylchiadau uniongyrchol.
Bod yn ofalwr teulu a ffrindiau
I gael eich cymeradwyo fel Gofalwr Teulu a Ffrindiau, bydd angen i chi fynd trwy broses asesu. Fel arfer mae'r broses hon yn para tua 16 wythnos a bydd yn cynnwys cwblhau ffurflenni, nifer o ymweliadau â'ch cartref a gwiriadau â phobl a sefydliadau eraill.
Mae'n hanfodol bod gennym amser i ddod i'ch adnabod ac ystyried yn llawn a fyddech chi'n gallu diwallu holl anghenion y plentyn. Mae hefyd yn rhoi amser i ni edrych gyda chi ar ba gefnogaeth arall sydd ar gael a'r hyn a allai eich helpu yn eich rôl newydd. Er bod y broses hon yn anodd neu'n achosi straen i rai pobl, mae'r rhan fwyaf yn cydnabod ei gwerth tymor hir.
Cwestiynau cyffredin
Beth bydd angen i chi ei ofyn i mi?
Bydd angen i ni ofyn i chi am eich cefndir a'ch plentyndod, eich perthnasau/priodasau blaenorol a phresennol, eich rhwydweithiau cefnogi, eich profiad fel rhiant a'ch perthynas â theulu'r plentyn. Bydd angen hefyd i chi ddarparu manylion eich incwm.
Beth byddwch am ei weld pan fyddwch yn ymweld â'm cartref?
Bydd angen i ni edrych ar y llety rydych yn bwriadu ei ddarparu ar gyfer y plentyn/plant er mwyn sicrhau ei fod yn addas. Byddwn yn cynnal gwiriad iechyd a diogelwch o'ch cartref a fydd yn cynnwys asesiad o unrhyw anifeiliaid anwes.
Pwy arall y bydd angen i chi gysylltu â nhw?
Bydd angen i ni gysylltu â'ch plant, eich partner presennol ac unrhyw gyn-bartneriaid pwysig, dau ffrind personol ac efallai rhai aelodau eraill o'ch teulu. Hefyd bydd angen i ni gysylltu â'ch cyflogwr. Os oes plant yn byw gyda chi, bydd angen i ni gysylltu â'u hysgol, eu hymwelydd iechyd a/neu unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n ymwneud â nhw.
Pa wiriadau eraill y bydd angen i chi eu cynnal?
Bydd rhaid i bawb yn eich aelwyd sy'n 16 neu'n hŷn gwblhau gwiriad Datgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Yn agor ffenestr newydd) (yr hen enw am hwn oedd gwiriad SCT).
Bydd gofyn i chi gwblhau archwiliad meddygol maethu gyda'ch meddyg teulu.
Fyddwn i'n derbyn unrhyw gymorth ariannol?
Mae Gofalwr Teulu a Ffrindiau'n derbyn lwfans wythnosol i dalu am dreuliau pob dydd a rheolaidd sy'n gysylltiedig â gofalu am blentyn maeth e.e. bwyd, dillad, cludiant, gweithgareddau hamdden ac arian poced. Mae'r union swm yn dibynnu ar oedran y plentyn. Hefyd rhoddir taliadau ychwanegol hefyd ar gyfer achlysuron megis penblwyddi a'r Nadolig. Caiff y lwfans ei dalu i'ch cyfrif banc bob pythefnos, wythnos ymlaen llaw ac wythnos mewn ôl-ddyled.
Byddwn yn trafod trefniadau unigol ar gyfer cymorth ariannol yn fanylach â chi yn ystod y broses asesu.
Pa gefnogaeth y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi i chi?
Yn ystod y cyfnod asesu cynigir cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Teulu a Ffrindiau undydd i chi. Prif ddiben y cwrs hwn yw esbonio mwy am eich rôl fel gofalwr maeth, gan gynnwys gwybodaeth gyfreithiol, gweithio gyda'r awdurdod lleol a sut byddwch yn cefnogi'r plentyn/plant y byddwch yn gofalu amdanynt.
Unwaith i chi gael eich cymeradwyo, bydd disgwyl i chi fynd i gyrsiau hyfforddi eraill, y mae rhai ohonynt ar gyfer holl ofalwyr maeth yr awdurdod lleol a rhai'n benodol ar gyfer Gofalwyr Teulu a Ffrindiau.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynd i grwpiau cefnogi a chwrdd â gofalwyr eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.
Mae grŵp ieuenctid hefyd i blant 7+ oed sy'n byw gyda gofalwyr sy'n deulu neu'n ffrindiau. Cynhelir hwn ar un diwrnod yn ystod yr holl wyliau ysgol.
Byddwch yn cael eich cefnogi gan weithiwr cymdeithasol maethu a fydd yn ymweld â chi'n rheolaidd. Bydd hyn yn ogystal â gweithiwr cymdeithasol y plentyn/plant, a all drafod anghenion cefnogaeth y plentyn â chi a phenderfynu pa gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, ffoniwch y Gweithwir Cymdeithasol Teulu a Ffrindiau ar Ddyletswydd. Gallech hefyd gysylltu â gweithiwr cymdeithasol y plentyn/plant.