Toglo gwelededd dewislen symudol

Prydau ysgol am ddim

Os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau gallech arbed arian drwy hawlio prydau ysgol am ddim i'ch plentyn.

Bydd pob disgybl ym Mlwyddyn 3 yn Abertawe'n cael cynnig prydau ysgol am ddim o Medi 2023. Mae Cyngor Abertawe'n gweithio'n agos gyag ysgolion i ymestyn y cynnig i grwpiau blwyddyn eraill cyn gynted â phosibl wrth i ni weithio tuag at weithredu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i bob disgybl ysgol gynradd dderbyn pryd ysgol am ddim erbyn 2024.

Does dim angen i deuluoedd plant ym Mlwyddyn 3 wneud cais am y cynnig prydau ysgol am ddim gan y byddant yn cael eu cofrestru'n awtomatig yn eu hysgol. Fodd bynnag, gall teuluoedd ar incwm isel fod yn gymwys i gael budd-dalidau eraill fel Grant Gwisg Ysgol ac arian oddi ar dripiau ysgol. Er mwyn asesu cymhwysedd ar gyfer hyn, gellir gwneud cais am brydau ysgol am ddim yma.

Mae angen i rieni y cadarnheir eu bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wneud cais ar wahân am y grant gwisg ysgol o hyd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan: Hawliwch help gyda chostau ysgol (Llyw.cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

 

Mae'n bosib y bydd gan deuluoedd â phlant sy'n cael prydau ysgol am ddim traddodiadol ac sy'n derbyn budd-dal cymwys hefyd hawl i dderbyn cymorth tuag at eu biliau dŵr gan Dŵr Cymru (Yn agor ffenestr newydd).

Mae gan blant y mae eu rhieni neu eu gofalwyr yn derbyn y taliadau cymorth canlynol yr hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim mewn ysgolion a gynhelir gan y cyngor. Mae'r term rhiant yn cynnwys rhywun sy'n byw yn y cartref fel partner i riant genedigol y plentyn.

  • Credyd Cynhwysol os yw'ch enillion net blynyddol yn £7,400 neu lai*
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Elfen warantedig y Credyd Pensiwn Gwladol
  • Cymhorthdal o dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant lle bo'r incwm blynyddol (fel a aseswyd gan wasanaeth Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi) yn llai na £16,190 y flwyddyn.
  • Credyd Treth Gwaith 'dilynol' - dyma'r taliad y mae rhywun yn ei gael am bedair wythnos arall pan nad ydynt yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith (fel arfer pan fydd eu cyflogaeth yn dod i ben neu ar ôl iddynt ddechrau gweithio llai nag 16 awr yr wythnos). Ni fydd unrhyw fath arall o Gredyd Treth Gwaith yn eich gwneud yn gymwys am brydau ysgol am ddim.

Mae disgyblion sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm hefyd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

* Os ydych yn gweithio a hefyd yn cael Credyd Cynhwysol, a'ch bod am hawlio prydau ysgol am ddim i'ch plentyn/plant, efallai na fyddwch yn gwybod p'un a yw eich enillion yn fwy na £7,400 y flwyddyn. Pan fyddwch yn hawlio prydau ysgol am ddim, bydd eich awdurdod lleol yn cadarnhau eich bod yn gymwys gan ddefnyddio'r system gwirio cymhwysedd. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y system gwirio cymhwysedd yn gweithio allan a yw eich enillion islaw £7,400 y flwyddyn a ph'un a ydych yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim i'ch plentyn/plant.

Mae'r broses yn gweithio trwy edrych ar enillion hawliwr am hyd at dri chyfnod asesu (AP) (yn dechrau â'r mwyaf diweddar a gweithio'n ôl).

Mewn achosion eraill, bydd angen i'r awdurdod lleol ofyn i chi gyflwyno prawf o'ch enillion a bydd yn gweithio allan a yw eich enillion yn fwy na £7,400 y flwyddyn neu £616.77 y mis (h.y. £7,400 wedi'i rannu â 12). Os yw eich enillion yn rhy uchel, ni fyddwch yn gallu hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn/plant (er y gallwch wneud cais eto os bydd eich enillion yn lleihau).

Gallwch gael mwy o wybodaeth am brydau ysgol am ddim ar: Prydau ysgol am ddim - Llywodraeth Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

I gael cyngor ar Prydau ysgol am ddim gallwch e-bostio prydauysgolamddim@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 635353 rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cwestiynau cyffredin i rieni yn dilyn trothwy incwm UC newydd: Prydau ysgol am ddim yng Nghymru: Gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid

Sut i gyflwyno cais am brydau ysgol am ddim

Y ffordd gyflymaf, hawsaf a rhataf yw cyflwyno cais ar-lein.

Cais am brydau ysgol am ddim Cais am brydau ysgol am ddim

Gallwch lawrlwytho a chwblhau'r ffurflen isod a'i hanfon drwy e-bost i prydauysgolamddim@abertawe.gov.uk. Gallwch gyflwyno unrhyw dystiolaeth gefnogol drwy e-bost hefyd.

Ffurflen gais am brydau ysgol am ddim (PDF) [244KB]

Beth os bydd fy amgylchiadau'n newid?

Os bydd eich amgylchiadau personol yn newid a allai olygu nad oes gennych hawl mwyaf i gael prydau ysgol am ddim, rhaid i chi roi gwybod ar unwaith. Dywedwch wrthym am newidiadau fel y canlynol:

  • Dechrau gweithio ac nid ydych yn derbyn budd-daliadau mwyach
  • Os ydych yn newid i fudd-dal gwahanol
  • Symud cartref
  • Os bydd un o'ch plant eraill yn dechrau ysgol am y tro cyntaf
  • Os bydd eich plentyn yn newid ysgol hanner ffordd drwy dymor.

Prydau ysgol am ddim - rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Os na fyddwch yn dweud wrthym am newidiadau pan fyddant yn digwydd, efallai bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw brydau nad oeddech yn gymwys iddynt.

Penderfynu peidio â gwneud cais?

Wyddech chi fod Llywodraeth Cymru'n rhoi grant ychwanegol i bob plentyn y mae ganddo hawl i brydau ysgol am ddim ac yn eu hawlio? Gall fod yn fonws ychwanegol sylweddol i ysgol eich plentyn, felly cyflwynwch gais.

Mae prydau ysgol yn cynnig opsiwn iach gyda manteision maeth arwyddocaol, ac awgryma tystiolaeth ddiweddar fod cael pryd iach amser cinio'n gallu helpu i wella perfformiad a sylw plentyn yn ystod y dydd.

 

Cais am brydau ysgol am ddim

Cwblhewch ffurflen i gyflwyno cais am brydau ysgol am ddim i'ch plentyn.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Dywedwch wrthym os yw eich amgylchiadau'n newid.

Prydau ysgol am ddim yng Nghymru: Gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid

Mae'r daflen hon yn nodi cwestiynau rydym yn rhagweld y bydd rhieni efallai am eu gofyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno trothwy incwm net blynyddol o £7,400 ar gyfer hawlwyr Credyd Cynhwysol sy'n dymuno hawlio prydau ysgol am ddim i'w plant.
Close Dewis iaith