Toglo gwelededd dewislen symudol

Grwpiau cerdded

Dolenni defnyddiol i grwpiau cerdded ac awyr agored.

Mae llawer o grwpiau cerdded yn cynnig cwmni a theithiau cerdded dan arweiniad amrywiol o gwmpas Abertawe a Gŵyr - edrychwch ar rai o'r teithiau cerdded dan arweiniad diweddaraf sydd ar y gweill yma.

Cyfeillion Gŵyr (Yn agor ffenestr newydd) - rhaglen deithiau cerdded Cyfeillion Gŵyr.

Clwb Cerdded Lliw (Yn agor ffenestr newydd) - erbyn hyn mae mwy na 250 o aelodau gan y clwb ac mae tua 40 o aelodau'n cwrdd yn rheolaidd i gerdded. Mae'r holl deithiau cerdded wedi'u cynllunio gan arweinwyr cymwysedig sy'n cerdded y llwybrau ymlaen llaw. Mae'r rhaglen yn dechrau ym mis Mawrth.

Clwb Cerdded Penyrheol (Yn agor ffenestr newydd) - 10 i 12 o deithiau cerdded bob gwanwyn a haf.

Cerddwyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd) - mae gan y clwb raglen wych o deithiau cerdded p'un ai ydych am fod yn fwy heini, mwynhau cefn gwlad neu ymlacio gyda ffrindiau newydd. Mae'r grŵp hefyd yn gweithio i wneud y wlad yn lle gwell i gerdded ynddi gan wella llwybrau cerdded ac ymgyrchu dros fwy o fynediad i wlad agored.

Grŵp Awyr Agored Abertawe (Yn agor ffenestr newydd) - mae Grŵp Awyr Agored Abertawe'n agored i bob oed.  Teithiau cerdded yn ystod y dydd ar y penwythnos, rhai lleol gyda'r hwyr a chymryd rhan mewn teithiau cerdded heriol o 20 milltir neu fwy, yn ogystal â gweithgareddau awyr agored eraill.

Tawe Trekkers (Yn agor ffenestr newydd) - y clwb cerdded i bobl ifanc yn Abertawe! Ydych chi'n hoffi cerdded yn yr awyr agored? Ydych chi rhwng 18 a 40 oed (neu'n teimlo'n ifanc)? Ydych chi am ymuno â grŵp o unigolion tebyg? Os ydych, cysylltwch â Tawe Trekkers. Rydym yn croesawu aelodau newydd ac yn ceisio ehangu'r clwb!

Grŵp Cerdded y Crwys (Yn agor ffenestr newydd) - mae'r grŵp yn cynnal teithiau cerdded i deuluoedd ac yn ystod yr wythnos a gynhelir yn lleol ac yng Ngŵyr.

Prosiect Cymunedol Dyffryn Clun (Yn agor ffenestr newydd) - dysgwch fwy am y prosiectau a geir yn ardal Dyffryn Clun.

Clwb Awyr Agored i Bobl Hoyw (Yn agor ffenestr newydd) - grŵp gweithgareddau awyr agored i'r gymuned lesbiaidd a hoyw yng ngorllewin Cymru gyda theithiau cerdded misol rheolaidd.

Clwb Cerdded Pontarddulais (Yn agor ffenestr newydd) - mae tua 50 o aelodau gennym a chynhelir teithiau cerdded bob pythefnos. Mae gennym tua 15-20 o aelodau sy'n cerdded yn rheolaidd ac rydym yn ymweld â phob rhan o dde Cymru, gan gynnwys ardaloedd deheuol Canolbarth Cymru.

Y Gymdeithas Cerddwyr Pellter Hir (LDWA) (Yn agor ffenestr newydd) - Mae'r LDWA yn gymdeithas o bobl â diddordeb cyffredin mewn cerdded pellterau hir mewn ardaloedd gwledig, mynyddig a gweundir. Drwy ymuno â'r Gymdeithas byddwch yn cwrdd â cherddwyr pellter hir o'r un meddylfryd ac yn cael gwybodaeth am ddigwyddiadau cerdded a llwybrau cerdded pellter hir ar draws y DU.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mai 2023