Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwarchod coed

Yr hyn rydym yn ei wneud i warchod coed ar draws Abertawe.

Gorchmynion Cadw Coed (GCC)

Mae dros 560 o Orchmynion Cadw Coed (GCC) unigol o fewn ffiniau Dinas a Sir Abertawe ar gyfer coed unigol, grwpiau o goed, 'ardaloedd' a choetiroedd.

Clefyd coed ynn

Clefyd ffwngaidd yw clefyd coed ynn, a adwaenir hefyd fel clefyd (Chalara) coed ynn, sy'n effeithio ar bob rhywogaeth o goed ynn (Fraxinus). Mae'r clefyd wedi ymledu i'r gorllewin ar draws y wlad ac mae'n effeithio ar bron pob rhan o Gymru erbyn hyn.

Torri glaswellt a chynnal coed

Gwybodaeth am waith torri glaswellt a chynnal coed rydym yn ei wneud.

Cynnal coed - arweiniad i berchnogion cartrefi a pherchnogion tir

Cyngor sylfaenol ac ymarferol ar yr ymholiadau mwyaf cyffredin a geir gan arddwyr, perchnogion cartrefi a pherchnogion tir yn ymwneud â choed a phlanhigion prennaidd tebyg.

CCA Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd

Mae'r CCA hyn yn darparu arweiniad ar sut y dylid rhoi polisïau perthnasol y CDLl ar waith ar gyfer ceisiadau cynllunio mewn perthynas â'r holl goed, gwrychoedd a choetiroedd sydd eisoes yn bodoli, rhai cadwedig neu sydd newydd eu plannu ar safleoedd datblygu.