Gwarchodfa Natur Leol Bryn y Mwmbwls
Mae cynefinoedd ar y bryn yn cynnwys rhostir morol, glaswelltir calchfaen, tir prysg a choetir calchfaen, gyda phob un yn cynnal planhigion ac anifeiliaid gwahanol. Mae dros 200 rhywogaeth o blanhigion a ffwng, 40 rhywogaeth o adar a channoedd a rywogaethau o ieir bach yr haf, gwenyn a phryfed wedi cael eu cofnodi ar y Bryn. Gellir gweld mamaliaid bach fel llygod y gwair, llwynogod a llygod coch hefyd. Mae'r adar brodorol yn cynnwys cnocellod gwyrdd y coed, ehedyddion a sgrechod y coed ac mae'r adar mudol yn cynnwys Gwenoliaid y bondo, gwenoliaid a theloriaid yr ardd.
Mae gwarchodfa Natur Leol Bryn y Mwmbwls yn dir comin a oedd yn dir pori tan y 1950au pan wahanwyd y warchodfa o ardaloedd pori mwy estynedig. Mae'r diffyg pori wedi caniatáu i rywogaethau ymwthiol fel rhedyn, eithin, derw bytholwyrdd a chotoneaster gymryd drosodd, gan fygwth tagu'r glaswelltiroedd calchfaen prin.
Rydym yn rheoli'r warchodfa gyda chymorth gwirfoddolwyr a grwpiau lleol megis Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a'r Caffi Coch.