Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwasanaethau bws wedi'u hariannu gan y cyngor

Mwy o fanylion am wasanaethau bysus yn Abertawe sy'n cael eu rheoli gan y cyngor.

Os nad yw'r llwybr bws sydd ei angen arnoch yn cael ei restru yn y Llwybrau bysus cymorthdaledig (Gorffennaf 2021), gwasanaeth masnachol gan First Cymru neu Gludiant De Cymru yw ef. Cynhelir gwasanaethau masnachol heb unrhyw gymhorthdal gan y cyngor ac felly, nid oes gan yr awdurdod unrhyw reolaeth dros y llwybr, yr amserlen na'r prisiau a godir.

Amserau bysiau

Llybrau bysus cymorthdaledig

Mae gwasanaethau dan gontract yn cael eu gweithredu ar ran Dinas a Sir Abertawe - nid yw'r teithiau hyn yn ymarferol yn fasnachol i weithredwyr gwasanaethau, ond fe'u hystyrir yn angenrheidiol yn gymdeithasol.

Sylwadau / ymholiadau neu gwynion am lwybrau cymorthdaledig

Os oes gennych unrhyw sylwadau/ymholiadau neu gwynion am wasanaeth bysus cymorthdaledig, cysylltwch â'r Tîm Trafnidiaeth:

Tîm Trafnidiaeth, Dinas a Sir Abertawe, d/o Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN.

Ffôn: 01792 636466

Ar gyfer sylwadau/ymholiadau neu gwynion am wasanaethau masnachol, cysylltwch yn uniongyrchol â'r gweithredwyr gwasanaethau: Tocynnau bws a gweithredwr

 

 

Close Dewis iaith