Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau y gallwch eu cyrchu cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio, o ymholiadau deiliaid tai cyffredinol i ymholiadau sy'n fwy penodol i wasanaeth, a chytundebau ar gyfer datblygiadau mwy.

Mae ein cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio gan y tîm cynllunio'n perthyn i ddau gategori: statudol ac anstatudol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch y rhain, yn ogystal â ffioedd a gwybodaeth am wasanaethau safonol cyn cyflwyno cais cynllunio eraill, megis cyfarfodydd ychwanegol a chyngor mewn perthynas ag adeiladau rhestredig a choed isod.

Mae cyngor ychwanegol cyn cyflwyno cais cynllunio yn cynnig mwy o gyngor manwl o amrywiaeth o sectorau'r cyngor, megis priffyrdd, rheoli llygredd, rheoli gwastraff, etc.

Cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio

Mae gallu ymholi ynghylch materion cynllunio cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ystyried y materion hyn ac, os oes angen, i ddiwygio'r cynigion cyn eu cwblhau a'u cyflwyno fel ceisiadau cynllunio.

Cyngor ychwanegol cyn cyflwyno cais

Cyngor sy'n benodol i wasanaeth gan nifer o'n hadrannau mewn perthynas â'ch cynlluniau - ar gyfer deiliaid tai a datblygwyr.

Cytundebau perfformiad cynllunio

Mae gan ddatblygwyr yr opsiwn i ymrwymo i gytundeb perfformiad cynllunio gwirfoddol (CPC) gyda ni.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Mawrth 2024