Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaeth ymchwil

Rydym yn cynnig gwasanaeth ymchwilio ar gyfer y rheiny na all ddod yn bersonol i'r Gwasanaeth Archifau.

Os hoffech ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, gallwch wneud hynny drwy gwblhau'r ffurflen isod. Rhaid talu am yr ymchwil ar yr un pryd. Ymdrinnir â'r holl geisiadau ymchwil yn ôl y drefn rydym yn eu derbyn. Ymdrechwn i ymdrin â phob cais o fewn 10 niwrnod gwaith o'i dderbyn.

Cyn cyflwyno cais

Oes gennym y cofnodion y mae eu hangen arnoch? Gallwn wirio cofnodion sydd gennym yn unig ac nid ydym yn gallu gwneud ymchwil mewn archifau eraill. Cysylltwch â ni drwy e-bostio archifau@abertawe.gov.uk a gallwn gadarnhau bod y cofnodion y mae eu hangen arnoch gennym. Sylwer, hyd yn oed os yw'r cofnodion cywir gennym, efallai na fyddwn yn gallu dod o hyd i'r union wybodaeth y mae ei hangen arnoch.

Sut i gyflwyno cais

Unwaith y byddwch wedi gwirio gyda ni, gallwch gwblhau'r ffurflen isod a thalu ar gyfer y gwaith ymchwil. Dylech ddyfynnu unrhyw rifau dogfennau a roddwyd i chi gennym yn dilyn eich ymholiad cychwynnol. Byddwch yn syml ac yn benodol yn eich cais. Os oes angen mwy nag un darn o wybodaeth arnoch, gadewch i ni wybod p'un sydd bwysicaf er mwyn i ni sicrhau ein bod ni'n gwneud y gwaith ymchwil hwnnw yn ystod yr amser rydych yn talu amdano.

Request and pay for archives research Request and pay for archives research online

Tâl

I unigolion preifat, codir tâl o £34 yr awr am y gwasanaeth hwn (£17 am ymchwiliad byr o hanner awr) sy'n cynnwys pris postio ac unrhyw lungopïau neu argraffiadau perthnasol. Rhaid talu wrth wneud cais am yr ymchwil. Os na fydd canlyniadau i'ch ymchwiliad, ni allwn ad-dalu unrhyw ran o'r ffi hon.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Mai 2023