Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwerthu eich eiddo gwag

Mae nifer o ddulliau y gallwch eu defnyddio i werthu'ch eiddo gwag.

Gwerthiant cytundeb preifat drwy asiant eiddo

Mae asiantiaid eiddo fel arfer yn codi isafswm ffi neu ganran o gyfanswm y pris gwerthu. Gall y dull hwn sicrhau pris ychydig yn uwch i chi am yr eiddo ond weithiau gall olygu bod eich eiddo ar y farchnad am beth amser.

Os oes angen gwerthu'r eiddo'n gyflym am unrhyw reswm, neu os nad oes modd cael morgais ar ei gyfer oherwydd bod yr eiddo mewn adfeilion/ger hen byllau glo/ oherwydd perygl llifogydd etc., yna efallai y byddai'n werth ymchwilio i ddulliau eraill o werthu.

Fe'ch cynghorir i gael barn mwy nag un asiant i sicrhau eich bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd gael y mwyaf o arian ar gyfer eich eiddo.

Gwerthu drwy arwerthiant

Mae arwerthiant yn ffordd dda iawn o ryddhau unrhyw gyfalaf sydd gennych yn yr eiddo'n gyflym. Mae'r rhan fwyaf o eiddo'n tueddu i werthu ar ddiwrnod yr arwerthiant, a chymerir blaendal o 10% na chaiff ei ad-dalu ar y diwrnod hwnnw. Bydd yr arwerthiant fel arfer yn cael ei gwblhau o fewn 28 niwrnod.

Os yw'ch eiddo mewn cyflwr arbennig o wael neu os nad oes modd cael morgais ar ei gyfer, mae hon yn ffordd dda iawn o werthu, gan fod tai y mae angen eu hadnewyddu'n llawn yn tueddu i ddenu llawer o ddiddordeb mewn arwerthiant.

Os nad ydych am wneud unrhyw welliannau neu atgyweiriadau i'r eiddo cyn ei werthu, gall hyn weithio'n well i chi. Mae eiddo'n cael ei werthu yn ei gyflwr presennol felly mae'n golygu na fydd yn rhaid i chi fynd i'r afael ag unrhyw broblemau a all fod gennych gyda'r eiddo cyn ei werthu.

Mae arwerthwyr yn codi ffioedd mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, a all gynnwys:

  • Codi ffi ganrannol i werthu drwy arwerthiant, yn aml â lleiafswm ffi sylfaenol ar gyfer y rheini y disgwylir iddynt werthu ar ben isaf y farchnad.
  • Nid yw rhai yn codi unrhyw ffioedd (neu maent yn codi ffi isel) ar y gwerthwr ond maent yn codi ffi gadw/ premiwm prynwr/ ffi archebu ar y prynwr - byddwch yn wyliadwrus gan fod rhai yn codi isafswm o £6,000 a gallai hyn gael effaith ar y pris a gewch mewn arwerthiant.
  • Mae rhai arwerthwyr yn codi tâl mynediad, sy'n talu costau cynhyrchu deunyddiau, hysbysebu a threfnu'r arwerthiant ei hun.
  • Mae gan rai asiantiaid ffioedd canslo, sydd ond yn berthnasol os rydych yn penderfynu tynnu'r eiddo yn ôl o arwerthiant.

Felly mae'n ddoeth gwirio gyda'r arwerthwr a chwilio o gwmpas am y fargen orau.

Gall yr arwerthiant fod ar-lein neu mewn lleoliad - mae'r ddau'n opsiynau derbyniol iawn o werthu'ch eiddo.

Cyfeiriwch at hysbysebion eiddo er mwyn dod o hyd i rifau ffôn asiantiaid arwerthiant/eiddo a chymerwch gip ar eu gwefannau i gael syniad o sut maent yn marchnata eu heiddo.

Gwerthiant uniongyrchol i adeiladwyr neu fuddsoddwyr

Os na allwch adnewyddu eiddo i'w ddefnyddio eto ac felly rydych am ei werthu, weithiau bydd buddsoddwyr preifat sydd â diddordeb mewn prynu eiddo gwag yn cysylltu â'r cyngor. E-bostiwch Sally Jones yn sally.jones3@abertawe.gov.uk os hoffech i'r cyngor ddarparu manylion cyswllt buddsoddwyr sydd wedi mynegi diddordeb mewn prynu eiddo yn ardal Abertawe.

Cyngor Abertawe yn prynu'ch eiddo a arferai fod yn eiddo i'r awdurdod lleol

Efallai bydd gan Gyngor Abertawe ddiddordeb mewn prynu'ch eiddo a arferai fod yn eiddo i'r awdurdod lleol. Gall hyn arbed ffioedd asiantiaid eiddo i chi.

I gael rhagor o wybodaeth am hyn, e-bostiwch Tim Padfield yn tim.padfield@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2023