Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer lles meddyliol

Mae nifer o sefydliadau, lleol ac cenedlaethol, yn darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth ar gyfer iechyd meddwl.

Cymdeithas Alzheimer

Cymorth i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt.

Côr Musical Memories

Côr â Phwrpas yw Côr Musical Memories! Dechreuwyd y côr yn 2014 allan o ddymuniad i roi'r cyfle i bobl sy'n byw gyda dementia a gofalwyr ddod at ei gilydd i brofi buddion canu a chyfeillgarwch pobl eraill sy'n byw trwy brofiadau tebyg.

Dementia Carers Count

Dementia Carers Count are working for a world where all family and friends taking care of someone with dementia feel confident, supported, and heard. They provide free online and face-to-face courses for unpaid carers.

Dementia UK a Nyrsys Admiral

Nyrsys dementia arbenigol yw Nyrsys Admiral. Maent yn cael eu cefnogi a'u datblygu'n barhaus gan Dementia UK, maent yn darparu cefnogaeth sy'n newid byd i deuluoedd yr effeithir arnynt gan bob math o ddementia - gan gynnwys clefyd Alzheimer.

Galw Iechyd Cymru

Mynnwch gyngor gan ddefnyddio ein gwiriwyr symptomau neu Iechyd A-Y os ydych yn sâl ac nad ydych yn siwr beth i'w wneud.

Grŵp Lles Dynion

Grŵp cymorth cymheiriaid i ddynion, sy'n cael ei redeg o Ganolfan Lles Abertawe fel rheol.

Iechyd Meddwl a Chyngor Ariannol

Eich helpu i ddeall, rheoli a gwella'ch iechyd meddwl a'ch problemau ariannol.

Lifeways Support Options

Mae Lifeways yn helpu pobl i fyw bywydau mwy boddhaus ac annibynnol drwy ddarparu cefnogaeth i oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth, anableddau corfforol, anafiadau i'r ymennydd neu anghnion iechyd meddwl.

Llais

Eich llais mewn iechyd a gofal cymdiethasol.

Llinell Cyngor a Gwrando Cymunedol (C.A.L.L)

Mae'n cynnig cefnogaeth emosiynol i bobl sy'n dioddef gofid meddyliol yn ogystal â'u ffrindiau, eu gofalwyr a'u perthnasau

Men's Sheds Cymru

Yn cynnig gwasanaeth eiriolaeth rhad ac am ddim i ddynion, eu teuluoedd a'r gymuned.

Mind Abertawe

Mae Mind Abertawe yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i bobl â phryderon iechyd meddwl. Rydym yn cynnig rhaglenni hunangymorth un i un, cwnsela a chymorth grŵp.
Close Dewis iaith