Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer lles meddyliol

Mae nifer o sefydliadau, lleol ac cenedlaethol, yn darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth ar gyfer iechyd meddwl.

Papyrus

Mae ein llinell gymorth HOPELINEUK yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc sy'n profi meddyliau am hunanladdiad ac i'r rheini sy'n pryderu y gall fod person ifanc yn meddwl am ladd ei hunan, gan gynnwys pobl broffesiynol.

Platfform

Platfform yw'r elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol. Maen nhw'n gweithio gyda phobl sy'n wynebu heriau iechyd meddwl, a chyda chymunedau sydd eisiau creu gwell synnwyr o gysylltiad, perchnogaeth a lles yn y lleoedd y maen nhw'n byw ynddynt.

Sefydliad DPJ

Yn cefnogi'r rheini yn y sector amaethyddol sydd ag iechyd meddwl gwael drwy roi cymroth, lledaenu ymwybyddiaeth a hyfforddi'r rhai ym maes ffermio i fod yn ymwybodol o iechyd meddwl gwael a'i brobelm yn ein sector.

The Exchange

The-Exchange yn arbenigo mewn cefnogi lles seicolegol plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Close Dewis iaith