Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2025 / 2026
Rhestr o Dermau
Awdurdod Derbyniadau - yr Awdurdod Lleol (ALl) sy'n gyfrifol am dderbyniadau yr holl ysgolion cymunedol.
Nifer Derbyn (ND) - uchafswm nifer y plant ysgol y mae ysgol yn gallu ei dderbyn ym mhob grŵp blwyddyn.
Ysgolion cymunedol - yn cael eu hariannu a'u cynal yn llwyr gan yr awdurdod lleol
ALl - Awdurdod Lleol
Plentyn sy'n derbyn gofal (LAC) - Mae plentyn sy'n derbyn gofal yn golygu plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr, (fel y'i diffinnir gan Adran 22 o Ddeddf Plant 1989 ac Adran 74 o www.abertawe.gov.uk/deddfgcl.
Plant a oedd yn arfer derbyn gofal - plant sy'n peidio â bod felly am eu bod wedi'u mabwysiadu neu wedi dod yn destun gorchymyn preswylio, neu orchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal.
Trosglwyddo Canol Blwyddyn - cais i newid o un ysgol i ysgol arall ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd.
Rownd Derbyn Arferol i Ysgol Gynradd - y cyfnod pan fo rhieni'n gallu gwneud cais am le derbyn i'w plentyn ei gymryd yn y mis Medi canlynol (Medi 2024)
Rownd Derbyn Arferol i Ysgol Uwchradd - y cyfnod pan fo rhieni'n gallu gwneud cais am le Blwyddyn 7 i'w plentyn ei gymryd yn y mis Medi canlynol (mis Medi 2024)
Dewis(iadau) - Ysgol(ion) a ddewiswyd ac a wneir cais amdanynt
Ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol (VA) - ysgolion eglwys e.e. Catholig, yr Eglwys yng Nghymru.
Addysg Gymraeg
Fel arfer, bydd disgyblion sy'n mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg yn symud i Ysgol Uwchradd Gymraeg yn unol â'r trefniadau a nodir ar dudalennau: Blwyddyn 7 - Gwneud cais i ddisgyblion ddechrau'r ysgol uwchradd ym mlwyddyn 7 ym Medi 2025. Fodd bynnag, oeddech chi'n gwybod nad yw hi'n rhy hwyr i chi ystyried Addysg Gymraeg i'ch plentyn hyd yn oed os na fynychodd Feithrinfa/Ysgol Gynradd Gymraeg ar ddechrau ei addysg?
Mae deg ysgol gynradd Gymraeg a dwy ysgol uwchradd Gymraeg yn Abertawe. Addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgolion hyn. Cyflwynir Saesneg ym Mlwyddyn 3. Addysgir y Gymraeg fel rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol i bob disgybl yn yr ysgolion cynradd Saesneg yn Abertawe. Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn darparu gwasanaeth iaith dwys i blant oedran cynradd y mae eu rhieni wedi symud i Abertawe ac am iddynt gael addysg Gymraeg.
Mae pob ysgol cyfrwng Cymraeg yn Abertawe yn darparu addysg feithrin ran-amser. I gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg cyn ysgol arall, ewch i'n gwefan: www.abertawe.gov.uk/addysgGymraegynAbertawe
Defnydd o'r Gymraeg mewn Ysgolion Cynradd - Mewn Ysgolion Cynradd Cymraeg, caiff pob un o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, heblaw am Saesneg, eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg Mewn Ysgolion Saesneg, mae Cymraeg fel ail iaith yn statudol yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 2.
Defnydd o'r Gymraeg mewn Ysgolion Uwchradd -Mewn Ysgolion Uwchradd Cymraeg, caiff pob un o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, heblaw am Saesneg, eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn Ysgolion Uwchradd Saesneg, rhaid i'r holl ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4 o'r Cwricwlwm Cenedlaethol astudio Cymraeg fel ail iaith. Yn unol â Deddf Diwygio Addysg 1988 mae Cymraeg yn bwnc craidd ym mhob ysgol Gymraeg.
Beth yw manteision addysg Gymraeg?
Mae nifer o fanteision i Addysg Gymraeg. Mae ymchwil yn profi mai dyma'r ffordd orau o sicrhau bod plant yn ddwyieithog yn y Saesneg a'r Gymraeg. Mae'n ddefnyddiol iawn fel sgil yn y gweithle, gyda'r gallu i siarad Cymraeg yn sgil hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi.
Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddod yn rhugl yn yr iaith Gymraeg trwy astudio ystod eang o bynciau a disgyblaethau yn y Gymraeg. Bydd sgiliau Saesneg eich plentyn hefyd yn cael eu datblygu mewn gwersi Saesneg a thrwy brofi rhai agweddau ar y cwricwlwm yn Saesneg.
Dydyn ni ddim yn siarad Cymraeg gartref - fydd fy mhlentyn yn sefyll allan?
Ddim o gwbl. Mewn gwirionedd, nid yw'r mwyafrif helaeth o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe yn siarad Cymraeg gartref. Ac i rai ohonynt, iaith heblaw'r Saesneg yw prif iaith y cartref. Felly mae dod o gefndir di-Gymraeg yn gwbl gyffredin ac mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio gyda hynny mewn golwg.
Pa bynnag iaith y byddwch chi'n siarad yn y cartref, gall addysg cyfrwng Cymraeg roi sgiliau ychwanegol i blant a mwy o gyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Felly hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad Cymraeg eich hun, beth am ystyried addysg cyfrwng cymraeg i'ch plentyn?
Sut galla i helpu fy mhlentyn gyda gwaith cartref os nad ydw i'n siarad Cymraeg?
Gan nad yw'r rhan fwyaf o blant yn siarad Cymraeg gartref, mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn brofiadol iawn wrth gefnogi disgyblion a rhieni.
Ar gyfer disgyblion iau, rhoddir cyfarwyddiadau gwaith cartref yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg. Pan fyddant yn hyn, bydd y plant yn gallu esbonio eu gwaith i'w rhieni eu hunain. Mewn gwirionedd, mae ymchwil yn awgrymu y gall ymdrin a'u gwaith mewn dwy iaith helpu plant i ddeall y pwnc y maent yn ei astudio.
A allaf ddysgu Cymraeg ochr yn ochr a'm plentyn?Mae rhai rhieni, ar ol dewis ysgol cyfrwng Cymraeg i'w plentyn, yn penderfynu dysgu Cymraeg hefyd. Mae'n gyfle gwych i ddysgu gyda'ch gilydd, i ymarfer eich sgiliau iaith a'ch gilydd a threulio amser gwerthfawr gyda'ch gilydd.
Mae cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar gael ledled Abertawe, ac maent yn addas ar gyfer dysgwyr ar bob lefel. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r gwefannau canlynol: https://www.swansea.ac.uk/academi-hywel-teifi/units/learn-welsh/
Beth am eu haddysg ar ôl gadael yr ysgol?
Mae mwy nag un o bob pump o ddisgyblion yng Nghymru bellach yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg. Felly, os ydych chi wedi astudio yn Gymraeg hyd yma, sut ydych chi'n parhau i ddysgu ar ol i chi adael yr ysgol?
Nid yw eich taith iaith Gymraeg yn dod i ben pan fyddwch yn cwblhau eich astudiaaethau TGAU! Mae ein dwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cynnig ystod eang o opsiynau Lefel A neu efallai y byddwch yn dewis mynd i'r coleg ac astudio un o'r nifer o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe trwy gyfrwng y Gymraeg: https://www.gcs.ac.uk/speaking-welsh
Sut ydw i'n gwneud cais am le mewn ysgol Gymraeg?
Mae'r holl ysgolion Cymraeg yn Abertawe yn ysgolion cymunedol, felly mae'r drefn ymgeisio yn union fel y mae ar gyfer ysgolion cymunedol cyfrwng Saesneg - nid yw iaith neu grefydd neu hunaniaeth genedlaethol y plentyn yn cael eu hystyried yn y broses ymgeisio.
Dylech wneud cais am le yn yr ysgol gynradd neu uwchradd Gymraeg drwy ddefnyddio'r prosesau a nodir yn: www.abertawe.gov.uk/gwneudcaisysgol
Lleoedd Meithrin yn Abertawe
Yn Abertawe, mae'r holl ysgolion cynradd, gan gynnwys ysgolion Cymraeg, yn darparu addysg feithrin ran-amser. Gall plant gael mynediad i le meithrin rhan amser o ddechrau'r tymor ar ôl iddynt droi'n 3, neu y diwrnod ar ôl eu 3ydd pen-blwydd, ac yn dibynnu ar ddarpariaeth ac argaeledd lleoedd mewn ysgol. Mae darpariaeth meithrin yn anstatudol sy'n golygu y gall rhieni benderfynu a ydyn nhw am gymryd lle meithrin ar gyfer eu plentyn ai peidio. Gallwch gyflwyno cais am le yn eich ysgol ddalgylch neu unrhyw ysgol arall y gallai fod yn well gennych chi. Nid yw bob amser yn bosibl i blant gael eu derbyn i ddosbarth meithrin yn y dalgylch ar gyfer eu cyfeiriad cartref neu'ch hoff ysgol. Os nad oes lle ar gael yn y ddarpariaeth feithrin bydd enw eich plentyn yn cael ei roi ar restr aros. Nid oes hawl i apelio yn erbyn gwrthod cynnig lle meithrin mewn ysgol benodol.
Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion y mae gormod o bobl yn gwneud cais am le ynddynt. Gyda phob cais, os gwrthodir cais rhieni/gofalwyr am le i'w plentyn mewn ysgol, caiff y plentyn ei roi ar y rhestr aros yn awtomatig.
Mae'n bwysig nodi na fydd plant yn nosbarth meithrin ysgol yn cael hawl mynediad awtomatig i addysg amser llawn yn nosbarth derbyn yr un ysgol. Bydd rhaid i rieni wneud cais am le mewn dosbarth derbyn gyda'r ymgeiswyr eraill.
Nid yw mynychu'r dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn gwarantu lle i'ch plentyn yn y dosbarth derbyn yn yr ysgol. Os oes gormod o geisiadau am ysgol, mae lleoedd yn cael eu dyrannu yn unol â threfniadau derbyn yr awdurdod lleol a'r meini prawf ar gyfer gor-alw.
Am fanylion llawn polisi derbyniadau meithrin a meini prawf gor-alw Cyngor Abertawe, trowch at: www.abertawe.gov.uk/dosbarthiadauMeithrinynYsgolionyrAwdurdodLleol. Gellir gweld y polisi derbyn a'r meini prawf gordanysgrifio ar gyfer mynediad i'r Derbyn ar www.abertawe.gov.uk/TrefniadauDerbynYsgolCynradd.
Efallai yr hoffai rhieni ymweld ag ysgolion cyn iddynt wneud penderfyniad ynghylch pa ysgol y maent yn dymuno ymgeisio amdani a dylid trefnu ymweliadau â'r ysgol yn uniongyrchol â phennaeth yr ysgol berthnasol. Mae enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn pob ysgol ar www.swansea.gov.uk/schoolcontactdetails. Mae gwefannau ysgolion hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am ysgolion, fel y mae gwefan Llywodraeth Cymru Fy Ysgol Leol: www.llyw.cymru/fy-ysgol-leol-canllaw.wales/my-local-school-guide.
Sut i wneud cais am le yn y Meithrin
Ar ôl i chi benderfynu pa ysgol yr hoffech wneud cais amdani, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol i ofyn am ffurflen gais.
Wrth lenwi'r ffurflen dylid defnyddio prif gyfeiriad preswyl cyfredol y disgyblion (nid cyfeiriad neiniau a theidiau, aelodau eraill o'r teulu neu warchodwyr plant). I gael gwybodaeth fanylach am y cyfeiriad cartref, cyfeiriwch at y tudalennau Gwybodaeth bwysig i'w hystyried cyn gwneud cais.
Gellir cael gwybodaeth am gael mynediad i ofal plant yn Abertawe a'r cynnig gofal plant 30 awr a ariennir gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: www.swansea.gov.uk/childcareoffer
Mae gweinyddu ceisiadau meithrin wedi ei ddirprwyo i'r ysgolion cynradd, fodd bynnag, mae'r awdurdod lleol, fel yr awdurdod derbyniadau, yn cynnal a goruchwylio y trefniadau derbyn ar gyfer meithrin.
Derbyn - Gwneud cais i ddisgyblion ddechrau ysgol mewn dosbarth Derbyn ym mis Medi 2025
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bob plentyn ddechrau'r ysgol erbyn diwrnod cyntaf y tymor ar ôl iddynt gael eu pen-blwydd yn bump oed. Yn Ninas a Sir Abertawe gall pob plentyn ddechrau'r ysgol yn amser llawn yn gynnar ar ddechrau'r flwyddyn ysgol pan fyddant yn cael eu pen-blwydd yn bump oed. Fodd bynnag, os dymunwch aros tan i'ch plentyn gyrraedd pump oed, dylech gysylltu â'r Tîm Mynediad o hyd fel y gall enw'ch plentyn gael ei ystyried am le gan ddefnyddio'r un gweithdrefnau â'r rhai ar gyfer y disgyblion hynny sy'n dechrau ym mis Medi. Mae'n bosib cadw lle ar gyfer eich plentyn tan ei fod yn cyrraedd oed ysgol statudol.
I blant a anwyd rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 a sydd wedi'u cofrestru mewn dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn Abertawe, bydd yr awdurdod lleol yn ysgrifennu atoch ddechrau mis Hydref 2023 i'ch gwahodd i wneud cais ar-lein am le mewn dosbarth Derbyn i'ch plentyn mewn ysgol gynradd yn Abertawe. Os nad ydych yn byw yn Abertawe neu os nad yw'ch plentyn yn mynychu ysgol yn Abertawe gallwch wneud cais am le ar-lein.
Gallwch gyflwyno cais mewn unrhyw le lle ceir mynediad at y rhyngrwyd a bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi. Mae'r system yn addas i'w defnyddio gyda nifer o ddyfeisiau electronig, gan gynnwys ffonau symudol. Os nad oes gennych gyfrifiadur neu unrhyw un o'r dyfeisiau y sonnir amdanynt uchod i'w defnyddio gartref, neu os hoffech gael cefnogaeth ychwanegol wrth gwblhau cais eich plentyn, gallwch gael cymorth yn ysgol gynradd eich plentyn, yn y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig neu yn eich llyfrgell leol.
Mae'r cais yn caniatáu i chi wneud 3 dewis ysgol (a elwir yn ddewisiadau) y gallwch eu rhestru yn ôl ffafriaeth. Dim ond unwaith y gallwch chi ymgeisio am bob ysgol o'ch dewis. Defnyddiwch y 3 dewis sydd ar gael i chi ac ystyried cynnwys eich ysgol dalgylch. Ni fydd dewis yr un ysgol 3 gwaith yn cynyddu eich siawns o gael cynnig lle. Nid yw gwneud dewisiadau ychwanegol yn effeithio ar eich cyfle o sicrhau eich dewis cyntaf gan fod pob lle yn cael ei ddyrannu yn dilyn y meini prawf gor-alw. Fodd bynnag, os oes gormod o geisiadau am eich dewis cyntaf ac nad ydym yn gallu neilltuo lle i'ch plentyn, byddwn yn ystyried eich ail ac yna eich trydydd dewis.
Os ydych yn byw y tu allan i awdurdod lleol Dinas a Sir Abertawe, rydym yn eich cynghori'n gryf i wneud cais gyda'ch awdurdod lleol eich hun hefyd (yr awdurdod lleol yr ydych yn talu eich treth gyngor iddo) oherwydd, os na allwn gynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol yn Abertawe eich bod wedi dewis ni fyddwn yn cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol arall yn Abertawe.
Dywedir wrth rieni y dylent gyflwyno un cais derbyn fesul plentyn yn unig, a all gynnwys hyd at dri dewis. Os cyflwynir sawl cais ar gyfer yr un plentyn, ymdrinnir â'r cais olaf fel y cais o ddewis ac anwybyddir pob cais cynharach. Lle'r ydym yn gallu cynnig mwy nag un ysgol i chi, byddwn yn cynnig yr ysgol o ddewis a raddiwyd uchaf gennych ac yn tynnu'r holl gynigion a raddiwyd yn is yn ôl.
Caiff yr holl geisiadau a gwblheir eu hystyried ar yr un pryd, felly nid oes mantais i rieni sy'n cyflwyno cais yn gynnar. Os caiff eich cais ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau yn yr amserlen a gyhoeddwyd, bydd eich cais yn hwyr a chaiff ei ystyried ar ôl i'r ceisiadau eraill a anfonwyd mewn pryd dderbyn cynnig. Ni allwch wneud cais hwyr ar-lein. Erbyn i geisiadau hwyr gael eu hystyried, mae'n bosib y bydd yr holl leoedd yn eich ysgol o ddewis wedi cael eu dyrannu, ac efallai gwrthodir lle i chi os yw'r ysgol yn llawn, hyd yn oed os ydych yn byw yn nalgylch yr ysgol ac yn bodloni pob un o'r meini prawf derbyn eraill neu rai ohonynt.
Byddwn yn ceisio bodloni dymuniad rhieni, fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol:
- Nad yw byw yn y dalgylch yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
- Nid yw cael brawd neu chwaer o oedran ysgol statudol sydd eisoes yn mynychu'r ysgol yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
- Nid yw mynychu'r dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn rhoi hawl mynediad awtomatig i'ch plentyn i'r dosbarth derbyn ac nid yw'n gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
- Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig.
Rhoddwyd newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg ar waith ym mis Medi 2021 ac mae'n bosib bod yr ysgol ddalgylch ar gyfer eich cyfeiriad cartref wedi newid. I wirio'r ysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, e-bostiwch derbyniadau@abertawe.gov.uk
Os ydych chi'n gwneud cais am le mewn ysgol nad hi yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi sydd â'r cyfrifoldeb a'r gost am gael eich plentyn yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant cartref i'r ysgol am ddim pan na fydd disgybl yn mynychu ei ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os rhoddir lle i ddisgybl mewn ysgol nad yw'n ysgol ddalgylch ddynodedig o ganlyniad i apêl lwyddiannus.
Eich cyfrifoldeb chi yw cyflwyno cais a gwneud cais ar amser. Ni allwn gynnig lle i'ch plentyn nes i chi wneud eich cais. Ni fydd eich plentyn yn cael lle mewn ysgol yn awtomatig.
Nid yw mynychu dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn gwarantu lle i'ch plentyn yn y dosbarth derbyn yn yr ysgol.
Os ydych chi am newid eich dewis ysgol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir ar gyfer ceisiadau neu ar ôl i le gael ei gynnig ar y diwrnod cynnig statudol, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd cais newydd a wneir yn gais hwyr a bydd yn disodli unrhyw geisiadau cynharach a dderbyniwyd ac ni fyddai unrhyw gynigion a wnaed yn flaenorol ar gael mwyach. Ni allwch gyflwyno cais hwyr ar-lein.
Cysylltwch â'r Tîm Derbyn am ffurflen hwyr: derbyniadau@abertawe.gov.uk
Dyddiadau pwysig i'w cofio ar gyfer Addysg Gynradd
Mae'r amserlen hon ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn ar gyfer mis Medi 2025.
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ol y dyddiad cau a gyhoeddir (29 Tachwedd 2024) yn cael eu hystyried tan ar ol i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol. Ymdrinnir â cheisiadau hwyr yn y drefn y'u derbyniwyd. Os oes mwy o geisiadau hwyr am ysgol nag y mae lleoedd ar gael, bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried yn unol â'r meini prawf gor-alw. Mae hyd yn golygu efallai na ddyrennir lle i chi yn yr ysgol o'ch dewis hyd yn oed os ydych chi'n byw yn nalgylch yr ysgol neu'n symud i'r dalgylch ar ol 29 Tachwedd 2024. Gellir cynnal apeliadau am geisiadau hwyr ar ôl i'r apeliadau am geisiadau ar amser gael eu cynnal. 7 Hydref 2024 Gall unrhyw riant gyda phlentyn sy'n gymwys i ddechrau yn y dosbarth derbyn yn Medi 2025 gyflwyno cais am le. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ysgrifennu at yr holl rieni sydd a phlentyn wedi'i gofrestru mewn dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn Abertawe. 29 Tachwedd 2024 Dyddiad cau rieni wneud cais a chwblhau'r ffurflen gais ar-lein. Dylech gwblhau un ffurflen yn unig gan nodi'n glir eich dewis cyntaf o ysgol, a'r ail a'r trydydd dewis. Ni ellir gwarantu lle dalgylch. Polisi ar geisiadau hwyr 16 Ebrill 2025 Hysbysir rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser ynghylch p'un a ddyrannwyd lle i'w plentyn yn yr ysgol o'u dewis ai peidio, ac os na, ble mae lle ar gael. 17 Ebrill - 14 Mai 2025 Gall rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser apelio yn erbyn cais aflwyddiannus trwy ofyn am ffurflen apelio gan y Type=articles;Articleid=5978;Title=;calltoaction=;titleclass=;.
Sut i wneud cais
Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein: www.abertawe.gov.uk/gwneudcaisysgol
Os byddwch yn aros tan y diwrnod olaf i gyflwyno'ch cais ac yn profi unrhyw anawsterau wrth lenwi'r ffurflen, dylech fod yn ymwybodol na fydd cymorth technegol ar gael ar ôl 4.00pm ar y diwrnod cau (29 Tachwedd 2024).
Pethau i'w cofio!
- Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch i wneud cais ar-lein.
- Gwnewch gais ar amser.
- Darllenwch y meini prawf gor-alw.
- Defnyddiwch eich holl ddewisiadau
- Ystyriwch gynnwys eich ysgol ddalgylch fel dewis.
- Gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso CYFLWYNO pan fyddwch wedi cwblhau eich cais ar-lein.
- Gwiriwch eich bod wedi derbyn e-bost yn caarnhau bod y cais wedi'i gyflwyno - mae'r e-bost hwn yn rhestru'r dewisiadau ysgol a ddewiswyd gennych.
- Ailgyflwynwch eich cais os byddwch yn gwneud unrhyw newidiadau (dim ond tra bod y ffenestr dderbyn ar agor y gellir gwneud newidiadau).
- Ni chewch gynnig lle mewn Ysgol os na fyddwch yn cyflwyno cais.
Os yw eich cais yn hwyr, gallai hyn leihau'n sylweddol eich siawns o gael y lle rydych ei eisiau.
Derbyn - Polisïau derbyn a meini prawf goralw
I gael manylion llawn polisiau derbyn Abertawe cyfeiriwch at dudalennau: www.swansea.gov.uk/schooladmissionarrangements. Mae'r meini prawf gor-alw ar gyfer ysgolion Abertawe hy pob sgol ar wahân i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir fel a ganlyn:
Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol:
- Plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt, h.y. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal*.
- Plant sy'n byw yn nalgylch penodol yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth.**
- Plant y mae eu brawd neu eu chwaer yn mynd i'r ysgol ar adeg eu derbyn.*** Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth.**
- Plant eraill y gwnaed cais am le drostynt nad yw meini prawf 1 i 3 uchod yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth.**
* Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.
**Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter.
***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.)
Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol - Cynradd
Os ydych yn dymuno gwneud cais am le mewn ysgol a gynorthwyir yn wirfoddol, bydd angen i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r ysgol. Mae manylion am sut mae ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn derbyn ei disgyblion ar dudalen www.abertawe.gov.uk/trefniadauDerbynGynorthwyirWirfoddol.
Blwyddyn 7 - Gwneud cais i ddisgyblion ddechrau'r ysgol uwchradd ym mlwyddyn 7 ym Medi 2025
Mae plant yn trosglwyddo i'r ysgol uwchradd pan fyddant yn 11 oed. Mae plant sy'n 11 oed erbyn 31 Awst yn dechrau yn yr ysgol uwchradd yn y mis Medi canlynol.
I blant sydd wedi'u cofrestru mewn dosbarth Blwyddyn 6 mewn ysgol gynradd yn Abertawe, bydd yr awdurdod lleol yn ysgrifennu atoch ddechrau mis Hydref 2024 i'ch gwahodd i wneud cais ar-lein am le Blwyddyn 7 i'ch plentyn mewn ysgol uwchradd. Os nad ydych yn byw yn Abertawe neu os nad yw'ch plentyn yn mynychu ysgol yn Abertawe gallwch wneud cais am le ar-lein.
Gallwch gyflwyno cais mewn unrhyw le lle ceir mynediad at y rhyngrwyd a bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi. Mae'r system yn addas i'w defnyddio gyda nifer o ddyfeisiau electronig, gan gynnwys ffonau symudol. Os nad oes gennych gyfrifiadur neu unrhyw un o'r dyfeisiau y sonnir amdanynt uchod i'w defnyddio gartref, neu os hoffech gael cefnogaeth ychwanegol wrth gwblhau cais eich plentyn, gallwch gael cymorth yn ysgol gynradd eich plentyn, yn y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig neu yn eich llyfrgell leol.
Mae'r cais yn caniatáu i chi wneud 3 dewis ysgol (a elwir yn ddewisiadau) y gallwch eu rhestru yn ôl ffafriaeth. Dim ond unwaith y gallwch chi ymgeisio am bob ysgol o'ch dewis. Defnyddiwch y 3 dewis sydd ar gael i chi ac ystyried cynnwys eich ysgol dalgylch. Ni fydd dewis yr un ysgol 3 gwaith yn cynyddu eich siawns o gael cynnig lle. Nid yw gwneud dewisiadau ychwanegol yn effeithio ar eich cyfle o sicrhau eich dewis cyntaf gan fod pob lle yn cael ei ddyrannu yn dilyn y meini prawf gor-alw. Fodd bynnag, os oes gormod o geisiadau am eich dewis cyntaf ac nad ydym yn gallu neilltuo lle i'ch plentyn, byddwn yn ystyried eich ail ac yna eich trydydd dewis.
Os ydych yn byw y tu allan i awdurdod lleol Dinas a Sir Abertawe, rydym yn eich cynghori'n gryf i wneud cais gyda'ch awdurdod lleol eich hun hefyd (yr awdurdod lleol yr ydych yn talu eich treth gyngor iddo) oherwydd, os na allwn gynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol yn Abertawe eich bod wedi dewis ni fyddwn yn cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol arall yn Abertawe.
Dywedir wrth rieni y dylent gyflwyno un cais derbyn fesul plentyn yn unig, a all gynnwys hyd at dri dewis. Os cyflwynir sawl cais ar gyfer yr un plentyn, ymdrinnir â'r cais olaf fel y cais o ddewis ac anwybyddir pob cais cynharach. Lle'r ydym yn gallu cynnig mwy nag un ysgol i chi, byddwn yn cynnig yr ysgol o ddewis a raddiwyd uchaf gennych ac yn tynnu'r holl gynigion a raddiwyd yn is yn ôl.
Caiff yr holl geisiadau a gwblheir eu hystyried ar yr un pryd, felly nid oes mantais i rieni sy'n cyflwyno cais yn gynnar. Os caiff eich cais ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau yn yr amserlen a gyhoeddwyd, bydd eich cais yn hwyr a chaiff ei ystyried ar ôl i'r ceisiadau eraill a anfonwyd mewn pryd dderbyn cynnig. Ni allwch wneud cais hwyr ar-lein.
Erbyn i geisiadau hwyr gael eu hystyried, mae'n bosib y bydd yr holl leoedd yn eich ysgol o ddewis wedi cael eu dyrannu, ac efallai gwrthodir lle i chi os yw'r ysgol yn llawn, hyd yn oed os ydych yn byw yn nalgylch yr ysgol ac yn bodloni pob un o'r meini prawf derbyn eraill neu rai ohonynt.
Byddwn yn ceisio bodloni dymuniad rhieni, fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol:
- Nad yw byw yn y dalgylch yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
- Nid yw cael brawd neu chwaer o oedran ygol statudol sydd eisoes yn mynychu'r ysgol yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
- Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig.
Rhoddwyd newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg ar waith ym mis Medi 2021 ac mae'n bosib bod yr ysgol ddalgylch ar gyfer eich cyfeiriad cartref wedi newid. I wirio'r ysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, e-bostiwch derbyniadau@abertawe.gov.uk
Os ydych chi'n gwneud cais am le mewn ysgol nad hi yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi sydd â'r cyfrifoldeb a'r gost am gael eich plentyn yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant cartref i'r ysgol am ddim pan na fydd disgybl yn mynychu ei ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os rhoddir lle i ddisgybl mewn ysgol nad yw'n ysgol ddalgylch ddynodedig o ganlyniad i apêl lwyddiannus.
Eich cyfrifoldeb chi yw cyflwyno cais a gwneud cais ar amser. Ni allwn gynnig lle i'ch plentyn nes i chi wneud eich cais. Ni fydd eich plentyn yn cael lle mewn ysgol yn awtomatig.
Nid mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig.
Os ydych chi am newid eich dewis ysgol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir ar gyfer ceisiadau neu ar ôl i le gael ei gynnig ar y diwrnod cynnig statudol, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd cais newydd a wneir yn gais hwyr a bydd yn disodli unrhyw geisiadau cynharach a dderbyniwyd ac ni fyddai unrhyw gynigion a wnaed yn flaenorol ar gael mwyach. Ni allwch gyflwyno cais hwyr ar-lein.
Cysylltwch â'r Tîm Derbyn am ffurflen hwyr: derbyniadau@abertawe.gov.uk
Dyddiadau pwysig i'w cofio ar gyfer Addysg Uwchradd
Mae'r amserlen hon ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2025.
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ol y dyddiad cau a gyhoeddir (29 Tachwedd 2024) yn cael eu hystyried tan ar ol i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol. Ymdrinnir â cheisiadau hwyr yn y drefn y'u derbyniwyd. Os oes mwy o geisiadau hwyr am ysgol nag y mae lleoedd ar gael, bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried yn unol â'r meini prawf gor-alw. Mae hyd yn golygu efallai na ddyrennir lle i chi yn yr ysgol o'ch dewis hyd yn oed os ydych chi'n byw yn nalgylch yr ysgol neu'n symud i'r dalgylch ar ol 29 Tachwedd 2024. Gellir cynnal apeliadau am geisiadau hwyr ar ôl i'r apeliadau am geisiadau ar amser gael eu cynnal. 7 Hydref 2024 Gall unrhyw riant gyda phlentyn sy'n gymwys i ddechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2025 ddechrau'r broses o gyflwyno cais am le. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ysgrifennu at yr holl rieni y mae eu plant wedi'u cofrestru mewn dosbarth Blwyddyn 6 mewn ysgol gynradd yn Abertawe i'w gwahodd i wneud cais am le ym Mlwyddyn 7 i'w plant. 29 Tachwedd 2024 Dyddiad cau i rieni wneud cais a chwblhau'r ffurflen gais ar-lein. Dylech gwblhau un ffurflen yn unig gan nodi'n glir eich dewis cyntaf o ysgol, a'r ail a'r trydydd dewis. Dyrennir lleoedd yn unol a'r meini prawf derbyn a nodir ar dudalen 11 Polisi ar geisiadau hwyr 3 March 2025 Hysbysir rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser ynghylch p'un a ddyrannwyd lle i'w plentyn yn yr ysgol o'u dewis ai peidio, ac os na, ble mae lle ar gael. 4 March - 28 March 2025 Gall rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser apelio yn erbyn cais aflwyddiannus trwy ofyn am ffurflen apelio gan y Type=articles;Articleid=5978;Title=;calltoaction=;titleclass=;
Sut i wneud cais
Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein: www.abertawe.gov.uk/gwneudcaisysgol
Os byddwch yn aros tan y diwrnod olaf i gyflwyno'ch cais ac yn profi unrhyw anawsterau wrth lenwi'r ffurflen, dylech fod yn ymwybodol na fydd cymorth technegol ar gael ar ôl 4.00pm ar y diwrnod cau (24 Tachwedd 2023).
Pethau i'w cofio!
- Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch i wneud cais ar-lein.
- Gwnewch gais ar amser.
- Darllenwch y meini prawf gor-alw.
- Defnyddiwch eich holl ddewisiadau.
- Ystyriwch gynnwys eich ysgol ddalgylch fel dewis.
- Gwenewch yn siwr eich bod yn pwyso CYFLWYNO pan fyddwch wedi cwblhau eich cais ar-lein.
- Gwiriwch eich bod wedi derbyn e-bost yn cadarnhau bod y cais wedi'i gyflwyno - mae'r e-bost hwn yn rhestru'r dewisiadau ysgol a ddewiswyd gennych.
- Ailgyflwynwch eich cais os byddwch yn gwneud unrhyw newidiadau (dim ond tra bod y ffenestr dderbyn ar agor y gellir gwneud newidiadau).
- Ni chewch gynnig lle mewn Ysgol os na fyddwch yn cyflwyno cais.
Os yw eich cais yn hwyr, gallai hyn leihau'n sylweddol eich siawns o gael y lle rydych ei eisiau.
Blwyddyn 7 - Polisïau derbyn a meini prawf gorymgeisio
I gael manylion llawn am bolisïau derbyn Abertawe cyfeiriwch at dudalennau: www.abertawe.gov.uk/TrefniadauDerbyn. Mae'r meini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion Abertawe hy pob ysgol ar wahân i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir fel a ganlyn:
Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol:
- Plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt, h.y. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal*
- Plant sy'n byw yn nalgylch penodol yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**
- Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer o oedran ysgol statudol sy'n mynd i'r ysgol ar adeg eu derbyn***. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**
- Plant sy'n mynd i ysgol gynradd bartner ddynodedig ond sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol honno. Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**
- Plant eraill nad yw meini prawf 1 i 4 yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**
*Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.
**Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter.
***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.).
Ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol - Uwchradd
Os dymunwch i'r plentyn fynychu Ysgol Gyfun Babyddol yr Esgob Vaughan, dyrennir lleoedd gan ddefnyddio meini prawf y mae corff llywodraethu'r ysgol wedi cytuno arnynt. Ceir y meini prawf hyn ar www.abertawe.gov.uk/trefniadauDerbynEsgobVaughan. Dylech wneud cais ar-lein o hyd gan ddefnyddio'r amserlen uchod, ac argymhellir eich bod hefyd yn gwneud ail a thrydydd dewis rhag ofn na fydd Ysgol Gyfun Babyddol yr Esgob Vaughan yn gallu cynnig lle i'ch plentyn.
Ceisiadau hwyr (Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 Medi 2024)
Ceisiadau a ddaeth i law ar ôl y dyddiad cau, sef 29 Tachwedd 2024.
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ol y dyddiad cau a gyhoeddir (29 Tachwedd 2024) yn cael eu hystyried tan ar ol i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol. Ymdrinnir â cheisiadau hwyr yn y drefn y'u derbyniwyd. Os oes mwy o geisiadau hwyr am ysgol nag y mae lleoedd ar gael, bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried yn unol â'r meini prawf gor-alw.
Dim ond os oes lleoedd ar gael o hyd y bydd yr Awdurdod Lleol yn gallu dyrannu lle yn yr ysgol o'ch dewis. Mae hyn yn golygu efallai na roddir lle i chi yn yr ysgol o'ch dewis hyd yn oed os ydych chi'n byw yn nalgylch yr ysgol neu'n symud i'r dalgylch ar ôl 29 Tachwedd 2024.
Os ydych chi am newid eich dewis ysgol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir ar gyfer ceisiadau neu ar ôl i le gael ei gynnig ar y diwrnod cynnig statudol, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd cais newydd a wneir yn gais hwyr a bydd yn disodli unrhyw geisiadau cynharach a dderbyniwyd ac ni fyddai unrhyw gynigion a wnaed yn flaenorol ar gael mwyach.
Cysylltwch â'r Tîm Derbyn am ffurflen hwyr: derbyniadau@abertawe.gov.uk
Gwybodaeth bwysig i'w hystyried cyn gwneud cais
Dewis lle ysgol ar gyfer mis Medi 2024 (Derbyn a Blwyddyn 7)
Mae'r rhan fwyaf o blant yn mynychu eu hysgol ddalgylch (yr ysgol hon fel arfer, ond nid bob amser, yw'r ysgol agosaf at eich cartref). Gallwch, os dymunwch, wneud cais i ysgol arall o'ch dewis.
Peidiwch â thybio eich bod mewn dalgylch oherwydd eich bod yn byw yn agos at ysgol. E-bostiwch derbyniadau@abertawe.gov.uk i wirio'ch ysgol ddalgylch.
Rhoddwyd newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg ar waith ym mis Medi 2021 ac mae'n bosib bod yr ysgol ddalgylch ar gyfer eich cyfeiriad cartref wedi newid. I wirio'r ysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, e-bostiwch derbyniadau@abertawe.gov.uk.
Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol nad yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi fel rhiant/gofalwr sy'n gyfrifol am gost cludo'ch plentyn i'r ysgol ac oddi yno. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol pan nad yw disgybl yn mynd i'w ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os caiff plentyn le mewn ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch o ganlyniad i apêl lwyddiannus.
Mae 62 o ysgolion cynradd Saesneg ac 11 ysgol uwchradd Saesneg yn Abertawe. Mae 10 ysgol gynradd Gymraeg a 2 ysgol uwchradd Gymraeg yn Abertawe. Mae 5 ysgol gynradd (eglwys) a gynorthwyir yn wirfoddol yn Abertawe. Mae un ohonynt yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru a'r pedair arall yn ysgolion Catholig. Mae un ysgol gyfun Gatholig hefyd. Corff Llywodraethu'r ysgol sy'n gyfrifol am dderbyniadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol. Ceir manylion ynghylch sut mae ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol yn derbyn eu disgyblion yn tudalennau: www.abertawe.gov.uk/trefniadauDerbynGynorthwyirWirfoddol
Information about education services in Swansea yn dangos yr ysgolion cynradd partner sy'n gysylltiedig â phob ysgol uwchradd , er nad ydynt yn mynychu ysgol gynradd bartner yn sicrhau lle yn yr ysgol uwchradd cysylltiedig. Mae gwybodaeth fanwl am bob ysgol ar gael gan yr ysgol unigol. Mae'n bosib yr hoffech ymweld ag ysgolion gwahanol cyn penderfynu ar ba ysgol i anfon eich plentyn iddi. I wneud hyn, gwnewch apwyntiad gyda'r pennaeth yn gyntaf. Gallwch hefyd gael copi o brosbectws yr ysgol am ddim gan yr ysgol a bydd hwn yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth i chi ynghylch yr ysgol, er enghraifft lles disgyblion, gwisg ysgol a chlybiau ar ôl ysgol. Mae gwefannau ysgolion hefyd yn ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ac mae gwefan Llywodraeth Cymru, Fy Ysgol Leol www.llyw.cymru/fy-ysgol-leol-canllaw yn cyhoeddi data ac adroddiadau am yr holl ysgolion yng Nghymru.
Mae enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn yr holl ysgolion yn tudalennau www.abertawe.gov.uk/CyswlltYrYsgol.
Byddwn yn ceisio bodloni dymuniad rhieni, fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol:
- Nad yw byw yn y dalgylch yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
- Nid yw cael brawd neu chwaer o oedran ysgol statudol sydd eisoes yn mynychu'r ysgol yn gwarnatu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
- Nid yw mynychu'r dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn rhoi hawl mynediad awtomatig i'ch plentyn i'r dosbarth derbyn ac nid yw'n gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
- Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol uwchardd gysylltiedig.
Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol nad yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi fel rhiant/gofalwr sy'n gyfrifol am gost cludo'ch plentyn i'r ysgol ac oddi yno. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol pan nad yw disgybl yn mynd i'w ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os caiff plentyn le mewn ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch o ganlyniad i apêl lwyddiannus.
Cyfrifoldeb Rhieni
Lle rhennir cyfrifoldeb rhieni, dylai'r holl rieni fod yn gytûn ynghylch y dewisiadau a restrwyd yn y cais. Cyfrifoldeb y rhieni yw dod i'r cytundeb hwn. Dylai'r person sy'n gwneud cais sicrhau ei fod wedi cael cytundeb yr holl bobl eraill a chanddynt gyfrifoldeb rhieni ar gyfer y disgybl cyn cyflwyno'r cais.
Pa gyfeiriad y dylwn ei ddefnyddio?
Rhaid mai cyfeiriad parhaol y plentyn yw'r cyfeiriad ar y ffurflen gais. Ym mhob achos, bydd rhaid darparu tystiolaeth o gyfeiriad preswyl parhaol y plentyn ar adeg gwneud y cais os gofynnir amdani. Efallai bydd yr awdurdod lleol yn gofyn am gadarnhad o gyfeiriad eich cartref, yn enwedig yn achos ysgol lle mae gormod o bobl wedi gwneud cais am le yn y grŵp blwyddyn. Mae cyfeiriad y cartref yn bwysig iawn gan fod lleoedd ysgol yn cael eu dyrannu ar sail cyfeiriad cartref pob plentyn. Ystyrir mai cyfeiriad y plentyn yw'r cyfeiriad lle mae'r plentyn yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser gyda'i rieni neu ei ofalwyr.
Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei ddiddymuos nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn cyfeirio ato. Ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw prif breswylfa'r plentyn a'r rhiant, a'u cartref gwirioneddol h.y. lle maent yn byw fel arfer ac yn rheolaidd. Os yw plentyn yn byw gyda ffrindiau neu berthnasau (am resymau eraill ar wahân i warcheidwadaeth), ni chaiff cyfeiriad y ffrindiau na'r perthnasau ei ystyried at ddibenion dyrannu lle. I blant teuluoedd sy'n byw mewn dau gyfeiriad am fod y rhieni'n byw ar wahân yn barhaol, ystyrir mai'r cyfeiriad lle mae'r plentyn yn treulio'r rhan fwyaf o'r wythnos ysgol yw prif gyfeiriad y plentyn wrth ystyried cais am le mewn ysgol. Efallai gofynnir am dystiolaeth o drefniadau. Y prif gyfeiriad preswylio'n unig a ddefnyddir i ddyrannu lleoedd. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sy'n cyfyngu ar deiliadaeth, megis cabanau gwyliau a charafannau mewn parciau gwyliau â chyfyngiadau tymhorol, fel cyfeiriad parhaol.
Mae'r ffurflen ar-lein yn gofyn i chi gynnwys eich cyfeirnod Treth y Cyngor. Os methir gwneud hyn, bydd angen i'r awdurdod lleol wirio'r wybodaeth hon. Bydd cyflenwi rhifau cyfeirnod y dreth gyngor neu ddefnyddio cyfeiriadau teidiau a neiniau, perthnasau eraill, ffrindiau teuluol neu fusnesau yn cael ei weld fel gwybodaeth dwyllodrus, gamarweiniol neu anghywir a gallai arwain at y lle yn eich dewis ysgol yn cael ei dynnu yn ôl. Os na allwch ddarparu gwybodaeth Treth y Cyngor, gallai fod angen prawf arall o breswyliaeth.
Ni chaiff cyfeiriad dros dro ei ddefnyddio at ddibenion dyrannu lle ond nid yw'n eich atal rhag cyflwyno cais i ysgol. Os nad oes gennych gyfeiriad parhaol, dylech gysylltu â'r Tîm Ysgolion a Llywodraethwyr am gyngor ychwanegol ar gwblhau'r ffurflen. Ceir manylion dogfennau derbyniol isod
Prawf preswylio - dogfennau derbyniol (rhaid i ddogfennau fod yn ddiweddar - o fewn y 3 mis diwethaf)
- Trwydded gyrru / polisi yswiriant car
- Dogfen talu morgais / cytunedb tenantiaeth
- Bil nwy / trydan neu gyfleustod arall a dalwyd yn ddiweddar
- Bil cerdyn credyd / cerdyn siop a dalwyd yn ddiweddar.
Yr Awdurdod Lleol yw'r awdurdod derbyn, ac mae'n rhaid ei hysbysu ynghylch unrhyw newid cyfeiriad yn ystod y weithdrefn dderbyn.
Ni ellir dyrannu lleoedd ar sail cyfeiriad a fwriedir yn y dyfodol, oni ellir cadarnhau symud tŷ trwy brawf ffurfiol bod contractau wedi cael eu cyfnewid neu fod cytundeb tenantiaeth chwe mis ar y lleiaf wedi cael ei lofnodi. Ni chaiff newid cyfeiriad oherwydd symud i fyw gydag aelodau'r teulu neu ffrindiau ei ystyried nes bod y symud wedi digwydd a bod prawf preswylio priodol wedi cael ei dderbyn. Hefyd efallai bydd prawf i ddangos eich bod wedi symud o'r cyfeiriad blaenorol yn ofynnol e.e. prawf bod contractau wedi cael eu cyfnewid, cytundeb tenantiaeth sy'n dangos y dyddiad pan ddaw'r denantiaeth i ben, rhybudd o fwriad i adael gan y landlord neu hysbysiad adfeddiannu. Derbynnir cyfeiriad personél lluoedd arfog y DU os caiff llythyr swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn sy'n cadarnhau dyddiad dychwelyd pendant ac sy'n rhoi cyfeiriad newydd, ei anfon gyda'r ffurflen gais. Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw'r hawl i geisio tystiolaeth ddogfennol ychwanegol i gefnogi hawl preswylio a allai gynnwys cysylltu â'r gwerthwr tai, y cyfreithiwr, y landlord neu'r gweithiwr proffesiynol perthnasol.
Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw'r hawl i gysylltu ag adrannau Awdurdodau Lleol eraill neu sefydliadau neu unigolion eraill i ddilysu'r manylion a gyflwynwyd ar ffurflenni cais derbyniadau.
Os wyf yn byw yn Ninas a Sir Abertawe, a all fy mhlentyn fynd i ysgol y tu allan i Abertawe?
Os ydych yn dymuno anfon eich plentyn i ysgol y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe, dylech gysylltu ag adran addysg yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am dderbyniadau i'r ysgol. Ni fydd Cyngor Abertawe fel arfer yn darparu cludiant nac yn gwneud unrhyw gyfraniad tuag at gostau cludiant disgyblion sy'n mynd i ysgol y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe. Ni fydd yr Adran Addysg yn cyfrannu tuag at gostau cludiant i ddisgyblion fynychuysgolion arbenigol e.e. Ysgolion Drama a Dawns.
Os wyf yn byw y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe a all fy mhlentyn fynd i ysgol yn Abertawe?
Gall plant sy'n byw y tu allan i ddinas a Sir Abertawe wneud cais am le mewn ysgol yn Abertawe. Os ydych yn gwneud cais am le yn y Derbyn neu Blwyddyn 7 ar gyfer Medi 2024, cyfeiriwch at y meini prawf derbyn a nodir ar dudalennau: www.abertawe.gov.uk/TrefniadauDerbyn
Rydym yn eich cynghori'n gryf i wneud cais hefyd gyda'ch awdurdod lleol eich hun (yr awdurdod lleol yr ydych yn talu eich Treth Cyngor) gan os nad ydym yn gallu cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol (ion) yn Abertawe yr ydych wedi gwneud cais amdanynt ni fyddwn yn gallu cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol arall yn Abertawe. Bydd plant rhieni sy'n byw y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe yn gallu cael addysg amser llawn yn ysgolion Dinas a Sir Abertawe os oes lleoedd ar gael. Os nad oes lleoedd ar gael, mae gan rieni'r hawl i apelio yn yr un modd â phlant rhieni sy'n byw yn Abertawe. Dylech ddilyn y prosesau cais perthnasol a nodir yn y ddogfen hon.
Plant Personél Gwasanaeth y DU a Gweision y Goron
Gellir gwneud ceisiadau ysgol heb gyfeiriad wedi'i gadarnhau yn Abertawe. Os gwneir cais cyn y flwyddyn ysgol sy'n agosáu, dylai gael llythyr swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn neu'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn datgan dyddiad dychwelyd. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â threfniadau derbyn yr ALl.
Ceisiadau gan blant o dramor
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gan blant sy'n cyrraedd o dramor yr hawl i fynychu ysgolion yng Nghymru a ariennir gan y wladwriaeth. Fodd bynnag, nid oes gan y plant canlynol hawl i gael addysg wladol:
- plant o wledydd nad ydynt yn Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) sydd yma fel ymwelwyr tymor byr - y rhain yw plant sy'n byw dramor ond sydd wedi cael eu derbyn i'r DU am ymweliad byr (er enghraifft fel twristiaid neu i ymweld â pherthnasau), ac i beidio ag astudio.
- plant o wledydd nad ydynt yn yr AEE sydd â chaniatâd i astudio yn y DU - caniateir i'r plant hyn astudio yn Lloegr ar y sail eu bod yn mynychu ysgol annibynnol, sy'n talu ffioedd.
Ni wrthodir ceisiadau dim ond oherwydd amheuon am statws mewnfudo plentyn. Fodd bynnag, gellir gofyn am gyngor gan y Swyddfa Gartref i wirio hawl plentyn i addysg a ariennir gan y wladwriaeth.
A gaiff fy nghais ei dderbyn? - Lleoedd Derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2025
Caiff ceisiadau am le mewn grwpiau trosglwyddo i ddosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 a dderbynnir erbyn y dyddiadau cau cyhoeddedig ei ystyried ar yr un pryd ag y bodlonir yr holl geisiadau eraill am y grŵp blwyddyn perthnasol, a bodlonir dewisiadau rhieni (eich dewis ysgol ar gyfer eich plentyn) ar yr amod bod digon o leoedd ar gael.
Un cynnig am le yn unig y dylid ei gwblhau, gall y cynnig gynnwys hyd at dri dewis. Os gwneir mwy nag un cynnig yr un mwyaf diweddar fydd yn cael ei ddefnyddio a bydd y rhai eraill yn cael eu hanwybyddu. Lle rennir cyfrifoldeb rhiant, dylai'r holl rieni fod yn gytûn ynghylch y dewisiadau a restrwyd yn y cais. Y rhieni sy'n gyfrifol am ddod i'r cytundeb hwn. Os byddwn yn derbyn mwy nag un cais ar gyfer yr un disgybl lle nodir dewis gwahanol ym mhob cais, bydd y ffurflenni'n cael eu dychwelyd heb eu prosesu er mwyn i'r rhai hynny sydd a chyfrifoldeb fel rhieni i ddod i gytundeb.
Mae gan bob ysgol Nifer Derbyn sy'n nodi sawl disgybl y gall eu derbyn ym mhob grŵp blwyddyn. Fel arfer, ni all yr Awdurdod Lleol (ALl) dderbyn mwy na nifer derbyn yr ysgol. Yn ogystal, mewn dosbarthiadau Derbyn, mae uchafswm cyfreithiol o 30 disgybl.
Os yw nifer y ceisiadau am ysgol yn gyfartal â neu'n llai na nifer y lleoedd sydd ar gael, (y nifer derbyn), caiff yr holl ddisgyblion sy'n gwneud cais eu derbyn i'r ysgol. Lle bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael mewn ysgol, yna caiff y lleoedd eu dyrannu yn unol â'r meini prawf gorymgeisio a fanylir. Mae'n bwysig cofio nad yw mynychu dosbarth meithrin mewn ysgol yn golygu y gwarentir lle i'ch plentyn yn y dosbarth derbyn nac ychwaith fynychu ysgol gynradd bartner ysgol uwchradd. Ni ellir gwarantu lle dalgylch i ddisgyblion sy'n dechrau mewn dosbarth Derbyn neu'n dechrau mewn ysgol uwchradd. Gallwch wneud ail a thrydydd dewis (ystyriwch gynnwys eich ysgol dalgylch) rhag ofn y bydd eich dewis cyntaf yn orlawn. Nid yw gwneud mwy nag un dewis yn effeithio ar eich cyfle i sicrhau eich dewis cyntaf gan fod yr holl leoedd yn cael eu dyrannu gan ddilyn y meini prawf derbyn. Fodd bynnag, os yw eich dewis cyntaf yn orlawn ac nid oes modd dyrannu lle i'ch plentyn, byddwn yn ystyried eich ail ddewis ac yna eich trydydd dewis. Os nad ydych wedi gwneud mwy nag un dewis ac ni allwn gynnig lle i chi yn yr ysgol o'ch dewis, byddwn yn cynnig lle amgen i chi.
Ble gellir cynnig mwy nag un ysgol, byddwn yn cynnig yr ysgol sydd uchaf ar eich dewis ac yn tynnu y cynigion eraill yn eu hol.
Caiff yr holl geisiadau a gwblheir eu hystyried ar yr un pryd, felly nid oes mantais i rieni sy'n cyflwyno cais yn gynnar. Os caiff eich cais ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau yn yr amserlen a gyhoeddwyd, bydd eich cais yn hwyr a chaiff ei ystyried ar ôl y ceisiadau eraill a anfonwyd mewn pryd. Erbyn i geisiadau hwyr gael eu hystyried, mae'n bosib y bydd yr holl leoedd yn eich ysgol o ddewis wedi cael eu dyrannu, ac efallai gwrthodir lle i chi os yw'r ysgol yn llawn, hyd yn oed os ydych yn byw yn nalgylch yr ysgol ac yn bodloni pob un o'r meini prawf derbyn eraill neu rai ohonynt. Ceir gwybodaeth am niferoedd derbyn ar dudalennau school details page.
Ni chynhelir profion dethol na chyfweliadau gan yr ysgolion.
Sut byddaf yn gwybod a fu fy nghais am le yn llwyddiannus? (Derbyn a Blwydyn 7)
Byddwch yn derbyn llythyr i ddweud wrthych a neilltuwyd lle i'ch plentyn yn eich dewis ysgol. Gofynnir i chi hefyd dderbyn y lle gan ddefnyddio'r system ar-lein. Os gwrthodwyd eich cais oherwydd bod yr ysgol wedi dyrannu hyd at y Nifer Derbyn, mae gennych hawl i apelio. Bydd manylion am sut i wneud hyn yn cael eu hanfon gyda'r llythyr . Dylech ddefnyddio'r graddfeydd amser a nodir yn y llythyr a'r ddogfen hon. Mae'n bosib na chaiff apeliadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwnnw eu hystyried tan ar ôl ymdrin â'r apeliadau a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau.
Tynnu lle yn ôl
Gellir tynnu lle yn ôl gan yr Awdurdod Lleol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn. Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ôl os nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
Y broses apêl
Gwrandewir ar yr apel gan banel apelio annibynnol sydd fel arfer yn cynnwys 5 aelod. Mae'r aelodau'n wirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi i gyflawni'r rol ac fel arfer maent yn llywodraethwyr ysgol, penaethiaid a lleygwyr. Ni fyddant yn gysylltiedig a'r ysgol lle rydych yn apelio am le neu'r ysgol lle rydych wedi cael cynnig lle. Mae'r clerc i'r panel yn gynrychiolydd o Adran Gyfreithiol yr awdurdod lleol ond nid yw'n cymryd unrhyw ran yn y broses o wneud penderfyniadau. Rhoddir cyfle i chi gyflwyno'ch achos a bydd cynrychiolydd o'r Adran Addysg yn nodi'r rhesymau pam y gwrthodwyd y lle i chi. Ar ol gwrando a yr apel, bydd y panel yn gwneud ei benderfyniad a gydd y penderfyniad hwn yn derfynol. Nid oes hawl ychwanegol i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn. Ar gyfer y Derbyn a Blwyddyn 7, gellir gwrando ar apeliadau lluosog ar gyfer yr un ysgol fel apeliadau wedi'u grwpio. Gellir cynnal apeliadau yn erbyn ceisiadau hwyr ar ôl cynnal yr apeliadau ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon. Os bydd eich apel yn aflwyddiannus, ni fyddwch yn gallu apeli am le yn yr un ysgol yn ystod yr un flwyddyn academaidd oni bai bod newid sylweddol yn yr amgylchiadau. Byddai angen trafod yr amgylchiadau hyn gyda'r Tim Ysgolion a Llywodraethwyr. Fodd bynnag, mae hawl i rieni apelio o'r newydd ynglyn a blwyddyn ysgol wahanol e.e. os yw apel am le yn y dosbarth Derbyn yn aflwyddiannus, gall rhieni apelio'r flwyddyn nesaf os gwrthodir lle i'w plentyn ym Mlwyddyn 1. Yn yr un modd, os collir apel am le ym Mlwyddyn 7, gall rhieni apelio yn y flwyddyn ganlynol os gwrthodir lle i'w plentyn ym Mlwyddyn 8. Prin iawn yw'r amgylchiadau lle gall panel annibynnol dderbyn disgybl i ddosbarth babanod os oes 30 ynddo eisoes. Ni ellir cefnogi'r apel oni bai bod y panel apeliadau'n fodlon nad oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol yn ei wneud o dan amgylchiadau'r achos neu y byddai'r plentyn wedi cael cynnig lle petai'r trefniadau derbyn wedi cael eu dilyn yn gywir. Mae hyn oherwydd y cyfyngiad maint dosbarth statudol o 30 mewn dosbarthiadau babanod. Gall rhieni sy'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod lle dderbyn lle o hyd yn yr ysgol arall a gynigir. Ni fydd hyn yn effeithio ar yr apêl mewn unrhyw ffordd a bydd yn sicrhau bod lle wedi'i gadarnhau i'w plentyn rhag ofn bydd yr apêl yn aflwyddiannus. Os gwrthodir y lle a gynigiwyd, gellir ei gynnig i ddisgybl arall ar restr aros yr ysgol honno. Mae gwybodaeth sy'n darparu nifer yr apeliadau a gynhaliwyd a nifer yr apeliadau a lwyddodd ar gyfer y Derbyn a Blwyddyn 7 Medi 2023 i'w gweld isod: Ysgol o ddewis Nifer yr apeliadau Nifer yr apeliadau llwyddiannus Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt 2 1 Ysgol Gyfun Olchfa 11 2 Ysgol Gyfun Pontarddulais 10 0 Ysgol Gynradd Plasmarl 3 0 Cyfanswm 26 3 Mae gwybodaeth sy'n darparu nifer yr apeliadau a gynhaliwyd a nifer yr apeliadau a oedd yn llwyddiannus ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022 / 2023 i'w gweld isod: Ysgol o ddewis Nifer yr apeliadau Nifer yr apeliadau llwyddiannus Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt 4 3 Ysgol Gynradd Brynhyfryd 1 1 Ysgol Gynradd Brynmill 1 1 Ysgol Gyfun Cefn Hengoed 5 3 Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw 9 1 Ysgol Gyfun Dylan Thomas 5 4 Ysgol Gyfun Tregwyr 5 4 Ysgol Gynradd Gwyrosydd 1 1 Ysgol Gynradd Hendrefoilan 2 0 Ysgol Gynradd Llangyfelach 5 0 Ysgol Gynradd Mayals 4 3 Cyfanswm 100 54 Caiff rhestri aros ar gyfer pob ysgol (ac eithrio Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir) eu gweinyddu gan yr awdurdod lleol. Os nad ydych yn llwyddo i gael lle yn y dosbarth Derbyn ar gyfer mis Medi 2025 neu Flwyddyn 7 ym mis Medi 2025 yn yr ysgol(ion) o'ch dewis fel a nodir ar y ffurflenni cais yn y rownd dderbyn arferol, caiff enw'ch plentyn ei roi'n awtomatig ar y rhestr aros ar gyfer yr ysgol honno (ysgolion hynny). Ni fydd derbyn lle mewn ysgol arall yn effeithio ar eich safle ar y rhestr aros. Os daw lle ar gael yn yr ysgol(ion) o'ch dewis, caiff ei ddyrannu gan yr awdurdod lleol yn unol â'r meini prawf derbyn, ac nid yn nhrefn y dyddiad y rhoddwyd enwau'r disgyblion ar y rhestr. Nid oes gan ddisgyblion y mae eu rhieni'n cyflwyno apêl flaenoriaeth dros ddisgyblion eraill ar y rhestr aros. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Bydd angen i rieni sydd am i'w ceisiadau gael eu hystyried ar ôl y dyddiad hwn gyflwyno cais newydd. Os yw eich plentyn ar y rhestr aros, cofiwch y gall ei sefyllfa newid oherwydd gall ceisiadau sydd â mwy o flaenoriaeth dan y meini prawf gorymgeisio gael eu cyflwyno ar unrhyw adeg.Y broses apêl
Ysgol Gynradd Clwyd 1 1 Ysgol Gynradd Treforys 1 0 Ysgol Gynradd Newton 1 1 Ysgol Gyfun Olchfa 9 4 Ysgol Grynradd Parkland 12 6 Ysgol Gynradd Pengelli 1 1 Ysgol Gynradd Penllergaer 2 2 Ysgol Gyfun Pentrehafod 8 7 Ysgol Gynradd Plasmarl 3 0 Ysgol Gyfun Pontarddulais 3 3 Ysgol Gynradd Sgeti 2 1 Ysgol Gynradd San Helen 4 1 Ysgol Gynradd Heol y Teras 2 2 Ysgol Gynradd Townhill 6 3 Ysgol Gynradd Tre Uchaf 1 1 Ysgol Gynradd Waun Wen 1 0 Rhestrau aros ar gyfer disgyblion sy'n gwneud cais am le yn y dosbarth Derbyn neu Flwyddyn 7
Gwneud cais am le ysgol yng nghanol y flwyddyn (ysgolion cynradd ac uwchradd)
Mae'r broses Symud Ysgol ar gyfer unrhyw blentyn sydd eisoes yn mynd i ysgol sy'n symud i Abertawe o Awdurdod Lleol neu wlad arall, neu sy'n byw yng Abertawe ac sydd am symud o un ysgol i un aral.
Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod y gall symud o un ysgol i ysgol arall yn nghanol tymor neu yn ystod blwyddyn ysgol fod yn arbennig o anodd i rai disgyblion a'u teuluoedd. Efallai bydd amrywiaeth o resymau gennych dros deimlo mai symud yng nghanol y flwyddyn i ysgol newydd fyddai'r opsiwn gorau i'ch plentyn.
Cyn i chi benderfynu gwneud cais am drosglwyddo'ch plentyn i ysgol arall, am resymau ac eithrio symud tŷ, dylech ystyried eich opsiynau'n ofalus iawn a thrafod ein rhesymau ac unrhyw faterion gyda phennaeth ysgol bresennol eich plentyn. Nid yw newid ysgol bob amser yn datrys problem, ac mewn rhai amgylchiadau, gall symud beri anawsterau, yn enwedig lle bydd disgybl hanner ffordd drwy astudiaethau arholiadau h.y. yn ystod Blwyddyn 10 ac 11.
Gellir datrys llawer o faterion yn llwyddiannus heb orfod newid ysgol. Rydym yn argymell eich bod yn ystyried y canlynol cyn i chi benderfynu a'i symud ysgol yw'r opsiwn gorau i'ch plentyn:
- Ydych chi dweud wrth yr ysgol am unrhyw broblem arwyddocaol sydd gan eich plentyn? Bydd hyn yn caniatáu iddi archwilio'r mater a cheisio datrys yr anawsterau.
- Ydych chi wedi gwneud digon o ymchwil eich hun ac a ydych yn hyderus y gall yr ysgol newydd ddiwallu anghenion penodol eich plentyn?
- A yw'r ysgol newydd yn gallu cynnig y dewis o bynciau a chyrsiau y mae eich plentyn wedi bod yn eu hastudio? Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddisgyblion ym mlwyddyn 9 sy'n dewis eu hopsiynau o ran pynciau TGAU ac yn fwy felly i'r rheini sydd am symud ym mlynyddoedd 10 ac 11. Wedi i'r cyrsiau TGAU ddechrau nid yw bob amser yn bosib parhau i astudio'r un ystod o bynciau mewn ysgol arall. Gallai hyn effeithio ar nifer yr arholiadau TGAU y llwyddir ynddynt y bydd modd eu cyflawni ar ôl symud ysgol. Mae posibilrwydd hefyd, hyd yn oed os yw'r ysgol newydd yn cynnig y cyrsiau gofynnol, efallai na fydd mewn sefyllfa i gynnig lle i'ch plentyn os yw'r cyrsiau'n llawn. Gallai hyn fod yn arbennig o broblemus mewn pynciau ymarferol megis arlwyo, adeiladu neu gyfrifiadura sy'n dibynnu ar nifer arbennig o orsafoedd gwaith fesul disgybl.
- Ydych chi wedi ystyried sut bydd eich plentyn yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol newydd bob dydd?
- A yw'r amser y mae ei angen ar eich plentyn i addasu i amgylchedd newydd, gwneud ffrindiau newydd a chyfarwyddo ag arferion newydd at ei gilydd yn werth yr holl dryblith sy'n gysylltiedig â symud ysgol?
Os, ar ôl ystyried y pwyntiau uchod, ydych chi'n dymuno bwrw ymlaen i symud eich plentyn i ysgol arall, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Fe'ch gwahoddir i restru hyd at 3 ysgol mewn trefn blaenoriaeth, a chwblhau pob rhan yn llawn gyda manylion perthnasol. Os yw eich dewis cyntaf wedi'i ordanysgrifio ac nad ydym yn gallu neilltuo lle i'ch plentyn byddwn yn ystyried eich ail ac yna eich trydydd dewis. Bydd meini prawf derbyn arferol yn berthnasol gyda phol cais.
Lle gallwn gynnig eich dewis cyntaf o ysgol i chi, caiff yr holl ddewisiadau ysgol sy'n is ar y rhestr eu diystyru.
Os ydych yn dymuno i'ch plentyn symud o ysgol cyfrwng Saesneg i ysgol cyfrwng Cymraeg, mae cymorth ar gael iddynt gynyddu eu sgiliau Cymraeg er mwyn gallu trosglwyddo i leoliad iaith wahanol. Am fwy o wybodaeth ewch i www.abertawe.gov.uk/addysgGymraegynAbertawe neu e-bostiwch addysg@abertawe.gov.uk
Rydym yn eich cynghori'n gryf i wneud cais hefyd gyda'ch awdurdod lleol eich hun (yr awdurdod lleol yr ydych yn talu eich Treth Cyngor) gan os nad ydym yn gallu cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol (ion) yn Abertawe yr ydych wedi gwneud cais amdanynt ni fyddwn yn gallu cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol arall yn Abertawe.
Os ydych yn symud i ardal yn ystod y flwyddyn ysgol neu am drosglwyddo'ch plentyn i ysgol arall, efallai y byddwch am drefnu ymweld â'r ysgol arfaethedig i drafod y symud a'r opsiynau sydd ar gael.
Os ydych yn penderfynu bwrw ymlaen â'r trosglwyddo, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais a'i dychwelyd i'r Tîm Derbyniadau yn y Ganolfan Ddinesig.
Os ydych yn penderfynu bwrw ymlaen â'r trosglwyddo, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd i'r Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.
Gellir cael gafael ar ffurflen gais yn y ffyrdd canlynol:
- Ein gwefan - dyma'r opsiwn cyflymaf: www.abertawe.gov.uk/trosglwyddo
- Gofyn i'r ysgol yr hoffech i'ch plentyn ei mynychu am ffurflen.
- Ymweld â'r Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe.
- E-bostio derbyniadau@abertawe.gov.uk i ofyn am ffurflen.
- Ffonio'r Tîm Derbyn i ofyn am ffurflen.
Os oes gennych fwy nag un plentyn sydd angen lle mewn ysgol, llenwch gais ar wahân ar gyfer pob plentyn.
Mae ffurflenni cais yn cael eu prosesu yn nhrefn dyddiad cyn pen 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr (pa un bynnag sydd gyntaf) ar ôl i'r Awdurdod Lleol dderbyn y cais. Os oes lle yn y grŵp blwyddyn priodol, rhoddir lle i'ch plentyn. Os yw'r grŵp blwyddyn yn llawn, h.y. maent wedi derbyn hyd at eu rhif derbyn (AN) yna cysylltir â chi yn ysgrifenedig a dywedir wrthych nad yw'r Awdurdod Lleol yn gallu rhoi lle i'ch plentyn. Byddwch yn cael yr opsiwn i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â dyfarnu lle yn yr ysgol a ddewiswyd. Anfonir manylion ar sut i apelio gyda'r llythyr. Os na chynigir lle i chi oherwydd bod yr ysgol rydych chi'n gwneud cais amdani yn llawn yna bydd enw'ch plentyn yn cael ei roi ar y rhestr aros a'i gadw ar y rhestr am weddill y flwyddyn academaidd. Os daw unrhyw leoedd ar gael tra bydd enw eich plentyn ar y rhestr aros yna cynigir y lle i blant gan ddefnyddio'r meini prawf gordanysgrifio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses dderbyn, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau yn y Ganolfan Ddinesig: derbyniadau@abertawe.gov.uk
Os yw eich plentyn ar y rhestr aros, cofiwch y gall ei sefyllfa newid oherwydd gall ceisiadau sydd â mwy o flaenoriaeth dan y meini prawf.
Gwybodaeth am y gwasanaethau addysg yn Abertawe
Beth os oes gan fy mhlentyn Anghenion dysgu Ychwanegol?
Mae plentyn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael llawer mwy o anhawster dysgu na'r mwyafrif o blant eraill o'r un oedran a/neu mae ganddo anabledd, sy'n ei rwystro rhag defnyddio cyfleusterau ar gyfer y math o addysg a ddarperir yn gyffredinol i eraill o'r un oedran mewn ysgol brif ffrwd.
Efallai bydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) ar blentyn ag ADY, er mwyn sicrhau bod ei anghenion yn cael eu diwallu a bod unrhyw rwystrau i ddysgu yn cael eu dileu. Mae'n bwysig bod plant ag ADY yn cael eu nodi'n gynnar yn eu gyrfa yn yr ysgol, fel y gellir rhoi ymyriad priodol ar waith cyn gynted â phosib. Mae gan athrawon dosbarth rôl allweddol yn y broses nodi hon.
Bydd anghenion y rhan fwyaf o ddysgwyr ag ADY yn cael eu diwallu drwy gefnogaeth a darpariaeth yn yr ysgol. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, bydd angen mwy o gefnogaeth gan yr Awdurdod Lleol. Mae seciolegwyr addysg ac athrawon arbenigol yr awdurdod lleol hefyd ar gael i helpu'r ysgol. Bydd anghenion y rhan fwyaf o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu yn eu hysgol leol o adnoddau'r ysgol. Mae ysgolion yn derbyn hyfforddiant ar gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi ystod eang o anghenion. Mae gan rai plant anghenion cymhleth, tymor hir, sy'n cael eu diwallu orau mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol (CAA) neu ysgol arbennig lle mae addysgu, arbenigedd ac offer arbenigol ychwanegol ar gael. Mae dwy ysgol arbennig yn Abertawe sef Ysgol Crug Glas ac Ysgol Pen-y-bryn. Mae disgyblion yn mynychu'r Cyfleusterau Addysgu Arbenigol (CAAau) hyn ac ysgolion arbennig os cânt eu lleoli yno gan yr Awdurdod Lleol.
Mae gan bob ysgol brif ffrwd a gynhelir yn Abertawe berson dynodedig a fydd yn gyfrifol am gydlynu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ADY. Adwaenir y person hwnnw fel y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol neu CADY. Y CADY yw'r unigolyn sydd, ar lefel strategol, yn sicrhau bod anghenion pob dysgwr ag ADY yn cael eu nodi a'u diwallu. Os ydych chi'n credu bod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY), dylech siarad â phennaeth ysgol eich plentyn neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn yr ysgol. Gallwch hefyd gysylltu â Thîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yr awdurdod lleol: ALNIT@abertawe.gov.uk
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth, polisi neu weithdrefnau ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, ewch i'n gwefan: www.abertawe.gov.uk/anghenionDysguYchwanegol.
A oes cefnogaeth arbenigol ar gael ar gyfer anawsterau ymddygiadol?
Yn gyffredinol, cefnogir a darperir ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn yr ysgol, a darperir ar eu cyfer gan athrawon prif ffrwd. Mewn nifer bach o achosion, mae angen mewnbwn arbenigol. Gall ysgolion wedyn alw ar gefnogaeth y Seicolegydd Addysg neu'r Athro Cefnogi Ymddygiad a fydd yn gweithio gyda staff yn yr ysgol i roi cymorth iddynt ddatrys unrhyw anawsterau. Os yw'r person ifanc yn parhau i ymddwyn mewn modd arbennig o heriol, er gwaethaf y gefnogaeth ychwanegol, gall yr ysgol wneud cais am le ym Maes Derw sef yr Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD). Cyn cael eu lleoli yn yr UCD, bydd disgyblion fel arfer wedi derbyn cefnogaeth gan y Seicolegydd Addysg a/neu'r Athro Cefnogi Ymddygiad yn yr ysgol. Disgwylir i ddisgyblion a osodwyd yn yr UCD ddychwelyd i'w hysgolion prif ffrwd, a bydd hyd eu cyfnod yn yr UCD yn amrywio. Gwneir atgyfeiriadau ar gyfer UCD gan yr ysgol i'r Panel Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) neu'r Panel Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
A oes cymorth ychwanegol ar gael ar gyfer fy mhlentyn sy'n dod o gartref lle na siaredir Cymraeg na Saesneg?
Oes, mae gan y rhan fwyaf o ysgolion gyllid i ddatblygu eu darpariaeth eu hunain ar gyfer plant nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gartref. Os ydych chi'n meddwl y gallai fod angen help ar eich plentyn i ddysgu Cymraeg/Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY/WAL), mae angen i chi siarad ag ysgol eich plentyn. Os oes angen cyngor neu arweiniad ar yr ysgol ar sut i gefnogi eich plentyn gall yr ysgol gysylltu gyda EAL@abertawe.gov.uk.
Sut bydd fy mhlentyn yn cyrraedd yr ysgol?
Mae'r cyngor yn darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol ar sail ei Bolisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol cyhoeddedig. Mae hyn yn unol â gofyniadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 Llywodraeth Cymru. Darperir cludiant am ddim i ddisgyblion sy'n byw dwy filltir neu fwy o ysgol gynradd eu dalgylch neu dair milltir neu fwy o ysgol uwchradd eu dalgylch. Mesurir y pellter hwn yn ôl y llwybr cerdded byrraf yn unol â Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y cyngor, Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a Ddarpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru (Mehefin 2014). Darperir cludiant am ddim o ddechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r plant yn cael eu pen-blwydd yn bump oed ynddi. Ni ddarperir cludiant am ddim i blant iau/meithrin).
Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol nad yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi fel rhiant/gofalwr sy'n gyfrifol am gost cludo'ch plentyn i'r ysgol ac oddi yno. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol pan nad yw disgybl yn mynd i'w ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os caiff plentyn le mewn ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch o ganlyniad i apêl lwyddiannus. Gellir cadarnhau eich ysgol ddynodedig trwy ebostio derbyniadau@abertawe.gov.uk.
Bydd disgyblion sy'n gymwys i dderbyn cludiant am ddim yn derbyn ffurflen gais yn ystod mis Mai/Mehefin ar gyfer y flwyddyn academaidd sy'n dechrau ym mis Medi.
Mae'r cyngor yn gweithredu Cynllun Gwerthu Seddi Sbâr dewisol ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol am ddim. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ffonio Uned Cludiant Integredig y cyngor ar 01792 636347 neu ar-lein o wedudalennau Cludiant Ysgol y cyngor: www.abertawe.gov.uk/cludiantirysgol
I blant â Chynlluniau Datblygu Unigol (CDUau), mae'r polisi cludiant cyffredinol a ddisgrifir uchod yn berthnasol. Bydd y cyngor yn darparu cludiant am ddim i blant ag anghenion addysgol arbennig, lle cânt eu lleoli gan yr Adran Addysg mewn ysgol brif ffrwd yn hytrach nag yn ysgol eu dalgylch lleol, mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol yn hytrach na'u hysgol leol, neu mewn ysgol arbennig, ar yr amod eu bod yn byw 2 filltir neu fwy o'r ysgol yn achos disgyblion cynradd a 3 milltir neu fwy yn achos disgyblion uwchradd. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim yn ôl ei ddisgresiwn gan ddibynnu ar natur anghenion dysgu ychwanegol y plentyn. Os yw'r Adran Addysg yn credu y gellir diwallu anghenion plentyn yn ei ysgol brif ffrwd leol ond mae'r rhieni'n dewis ysgol brif ffrwd wahanol, y rhiant fydd yn gyfrifol am unrhyw drefniadau a chostau cludiant.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am gludiant ysgol trwy ffonio Uned Cludiant Integredig y Cyngor ar 01792 636347 neu ar-lein ar we-dudalennau Cludiant i'r Ysgol y Cyngor: www.abertawe.gov.uk/cludiantirysgol.
Mae'r awdurdod lleol yn adolygu ei drefniadau cludiant i'r ysgol ar hyn o bryd. Pe byddai unrhyw newidiadau yn cael eu cynnig, cynhelir ymgynghoriad priodol a chaiff y llyfryn hwn ei ddiweddaru yn unol â hynny.
Gall newidiadau i argaeledd llwybrau cerdded yn y dyfodol, a allai arwain at ddileu cludiant am ddim, effeithio ar Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, Ysgol Gyfun Pontarddulais ac Ysgol Gyfun Gŵyr. Yr ardaloedd sy'n destun adolygiad yw: Pontybrenin i Dre-gŵyr, Pengelli i Bontarddulais a Chlun i Landeilo Ferwallt.
Beth yw'r Gwasanaeth Lles Addysg?
Mae'r Gwasanaeth Lles Addysg yn cefnogi'r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) gyda dyletswyddau statudol i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg berthnasol ar gael i bob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe i'w galluogi i ddysgu. Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn bwysig iawn i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael yr addysg orau bosib. Mae gan bob ysgol Swyddog Lles Addysg penodol. Mae Swyddog Lles Addysg sy'n gysylltiedig ag Unedau Cyfeirio Disgyblion hefyd.
Mae Swyddogion Lles Addysg yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc y mae prydlondeb, presenoldeb afreolaidd, absenoldeb o'r ysgol a materion lles yn effeithio ar eu haddysg. Maent yn asesu problemau ac yn edrych ar atebion drwy weithio'n agos gydag ysgolion, disgyblion, eu rheini a'u gofalwyr. Mae Swyddogion Lles Addysg yn gefnogol iawn ac yn gweithio o ongl ataliol felly gwneir pob ymdrech i osgoi sancsiynau cyfreithiol.
Mae Swyddogion Lles Addysg yn gweithio'n galed i ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd i feithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon a gweithio gyda nhw i ddatrys problemau yn hytrach na chymryd camau cyfreithiol. Fodd bynnag, mae gan Swyddogion Lles Addysg gyfrifoldeb am sicrhau presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol a gallant ddefnyddio hysbysiad cosb benodedig a /neu brosesau erlyn mewn llys i gefnogi hyn. Mae'r gwasanaeth wedi clustnodi swyddogion i gyflawni dyletswyddau penodol ar gyfer Cyflogi Plant, Addysg Ddewisol yn y Cartref a Phlant sy'n Colli Addysg.
Pobl ifanc oedran ysgol sy'n gweithio
Os yw eich plentyn am gael unrhyw waith rhan-amser pan fydd yn dal i fod yn yr ysgol, mae nifer o reolau sy'n berthnasol. Mae'r gofynion cyfreithiol hyn yn sicrhau bod y bobl ifanc yn cael eu cofrestru a'u trwyddedu gan Swyddog Cyflogaeth Plant yr awdurdod lleol, ac nad ydynt yn ymgymryd â gwaith a allai niweidio eu hiechyd, eu rhoi mewn perygl corfforol neu gael effaith andwyol ar eu haddysg. Y dyddiad swyddogol ar gyfer gadael yr ysgol yw dydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol mae'r disgybl yn 16 oed.
Cyn y dyddiad hwn, gall pobl ifanc dros 13 oed wneud cais am drwydded waith ar gyfer gwaith rhan-amser. Rhaid cwblhau ffurflen gais wedi'i llofnodi gan y rhieni a'r cyflogwr. Os yw'r math o waith yn addas a'r oriau gwaith o fewn y terfynau penodol, bydd trwydded waith yn cael ei chyflwyno. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch child.employment@abertawe.gov.uk
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Rhwydwaith Cenedlaethol Cyflogaeth ac Adloniant Plant (NNCEE) yn www.nncee.org.uk/
Addysg Ddewisol yn y Cartref
Mae Cyngor Abertawe yn parchu ac yn derbyn hawl rhieni i addysgu eu plant gartref.
Mae'r AALl yn cydnabod bod Addysg Ddewisol yn y Cartref yn agwedd allweddol ar ddewis rhieni ac felly ei nod yw annog arfer da yn ei berthnasoedd â'r sawl sy'n addysgu gartref.
Mae'r Tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref yn cydnabod ac yn parchu hawliau'r rhiant i addysgu ei blentyn gartref. Bydd y Tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref yn ceisio datblygu perthynas waith gadarnhaol â rhwydweithiau addysg yn y cartref a bydd yn cydweithio â rhieni Addysg Ddewisol yn y Cartref i alluogi plant i gael y dewisiadau bywyd gorau sydd ar gael iddynt, a bydd yn ymdrechu i gefnogi plant a theuluoedd drwy sicrhau bod plant yn cael mynediad at eu hawl i addysg.
Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn: https://www.abertawe.gov.uk/addysgDdewisolynyCartref
Cysylltiadau defnyddiol:
Gwasanaeth Lles Addysg: educationwelfareservice@abertawe.gov.uk
Gwybodaeth am gyflogaeth plant: child.employment@abertawe.gov.uk
Addysg Ddewisol yn y Cartref: electivehomeeducation@abertawe.gov.uk
Beth os yw fy mhlentyn am fod yn rhan o gynhyrchiad adloniant?
Bydd rhai plant yn cael y cyfle i gymryd rhan ym myd adloniant, megis ar lwyfan neu mewn ffilm a theledu. Mae angen trwydded ar gyfer hyn, ac fel gyda chyflogaeth ran-amser, mae amodau i'w dilyn. Y person sy'n trefnu'r cynhyrchiad sy'n gyfrifol am wneud cais am drwydded berfformio, ac mae angen i hyn gael ei wneud o leiaf 21 diwrnod cyn diwrnod cyntaf y perfformiad. Mae adran o'r ffurflen gais i'r rhieni ei chwblhau, ac os yw eich plentyn yn rhan o gynhyrchiad adloniant, bydd angen i chi sicrhau bod trwydded wedi'i rhoi.
Mae ffurflenni cais am drwyddedau ar gael gan yr Tîm Cefnogi Ysgolion a Llywodraethwyr. Cyswllt: childperformancelicence@abertawe.gov.uk
Diolgelu
Mae Adran Addysg yr Awdurdod Lleol yn cyflogi Swyddog Diogelu ac Amddiffyn Plant amser llawn sy'n gweithio ochr yn ochr â'r Swyddog Arweiniol ar gyfer Lles a Diogelu - Addysg. Mae'r swyddog yn rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar faterion amddiffyn a diogelu plant ar gyfer staff ysgolion, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill ac mae hefyd yn darparu hyfforddiant i staff ysgolion, staff addysg a llywodraethwyr. Mae'r swyddog hefyd yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill sy'n gyfrifol am ddiogelu gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu a'r adran iechyd fel rhan o'r Hwb Diogelu Integredig. Mae pob ysgol wedi penodi person dynodedig - fel arfer y pennaeth mewn ysgolion cynradd, sy'n gyfrifol am amddiffyn a diogelu plant. Mae corff llywodraethu pob ysgol wedi penodi Llywodraethwr sy'n gyfrifol am amddiffyn a diogelu plant.
Bydd gan bob ysgol ei Pholisi Amddiffyn a Diogelu Plant ei hun sy'n pennu ei dyletswyddau ar gyfer diogelu disgyblion yn ei hysgolion. Yn ogystal â'r ddyletswydd i ddilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019 (https://diogelu.cymru/cy/) mae'n ofynnol iddynt weithio gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill o dan y ddeddfwriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) -VAWDASV (Wales) Act 2015 yn ogystal â chanllawiau'r Swyddfa Gartref o dan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 lle dylid ystyried plant sy'n byw gyda cham-drin domestig yn ddioddefwyr. Rydym yn cydnabod y gall disgyblion sy'n byw mewn sefyllfaoedd sy'n sarhaus yn y cartref fod yn debygol o fod yn dioddef trawma, yn teimlo'n ofnus neu'n nerfus ac yn llai tebygol o gyflawni yn yr un modd â disgyblion nad ydynt yn byw mewn amgylchiadau o'r fath. Mae ein hysgolion wedi ymrwymo i ymateb i ddisgyblion o'r fath gyda pholisïau amddiffyn a diogelu plant.
Mae ein hysgolion yn gweithio'n agos gyda swyddogion Heddlu De Cymru i ymateb i ddisgyblion a all fod wedi profi cam-drin domestig gartref dan brosesau Ymgyrch Encompass. Os yw swyddogion heddlu'n mynd i eiddo lle nodir cam-drin domestig ac mae plant yn bresennol neu'n cael eu cofnodi fel rhai sy'n byw yn y cyfeiriad, byddant yn cyflwyno adroddiad cynhwysfawr i ysgol y plentyn y bore canlynol. Mae'r adroddiad yn cynnwys manylion y cyflawnwr honedig a'r dioddefwr honedig ochr yn ochr â chrynodeb byr o'r rheswm dros gysylltu â'r heddlu. Diben yr adroddiad hwn yw caniatáu i ysgolion ddeall pam y gall disgyblion fod yn teimlo'n bryderus ac/neu'n isel a darparu cymorth lles priodol ar yr adeg pan fo'i angen fwyaf. I gael rhagor o wybodaeth am Ymgyrch Encompass cliciwch: www.operationencompass.org/
Cosb gorfforol
Daeth Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym ar 21 Mawrth 2022. Nid yw'n creu trosedd newydd, ond mae'n diddymu amddiffyniad o "gosb resymol" yn y troseddau presennol o ymosod ar blentyn neu guro plentyn. Mae cosbi corfforol yn cynnwys taro, bwrw, slapio, ysgwyd neu gosbi plentyn fel arall gan ddefnyddio grym corfforol. Mae'r newid yn golygu y bydd unrhyw ffurf ar gosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru, gan gynnwys gan rieni, gofalwyr ac unrhyw un sy'n gweithredu in loco parentis mewn unrhyw leoliad yng Nghymru.
Mae'n ofynnol i bob un o'n hysgolion weithio o fewn y gyfraith drwy adrodd am unrhyw achosion a welwyd o gosb gorfforol a gweithio gyda gwasanaethau statudol a'r heddlu lle bo hynny'n briodol i gefnogi teuluoedd pan dderbynnir datgeliad yn ymwneud â chosb gorfforol neu fathau eraill o niwed.
Rhif ffôn y Swyddog Amddiffyn a Diogelu Plant Addysg yw 01792 637148 / 07827 822700
A fydd fy mhlentyn yn cael prydau ysgol?
Mae cinio mewn ysgolion cynradd yn cynnwys pryd o fwyd 2 gwrs wedi'i goginio'n ffres gyda diod, ac fe'i darperir ym mhob ysgol. Mae'r prydau hyn yn bodloni'r canllawiau maeth fel sy'n ofynnol gan Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 a'n nod yw gwneud y rhain yn ddeniadol ac yn flasus i blant.
Mae bwydlen tair wythnos sydd i'w chael ar wefan Cyngor Abertawe www.abertawe.gov.uk/prydauysgolgynradd Bydd yr holl ddisgyblion oed cynradd yn derbyn pryd am ddim o fis Medi 2024 yn sgîl rhoi'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd ar waith, hyd at ac yn cynnwys plant blwyddyn 6 a does dim angen i chi wneud cais am y rhain. Rydym yn dal i annog disgyblion i geisio hawl i gael prydau ysgol am ddim, fel yr esbonnir yn y paragraff isod oherwydd gallant elwa hefyd o'r grant hanfodion ysgol (y grant gwisg ysgol gynt) a chyllid ychwanegol ar gyfer eu hysgol.
Mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu bod bwyta'n iach ar adegau rheolaidd trwy gyfuno brecwast am ddim yn y bore gyda chinio ysgol ganol dydd yn gallu helpu plant i ddysgu'n well. Gellir darparu ar gyfer gofynion dietegol arbennig ar gais i'ch ysgol, a rhaid i weithiwr proffesiynol meddygol gefnogi hyn.
Mae gan ysgolion uwchradd ffreuturau sydd ar hyn o bryd yn darparu amrywiaeth o fwydydd, ac mae pryd y dydd ar gael hefyd am £2.40. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio'r system ddi-arian drwy daliad rhyngrwyd/PayPoint.
A yw fy mhlentyn yn gwymwys i gael prydau ysgol am ddim?
Mae disgyblion y mae eu rhieni'n derbyn Credyd Cynhwysol a chanddynt enillion net blynyddol o £7,400 neu lai ac yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Credyd Treth Plant (gydag incwm trethadwy o hyd at £16,190 y flwyddyn ac, ar yr amod nad ydynt yn derbyn Credyd Treth Gwaith), elfen warantedig Credyd Pensiwn neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno amddiffyniad ar gyfer y rheini sy'n Derbyn Prydau Ysgol am ddim tan Ragfyr 2023 ('amddiffyniad wrth bontio')
Gellir cael rhagor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim a'r meini prawf amddiffyn gan ddefnyddio'r manylion isod:
Gwefan: www.abertawe.gov.uk/prydauysgolamddim
E-bost: prydauysgolamddim@abertawe.gov.uk Ffôn: 01792 635353
O fis Medi 2023 dechreuwyd cyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol i ddisgyblion ysgolion cynradd yng Nghymru. Yn Abertawe mae pob plentyn oedran derbyn yn derbyn prydau ysgol am ddim. Does dim angen cyflwyno cais am y prydau hyn, ond rydym yn annog disgyblion i hawlio'r prydau ysgol am ddim oherwydd gallant hefyd elwa o'r grant gwisg ysgol am ddim a chostau is eraill, fel ar gyfer teithiau ysgol.
Clybiau brecwast
Mae gan fwyafrif yr ysgolion cynradd yn Abertawe glybiau brecwast am ddim sydd fel arfer yn rhedeg am tua hanner awr cyn dechrau'r diwrnod ysgol. Mae llawer o ysgolion hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer gofal plant cyn y clwb brecwast ac yn codi tâl bach am y gwasanaeth hwn. Dylech gysylltu ag ysgol eich plentyn i gael manylion am amseroedd agor, taliadau a sut i gofrestru.
Ymweliadau ysgol
Codir tâl am lety a bwyd i blant sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau lle y maent yn aros dros nos. Mae ysgolion hefyd yn aml yn gofyn am gyfraniadau gwirfoddol ar gyfer gweithgareddau a gwibdeithiau dydd.
Ni chodir tâl am unrhyw gwrs preswyl neu wersyll y cytunwyd arno (sy'n rhan o'r cwricwlwm) os yw rhieni'r disgyblion yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm, Credyd Treth Plant (gydag incwm trethadwy o hyd at £16,190 y flwyddyn, ac ar yr amod nad ydych yn derbyn Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio), elfen warantedig y Credyd Pensiwn Gwladol neu lwfans cyflogaeth a chefnogaeth ar sail incwm.
Os yw disgybl yn teithio o'i gartref i weithgaredd a anogir ond nas darperir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg neu'r ysgol (er enghraifft, profiad gwaith), gofynnir i chi dalu am y tocynnau bws. Gallwch gael gwybodaeth am yr hyn a ddarperir am ddim a phryd y disgwylir i chi dalu trwy gael manylion am y polisïau hyn oddi wrth yr ysgol neu'r Gyfarwyddiaeth Addysg.
Gwisg ysgol
Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig Grant Hanfodion Ysgol blynyddol (sef y Grant Gwisg Ysgol gynt) i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (nid y rhai hynny sy'n cael eu hamddiffyn wrth bontio). Ym mis Medi 2024, bydd y grant hwn ar gael i blant sy'n dechrau dosbarth Derbyn hyd at flwyddyn 11 yn ogystal â phlant sy'n derbyn gofal. Os bydd y grant ar gael yn ystod blynyddoedd i ddod, bydd y Cyngor yn sicrhau bod y ddolen we isod yn cael ei diweddaru.
Ceir rhagor o wybodaeth yn: www.abertawe.gov.uk/grantGwisgYsgol
E-bost: GrantGwisgYsgol@abertawe.gov.uk
Pa arholiadau y bydd fy mhlentyn yn eu sefyll?
Bydd pob ysgol uwchradd yn rhoi manylion i chi am ganlyniadau eu harholiadau cyhoeddus os gofynnwch amdanynt. Mae gan bob myfyriwr yr hawl i sefyll arholiadau, ar y lefel briodol, yn y pynciau maent yn eu hastudio. Bydd yr ysgol yn talu'r ffi arholiad pan fydd y disgybl yn sefyll yr arholiad am y tro cyntaf. Os bydd disgybl yn colli arholiad heb reswm meddygol dilys, gofynnir i rieni'r disgybl hwnnw dalu'r ffi. Os paratowyd y disgybl ar gyfer yr arholiad yn rhywle arall neu os yw'n dewis sefyll arholiad nad yw'r ysgol wedi ei gynnig na'i argymell, gofynnir i rieni'r disgybl hwnnw dalu'r ffi. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y polisi arholiadau gan yr ysgol.
Llywodraethwyr ysgol
Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy'n chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol. Mae gan lywodraethwyr gyfrifoldeb dros wella ysgolion, polisïau ysgol a rheolaeth yr ysgol. Maent yn gofalu am faterion pwysig megis cyllid yr ysgol a phenodi staff. Mae cyrff llywodraethu'n cynnwys pobl leol sy'n fodlon rhoi o'u hamser yn wirfoddol oherwydd eu diddordeb yn yr ysgol. Ymhlith y bobl hyn bydd rhieni, pobl a benodir gan yr awdurdod lleol, athrawon, y pennaeth, aelodau staff nad ydynt yn addysgu, pobl fusnes ac aelodau eraill o'r gymuned leol.
Mae'n rhaid i bob llywodraethwr newydd ei benodi fynd ar gwrs sefydlu dwy awr ar ddata perfformiad ysgol. Yn ogystal â hyn, mae rhaglen hyfforddiant i lywodraethwyr ar amrywiaeth o destunau i'w helpu i gyflawni eu rôl yn effeithiol. Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu'r hyfforddiant hwn ar gyfer llywodraethwyr am ddim. Mae'n rhaid i bob corff llywodraethu lunio adroddiad blynyddol i rieni sy'n disgrifio gweithgareddau'r llywodraethwyr. Mae'r llywodraethwyr yn trefnu cyfarfod gyda'r rhieni lle y gall rhieni drafod yr adroddiad a gofyn cwestiynau am weithrediad yr ysgol. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn llywodraethwr ysgol, cysylltwch â'r Tîm Cefnogi Ysgolion a Llywodraethwyr yn y Ganolfan Ddinesig schoolandgovernorunit@abertawe.gov.uk
Gwybodaeth ac arweiniad a yrfaoedd
Wrth i ddisgyblion ddechrau ar y blynyddoedd hollbwysig o ran penderfyniadau am yrfaoedd - sef blynyddoedd 9, 11 a 12 - bydd Gyrfa Cymru wrth law i helpu rhieni yn ogystal â disgyblion. Gallant hefyd drefnu i rieni ddod i gyfweliad gyrfaoedd, naill ai gyda'ch plentyn neu ar wahân. Mae ymgynghorwyr gyrfaoedd hefyd yn dod i nosweithiau rhieni a digwyddiadau gyrfaoedd mewn ysgolion neu golegau, ac mae croeso i rieni ymweld â nhw yn un o'u canolfannau gyrfaoedd. Pan fydd disgyblion yn yr ysgol neu goleg, byddant yn cynnig trafodaethau grŵp i ddisgyblion/myfyrwyr ar bynciau gyrfaoedd perthnasol a chyfweliadau unigol i drafod eu dewisiadau a'u syniadau am yrfaoedd.
Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael o Ganolfan Gyrfaoedd Abertawe, Grove House, Grove Place, Abertawe SA1 5DF Ffôn 0800 028 4844 neu https://careerswales.gov.wales/
Pa addyg fydd ar gael pan fydd fy mhlentyn dros 16 oed?
Mae amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael i ddisgyblion sydd am aros mewn addysg amser llawn ar ôl eu pen-blwydd yn 16 oed. Gall myfyrwyr ddewis i barhau â'u hastudiaethau mewn ysgol uwchradd lle mae chweched dosbarth neu mewn coleg addysg bellach (AB). Yr ysgolion yn Abertawe sydd â chweched dosbarth yw Ysgol Gyfun Esgob Gore, Ysgol Gatholig Esgob Vaughan, Ysgol Gyfun Tregŵyr, Ysgol Gyfun Treforys ac Ysgol Gyfun yr Olchfa.
Mae Ysgol Gyfun Gymreag Bryn Tawe ac Ysgol Gyfun Gŵyr yn cynnig darpariaeth chweched dosbarth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dylai ceisiadau derbyn ar gyfer dosbarthiadau'r chweched mewn ysgolion neu golegau gael eu cyflwyno'n uniongyrchol i'r ysgol neu'r coleg.
Mae'r coleg AB, Coleg Gŵyr Abertawe, yn annibynnol o'r Awdurdod Lleol.
Oes modd i'm plentyn gael cymorth ariannol os bydd yn mynd ymlaen i addysg bellach neu uwch?
Lwfans Cynhaliaeth Addysg - Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau ôl-16 amser llawn mewn chweched dosbarthiadau neu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Gall teuluoedd ar incwm isel gyflwyno cais am y grant a bydd uchafswm o £40 yr wythnos, sy'n daladwy bob pythefnos, yn cael ei dalu i fyfyrwyr cymwys. Dylai gwybodaeth gyffredinol am y cynllun a'r pecynnau cais angenrheidiol fod ar gael yn yr ysgol neu'r coleg. Neu gallwch gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru LCA: www.studentfinancewales.co.uk/ Ffôn: 0300 200 4050
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, cyllid ar gyfer Addysg Bellach - Grant a gaiff ei asesu ar sail incwm yw Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), y bwriedir iddo annog pobl 19 oed a hŷn i barhau ag addysg bellach.
Gallai myfyrwyr o aelwydydd incwm isel sy'n 19 oed neu'n hŷn fod yn gymwys ar gyfer Grant Addysg Bellach Llywodraeth Cymru (GABLlC) (a elwir gynt yn Grant Addysg Bellach y Cynulliad) ar gyfer cyrsiau amser llawn neu ran-amser mewn colegau chweched dosbarth a thrydyddol. Gallwch gael yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch yn uniongyrchol o'ch coleg neu drwy gysylltu â chanolfan gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru Gwasanaethau Cwsmeriaid AB Cyllid Myfyrwyr Cymrudrwy: www.studentfinancewales.co.uk/further-education-funding/welsh-government-learning-grant/ Ffôn: 0300 200 4050
Beth gallaf ei wneud os bydd cwyn gennyf neu os wyf yn anfodlon ar addysg fy mhlentyn?
Gwneir pob ymgais gan ysgolion i drafod a datrys problemau a chwynion a wneir gan rieni. Yn gyntaf, dylech wneud apwyntiad i siarad â phennaeth eich plentyn am y broblem. Gall y rhan fwyaf o gwynion gael eu datrys trwy wneud hyn. Ond os nad yw'ch cwyn yn cael ei datrys, gallwch holi yn ysgol eich plentyn am gopi o bolisi cwynion yr ysgol. Mae gan bob ysgol bolisi cwynion ysgrifenedig a fydd yn esbonio sut i fwrw ymlaen â chwyn sydd heb ei datrys. Os oes gennych unrhyw ymholiad am y weithdrefn i'w dilyn, ffoniwch y Tîm Cefnogi Ysgolion a Llwodraethwyr: schoolandgovernorunit@abertawe.gov.uk
Beth allaf wneud os nad yw'r wybodaeth rwyf ei eisiau yn y llyfryn hwn?
Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu gyngor, siaradwch â phennaeth yr ysgol neu cysylltwch â'r Gyfarwyddiaeth Addysg ar 01792 636000 ebost Addysg@abertawe.gov.uk
Ysgolion cyfun a'u hysgolion cynradd partner
Ysgol Gyfun Gellifedw | Ysgol Gynradd Gellifedw, Ysgol Gynradd Clydach, Ysgol Gynradd Craigfelen, Ysgol Gynradd y Glais |
---|---|
Ysgol Gyfun yr Esgob Gore | Ysgol Gynradd Blaenymaes, Ysgol Gynradd Brynmill, Ysgol Gynradd Cadle, Ysgol Gynradd Grange, Ysgol Gynradd Ystumllwynarth, Ysgol Gynradd Parkland **, Ysgol Gynradd Portmead, Ysgol Gynradd Sgeti **, Ysgol Gynradd Whitestone (**Yn ôl cyfeiriad - yr Esgob Gore neu'r Olchfa) |
Ysgol Gyfun Llandeilo ferwallt | Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt, Ysgol Gynradd Crwys, Ysgol Gynradd Knelston, Ysgol Gynradd Mayals, Ysgol Gynradd Newton, Ysgol Gynradd Pennard. |
Ysgol Gyfun Cefn Hengoed | Ysgol Gynradd Cwm Glas, Ysgol Gynradd Dan-y-graig, Ysgol Gynradd Pentrechwyth, Ysgol Gynradd St, Thomas, Ysgol Gynradd Talycopa, Ysgol Gynradd Trallwn |
Ysgol Gyfun Dylan Thomas | Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Christchurch, Ysgol Gynradd Seaview, Ysgol Gynradd San Helen, Ysgol Gynradd Heol Teras, Ysgol Gynradd Gendros, Ysgol Gynradd y Gors, Ysgol Gynradd Townhill |
Ysgol Gyfun Tregŵyr | Ysgol Gynradd Llanrhidian, Ysgol Gynradd Penclawdd, Ysgol Gynradd Pen-y-fro, Ysgol Gynradd Tregŵyr, Ysgol Gynradd Waunarlwydd |
Ysgol Gyfun Treforys | Ysgol Gynradd y Clâs, Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw, Ysgol Gynradd Glyncollen, Ysgol Gynradd Pentre'r Graig, Ysgol Gynradd Treforys, Ysgol Gynradd Ynystawe |
Ysgol Gyfun yr Olchfa | Ysgol Gynradd Cilâ, Ysgol Gynradd Dyfnant, Ysgol Gynradd Hendrefoelan, Ysgol Gynradd Parkland **, Ysgol Gynradd Sgeti ** (** Yn ôl cyfeiriad - yr Esgob Gore neu'r Olchfa) |
Ysgol Gyfun Pentrehafod | Ysgol Gynradd Brynhyfryd, Ysgol Gynradd Burlais, Ysgol Gynradd Clwyd, Ysgol Gynradd Gwyrosydd, Ysgol Gynradd yr Hafod, Ysgol Gynradd Plasmarl, Ysgol Gynradd Waun Wen |
Ysgol Gyfun Penyrheol | Ysgol Gynradd Casllwchwr, Ysgol Gynradd Gorseinon, Ysgol Gynradd Penyrheol, Ysgol Gynradd Pontybrenin, Ysgol Gynradd Tre Uchaf |
Ysgol Gyfun Pontarddulais | Ysgol Gynradd Llangyfelach, Ysgol Gynradd Pengelli, Ysgol Gynradd Penllergaer, Ysgol Gynradd Pontarddulais, Ysgol Gynradd Pontlliw |
*Gall newidiadau i argaeledd llwybrau cerdded yn y dyfodol, a allai arwain at ddileu cludiant am ddim, effeithio ar yr ysgol hon / ysgolion hyn. Yr ardaloedd sy'n destun adolygiad yw: Pontybrenin i Dre-gŵyr, Pengelli i Bontarddulais a Chlun i Landeilo Ferwallt.
** Gan ddibynnu ar y cyfeiriad. Cysylltwch gyda derbyniadau@abertawe.gov.uk i gadarnhau.
Ysgol Gyfun Gatholig a'u hysgolion cynradd partner
Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan | Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant, Ysgol Gynradd Gatholig Illtyd Sant, Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff (Abertawe), Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff, (Clydach)
|
---|
Dalgylchoedd yr Ysgolion Cymraeg
Rhoddwyd newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg ar waith ym mis Medi 2021 ac mae'n bosib bod yr ysgol ddalgylch ar gyfer eich cyfeiriad cartref wedi newid. I wirio'r ysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, e-bostiwch derbyniadau@abertawe.gov.uk
Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol nad yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi fel rhiant / gofalwr sy'n gyfrifol am gost cludo'ch plentyn i'r ysgol ac oddi yno. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol pan nad yw disgybl yn mynd i'w ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os caiff plentyn le mewn ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch o ganlyniad i apêl lwyddiannus.
Ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg a'u hysgolion cynradd partner
Ysgol Gyfun Gŵyr | YGG Bryniago, YGG Bryn-y-môr, YGG Pontybrenin, YGG y Login Fach, YGG Llwynderw |
---|---|
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe | YG y Cwm, YGG Gellionnen, YGG Lôn-las, YGG Tan-y-Lan, YGG Tirdeunaw |
*Gall newidiadau i argaeledd llwybrau cerdded yn y dyfodol, a allai arwain at ddileu cludiant am ddim, effeithio ar yr ysgol hon / ysgolion hyn. Yr ardaloedd sy'n destun adolygiad yw: Pontybrenin i Dre-gŵyr, Pengelli i Bontarddulais a Chlun i Landeilo Ferwallt.
Mae dalgylchoedd ysgolion Cymraeg yn cynnwys nifer o ddalgylchoedd ysgolion cyfrwng Saesneg.
Ysgolion Cymraeg | Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd Cymraeg Dynodedig |
---|---|
YGG BRYNIAGO | Ysgol Gynradd Pontarddulais, Ysgol Gynradd Pontlliw
|
***YGG BRYN-Y-MÔR | Ysgol Gynradd Brynmill, Ysgol Gynradd yr Hafod, Ysgol Gynradd Hendrefoelan, Ysgol Gynradd Parkland **, Ysgol Gynradd Sgeti **, Ysgol Gynradd Seaview, Ysgol Gynradd San Helen, Ysgol Gynradd Heol Teras, Ysgol Gynradd Townhill, Ysgol Gynradd Waun Wen (**Yn ôl cyfeiriad) |
YGG GELLIONNEN | Ysgol Gynradd Clydach, Ysgol Gynradd Craigfelen, Ysgol Gynradd Glais, Ysgol Gynradd Glyncollen, Ysgol Gynradd Ynystawe |
YGG LLWYNDERW | Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt, Ysgol Gynradd Grange, Ysgol Gynradd Knelston, Ysgol Gynradd Mayals, Ysgol Gynradd Newton, Ysgol Gynradd Ystumllwynarth, Ysgol Gynradd Parkland **, Ysgol Gynradd Pennard, Ysgol Gynradd Whitestone (**Yn ôl cyfeiriad) |
YGG LÔN-LAS | Ysgol Gynradd Gellifedw, Ysgol Gynradd Talycopa, Ysgol Gynradd Trallwn.
|
***YGG PONTYBRENIN | Ysgol Gynradd Casllwchwr, Ysgol Gynradd Gorseinon, Ysgol Gynradd Llanrhidian, Ysgol Gynradd Penclawdd, Ysgol Gynradd Pengelli, Ysgol Gynradd Penllergaer, Ysgol Gynradd Penyrheol, Ysgol Gynradd Pontybrenin, Ysgol Gynradd Tre Uchaf. |
***YGG TAN-Y-LAN | Ysgol Gynradd y Clâs, Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw, Ysgol Gynradd Llangyfelach, Ysgol Gynradd Treforys, Ysgol Gynradd Pentre'r Graig |
***YGG TIRDEUNAW | Ysgol Gynradd Blaenymaes, Ysgol Gynradd Brynhyfryd, Ysgol Gynradd Burlais, Ysgol Gynradd Cadle, Ysgol Gynradd Clwyd, Ysgol Gynradd Gendros, Ysgol Gynradd Gwyrosydd, Ysgol Gynradd Plasmarl, Ysgol Gynradd Portmead, |
YG Y CWM | Ysgol Gynradd Cwmglas, Ysgol Gynradd Dan-y-graig, Ysgol Gynradd Pentrechwyth, Ysgol Gynradd St Thomas |
***YGG Y LOGIN FACH | Ysgol Gynradd Cilâ, Ysgol Gynradd Crwys, Ysgol Gynradd Dyfnant, Ysgol Gynradd y Gors, Ysgol Gynradd Tregwyr, Ysgol Gynradd Pen-y-fro, Ysgol Gynradd Waunarlwydd |
** Gan ddibynnu ar y cyfeiriad. Cysylltwch gyda derbyniadau@abertawe.gov.uk i gadarnhau.
Newidiadau i Dalgylchoedd cyfrwng-Cymraeg a weithredwyd ym mis Medi 2021
Gweithredwyd y newidiadau canlynol ym mis Medi 2021:
Ysgol ddalgylch cyfrwng Saesneg | Ysgol ddalgylch Cyfrwng Cymraeg newydd | Ysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg cyn Medi 2021 | Ysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg uwchradd newydd | Ysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg uwchradd cyn Medi 2021 |
---|---|---|---|---|
Ysgol Gynradd Blaenymaes | YGG Tirdeunaw | YGG Pontybrenin | YG Bryn Tawe | YGG Gwyr |
Ysgol Gynradd Brynhyfryd | YGG Tirdeunaw | YGG Bryn y Mor | YG Bryn Tawe | YGG Gwyr |
Ysgol Gynradd Clase | YGG Tan y Lan | YGG Tirdeunaw | YG Bryn Tawe | YG Bryn Tawe |
Ysgol Gynradd Burlais | YGG Tirdeunaw | YGG Bryn y Mor | YG Bryn Tawe | YGG Gwyr |
Ysgol Gynradd Cadle | YGG Tirdeunaw | YGG Pontybrenin | YG Bryn Tawe | YGG Gwyr |
Ysgol Gynradd Clwyd | YGG Tirdeunaw | YGG Pontybrenin | YG Bryn Tawe | YGG Gwyr |
Ysgol Gynradd Gendros | YGG Tirdeunaw | YGG Pontybrenin | YG Bryn Tawe | YGG Gwyr |
Ysgol Gynradd Portmead | YGG Tirdeunaw | YGG Pontybrenin | YG Bryn Tawe | YGG Gwyr |
Ysgol Gynradd Seaview | YGG Bryn y Mor | YGG Y Login Fach | YGG Gwyr | YGG Gwyr |
Ysgol Gynradd Townhill | YGG Bryn y Mor | YGG Y Login Fach | YGG Gwyr | YGG Gwyr |
I wirio'r ysgol ddalgylch cyfrwng-Cymraeg ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, cysylltwch gyda derbyniadau@abertawe.gov.uk
Manylion yr ysgolion
- Ysgolion Cynradd Saesneg
- Ysgolion Cynradd Cymraeg
- Ysgolion cynradd a gynorthwyir yn wirfoddol
- Ysgolion Uwchradd Cymraeg
- Ysgolion Uwchradd Saesneg
- Ysgolion Uwchradd a gynorthwyir yn wirfoddol
- Ysgolion Arbennig
- Ysgolion unedau cyfeirio disgyblion
Mae'r tabl canlynol yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol am ysgolion yn Ninas a Sir Abertawe.
CS | Cyfrwng Saesneg |
CC | Cyfrwng Cymraeg |
ND | Rhif mynediad |
Nifer ar y gofrestr - cyfrif o ddisgyblion amser llawn a rhan-amser yn unol â Chyfrifiad Ysgolion Blynyddol lefel Disgyblion Llywodraeth Cymru (CYBLD) Ionawr 2024.
Ceisiadau a dderbynnir yn ystod y rownd dderbyn - nifer y ceisiadau am y Derbyn a Blwyddyn 7 a gyflwynwyd o fewn y dyddiadau cau cyhoeddedig (dewisiadau 1af, 2il a 3ydd) ar gyfer yr ysgol.
GWYBODAETH BWYSIG:
*Ysgol Gynradd Cwm Glas, *Ysgol Gynradd Treforys, *YGG Bryniago, *Ysgol Gyfun Penyrheol
*Sylwer bod yr awdurdod lleol ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynnig trefniadaeth ysgolion a allai effeithio ar nifer derbyn yr ysgolion hyn o fis Medi 2025 os bydd yn mynd rhagddo. Gellir dod o hyd i fanylion y cynnig, gan gynnwys ei effaith bosib ar nifer derbyn yr ysgol yn https://www.abertawe.gov.uk/trefniadaethysgolionCAAymgynghori Bydd y wefan hon yn cynnwys yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig, gan gynnwys canlyniad yr ymgynghoriad a phenderfyniad y Cabinet yn dilyn yr ymgynghoriad. Bydd y nifer derbyn cyhoeddedig yn y llyfryn Gwybodaeth i Rieni hwn yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny os gwneir penderfyniad terfynol yn dilyn yr hysbysiad statudol priodol.
Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol mai syniad yn unig o nifer y lleoedd sydd ar gael yw'r ffigur a roddir ar gyfer dosbarth meithrin. Nid oes nifer derbyn penodol ar gyfer dosbarthiadau meithrin. Bydd nifer y lleoedd sydd ar gael bob blwyddyn yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau ac fe'u pennir ar ôl ystyried yr holl faterion perthnasol.
Mae cyfanswm rhif y lleoedd yn rhoi syniad o nifer y lleoedd sydd ar gael ar draws y flwyddyn gyfan. Ar gyfer mynediad i grŵp blwyddyn penodol, y rhif derbyn yw'r ffactor pwysig, a dyma'r rhif y dylid ei ystyried pan ddyrennir lleoedd.
Mae'r holl ysgolion yn Abertawe yn ysgolion dydd. Nid oes ysgolion preswyl.
COLEG GWYR ABERTAWE |
|
|
---|---|---|
Campws Gorseinon 52/58 Belgrave Road, Gorseinon, Abertawe, SA4 6RF. (01792) 890700 | Post 16 | Mr M Jones |
Campws Ty coch Heol Ty coch, Sgeti, Abertawe, SA2 9EB. (01792) 284000 | Post 16 | Mr M Jones |
Trefniadau derbyn 2025-2026
- Dosbarthiadau meithrin yn ysgolion yr Awdurdod Lleol
- Derbyn
- Blwyddyn 7
- Trosglwyddo yn ystod y flwyddyn
- Derbyniadau i'r Chweched Dosbarth
Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal. Cytunodd yr ALl y byddai ysgolion yn gweinyddu'r ceisiadau meithrin ar ran yr ALl. Bydd gofyn i rieni/ofalwyr sydd am gael lle i'w plentyn mewn dosbarth meithrin gyflwyno cais am le. Gall rhieni/gofalwyr naill ai wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau am leoedd os na fydd gwneud hynny'n peryglu darparu addysg effeithlon neu'r defnydd effeithlon o adnoddau. Nid oes hawl i apelio os gwrthodir lle i blentyn mewn dosbarth meithrin. Gall nifer y lleoedd meithrin sydd ar gael fod yn wahanol i nifer derbyn gweddill y grwpiau blwyddyn mewn ysgol (Derbyn i Flwyddyn 6). Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol: *Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG. **Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter. ***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.) Nid yw'r meini prawf gorymgeisio'n berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr ALl Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, ond amddiffynnir hawliau'r rhieni i fod yn rhan o leoli eu plant gan y gyfraith. Bydd yr ALl, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu. Mae'r ALl yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch. Mae gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod mewn ysgol gan yr ALl ac mae'r disgyblion hyn yn cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol â lleoedd cynlluniedig. Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor/deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen. Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain. Gall rhieni / gwarchodwyr gyflwyno cais am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio'r ffurflen cais am dderbyn. Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig. Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl. Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol. Ni fydd hawl awtomatig gan blant sy'n mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol i dderbyn addysg amser llawn yn yr un ysgol. Bydd rhaid i rieni / ofalwyr wneud cais am le gyda'r ymgeiswyr eraill ar yr adeg addas. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch. Nid yw mynd i'r meithrin mewn unrhyw ysgol yn gwarantu y bydd lle ar gael yn y dosbarth Derbyn. Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn. Dylai rhieni / gofalwyr sy'n byw y tu hwnt i Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol / ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau, ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe. Gellir tynnu lle yn ôl gan yr Awdurdod Lleol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn. Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ôl os nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef. Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio. Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio. Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.Trefniadau derbyn i ysgolion meithrin 2025 / 2026
Dosbarthiadau meithrin yn ysgolion yr Awdurdod Lleol.
Derbyn i ddosbarthiadau meithrin
(a) Meini Prawf Gorymgeisio- dosbarthiadau meithrin mewn Ysgolion Cymunedol
Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol
(b) Gweithdrefnau Derbyn - lleoedd meithrin mewn Ysgolion Cymunedol
Tynnu lle yn ôl
Rhestrau aros
Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal. Gwahoddir pob plentyn sydd ar fin dechrau addysg amser llawn i wneud cais am le mewn ysgol a gynhelir gan yr ALl. Gall rhieni / gofalwyr naill ai wneud cais ar-lein am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau am le os na fydd hynny'n: Rhoddir y flaenoriaeth i'r rhieni hynny sy'n gwneud cais am le mewn unrhyw ysgol mewn pryd. Mae'n rhaid i bob ysgol dderbyn plant hyd at ei nifer derbyn ym mlwyddyn y derbyn (h.y. dosbarth Derbyn mewn ysgolion cynradd). Ym mlwyddyn y derbyn, gwrthodir lle i blentyn ar ôl cyrraedd y nifer derbyn. Os gwrthodir lle yn yr ysgol, mae'n rhaid rhoi hawl apelio i'r rhieni/gofalwyr hynny. Mae'r nifer derbyn yn berthnasol i bob grŵp blwyddyn (ac eithrio'r meithrin). Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol: *Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG. **Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter. ***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.) Ni fydd yr ALl yn darparu cludiant nac yn cyfrannu at gostau cludiant ar gyfer y plant sy'n cael eu derbyn o'r tu allan i ddalgylch penodol yr ysgol. Fodd bynnag, os yw grŵp blwyddyn ysgol y dalgylch yn llawn, darperir cludiant i'r ysgol agosaf â lle, os yw'r ysgol yn fwy na 2 filltir o'r cartref. Mae Polisi Cludiant i'r Ysgol yr ALl a gwybodaeth am gludiant i'r ysgol ar gael ar wefan y cyngor: Type=articles;Articleid=1377;Title=Cludiant i'r ysgol;calltoaction=;titleclass=; Nid yw'r meini prawf gorymgeisio'n berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr ALl Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, ond amddiffynnir hawliau'r rhieni i fod yn rhan o leoli eu plant gan y gyfraith. Bydd yr ALl, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu. Mae'r ALl yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch. Mae gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod mewn ysgol gan yr ALl ac mae'r disgyblion hyn yn cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol lleoedd cynlluniedig. Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor / deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen. Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain: Trefniadau derbyn - ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol. Gofynnir i rieni / ofalwyr wneud cais ar-lein am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio'r ffurflen cais am dderbyn. Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig. Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl. Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol. Ni fydd hawl awtomatig gan blant sy'n mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol i dderbyn addysg amser llawn yn yr un ysgol. Bydd angen i rieni/ofalwyr wneud cais am le mewn dosbarth derbyn gyda'r ymgeiswyr eraill. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch. Nid yw mynd i'r meithrin mewn unrhyw ysgol yn gwarantu y bydd lle ar gael yn y dosbarth Derbyn. Er bod yr ALl yn caniatáu i ddisgyblion ddechrau'n amser llawn yn y dosbarth Derbyn ar ddechrau'r flwyddyn ysgol maent yn 5 oed, nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i blentyn ddechrau ysgol nes dechrau'r tymor sy'n dilyn pen-blwydd y plentyn yn 5 oed. Felly, os yw rhiant y plentyn am ohirio mynediad i'r dosbarth Derbyn tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae'n rhaid dyrannu lle i'r plentyn hwnnw, ac ni chynigir y lle hwn i unrhyw blentyn arall. Fodd bynnag, ni ellir gohirio mynediad ar ôl dechrau'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 5 oed, neu ar ôl i'r flwyddyn academaidd wreiddiol y derbyniwyd y cais ynddi. Caiff ceisiadau am dderbyn plentyn mewn dosbarth Derbyn a gyflwynir ar, neu cyn y dyddiad cau gweinyddol, sef 29 Tachwedd 2024 eu prosesu gyda'i gilydd, a dyrennir y lleoedd yn unol â'r meini prawf gorymgeisio uchod. Yn hyn o beth, nid oes unrhyw fantais i gyflwyno'r cais am dderbyn yn gynnar. Caiff ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau eu trin fel ceisiadau hwyr. Os ydych chi am newid eich dewis ysgol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir ar gyfer ceisiadau neu ar ôl i le gael ei gynnig ar y diwrnod cynnig statudol, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd cais newydd a wneir yn gais hwyr a bydd yn disodli unrhyw geisiadau cynharach a dderbyniwyd ac ni fyddai unrhyw gynigion a wnaed yn flaenorol ar gael mwyach. Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn. Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig. Bydd rhieni sydd wedi cyflwyno cais erbyn 29 Tachwedd 2024 yn cael gwybod a ddyrannwyd lle i'w plant erbyn 16 Ebrill 2025. Dylai rhieni/gofalwyr sy'n byw y tu hwnt i Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol/ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau. ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir yn cael eu hystyried tan ar ôl i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol. Ymdrinnir â cheisiadau hwyr yn y drefn y'u derbyniwyd. Os oes mwy o geisiadau hwyr ar gyfer ysgol na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff y ceisiadau eu hystyried yn unol â'r meini prawf gorymgeisio. Gellir cynnal apeliadau yn erbyn ceisiadau hwyr ar ôl cynnal yr apeliadau ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon. Caiff rhieni/gofalwyr eu hysbysu, yn ysgrifenedig, a fu eu cais yn llwyddiannus. Os gwrthodwyd eu cais, hysbysir rhieni/gofalwyr yn ysgrifenedig bod ganddynt hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Os byddant yn dewis defnyddio'r hawl honno, rhaid cyflwyno'r apêl i'r Uned Cefnogi Ysgolion yn y Ganolfan Ddinesig erbyn 14 Mai 2025 (ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon).Caiff yr apêl ei hystyried gan banel apêl annibynnol sy'n cynnwys 3 i 5 person, sef pobl leyg a phobl â phrofiad o faes addysg. Sylwer:Oherwydd uchafswm statudol maint dosbarthiadau, sef 30, prin iawn yw'r amgylchiadau lle gall apêl am le mewn dosbarth babanod (Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2) lwyddo. Amlinellir yr amgylchiadau cyfyngedig yn Atodiad C - pwynt C.4 o God Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru - Dogfen Rhif: 007/2013. Gellir tynnu lle yn ôl gan yr Awdurdod Lleol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn. Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ôl os nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef. Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio. Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio. Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.Trefniadau derbyn i ysgolion cynradd 2025 / 2026
Ceisiadau lleoli cychwynnol, dewis rhieni a throsglwyddo.
(a) Cyfyngiadau Derbyn - Ysgolion Cymunedol
(b) Meini Prawf Gorymgeisio - Ysgolion Cymunedol
Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol
(c) Gweithdrefnau derbyn - ysgolion cymunedol
Ceisiadau hwyr
Hawl i apelio
Tynnu lle yn ôl
Rhestrau aros
Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal. Gwahoddir pob plentyn sydd ar fin trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd i wneud cais am le mewn ysgol a gynhelir gan yr ALl. Gall rhieni / gofalwyr naill ai wneud cais ar-lein am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau am le os na fydd hynny'n: Rhoddir y flaenoriaeth i'r rhieni hynny sy'n cyflwyno cais am le mewn unrhyw ysgol mewn pryd. Penderfynir ar argaeledd lleoedd trwy gyfeirio at nifer derbyn yr ysgol. Mae'n rhaid i bob ysgol dderbyn plant hyd at ei Nifer Derbyn ym mlwyddyn y derbyn (h.y. blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd) ac ni ddylid derbyn mwy na'r nifer hwn. Os gwrthodir lle yn yr ysgol, mae'n rhaid rhoi hawl apelio i'r rhieni/gofalwyr hynny. Mae'r nifer derbyn yn berthnasol i bob grŵp blwyddyn. Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol: *Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG. **Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter. ***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau / tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.) Ni fydd yr ALl yn darparu cludiant nac yn cyfrannu at gostau cludiant ar gyfer y plant sy'n cael eu derbyn o'r tu allan i ddalgylch penodol yr ysgol. Fodd bynnag, os yw grŵp blwyddyn y dalgylch yn llawn, darperir cludiant i'r ysgol agosaf sydd â lle, os yw'r ysgol honno'n fwy na phellter cerdded o 3 milltir o'r cartref. Mae Polisi Cludiant i'r Ysgol yr ALl a gwybodaeth am gludiant i'r ysgol ar gael ar wefan y cyngor: Type=articles;Articleid=3169;Title=;calltoaction=;titleclass=;. Nid yw'r meini prawf gorymgeisio'n berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr ALl Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, ond amddiffynnir hawliau'r rhieni i fod yn rhan o leoli eu plant gan y gyfraith. Bydd yr ALl, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu. Mae'r ALl yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch. Mae gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod mewn ysgol gan yr ALl ac mae'r disgyblion hyn yn cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn cyfleuster addysgu arbenigol â lleoedd cynlluniedig. Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor/deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen. Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain. Gofynnir i rieni / ofalwyr wneud cais ar-lein am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio'r ffurflen cais am dderbyn. Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig. Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl. Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol. Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig. Bydd ceisiadau am fynediad i'r grŵp oedran perthnasol (h.y. grŵp oedran y caniateir mynediad i'r ysgol i'r plant fel arfer) a gyflwynir ar y dyddiad cau, sef, 29 Tachwedd 2024, neu cyn hynny, yn cael eu prosesu gyda'i gilydd. Yn hyn o beth, nid oes unrhyw fantais i gyflwyno'r cais am dderbyn yn gynnar. Caiff ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau eu trin fel ceisiadau hwyr. Os ydych chi am newid eich dewis ysgol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir ar gyfer ceisiadau neu ar ôl i le gael ei gynnig ar y diwrnod cynnig statudol, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd cais newydd a wneir yn gais hwyr a bydd yn disodli unrhyw geisiadau cynharach a dderbyniwyd ac ni fyddai unrhyw gynigion a wnaed yn flaenorol ar gael mwyach. Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn. Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig. Bydd rhieni sydd wedi cyflwyno cais erbyn 29 Tachwedd 2024 yn cael gwybod a ddyrannwyd lle i'w plant erbyn 3 Mawrth 2025. Dylai rhieni/gofalwyr sy'n byw y tu hwn i Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol/ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau, ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir yn cael eu hystyried tan ar ôl i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol. Ymdrinnir â cheisiadau hwyr yn y drefn y'u derbyniwyd. Os oes mwy o geisiadau hwyr ar gyfer ysgol na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff y ceisiadau eu hystyried yn unol â'r meini prawf gorymgeisio. Gellir cynnal apeliadau yn erbyn ceisiadau hwyr ar ôl cynnal yr apeliadau ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon. Gellir tynnu lle yn ôl gan yr Awdurdod Lleol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn. Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ôl os nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef. Caiff rhieni/gofalwyr eu hysbysu, yn ysgrifenedig, a fu eu cais yn llwyddiannus. Os gwrthodwyd eu cais, hysbysir rhieni/gofalwyr yn ysgrifenedig bod ganddynt hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Os byddant yn dewis defnyddio'r hawl honno, rhaid cyflwyno'r apêl i'r Uned Cefnogi Ysgolion yn y Ganolfan Ddinesig erbyn 28 Mawrth 2025 (ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon).Caiff yr apêl ei hystyried gan banel apêl annibynnol sy'n cynnwys 3 i 5 person, sef pobl leyg a phobl â phrofiad o faes addysg. Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio. Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio. Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.Trefniadau derbyn i ysgolion uwchradd 2025 / 2026
Ceisiadau lleoli cychwynnol, dewis rhieni a throsglwyddo.
(a) Cyfyngiadau derbyn - ysgolion cymunedol
(b) Meini prawf gorymgeisio - ysgolion cymunedol
Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol
(c) Gweithdrefnau derbyn - ysgolion cymunedol
Ceisiadau hwyr
Tynnu lle yn ôl
Hawl i apelio
Rhestrau Aros
Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal. Bydd gofyn i rieni/ofalwyr sydd am gael lle mewn ysgol gyflwyno cais am le. Gall rhieni/gofalwyr naill ai wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau os na fydd gwneud hynny'n: Penderfynir ar argaeledd lleoedd trwy gyfeirio at nifer derbyn yr ysgol. Gwrthodir lle i blentyn ar ôl cyrraedd y nifer derbyn. Os gwrthodir lle yn yr ysgol, mae'n rhaid rhoi hawl apelio i'r rhieni/gofalwyr hynny (nid oes hawl i apelio ar gyfer y meithrin). Mae'r nifer derbyn yn berthnasol i bob grŵp blwyddyn. Mae'r trefniadau hyn yn berthnasol i ddisgyblion sy'n trosglwyddo o'r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11. Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol: *Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG. **Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter. ***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.) Ni fydd yr ALl yn darparu cludiant nac yn cyfrannu at gostau cludiant ar gyfer y plant sy'n cael eu derbyn o'r tu allan i ddalgylch penodol yr ysgol. Fodd bynnag, os yw grŵp blwyddyn ysgol y dalgylch yn llawn, darperir cludiant i'r ysgol agosaf â lle, os yw'r ysgol honno'nn fwy na 2 filltir o'r cartref ar gyfer ysgol gynradd neu 3 milltir ar gyfer ysgol uwchradd. Mae Polisi Cludiant i'r Ysgol yr ALl a gwybodaeth am gludiant i'r ysgol ar gael ar wefan y cyngor: Type=articles;Articleid=3169;Title=;calltoaction=;titleclass=;. Nid yw'r meini prawf gorymgeisio'n berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr ALl Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, ond amddiffynnir hawliau'r rhieni i fod yn rhan o leoli eu plant gan y gyfraith. Bydd yr ALl, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu. Mae'r ALl yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch. Mae gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod mewn ysgol gan yr ALl ac mae'r disgyblion hyn yn cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn cyfleuster addysgu arbenigol lleoedd cynlluniedig. Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor/deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen. Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain. Gofynnir i rieni / ofalwyr wneud cais ar-lein am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio ffurflen cais am dderbyn. Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig. Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl. Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau gwyliau a charafannau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol. Ni fydd hawl awtomatig gan blant sy'n mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol i dderbyn addysg amser llawn yn yr un ysgol. Bydd angen i rieni/ofalwyr wneud cais am le mewn dosbarth derbyn gyda'r ymgeiswyr eraill ar yr adeg briodol. Nid yw mynd i'r meithrin mewn unrhyw ysgol yn gwarantu y bydd lle ar gael yn y dosbarth Derbyn. Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig. Nid oes sicrwydd y bydd lle ar gael mewn ysgol hyd yn oes os ydych yn symud i ddalgylch ysgol. Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn. Dylai rhieni/gofalwyr sy'n byw y tu hwn i Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol/ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau, ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe. Caiff rhieni/gofalwyr eu hysbysu'n ysgrifenedig a fu eu cais yn llwyddiannus. Os gwrthodwyd eu cais, hysbysir rhieni/gofalwyr drwy lythyr bod ganddynt hawl i apelio i Banel Apêl Annibynnol (nid oes hawl i apelio ar gyfer y meithrin). Os byddant yn dewis arfer yr hawl honno, rhaid cyflwyno'r apêl i'r Uned Cefnogi Ysgolion yn y Ganolfan Ddinesig. Caiff yr apêl ei ystyried gan Banel Apêl Annibynnol sy'n cynnwys 3 i 5 person, sef pobl leyg a phobl â phrofiad o faes addysg. Sylwer:Oherwydd uchafswm statudol maint dosbarthiadau, sef 30, prin iawn yw'r amgylchiadau lle gall apêl am le mewn dosbarth babanod (Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2) lwyddo. Amlinellir yr amgylchiadau cyfyngedig yn Atodiad C - pwynt C.4 o God Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru - Dogfen Rhif: 007/2013. Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio. Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio. Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.Trefniadau derbyn i ysgolion - trosglwyddo yn ystod y flwyddyn 2025 / 2026
Trosglwyddau yn ystod y flwyddyn.
Derbyn i ysgolion cymunedol - (cynradd ac uwchradd)
(a) Cyfyngiadau derbyn - ysgolion cymunedol
(b) Meini prawf gorymgeisio - ysgolion cymunedol
Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol
(c) Gweithdrefnau derbyn - ysgolion cymunedol
Hawl i apelio
Rhestrau aros
Gall disgyblion wneud cais am le mewn chweched dosbarth yn un o ysgolion Abertawe yn nhymor y gwanwyn ar gyfer y mis Medi canlynol. Pennir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau gan ysgolion unigol. Cynigir lle amodol i ddisgyblion yr ysgol. Bydd y lle dros dro hwn yn amodol ar gyflawni cymwysterau mynediad penodol fel a gyhoeddir gan bob ysgol unigol. Am ragor o wybodaeth am gymwysterau mynediad penodol, cysylltwch yn uniongyrchol â'r ysgol. Pan cyhoeddir canlyniadau TGAU, h.y. y trydydd dydd Iau ym mis Awst fel arfer, bydd angen i ddisgyblion unigol gysylltu â'r ysgol o'u dewis i gadarnhau eu canlyniadau TGAU neu gyfwerth. Mae'n bosib y bydd myfyrwyr sydd wedi cyflawni graddau boddhaol mewn arholiadau TGAU neu gyfwerth yn derbyn cynnig cadarnhaol o le yn yr ysgol o'u dewis os bydd lleoedd ar gael. Fodd bynnag, dylid nodi efallai na fydd yn bosib astudio pob un o'r pynciau a ddewiswyd yn yr ysgol a ddewiswyd. Efallai y bydd angen i ddisgyblion wneud cysylltiad â chweched dosbarth mewn ysgol arall er mwyn astudio rhai pynciau. Mae'n bosib y bydd myfyrwyr sydd wedi cyflawni graddau boddhaol mewn arholiadau TGAU neu gyfwerth ond nid ydynt yn gallu astudio'r holl bynciau o'u dewis yn yr ysgol o'u dewis yn cael cynnig dewis arall o'r pynciau sy'n cael eu haddysgu yn y lleoliad hwnnw. Fel arall, gall y disgyblion hynny chwilio am le mewn lleoliad arall, h.y. chweched dosbarth mewn ysgol arall yn Abertawe neu yng Ngholeg Gŵyr.. Ni fydd gofyn i ddisgyblion gael cyfweliad mynediad. Gall pob ysgol â chweched dosbarth dderbyn hyd at ei uchafswm derbyn, yn amodol ar fyfyrwyr yn cyflawni'r gofynion mynediad penodol a nodwyd gan yr ysgol (ceir manylion gan ysgolion unigol). Mae'n rhaid rhoi hawl apelio i rieni a disgyblion y mae eu cais am le yn chweched dosbarth yr ysgol yn cael ei wrthod. Rhoddir y cyfrifoldeb am y trefniadau ar gyfer blynyddoedd 12 a 13 mewn ysgolion cymunedol a gynhelir i'r sefydliadau'n uniongyrchol. Gellir gofyn am fanylion trefniadau derbyn ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol yn uniongyrchol gan y sefydliadau perthnasol a bydd y rhain yn rhan o'u polisïau derbyn. Os bydd gorysgrifio am leoedd mewn chweched dosbarth ac ni all yr ysgol fodloni'r galw am gyrsiau, caiff rhestr aros ei chynnal. Bydd ymgeiswyr sydd wedi bodloni'r meini prawf mynediad (gweler uchod) ond y mae eu cais am le wedi cael ei wrthod oherwydd prinder lle yn cael cyfle i roi eu henwau ar restr aros. Os daw lle/lleoedd ar gael, bydd disgyblion y mae eu henwau ar y rhestr aros yn cael cynnig lle yn unol â'r meini prawf gorymgeisio (gweler isod). I ddisgyblion sy'n cyflawni'r cymwysterau mynediad penodol pan fo mwy o geisiadau wedi cael eu derbyn ar gyfer unrhyw chweched dosbarth na'r lleoedd sydd ar gael, caiff y drefn flaenoriaeth ganlynol ei dilyn: *Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG. **Mesurir pob llwybr gan gyfrifiadur gan ystyried y pellter o'r cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael. Cymerir y mesuriadau o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. ***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r disgyblion cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.) Sylwer: Efallai y bydd disgyblion a chanddynt Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig yn trosglwyddo i ddosbarthiadau'r chweched yn ysgolion Abertawe. Gwneir y penderfyniad ar drosglwyddo gan yr awdurdod lleol mewn ymgynghoriad â'r ysgol berthnasol. Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei chyhoeddi, ond gellir ei newid, yn seiliedig ar gyngor/ddeddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen.Trefniadau derbyn i'r chweched dosbarth 2025 / 2026
Meini prawf ar gyfer mynediad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Cynnig amodol
Canlyniadau TGAU/cyfwerth
Dewis pynciau
Terfynau mynediad - chweched dosbarth
Trefniadau derbyn
Rhestr aros
Meini prawf gorymgeisio
Ysgol Christchurch yr Eglwys yng Nghymru - Trefniadau Derbyn 2024 / 2025
Fel un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru a gynorthwyir, mae corff llywodraethu'r ysgol yn gyfrifol am dderbyn disgyblion. Gellir casglu ffurflenni cais o'r ysgol. Dilynir amserlen dderbyn yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyfer dosbarthu, ystyried a dychwelyd y ffurflenni hyn. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu dderbyn disgyblion hyd at nifer derbyn yr ysgol, sef 14. Bydd yr ysgol yn ystyried ceisiadau hwyr mewn achosion lle rhoddir rheswm derbyniol. Mae'r rhain yn cynnwys pan fo rhiant sengl wedi bod yn dost ers cryn amser, neu pan fo teulu newydd symud i'r ardal neu ddychwelyd o dramor, ar yr amod bod ceisiadau'n cael eu derbyn cyn cynnig lleoedd. Caiff disgyblion eu derbyn i'r Meithrin, sy'n rhan o'n dosbarth Blynyddoedd Cynnar, y diwrnod ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Mae'r dosbarth Meithrin yn ddarpariaeth statudol; fodd bynnag, nid yw'n addysg orfodol. Nid yw derbyn plentyn i'r Meithrin yn sicrhau y caiff ei dderbyn i'r dosbarth Derbyn; os oes gan blentyn le yn ein dosbarth Meithrin, bydd rhaid cyflwyno'r ffurflen gais briodol am le yn y dosbarth Derbyn o fewn amserlen benodol y rownd dderbyn flynyddol. Derbynnir disgyblion i'r dosbarth Derbyn ym mlwyddyn academaidd eu pumed pen-blwydd, h.y. gellir derbyn unrhyw blentyn sy'n cyrraedd 4 oed erbyn 31 Awst ym mis Medi. Caiff "Plant sy'n Derbyn Gofal" eu blaenoriaethu. Yn achos prinder lle, bydd y llywodraethwyr yn derbyn disgyblion sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r ddeddfwriaeth gyfredol orau. Bydd plant o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr neu grwpiau teithiol yn cael eu trin yn unol â Chylchlythyr Rhif 003/2008 Llywodraeth Cynulliad Cymru, 'Symud Ymlaen - Addysg i Sipsiwn-Teithwyr' Ni fydd yr ysgol yn gwahaniaethu rhwng bechgyn a merched, neu yn erbyn ymgeiswyr ar sail hil, lliw croen, cenedligrwydd na tharddiad cenedlaethol neu ethnig. Nifer derbyn yr ysgol yw: 14 Mae'r llywodraethwyr wedi cytuno ar ddefnyddio'r meini prawf canlynol yn y drefn isod pan fo nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, er mwyn penderfynu ar ba ddisgyblion i'w derbyn. Sylwer: derbynnir unrhyw blentyn y mae'r ysgol wedi'i enwi yn ei Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig cyn dilyn meini prawf gorymgeisio. Ar gyfer meini prawf 3 a 5, bydd y llywodraethwyr yn gofyn am wybodaeth am ba mor aml mae'r rhieni'n mynd i wasanaethau eglwys a'u cyfraniad at waith yr eglwys a byddant yn ceisio cadarnhad o'r manylion hyn gan yr offeiriad neu'r gweinidog lleol ar ffurflen ategol sydd ynghlwm wrth y ffurflen hon. O fewn pob categori rhoddir y flaenoriaeth uchaf i'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol. Caiff y pellter i'r ysgol ei fesur mewn llinell syth o brif fynedfa'r cartref teuluol i brif gât yr ysgol. Os yw'r pellterau'n gyfartal, er enghraifft fflat mewn bloc o anheddau sy'n rhannu'r un fynedfa flaen, gwahaniaethir yn ôl lefel y llawr. Diffiniad o rieni Mae 'rhieni' yn cynnwys yr holl bobl sydd â chyfrifoldeb magu plant am blentyn fel a nodir yn Neddf Plant 1989. Lle y 'rhennir' cyfrifoldeb am blentyn, ystyrir mai'r person sy'n derbyn Budd-dal Plant yw'r person sy'n gyfrifol am gwblhau ffurflenni cais ac y caiff ei gyfeiriad ei ddefnyddio at ddibenion gweinyddol. Diffiniad o frawd neu chwaer Ar gyfer ceisiadau a wneir yn y rownd dderbyn arferol, brawd neu chwaer perthnasol yw plentyn y mae ganddo frawd, chwaer, llysfrawd neu lyschwaer neu sy'n blentyn maeth yn byw yn yr un uned deuluol yn yr un aelwyd a chyfeiriad teuluol sy'n mynd i'r ysgol o ddewis mewn unrhyw grŵp blwyddyn ac eithrio'r flwyddyn olaf. Hefyd bydd brodyr a chwiorydd biolegol sy'n mynd i'r ysgol o ddewis mewn unrhyw grŵp blwyddyn ac eithrio'r flwyddyn olaf yn cael eu trin fel brodyr a chwiorydd, ble bynnag yw eu preswylfa. Ni fydd plant sy'n byw yn yr un aelwyd fel rhan o deulu estynedig, megis cefndryd, yn cael eu trin fel brodyr a chwiorydd. 'Byw yn' a 'chyfeiriad cartref' Cyfeiriad y cartref fydd y cyfeiriad a ddefnyddir ar gyfer gohebiaeth sy'n gysylltiedig â lle caiff "Budd-dal Plant" ei dalu. Mewn achosion lle mae amheuaeth ynglŷn â chyfeiriad y cartref neu pan fo plentyn yn byw rhwng dau gartref (teuluoedd hollt) neu amgylchiadau perthnasol eraill, mae'n rhaid darparu prawf o Gyfeiriad y Cartref i'r ysgol er mwyn cadarnhau'r cyfeiriad a ddefnyddir ar y ffurflen gais. Cyfeiriad y cartref fydd y cyfeiriad sy'n cydymffurfio â'r uchod ar ddyddiad cau ceisiadau a bennir gan yr Awdurdod Lleol. Dylai teuluoedd sy'n bwriadu symud tŷ ddarparu: Gefeilliaid, Tripledi, Genedigaethau Lluosog Pan fo'r corff llywodraethu'n ystyried gefeilliaid, tripledi neu enedigaethau lluosog eraill ar gyfer un lle sy'n weddill, caiff y lle ei gynnig i'r teulu a gallant benderfynu (a) a fyddant yn ei dderbyn ar gyfer un o'r plant, p'un bynnag y byddant yn ei ddewis, neu (b) a fyddant yn ei wrthod a chaiff ei gynnig i'r person nesaf yn y dyraniad ar ôl y gefeilliaid/tripledi/genedigaethau lluosog. Sylwer na fyddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i frawd/chwaer lluosog yn y broses dderbyn heblaw am ei (h)ystyried fel cyswllt brawd/chwaer ar ôl i'r teulu dderbyn y lle(oedd) a gynigir ar gyfer un o'r gefeilliaid/tripledi/genedigaethau lluosog. Cynhelir rhestr aros ar gyfer yr ysgol yn achos gorymgeisio. Ar ôl dyrannu lleoedd yn ystod y rownd dderbyn arferol, bydd plant yn aros ar y rhestr aros tan 31 Awst yn y flwyddyn academaidd y gwnaeth gais ynddi. Os daw lleoedd ychwanegol ar gael pan fo'r rhestr aros ar waith, cânt eu dyrannu i blant ar y rhestr aros yn ôl y meini prawf gorymgeisio uchod. Os ydych yn gwneud cais yn unol â meini prawf 3 a 5 uchod, gellir casglu Ffurflen Gwybodaeth Ategol yn uniongyrchol o'r ysgol. Dylid dychwelyd y ffurflen hon i'r ysgol. Nid yw'r Ffurflen Gwybodaeth Ategol yn gais ar ei phen ei hun; mae'n rhaid i rieni gwblhau'r Ffurflen Gais Gyffredin hefyd. Diffinnir 'aelod' fel aelod o'r Eglwys yng Nghymru trwy gofrestru ar gofrestr etholiadol y plwyf. Mae addysg feithrin yn ddarpariaeth statudol ond nid oes hawl apelio gan rieni o dan Ddeddf Addysg 1980 os nad ydynt yn llwyddiannus yn eu cais am le. Nid yw derbyn plentyn i'r dosbarth meithrin yn sicrhau y caiff ei dderbyn i'r ysgol. Os nad ydym yn cynnig lle i blentyn yn yr ysgol hon, mae oherwydd y byddai'r cynnydd yn nifer y disgyblion yn amharu ar addysg y disgyblion sydd eisoes yn yr ysgol. Mae gan rieni'r hawl i apelio os nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad y corff llywodraethu i beidio â derbyn plentyn. Os ydych yn dewis defnyddio'r hawl honno, mae'n rhaid i chi gyflwyno'r apêl i glerc llywodraethwyr yr ysgol. Caiff yr apêl ei hystyried gan Banel Apeliadau Derbyn annibynnol, a weinyddir gan Fwrdd Addysg yr Esgobaeth, yn unol â chôd ymarfer Llywodraeth Cynulliad Cymru ar apeliadau derbyn. Yna bydd y Panel Apeliadau'n cynnal cyfarfod i ystyried yr holl apeliadau gan rieni y gwrthodwyd lle yn yr ysgol i'w plant. Mae'r penderfyniad yn rhwymol i bob parti perthnasol. Yn unol â'r Cynllun Datblygu Ysgol, caiff y polisi hwn ei adolygu bob dwy flynedd neu'n gynt os bydd unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth neu amgylchiadau lleol. Bydd rhieni'n derbyn hysbysiad ysgrifenedig o bob cais am le.
Meini prawf gorymgeisio
Diffiniadau
Rhestr aros
Sut y profir ymlyniad crefyddol
Cyfeiriadau at "yn aelodau" ac "aelodau gweithredol" yn ôl meini prawf gorymgeisio
Apeliadau derbyn
Adolygu
Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant - trefniadau derbyn 2024 / 2025
Sefydlwyd Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant gan yr Eglwys Gatholig i ddarparu addysg i blant o deuluoedd Catholig. Pan fydd mwy o geisiadau na'r lleoedd sydd ar gael, bydd blaenoriaeth bob tro'n cael ei rhoi i blant Catholig yn unol â'r meini prawf gorymgeisio a restrir isod. Gweinyddir yr ysgol gan ei chorff llywodraethu fel rhan o'r Eglwys Gatholig yn unol â'i gweithred ymddiriedolaeth a'i hofferyn llywodraethu, ac mae bob amser yn ceisio tystiolaethu i Iesu Grist. Fel Ysgol Gatholig ein bwriad yw darparu addysg Gatholig i'n holl ddisgyblion. Mewn Ysgol Gatholig, mae athrawiaeth ac arfer Catholig yn treiddio drwy bob agwedd ar weithgaredd yr ysgol. Mae'n hanfodol bod cymeriad Catholig yr ysgol yn cael ei gefnogi'n llwyr gan holl deuluoedd yr ysgol. Disgwylir felly i bob rhiant ddangos cefnogaeth lawn, agored a chadarnhaol i nodau ac ethos yr ysgol. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhiant nad yw'n dilyn y ffydd i gyflwyno cais am le i'w blentyn yn yr ysgol. Y corff llywodraethu yw'r awdurdod derbyn, ac mae'n gyfrifol am benderfynu ar dderbyniadau i'r ysgol hon. Yr awdurdod lleol sy'n ymgymryd â chydlynu trefniadau derbyn. Mae'r corff llywodraethu wedi pennu rhif derbyn o 30 o ddisgyblion i ddosbarth Derbyn yr ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf sy'n cychwyn ym mis Medi 2019. Mae rhieni plant sy'n mynd i'r dosbarth meithrin yn disgwyl i'w plant fynd ymlaen i addysg amser llawn, ac yn y rhan fwyaf o achosion, dyma sy'n digwydd. Fodd bynnag, dylai rhieni fod yn ymwybodol cyn i'w plant ddechrau'r ysgol (Dosbarth Derbyn) amser llawn y bydd y polisi isod yn cael ei ddilyn bob blwyddyn. Y rheswm am hyn yw bod addysg feithrin yn anstatudol, ac ni ellir ei ddefnyddio fel ffordd o flaenoriaethu plant ar gyfer mynediad i ysgol yn llawn amser. Bydd cais ar wahân fod yn angenrheidiol i wneud cais am le yn y dosbarth Derbyn ar yr adeg briodol. Os yw nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y meini prawf gorymgeisio canlynol yn cael eu cymhwyso yn y drefn ganlynol: Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr AALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. 'Byw yn' a 'chyfeiriad cartref' Cyfeiriad y cartref fydd y cyfeiriad a ddefnyddir ar gyfer gohebiaeth sy'n gysylltiedig â lle caiff "Budd-dal Plant" ei dalu. Mewn achosion lle mae amheuaeth ynglŷn â chyfeiriad y cartref neu pan fo plentyn yn byw rhwng dau gartref (teuluoedd hollt) neu amgylchiadau perthnasol eraill, mae'n rhaid darparu prawf o Gyfeiriad y Cartref i'r ysgol er mwyn cadarnhau'r cyfeiriad a ddefnyddir ar y ffurflen gais. Cyfeiriad y cartref fydd y cyfeiriad sy'n cydymffurfio â'r uchod ar ddyddiad cau ceisiadau a bennir gan yr awdurdod lleol. Dylai teuluoedd sy'n bwriadu symud tŷ ddarparu: Rhestr aros Cynhelir rhestr aros ar gyfer yr ysgol yn achos gorymgeisio. Ar ôl dyrannu lleoedd yn ystod y rownd dderbyn arferol, bydd plant yn aros ar y rhestr aros tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y maent wedi cyflwyno'u cais. Os daw lleoedd ychwanegol ar gael pan fo'r rhestr aros ar waith, cânt eu dyrannu i blant ar y rhestr aros yn ôl y meini prawf gorymgeisio uchod. Sut y profir ymlyniad crefyddol Os ydych yn gwneud cais dan feini prawf 3, 4, 6, a 7 cwblhewch y Ffurflen Gais Cyffredin. Diffinnir aelod fel aelod o'r Eglwys yng Nghymru trwy gofrestru ar gofrestr etholiadol y plwyf. Mae addysg feithrin yn ddarpariaeth anstatudol ond nid oes hawl apelio gan rieni o dan Ddeddf Addysg 1980 os nad ydynt yn llwyddiannus yn eu cais am le. Nid yw derbyn plentyn i'r dosbarth meithrin yn sicrhau y caiff ei dderbyn i'r ysgol. Y pennaeth sy'n gyfrifol am benderfynu a ddylid dyrannu lle yn y bore neu'r prynhawn. Ar gyfer plant sydd wedi derbyn lle yn y dosbarth meithrin bydd rhaid cyflwyno cais ar gyfer lle yn y dosbarth Derbyn ar yr adeg briodol. Ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le i'w plentyn/plant yn y dosbarth Derbyn neu unrhyw ddosbarth arall nad ydynt yn derbyn cynnig am le yn yr ysgol hon, y rheswm am hyn yw y byddai'r cynnydd mewn niferoedd yn effeithio ar addysg ein disgyblion presennol. Mae gan rieni'r hawl i apelio os nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad y corff llywodraethu i beidio â derbyn plentyn. Os ydych yn dewis defnyddio'r hawl honno, mae'n rhaid i chi gyflwyno'r apêl i glerc llywodraethwyr yr ysgol. Caiff yr apêl ei hystyried gan Banel Apeliadau Derbyn annibynnol, a weinyddir gan Fwrdd Addysg yr Esgobaeth, yn unol â chôd ymarfer Llywodraeth Cymru ar apeliadau derbyn. Yna bydd y Panel Apeliadau'n cynnal cyfarfod i ystyried yr holl apeliadau gan rieni y gwrthodwyd lle yn yr ysgol i'w plant. Mae'r penderfyniad yn rhwymol i bob parti perthnasol. Os yw plant nad ydynt yn Gatholigion yn cael eu croesawu i'r ysgol, mae disgwyl iddynt gymryd rhan yn llawn ym mywyd ysbrydol a gweddïol yr ysgol. Os yw nifer y ceisiadau mewn unrhyw gategori unigol yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gan roi blaenoriaeth i'r rhai sy'n byw'n agosaf (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) at yr ysgol. Mesurir y pellter o'r palmant y tu allan i brif fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat), i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Caiff rhaglen mapio cyfrifiadurol awtomatig yr awdurdod lleol (ONE system) ei defnyddio i fesur ac mae'n mesur y pellter o'r cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr byrraf. Os yw cais am le yn cael ei wrthod, bydd hawl gan rieni'r plentyn hwnnw i gyflwyno apêl i Banel Apeliadau Annibynnol. Bydd y llythyr gwrthod a anfonir atoch yn cynnwys manylion am sut i apelio yn erbyn ein penderfyniad. Caiff Bedydd Catholig ei wirio drwy weld tystysgrif bedydd y plentyn wedi'i llofnodi gan Offeiriad y Plwyf. Os nad yw hyn ar gael, gofynnir i rieni gyflwyno tystiolaeth e.e. llythyr gan Offeiriad y Plwyf. Cristnogion Uniongred (Groegaidd, Rwsiaidd, Indiaidd): Mae ganddynt berthynas agosach â'r Eglwys Gatholig trwy eu Hysgrythur a'u Traddodiad nag unrhyw enwadau Cristnogol eraill, sy'n esbonio'u categori uwch a gwirir hyn drwy weld Tystysgrif Bedydd y plentyn wedi'i llofnodi gan yr Offeiriad. Enwadau Cristnogol eraill neu blant o ffydd neu grefyddau eraill sy'n ceisio addysg o fewn cyd-destun Catholig. Caiff Aelodau o Enwadau Cristnogol eraill (y rheini y cydnabyddir eu defod bedydd gan yr Eglwys Gatholig) neu blant o ffydd neu grefyddau eraill eu gwirio trwy lythyr oddi wrth y clerigwyr, y gweinidog neu'r arweinydd ffydd priodol. Diffiniad o frawd / chwaer Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer ar y gofrestr yn Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn y mis Medi pan fyddai'r ymgeisydd yn dechrau'r ysgol. Os oes angen, rhoddir y flaenoriaeth uchaf i'r ymgeisydd â'r brawd neu chwaer ieuengaf. (Er enghraifft, mae brawd yn Bl6 gan Mary ac mae chwaer yn Bl1 gan Jane. Os mai un lle sydd ar gael ac os bydd yr holl feini prawf eraill yn gyfartal, cynigir lle i Jane oherwydd bod ei chwaer yn iau.) Dylid nodi perthynas unrhyw frodyr neu chwiorydd yn glir yn y cais. At ddibenion derbyn, brawd neu chwaer yw plentyn sy'n frawd neu'n chwaer lle mae'r ddau blentyn yn perthyn drwy briodas. Mae'r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys plant a fabwysiadwyd neu a faethwyd sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Nifer derbyn Dyma'r nifer uchaf o blant y gallwn eu derbyn mewn unrhyw grŵp blwyddyn. Caiff ei gyfrifo yn ôl arweiniad Llywodraeth Cymru "Mesur capasiti Ysgolion yng Nghymru." Y rhif mynediad yw 30. Gwarcheidwaeth a rennir Yn achos plentyn sydd, drwy amgylchiadau teuluol, yn byw gyda rhieni neu warchodwyr gwahanol mewn dau gyfeiriad yn ystod yr wythnos ysgol, bernir mai cyfeiriad y gofalwr sy'n bennaf gyfrifol am y plentyn yn ystod yr wythnos ysgol fydd cyfeiriad y plentyn. Byddwn yn defnyddio'r cyfeiriad hwn ar gyfer penderfyniadau ynglŷn â derbyniadau. (Er enghraifft, mae David yn byw gyda'i fam ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener; ac mae'n byw gyda'i dad ar ddydd Mawrth a dydd Iau. Cyfeiriad y fam a ddefnyddir fel cyfeiriad David.) Plentyn sy'n derbyn gofal Diffinnir plentyn sy'n derbyn gofal fel plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol yn unol ag Adran 22 Deddf Plant 1989 ac unrhyw ddeddfwriaeth dilynol. Os caiff cais plentyn am le yn y Dosbarth Derbyn ei wrthod oherwydd gorymgeisio, bydd ei gais yn cael ei gadw ar ffeil mewn rhestr aros tan 30 Medi yn y flwyddyn dderbyn (h.y. un mis ar ôl i'r ysgol ddechrau). Os daw lle ar gael, caiff ei gynnig i'r plentyn sydd ar frig y rhestr meini prawf goralw'n gyntaf, yna caiff ei gynnig i blant sy'n is ar y rhestr nes dyrannu'r lle. Am 3.20pm ar 30 Medi, caiff unrhyw geisiadau sydd ar y rhestr aros eu dileu. Ni fydd rhestr aros gan unrhyw grŵp blwyddyn arall. Caiff unrhyw geisiadau am le yn yr ysgol gan grwpiau blwyddyn eraill (a phlant y Dosbarth Derbyn ar ôl 30 Medi) eu hystyried ar wahân wrth iddynt gael eu cyflwyno a'u derbyn. Caiff yr holl geisiadau a gwblheir eu hystyried ar yr un pryd, felly nid oes mantais i rieni sy'n cyflwyno cais yn gynnar. Fodd bynnag, os na fyddwch yn cyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, caiff ei ystyried ar ôl yr holl geisiadau eraill a anfonwyd ar amser. Erbyn i geisiadau hwyr gael eu hystyried efallai bydd holl leoedd yr ysgol wedi cael eu dyrannu, hyd yn oed os ydych yn byw yn nalgylch yr ysgol ac yn bodloni'r holl feini prawf mynediad.Darpariaeth feithrin
Meini prawf gorymgeiso
Nodiadau
Apeliadau derbyn
Nodiadau arweiniol
Rhestrau aros
Ceisadau hwyr
Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff - Trefniadau Derbyn 2024 / 2025
Sefydlwyd Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff gan yr Eglwys Gatholig i ddarparu addysg i blant o deuluoedd Catholig. Pan fydd mwy o geisiadau na'r lleoedd sydd ar gael, bydd blaenoriaeth bob tro'n cael ei rhoi i blant Catholig yn unol â'r meini prawf gorymgeisio a restrir isod. Gweinyddir yr ysgol gan ei chorff llywodraethu fel rhan o'r Eglwys Gatholig yn unol â'i gweithred ymddiriedolaeth a'i hofferyn llywodraethu, ac mae bob amser yn ceisio tystiolaethu i Iesu Grist. Fel Ysgol Gatholig ein bwriad yw darparu addysg Gatholig i'n holl ddisgyblion. Mewn Ysgol Gatholig, mae athrawiaeth ac arfer Catholig yn treiddio drwy bob agwedd ar weithgaredd yr ysgol. Mae'n hanfodol bod cymeriad Catholig yr ysgol yn cael ei gefnogi'n llwyr gan holl deuluoedd yr ysgol. Disgwylir felly i bob rhiant ddangos cefnogaeth lawn, agored a chadarnhaol i nodau ac ethos yr ysgol. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhiant nad yw'n dilyn y ffydd i gyflwyno cais am le i'w blentyn yn yr ysgol. Y corff llywodraethu yw'r awdurdod derbyn, ac mae'n gyfrifol am benderfynu ar dderbyniadau i'r ysgol hon. Yr awdurdod lleol sy'n ymgymryd â chydlynu trefniadau derbyn. Mae'r corff llywodraethu wedi pennu rhif derbyn o 60 o ddisgyblion i ddosbarth Derbyn yr ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf sy'n cychwyn ym mis Medi 2019. Bydd y corff llywodraethu'n derbyn gefeilliaid a phob brawd a chwaer o'r genedigaethau lluosog os mai un o'r plant yma yw'r 60fed plentyn i gael lle. Os yw nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y meini prawf gorymgeisio canlynol yn cael eu cymhwyso yn y drefn ganlynol: Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd y Corff Llwyodraethol yn derbyn y ddau/tri phlentyn. 'Byw yn' a 'chyfeiriad cartref' Cyfeiriad y cartref fydd y cyfeiriad a ddefnyddir ar gyfer gohebiaeth sy'n gysylltiedig â lle caiff "Budd-dal Plant" ei dalu. Mewn achosion lle mae amheuaeth ynglŷn â chyfeiriad y cartref neu pan fo plentyn yn byw rhwng dau gartref (teuluoedd hollt) neu amgylchiadau perthnasol eraill, mae'n rhaid darparu prawf o Gyfeiriad y Cartref i'r ysgol er mwyn cadarnhau'r cyfeiriad a ddefnyddir ar y ffurflen gais. Cyfeiriad y cartref fydd y cyfeiriad sy'n cydymffurfio â'r uchod ar ddyddiad cau ceisiadau a bennir gan yr awdurdod lleol. Dylai teuluoedd sy'n bwriadu symud tŷ ddarparu: Rhestr aros Cynhelir rhestr aros ar gyfer yr ysgol yn achos gorymgeisio. Ar ôl dyrannu lleoedd yn ystod y rownd dderbyn arferol, bydd plant yn aros ar y rhestr aros tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y maent wedi cyflwyno'u cais. Os daw lleoedd ychwanegol ar gael pan fo'r rhestr aros ar waith, cânt eu dyrannu i blant ar y rhestr aros yn ôl y meini prawf gorymgeisio uchod. Os ydych yn gwneud cais dan feini prawf 3, 4, 6, a 7 cwblhewch y Ffurflen Gais Cyffredin. Diffinnir aelod fel aelod o'r Eglwys yng Nghymru trwy gofrestru ar gofrestr etholiadol y plwyf. Mae addysg feithrin yn ddarpariaeth anstatudol ond nid oes hawl apelio gan rieni o dan Ddeddf Addysg 1980 os nad ydynt yn llwyddiannus yn eu cais am le. Nid yw derbyn plentyn i'r dosbarth meithrin yn sicrhau y caiff ei dderbyn i'r ysgol. Y pennaeth sy'n gyfrifol am benderfynu a ddylid dyrannu lle yn y bore neu'r prynhawn. Ar gyfer plant sydd wedi derbyn lle yn y dosbarth meithrin bydd rhaid cyflwyno cais ar gyfer lle yn y dosbarth Derbyn ar yr adeg briodol. Ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le i'w plentyn/plant yn y dosbarth Derbyn neu unrhyw ddosbarth arall nad ydynt yn derbyn cynnig am le yn yr ysgol hon, y rheswm am hyn yw y byddai'r cynnydd mewn niferoedd yn effeithio ar addysg ein disgyblion presennol. Mae gan rieni'r hawl i apelio os nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad y corff llywodraethu i beidio â derbyn plentyn. Os ydych yn dewis defnyddio'r hawl honno, mae'n rhaid i chi gyflwyno'r apêl i glerc llywodraethwyr yr ysgol. Caiff yr apêl ei hystyried gan Banel Apeliadau Derbyn annibynnol, a weinyddir gan Fwrdd Addysg yr Esgobaeth, yn unol â chôd ymarfer Llywodraeth Cymru ar apeliadau derbyn. Yna bydd y Panel Apeliadau'n cynnal cyfarfod i ystyried yr holl apeliadau gan rieni y gwrthodwyd lle yn yr ysgol i'w plant. Mae'r penderfyniad yn rhwymol i bob parti perthnasol. Os yw plant nad ydynt yn Gatholigion yn cael eu croesawu i'r ysgol, mae disgwyl iddynt gymryd rhan yn llawn ym mywyd ysbrydol a gweddïol yr ysgol. Os yw nifer y ceisiadau mewn unrhyw gategori unigol yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gan roi blaenoriaeth i'r rhai sy'n byw'n agosaf (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) at yr ysgol. Mesurir y pellter o'r palmant y tu allan i brif fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat), i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Caiff rhaglen mapio cyfrifiadurol awtomatig yr awdurdod lleol (ONE system) ei defnyddio i fesur ac mae'n mesur y pellter o'r cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr byrraf. Os yw cais am le yn cael ei wrthod, bydd hawl gan rieni'r plentyn hwnnw i gyflwyno apêl i Banel Apeliadau Annibynnol. Bydd y llythyr gwrthod a anfonir atoch yn cynnwys manylion am sut i apelio yn erbyn ein penderfyniad. Caiff Bedydd Catholig ei wirio drwy weld tystysgrif bedydd y plentyn wedi'i llofnodi gan Offeiriad y Plwyf. Os nad yw hyn ar gael, gofynnir i rieni gyflwyno tystiolaeth e.e. llythyr gan Offeiriad y Plwyf. Cristnogion Uniongred (Groegaidd, Rwsiaidd, Indiaidd): Mae ganddynt berthynas agosach â'r Eglwys Gatholig trwy eu Hysgrythur a'u Traddodiad nag unrhyw enwadau Cristnogol eraill, sy'n esbonio'u categori uwch a gwirir hyn drwy weld Tystysgrif Bedydd y plentyn wedi'i llofnodi gan yr Offeiriad. Enwadau Cristnogol eraill neu blant o ffydd neu grefyddau eraill sy'n ceisio addysg o fewn cyd-destun Catholig. Caiff Aelodau o Enwadau Cristnogol eraill (y rheini y cydnabyddir eu defod bedydd gan yr Eglwys Gatholig) neu blant o ffydd neu grefyddau eraill eu gwirio trwy lythyr oddi wrth y clerigwyr, y gweinidog neu'r arweinydd ffydd priodol. Diffiniad o frawd / chwaer Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer ar y gofrestr yn Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff yn y mis Medi pan fyddai'r ymgeisydd yn dechrau'r ysgol. Os oes angen, rhoddir y flaenoriaeth uchaf i'r ymgeisydd â'r brawd neu chwaer ieuengaf. (Er enghraifft, mae brawd yn Bl6 gan Mary ac mae chwaer yn Bl1 gan Jane. Os mai un lle sydd ar gael ac os bydd yr holl feini prawf eraill yn gyfartal, cynigir lle i Jane oherwydd bod ei chwaer yn iau.) Dylid nodi perthynas unrhyw frodyr neu chwiorydd yn glir yn y cais. At ddibenion derbyn, brawd neu chwaer yw plentyn sy'n frawd neu'n chwaer lle mae'r ddau blentyn yn perthyn drwy briodas. Mae'r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys plant a fabwysiadwyd neu a faethwyd sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Nifer derbyn Dyma'r nifer uchaf o blant y gallwn eu derbyn mewn unrhyw grŵp blwyddyn. Caiff ei gyfrifo yn ôl arweiniad Llywodraeth Cymru "Mesur capasiti Ysgolion yng Nghymru." Y rhif mynediad yw 30. Gwarchedwaeth a rennir Yn achos plentyn sydd, drwy amgylchiadau teuluol, yn byw gyda rhieni neu warchodwyr gwahanol mewn dau gyfeiriad yn ystod yr wythnos ysgol, bernir mai cyfeiriad y gofalwr sy'n bennaf gyfrifol am y plentyn yn ystod yr wythnos ysgol fydd cyfeiriad y plentyn. Byddwn yn defnyddio'r cyfeiriad hwn ar gyfer penderfyniadau ynglŷn â derbyniadau. (Er enghraifft, mae David yn byw gyda'i fam ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener; ac mae'n byw gyda'i dad ar ddydd Mawrth a dydd Iau. Cyfeiriad y fam a ddefnyddir fel cyfeiriad David.) Plentyn sy'n derbyn gofal Diffinnir plentyn sy'n derbyn gofal fel plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol yn unol ag Adran 22 Deddf Plant 1989 ac unrhyw ddeddfwriaeth dilynol. Os caiff cais plentyn am le yn y Dosbarth Derbyn ei wrthod oherwydd gorymgeisio, bydd ei gais yn cael ei gadw ar ffeil mewn rhestr aros tan 30 Medi yn y flwyddyn dderbyn (h.y. un mis ar ôl i'r ysgol ddechrau). Os daw lle ar gael, caiff ei gynnig i'r plentyn sydd ar frig y rhestr meini prawf goralw'n gyntaf, yna caiff ei gynnig i blant sy'n is ar y rhestr nes dyrannu'r lle. Am 3.20pm ar 30 Medi, caiff unrhyw geisiadau sydd ar y rhestr aros eu dileu. Ni fydd rhestr aros gan unrhyw grŵp blwyddyn arall. Caiff unrhyw geisiadau am le yn yr ysgol gan grwpiau blwyddyn eraill (a phlant y Dosbarth Derbyn ar ôl 30 Medi) eu hystyried ar wahân wrth iddynt gael eu cyflwyno a'u derbyn. Caiff yr holl geisiadau a gwblheir eu hystyried ar yr un pryd, felly nid oes mantais i rieni sy'n cyflwyno cais yn gynnar. Fodd bynnag, os na fyddwch yn cyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, caiff ei ystyried ar ôl yr holl geisiadau eraill a anfonwyd ar amser. Erbyn i geisiadau hwyr gael eu hystyried efallai bydd holl leoedd yr ysgol wedi cael eu dyrannu, hyd yn oed os ydych yn byw yn nalgylch yr ysgol ac yn bodloni'r holl feini prawf mynediad.Meini prawf gorymgeisio
Nodiadau
Sut y profir ymlyniad crefyddol
Apeliadau derbyn
Nodiadau arweiniol
Rhestrau aros
Ceisiadau hwyr
Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff - Trefniadau Derbyn 2024 / 2025
St Joseph's Catholic primary school was founded by the Catholic Church to provide education for children of Catholic families. Whenever there are more applications than places available, priority will always be given to Catholic children in accordance with the oversubscription criteria listed below. The school is conducted by its governing body as part of the Catholic church in accordance with its trust deed and instrument of government and seeks at all times to be a witness to Jesus Christ. As a Catholic school we aim to provide a Catholic education for all our pupils. At a Catholic school, Catholic doctrine and practice permeates every aspect of the school's activity. It is essential that the Catholic character of the school's education is fully supported by all families in the school. All parents are therefore expected to give their full, unreserved and positive support for the aims and ethos of the school. This does not affect the right of a parent who is not of the faith to apply for a place for their child at the school. The governing body is the admission authority and has the responsibility for the admissions to this school. The local authority undertake the coordination of admission arrangements. The governing body has set its admission number at 30 pupils to the Reception class in the school year which begins in September 2019. The governing body will admit twins and all siblings from multiple births where one of the children is the 30th child admitted. Where the number of applications exceeds the number of places available, the following subscription criteria will be applied in the order below: A brother or sister will be defined as a natural or legally adopted child of either parent living at the same address. In any circumstances in which there is one place available and the next eligible children are twins/triplets then the governing body will admit both/all children. 'Residing in' and 'home address' The 'home address' will be the address used for correspondence related to where 'child benefit' is paid. In cases where there is doubt of the home address or where a child lives between two homes (split families) or other relevant circumstances, proof of the home address must be provided to the school to confirm the address used on the application form. Home addresses will be the address that complies with the above at the closing date for applications set by the local authority. Families who are due to move house should provide: Waiting list A waiting list will be maintained in the event of the school being oversubscribed. Following the allocation of places during the normal admissions round, children will remain on the waiting list until the 30 September in the school year in which they apply. If additional places become available while the waiting list on the basis of the above oversubscription criteria. How religious affiliation is tested If you are applying under criteria 3, 4, 6 and 7 please complete the Common Application form. Member is defined as member of the Church in Wales by registration on the electoral roll of the parish. Nursery education is a non-statutory provision and parents have no right of appeal under the Education Act 1980 if they are unsuccessful in gaining a place. Admission to the nursery class does not guarantee admissions to the school. The decision with regard to the allocation of a morning or afternoon place rests with the headteacher. Pupils granted a place in the nursery class will be required to submit an application for a place in the Reception class at the appropriate time. For parents who apply for a place for their children in Reception or any other year who are not offered a place at this school, it is because the increase in number would adversely affect the education of our current pupils. Parents who are dissatisfied with the decision of the governing body not to admit a child may appeal. If you exercise that right, the appeal must be forwarded to the clerk to the governors of the school. The appeal will be considered by an independent admission appeal panel, administered by the Diocesan Board of Education according to the Welsh Government's code of practice on school admission appeals. The appeals panel then meets to consider all appeals by parents who have been refused a place at our school. This decision is binding for all parties concerned. Where non-Catholic children are welcomed into the school, they are expected to embrace the school ethos by entering fully into the spiritual and prayer life of the school. If the number of applications in any individual category exceeds the number of places available, then places will be allocated on distance with those living nearest (shortest available walking route) to the school receiving priority. The measurement will be taken from the pavement outside the main entrance to the property (house or flat), to the nearest official school entrance. The local authority's atomically generated computer mapping programme (the ONE system) is used when undertaking the measurement which measures the distance from home to school by the shortest route. The parents of any child whose application for a place is rejected will have a right of appeal to an independent appeals panel. Details on how to appeal our decision will be included in the rejection letter we will send you. Catholic baptism will be verified by sight of the child's Baptismal Certificate, signed by the parish priest. Where this in not available parents are required to provide proof eg a letter from the parish priest. Orthodox Christians (Greek, Russian, Indian) have a closer link with the Catholic Church, through their scripture and tradition than other Christian denominations, hence their higher category and verified by sight of the child's Baptismal Certificate signed by the priest. Other Christian denominations or children of other religions or faiths seeking an education within a Catholic context. Membership of other Christian denominations (those with a rite of baptism recognised by the Catholic Church) or children of other religions or faiths will be verified by a letter from the appropriate clergy or minister or faith leader. Definition of sibling Children who have a sibling on roll at St Joseph's primary school, Clydach in September the applicant would begin school. If the need arises, the applicant with the youngest sibling will have the highest priority. For example, Mary has a brother in Y6 whilst Jane has a sister in Y1. If there were only one place and if all other criteria are equal, the place would be offered to Jane because her sibling is younger. Any sibling connection must be stated on the application form. For admission purposes a sibling is a child who is the brother/sister where two children are related by marriage. This definition also includes adopted or fostered children living at the same address. Admission number This is the maximum number of children we can have in any year group, it is calculated according to the Welsh Government guidance 'Measuring the Capacity of Schools in Wales'. The admission number is 30. Shared guardianship In the case of a child, through family circumstances, lives with different parents or carers at two addresses in the school week, then the carer who has the greater responsibility for the child during the school week will be deemed to be the child's address. We will use this address for admissions decisions. For example, David lives with his Mum on Monday, Wednesday and Friday, and with Dad Tuesday and Thursday. Mum's address will be used as David's address. Looked After Child A looked after child is one who is in the care of a local authority in accordance with Section 22 of the Children Act 1989 and any subsequent legislation. Where a child's application for admission to the Reception class is rejected due to oversubscription, their application will be held on file in a waiting list until the 30 September of the year of entry (ie one month after school starts). If a place becomes available, it will be offered to the child highest up the oversubscription criteria list first, then going down the list until the place is taken. At 3.20pm on 30 September, any applications remaining in the waiting list will be removed. No other year group will have a waiting list. Any applications for admission to the school from other year groups (and Reception children after 30 September) will be considered separately as they are submitted and received. All completed applications will be considered at the same time so there is no advantage to a parent who submits a form early. However, if you do not meet the deadline your application will be considered after all the applications sent in on time. By the time late applications are considered all places in the school may have been allocated even if you live in the school's catchment area and meet all other admission criteria.Oversubscription criteria
Notes for guidance
Admission appeals
Notes for guidance
Waiting lists
Late applications
Ysgol Gynradd Gatholig Illtyd Sant - Trefniadau Derbyn 2024 / 2025
Corff llywodraethu'r ysgol sy'n gyfrifol am bennu a gweinyddu'r polisi sy'n ymwneud a derbyn disgyblion i'r ysgol. Caiff ei arwain yn y cyfrifoldeb hwnnw gan: Yn y lle cyntaf, mae'r ysgol yn darparu ar gyfer plant a fedyddiwyd yn Gatholigion sy'n byw ym mhlwyfi Illtud Sant a'r Galon Sanctaidd, Ystradgynlais. Ein rôl bennaf fel ysgol Gatholig yw cyfranogi yng nghenhadaeth y ffydd Gatholig. Bydd yr ysgol yn helpu'r plant i ddatblygu'n llawn fel bodau dynol a'u paratoi i gyflawni eu cyfrifoldebau fel Catholigion mewn cymdeithas. Mae'r ysgol yn gofyn i rieni sy'n gwneud cais am le yma i barchu'r ethos hwn a'i bwysigrwydd i gymuned yr ysgol. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt yn dilyn crefydd yr ysgol hon o ran gwneud cais am le yn yr ysgol a chael eu hystyried am le. Ar ôl ymgynghori â'r ALl ac eraill, yn unol â gofynion y gyfraith, mae'r Corff Llywodraethu wedi cyhoeddi ei fod yn gallu derbyn uchafswm o 30 o ddisgyblion yn y Cyfnod Sylfaen i'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ym mis Medi 2019. Mae'r Corff Llywodraethu wedi dirprwyo cyfrifoldeb am bennu derbyniadau i'w Bwyllgor Derbyniadau a fydd yn ystyried yr holl geisiadau yn unol â'r meini prawf a nodir. Bydd disgyblion sy'n cael eu derbyn i'r ysgol yn mynd i'r dosbarthiadau Derbyn ym mis Medi 2018. Yn unol â'r gyfraith, ni fydd y Corff Llywodraethu'n derbyn mwy na 30 o ddisgyblion i unrhyw un dosbarth Derbyn neu Fabanod. Lle mae nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y Corff Llywodraethu'n defnyddio'r meini prawf gorymgeisio canlynol: Os bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael mewn unrhyw un o'r categorïau uchod, bydd y Pwyllgor Derbyniadau, yn y lle cyntaf, yn cynnig lleoedd i'r plant sy'n byw'n agosaf at yr ysgol trwy fesur llinell syth o ddrws blaen cyfeiriad cartref y plentyn (gan gynnwys mynedfa gymunedol i fflatiau) i brif fynedfa'r ysgol gan ddefnyddio system fesur gyfrifiadurol yr Awdurdod Lleol, gan roi blaenoriaeth i'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol. Mewn achosion prin, lle nad yw'r pellter yn cynorthwyo wrth dorri dadl, er enghraifft, gan fod gefeilliaid/tripledi yn yr un tŷ neu lle mae pellter cartrefi dau blentyn neu fwy o'r ysgol yn union yr un peth neu lle byddai derbyn disgybl arall yn arwain at oblygiadau o ran maint dosbarth, eir ati i ddethol ar hap i bennu dyrannu lleoedd. Mae'r lleoedd a gynigir yn amodol ar dderbyn prawf gan rieni/gofalwyr o'r wybodaeth a nodir ar eu ffurflen gais a chaiff ei defnyddio wrth ddyrannu lleoedd. Gall yr ysgol ofyn, er enghraifft, am dystiolaeth o fedydd, dyddiad geni a chyfeiriad cartref. Gall peidio â darparu dogfennau prawf arwain at dynnu lle yn ôl. *Disgybl bedydd, person sy'n cael ei hyfforddi, person sy'n derbyn hyfforddiant gan holiedydd yn egwyddorion y grefydd Gristnogol gan ganolbwyntio ar fedydd. Mae person sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig yn golygu, o fewn y polisïau a'r arferion sy'n ymwneud â derbyniadau ysgol, unrhyw blentyn sydd, cyn y dyddiad y mae'r cais yn ofynnol, wedi'i fedyddio'n Gatholig neu sydd, ar ôl ei fedyddio i 94 enwad Cristnogol arall y cydnabyddir ei fedyddiadau gan yr Eglwys Gatholig, ar ôl hynny wedi cael ei dderbyn yn ffurfiol i'r Eglwys Gatholig. 1. Er mwyn i blentyn gael ei ystyried yn Gatholig, bydd tystiolaeth o fedydd Catholig neu dderbyn i'r Eglwys yn ofynnol. Mae rhywun sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig yn rhywun sydd wedi cael ei fedyddio i gymundeb llawn â'r Eglwys Gatholig trwy ddefodau bedydd un o'r eglwysi defodol amrywiol mewn cymundeb ag Esgobaeth Rhufain (Cf. Catecism yr Eglwys Gatholig, 1203). Gellir cael tystiolaeth ysgrifenedig o'r bedydd hwn drwy archwilio Cofrestri Bedydd yr eglwys lle cynhaliwyd y bedydd. Neu Berson sydd wedi'i fedyddio mewn cymuned eglwysig ar wahân ac ar ôl hynny wedi'i dderbyn i gymundeb llawn â'r Eglwys Gatholig trwy Ddefod Derbyn Cristnogion a Fedyddiwyd i Gymundeb Llawn â'r Eglwys Gatholig. Gellir cael tystiolaeth ysgrifenedig o'u bedydd a'u derbyn i gymundeb llawn â'r Eglwys Gatholig trwy archwilio'r gofrestr dderbyniadau, neu mewn rhai achosion, is-adran o gofrestri bedydd yr eglwys lle cynhaliwyd y "Ddefod Derbyn". Bydd y Corff Llywodraethu yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig ar ffurf tystysgrif bedydd neu dystysgrif derbyn cyn iddynt ystyried cynnwys ceisiadau am leoedd ysgol mewn categorïau "Catholigion Bedyddiedig". Bydd tystysgrif bedydd neu dderbyn yn cynnwys: yr enw llawn, dyddiad geni, dyddiad bedydd neu dderbyn ac enw(au)'r rhiant (rhieni). Rhaid i'r dystysgrif hefyd ddangos ei bod wedi'i chopïo o'r cofnodion a gedwir gan leoliad y bedydd neu'r derbyn. Hwyrach y bydd y rhai sy'n cael anhawster dod o hyd i dystiolaeth ysgrifenedig o'u bedydd, a hynny am reswm dilys, yn cael eu hystyried fel Catholigion bedyddiedig, ond dim ond ar ôl iddynt gael eu cyfeirio at eu hoffeiriad plwyf a fydd, ar ôl ymgynghori â'i Ficer Cyffredinol, yn penderfynu sut i ddatrys mater y bedydd a sut i gynhyrchu tystiolaeth ysgrifenedig yn unol â chyfraith yr Eglwys. Byddai'r rhai yr ystyrir bod ganddynt reswm da dros fethu â chael tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys y rhai nad ydynt yn gallu cysylltu â lleoliad y bedydd oherwydd erledigaeth neu ofn neu fod yr eglwys a'r cofnodion gwreiddiol wedi'u dinistrio, neu fod y lleoliad lle gweinyddwyd y bedydd yn ddilys ond nid yn eglwys y plwyf lle cedwir cofnodion. Mae'n bosib y bydd llywodraethwyr yn gofyn am dystiolaeth gefnogi ychwanegol os nad yw'r dogfennau ysgrifenedig yn egluro'r ffaith y cafodd yr unigolyn ei fedyddio neu ei dderbyn i'r Eglwys Gatholig (h.y. os nad yw enw a chyfeiriad yr eglwys ar y dystysgrif neu os nad yw enw'r eglwys yn dynodi ei bod yn eglwys Gatholig.) 2. Ystyrir mai cyfeiriad cartref disgybl yw preswylfa barhaol y plentyn. Mae'n rhaid mai unig neu brif drigfan y plentyn yw'r cyfeiriad. Efallai bydd tystiolaeth ddogfennol yn ofynnol - e.e. cyfeiriad talu budd-dal plant. 3. Lle rhennir gofal yn gyfartal rhwng mam a thad, y cyfeiriad a ddefnyddir ar gyfer y broses ddyrannu fydd cyfeiriad y rhiant sy'n derbyn y Budd-dal Plant. Bydd tystiolaeth ddogfennol yn ofynnol. 4. Caiff ceisiadau hwyr (y rhai a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau) eu hystyried wrth ochr y rhai a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau o dan yr amgylchiadau canlynol yn unig: Caiff ceisiadau a dderbynnir wedi'r dyddiad hysbysu (ar ôl cynnig lleoedd) eu hychwanegu at restr aros yr ysgol yn nhrefn blaenoriaeth y meini prawf. Os ydych yn dymuno i'ch plentyn drosglwyddo i ddosbarth derbyn, mae'n rhaid i chi ddilyn y weithdrefn dderbyn a amlinellir uchod. Nid oes trosglwyddo awtomatig o'r meithrin, ac nid yw mynychu dosbarth meithrin yn rhoi blaenoriaeth ar gyfer lle mewn dosbarth derbyn. Darllenwch bolisi gorymgeisio'r ysgol. Cyflwynir ceisiadau o fewn y flwyddyn yn uniongyrchol i'r ysgol. Gwneir ceisiadau ar gyfer derbyniadau o fewn y flwyddyn yn yr un ffordd â'r rhai a wneir yn ystod y rownd derbyniadau arferol. Os oes lle ar gael ac nid oes rhestr aros, bydd y Corff Llywodraethu yn derbyn y plentyn. Os derbynnir mwy o geisiadau na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y Corff Llywodraethu'n rhoi'r ceisiadau mewn trefn, yn unol â'r meini prawf gorymgeisio, gyda'r addasiadau canlynol. Rhoddir blaenoriaeth i blant Catholig nad ydynt wedi cael cynnig lle mewn ysgol arall yn syth ar ôl plant Catholig sy'n 'derbyn gofal'. Yn yr un modd, rhoddir blaenoriaeth i blant nad ydynt wedi cael cynnig lle mewn ysgol yn syth ar ôl plant sy'n 'derbyn gofal'. Os na ellir cynnig lle ar y pryd, gallwch ofyn i ni am y rhesymau dros hyn, a fe'ch hysbysir o'ch hawl apelio. Cynigir cyfle i chi fod ar restr aros. Caiff y rhestr aros ei chynnal gan y Corff Llywodraethu yn nhrefn y meini prawf gorymgeisio [fel y'u haddaswyd uchod ac nid yn nhrefn derbyn y ceisiadau] . Tynnir enwau o'r rhestr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Pan ddaw lle ar gael, bydd y Corff Llywodraethu'n penderfynu pwy sydd ar frig y rhestr fel y gall yr ALl ddweud wrth y rhiant bod yr ysgol yn cynnig lle. Ymdrinnir â cheisiadau sy'n cyrraedd ar ôl 6ed Mawrth 2019 ar ôl gwneud yr holl gynigion cychwynnol. Yr un ystyr sydd i 'blentyn sy'n derbyn gofal' ag a geir yn Is-adran 22 Deddf Plant 1989, ac mae'n golygu unrhyw blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu y mae'r ALl yn darparu llety iddo (e.e. plant a chanddynt rieni maeth) neu ei fod yn destun gorchymyn preswylio neu orchymyn gwarcheidwaeth arbennig wedi iddo dderbyn gofal. Ystyr 'Catholig' yw aelod o Eglwys sydd mewn cymundeb ag Esgobaeth Rhufain. Mae hyn yn cynnwys yr Eglwysi Catholig Dwyreiniol. Fel arfer, bydd tystysgrif bedydd neu dderbyn gan awdurdodau'r Eglwys honno'n dystiolaeth o hyn. 'Preswylfa' - At ddibenion y polisi derbyniadau hwn, diffinnir 'preswylfa' fel y cyfeiriad lle mae plentyn yn byw am 50% neu fwy o'r wythnos ysgol. Ystyr 'brawd neu chwaer' yw unrhyw frawd, chwaer, hanner brawd neu chwaer, brawd neu chwaer sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon sydd gan blentyn i riant neu bartner ac ym mhob achos, sy'n byw yn yr un tŷ o ddydd Llun i ddydd Gwener. Diffinnir plant o deuluoedd Catholig mewn gair a gweithred fel plentyn Catholig o deulu Catholig mewn gair a gweithred, lle caiff yr arfer hwn ei ddilysu gan eirda gan Offeiriad Catholig yn y fformat safonol a bennwyd gan yr Esgobaeth. Ystyr 'Cristion' at ddibenion y polisi hwn yw aelod o un o'r eglwysi sy'n gysylltiedig ag 'Eglwysi Ynghyd' ym Mhrydain ac Iwerddon.Nodiadau
Meini prawf gorymgeisio
Trefniadau derbyn plant
Nodiadau
Mae'n rhaid i rieni gwblhau ffurflen gais gyffredin yr awdurdod lleol
Ymgeiswyr o'r dosbarth meithrin
Dylai ymgeiswyr ar gyfer derbyniadau o fewn blwyddyn sylwi ar y canlynol:
Ceisiadau hwyr
Nodiadau (mae'r nodiadau hyn yn rhan o'r meini prawf gorymgeisio)
Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan - trefniadau derbyn 2024 / 2025
Mae croeso i chi gysylltu â swyddogion derbyn yr ysgol os oes angen cymorth arnoch i wneud eich cais. Eu rhif cyswllt yw 01792 772006 est. 227. Ethos Gatholig sydd i'r ysgol. Sefydlwyd yr ysgol gan yr Eglwys Gatholig i ddarparu addysg i blant o deuluoedd Catholig. Gweinyddir yr ysgol gan ei chorff llywodraethu fel rhan o'r Eglwys Gatholig yn unol â'i gweithred ymddiriedolaeth a'i hofferyn llywodraethu, ac mae bob amser yn ceisio tystiolaethu i Iesu Grist. Gofynnwn i rieni neu ofalwyr sy'n ymgeisio am le i barchu'r ethos hwn a'i bwysigrwydd i gymuned yr ysgol. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt yn dilyn crefydd yr ysgol hon o ran gwneud cais am le yn yr ysgol a chael eu hystyried am le. Indeed, the school warmly welcomes applications from all members of the community. Nifer Derbyn yr ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2022/2023 yw 217. Os bydd nifer y ceisiadau'n fwy na'r rhif derbyn, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau'n unol â'r meini prawf a restrir isod, cyhyd â bod y llywodraethwyr yn ymwybodol o'r cais hwnnw cyn iddynt benderfynu ar dderbyniadau. Ym mhob categori, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i'r plant hynny sy'n byw agosaf at yr ysgol. Pennir hyn yn unol â system bresennol yr awdurdod lleol i fesur pellter (gweler Nodyn 5). Ym mhob categori, er mwyn i blentyn gael ei ystyried yn blentyn sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig, bydd rhaid darparu tystiolaeth o Fedydd Catholig neu dderbyniad i'r eglwys i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig, 2018. Am ddiffiniad cynhwysfawr o blentyn sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig, a'r dystiolaeth a gaiff ei hystyried, gweler Atodiad 1. Dylai rhieni sy'n gwneud cais am blentyn sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig hefyd gwblhau ffurflen gwybodaeth ategol (FfGA) a'i dychwelyd i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig, 2108. Gall peidio â chwblhau'r FfGA yn llawn effeithio ar y categori y rhoddir enw eich plentyn ynddo. Ar gyfer yr holl blant, diffinnir "brawd neu chwaer" fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad (h.y. mae hyn yn cynnwys llysfrodyr, llyschwiorydd a phlant sydd wedi'u mabwysiadu neu eu maethu gan y teulu). Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd y llywodraethwyr yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Ystyrir y bydd brawd neu chwaer yn "mynychu'r ysgol" os ydynt yn mynychu'r ysgol ym mlynyddoedd 7 i 13, ar 1 Ionawr 2020. Mae plant sy'n mynychu ysgol gynradd Gatholig yn golygu: Mae gan Gristnogion Uniongred (Groegaidd, Rwsiaidd, Indiaidd) gysylltiad agosach â'r eglwys Gatholig drwy eu Hysgrythur a'u traddodiad nag enwadau Cristnogol eraill, felly eu categori uwch. Caiff hyn ei wirio drwy weld Tystysgrif Bedydd y plentyn a/neu lythyr gan y clerigwyr priodol. Er mwyn i blentyn gael ei ystyried yn y categori hwn, bydd angen i rieni ddarparu'r dystiolaeth i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig 2019. Dylai rhieni hefyd gwblhau ffurflen gwybodaeth ategol (FfGA) a'i dychwelyd i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig 2019. Gall peidio â chwblhau'r FfGA yn llawn effeithio ar y categori y rhoddir enw eich plentyn ynddo. Bydd "ffydd neu grefyddau eraill" yn cynnwys yr holl grefyddau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Fwdhaeth, Hindŵaeth, Iddewiaeth a Siciaeth. Er mwyn i blentyn gael ei ystyried yn y categori hwn, bydd angen i rieni ddarparu tystiolaeth arall o fedydd neu dystiolaeth ysgrifenedig gan offeiriad, gweinidog, neu arweinydd ffydd neu grefyddol. Bydd angen ei chyflwyno i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig 2019. Dylai rhieni hefyd gwblhau ffurflen gwybodaeth ategol (FfGA) a'i dychwelyd i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig 2019. Gall peidio â chwblhau'r FfGA yn llawn effeithio ar y categori y rhoddir enw eich plentyn ynddo. Ym mhob categori, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i'r plant hynny sy'n byw agosaf at yr ysgol. Caiff hyn ei bennu yn unol â system bresennol yr awdurdod lleol i fesur pellter. Ar hyn o bryd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth. Cymerir y mesuriadau o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Unig fynedfa swyddogol Ysgol yr Esgob Vaughan yw'r prif gatiau ar Heol Mynydd Garnlwyd. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr Awdurdod Lleol i fesur y pellter. Ystyrir mai cyfeiriad cartref disgybl yw preswylfa barhaol y plentyn. Rhaid mai'r cyfeiriad hwn yw unig neu brif breswylfa'r plentyn yn ystod y rhan fwyaf o'r wythnos ysgol. Mae'n bosib y bydd angen tystiolaeth ddogfennol. Lle mae'r cyfrifoldeb magu plant wedi'i rannu'n gyfartal rhwng y fam a'r tad, rhaid i rieni nodi pa gyfeiriad y dylid ei ddefnyddio at ddiben dyrannu lle ysgol a gallai fod angen cyflwyno prawf. Mae'r ysgol yn derbyn disgyblion o bob rhan o Ddinas a Sir Abertawe, awdurdodau cyfagos a disgyblion sy'n symud i'r ardal o fannau ymhellach i ffwrdd. Bydd yr ysgol yn dilyn Type=articles;Articleid=5812;Title=Amserlen dderbyniadau'r awdurdod lleol;calltoaction=;titleclass=; Os na all y llywodraethwyr gynnig lle i blentyn, neu derbynnir cais am le i blentyn ar ôl dyddiad cau'r awdurdod lleol, cedwir enw'r plentyn hwnnw ar restr aros tan 30 Medi 2020. Os nad ydych am i enw'ch plentyn gael ei roi ar y rhestr aros, dywedwch wrth yr ysgol, yn ysgrifenedig, cyn gynted â phosib. Os daw mwy o leoedd ar gael yn ystod blwyddyn academaidd 2020/2021, bydd Pwyllgor Derbyniadau'r llywodraethwyr yn cael cyfarfod ychwanegol a dyrennir lleoedd i blant ar y rhestr aros (ar adeg y cyfarfod hwnnw) ar sail y meini prawf gorymgeisio a restrwyd yn gynharach. Yn unol â Chôd Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru (t24; para 3.28) ni ellir rhoi blaenoriaeth i blant yn seiliedig ar y dyddiad yr ychwanegwyd y cais at y rhestr aros. Dyrennir lleoedd ar sail y meini prawf gorymgeisio cyhoeddedig a amlinellwyd yn gynharach. Gall rhieni sy'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y llywodraethwyr i wrthod lle i'w plentyn yn yr ysgol wneud cais ysgrifenedig i'r canlynol: Y Clerc i'r Llywodraethwyr, Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, Heol Mynydd Garnlwyd, Treforys, Abertawe SA6 7QG. Clywir pob apêl gan Banel Apeliadau annibynnol. Os nad oes newidiadau sylweddol neu o bwys yn amgylchiadau cais rhieni dros eu plentyn neu'r ysgol, ni fydd y llywodraethwyr yn ystyried ail gais yn yr un flwyddyn academaidd. Dylid cyflwyno'r ceisiadau hyn yn uniongyrchol i Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan. Bydd Pwyllgor Derbyniadau'r llywodraethwyr yn ystyried y ceisiadau hyn yn eu cyfarfod nesaf. Os oes lleoedd ar gael, cânt eu dyrannu ar sail y meini prawf gorymgeisio cyhoeddedig a amlinellwyd yn gynharach. Mae'r Corff Llywodraethu wedi mabwysiadu protocol mynediad teg yr awdurdod lleol er mwyn derbyn plant a waharddwyd neu anodd eu lleoli. Mae plant sy'n destun gorchymyn gan Awdurdod Lleol i dderbyn neu sy'n cael eu dyrannu i ysgol yn unol â Phrotocol Mynediad Teg yn cael eu blaenoriaethu dros y rhai ar restr aros. Oherwydd yr angen i weithio ar y cyd â darparwyr eraill, ceir Polisi Derbyn ar wahân ar gyfer myfyrwyr ôl-16. Mae copïau ar gael ar gais gan yr ysgol. Ni chodir tâl am dderbyn plentyn i'r ysgol hon. Mae rhywun sydd "wedi'i fedyddio'n Gatholig" yn rhywun sydd: Neu Bydd cyrff llywodraethu ysgolion Catholig yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig ar ffurf Tystysgrif Bedydd neu Dystysgrif Derbyn cyn iddynt ystyried cynnwys ceisiadau am leoedd ysgol mewn categorïau "Catholigion Bedyddiedig". Bydd Tystysgrif Bedydd neu Dderbyn yn cynnwys: yr enw llawn, dyddiad geni, dyddiad bedydd neu dderbyn ac enw(au)'r rhiant (rhieni). Rhaid i'r dystysgrif hefyd ddangos ei bod wedi'i chopïo o'r cofnodion a gedwir gan leoliad y bedydd neu'r derbyn. Hwyrach y bydd y rhai sy'n cael anhawster dod o hyd i dystiolaeth ysgrifenedig o'u bedydd, a hynny am reswm dilys, yn cael eu hystyried fel Catholig bedyddiedig, ond dim ond ar ôl iddynt gael ei gyfeirio at eu Hoffeiriad Plwyf a fydd, wedi ymgynghori â'r Ficer Cyffredinol, yn penderfynu sut i ddatrys mater y bedydd a sut i gynhyrchu tystiolaeth ysgrifenedig yn unol â chyfraith yr Eglwys. Mae'n bosib y bydd y rhai sy'n ystyried bod ganddynt reswm dilys dros fethu â chael tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys y rhai sy'n methu â chysylltu â lleoliad y bedydd oherwydd erledigaeth neu ofn neu fod yr eglwys a'r cofnodion gwreiddiol wedi'u dinistrio, neu fod y lleoliad lle gweinyddwyd y bedydd yn ddilys ond nid yn eglwys y plwyf lle cedwir cofnodion. Mae'n bosib y bydd llywodraethwyr yn gofyn am dystiolaeth gefnogi ychwanegol os nad yw'r dogfennau ysgrifenedig yn egluro'r ffaith y cafodd yr unigolyn ei fedyddio neu ei dderbyn i'r Eglwys Gatholig (h.y. os nad yw enw a chyfeiriad yr eglwys ar y dystysgrif neu os nad yw enw'r eglwys yn dynodi ei bod yn eglwys Gatholig.)Dyma bolisi Derbyn Llywodraethwyr Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan (yr ysgol):
Nodyn 1
Nodyn 2
Notdyn 3
Nodyn 4
Nodyn 5
Nodyn 6
Dalgylch
Amserlent
Rhestr aros
Apeliadau
Ail geisiadau
Ceisiadau ar wahan i'r nifer derbyn arferol i flwyddyn 7
Protocol mynediad teg y flwyddyn
Polisi derbyniadau Ôl-16
Taliadau
ATODIAD
Diffiniad o 'Fedyddio'n Gatholig'
Tystiolaeth ysgrifenedig o fedydd